Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy (Cadeirydd)
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Dianne Bevan, Aelod 
Kathryn Watkins, Aelod 
Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, Ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol sy'n mynychu'r cyfarfod

Shereen Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Robert Ashton Winter, Rheolwr Pontio, Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol 
Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru 

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 5 Medi. 

Dyma nod cyfarfod mis Medi:

  • adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Awst (nodiadau llawn a chryno), gan nodi camau gweithredu a diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
  • diweddaru cynllun gwaith a chyllideb 2023 i 2024
  • trafod adolygiad o'r materion yn ymwneud â chofnod penderfyniadau'r Panel hyd yn hyn
  • ystyried y Cynllun Tystiolaeth ac Ymchwil
  • trafod cwestiynau'r ymgynghoriad
  • trafod yr adroddiad blynyddol, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer drafftio, a materion yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu
  • trafod ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf am bontio a deddfwriaeth
  • trafod unrhyw fusnes arall         

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel:

Camau Gweithredu a Diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth

Cytunodd y Panel ar gofnodion cyfarfod mis Awst, a chymeradwyodd ei Strategaeth Gyfathrebu.

Nododd y Panel y daflen gyllideb fel y'i trafodwyd.

Trafododd y Panel ymholiadau a oedd wedi dod i law gan ddau Gyngor Sir drwy'r Ysgrifenyddiaeth, a chytunwyd ar yr ymatebion. Roedd yr ymholiadau hyn yn ceisio cyngor ac eglurhad gan y Panel o ran adennill arian mewn perthynas â lwfans i brif gynghorwyr ar gyfer deunyddiau traul a thaliadau cydnabyddiaeth i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.

Trafododd y Panel yr adroddiad tystiolaeth ac ymchwil fel sail i lywio penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2024 i 2025; cwestiynau ymgynghori; yr amserlen ar gyfer y ysgrifennu'r adroddiad blynyddol drafft; a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Hefyd cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch pontio a deddfwriaeth. Bu'r Panel hefyd yn ystyried y fframwaith taliadau ar gyfer aelodau cyfetholedig prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, a hefyd y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. 

Adolygiad o'r wefan

Nododd y Panel yr adolygiad o'r wefan a oedd wedi ei gynnal gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ("Comisiwn"). Roedd llawer o'r drafodaeth yn ymwneud â'r anallu i wneud newidiadau strwythurol i'r wefan, gan ei bod yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, gellir gwneud newidiadau i gynnwys y wefan i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth.

Papur ymchwil a data

Trafododd y Panel bapur ymchwil IRP (23)396 a oedd yn cynnwys tystiolaeth a data i gefnogi’r Panel ac i alluogi'r aelodau i ystyried materion a gwneud Penderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 25. Trafododd y Panel feysydd megis cyfraddau chwyddiant, fforddiadwyedd a chymaryddion Taliadau Cydnabyddiaeth i Gynghorwyr yn yr Alban. Gofynnodd y Panel fod cynrychiolwyr o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod ym mis Hydref er mwyn adolygu methodoleg cyn cytuno ar benderfyniadau.

Cwestiynau’r ymgynghoriad       

Trafododd y Panel gwestiynau ymgynghori i'w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol Drafft.

Adroddiad Blynyddol Drafft

Ystyriodd y Panel yr amserlen ar gyfer ysgrifennu'r adroddiad blynyddol drafft, gan ystyried a ddylid cynnwys y papur ymchwil yn y fethodoleg. Cadarnhaodd y Panel y byddai'n adolygu'r adroddiad blynyddol drafft ar ôl iddo gael ei ddychwelyd o'r gwasanaeth gyfieithu a chyn y cyfarfod ym mis Hydref.                  

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Adolygodd y Panel y cynllun cyfathrebu gan drafod amserlenni ar gyfer cyfnod ymgynghori.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Panel yn mynychu diwrnod ymgysylltu gydag Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Cymuned Lleol (SLCC) ar 30 Medi.

Byddai cyfarfodydd gydag Arweinwyr Prif Gynghorau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu trefnu yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a'r wybodaeth ddiweddaraf am bontio a deddfwriaeth

Rhoddodd Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y ddeddfwriaeth ynghylch trosglwyddo'r Panel i'r corff newydd, gan ddisodli Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn 2025.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 10 Hydref pan fydd y Panel yn adolygu ac yn trafod yr ymatebion i'r cwestiynau ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.