Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith
Amy Edwards, Y Grŵp Adfer ar ôl Covid a Llywodraeth Leol
Tom Smithson, Swyddog o Lywodraeth Cymru (i drafod un eitem ar yr agenda)

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mercher 30 Tachwedd.

Nod y cyfarfod oedd trafod y gwaith i ddiweddaru gwefan y Panel, paratoi ar gyfer digwyddiadau Amrywiaeth mewn Democratiaeth Llywodraeth Cymru ddechrau mis Rhagfyr a chwblhau ymateb y Panel i'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol.  

Rhoddodd Tom Smithson ddiweddariad i'r Panel ar ei adolygiad o effeithiolrwydd y Panel.

Mae crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel i’w weld isod.

Diweddaru gwefan y Panel

Adolygodd y Panel y papur a ddarparwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth. Roedd y papur hwn yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i'r wefan cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol terfynol ym mis Chwefror 2023.

Adolygiad o Effeithiolrwydd

Rhoddwyd diweddariad i’r Panel ar yr adolygiad o effeithiolrwydd gan Tom Smithson. Cyflwynodd Tom gasgliadau mewn ymateb i’w ganfyddiadau.

Y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol

Ystyriodd aelodau’r Panel gwestiynau’r ymgynghoriad a oedd yn berthnasol i’w gwaith a chytunwyd ar yr atebion drafft a ddarparwyd gan yr Is-gadeirydd. Bydd yr atebion hyn yn cael eu cyflwyno fel ymateb y Panel i'r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau ar 10 Ionawr.

Papur ymchwil Llywodraeth Cymru

Trafododd y Panel y papur ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gan is-adran Gwybodaeth ac Ystadegau Llywodraeth Cymru. Darparwyd papur i'r Panel gan yr Ysgrifenyddiaeth a oedd yn crynhoi'r themâu allweddol a oedd wedi dod i'r amlwg.

Unrhyw fater arall

Rhoddodd pob aelod o'r Panel adborth ar y digwyddiadau ymgysylltu yr oeddent wedi bod yn bresennol ynddynt yn ystod mis Tachwedd. Amlinellodd y Cadeirydd gynnwys y cyfarfodydd sydd i'w cynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror 2023. 

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ddydd Iau 19 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, peidiwch ag oedi cyn cysylltu trwy'r Ysgrifenyddiaeth trwy anfon e-bost i IRPMailbox@llyw.cymru