Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy (Cadeirydd)
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Dianne Bevan, Aelod 
Kathryn Watkins, Aelod 
Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
Candice Boyes, Swyddog Llywodraeth Cymru (eitem 6a yn unig)
Shereen Williams, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (eitem 6b yn unig)

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 8 Awst 2023. 

Ni chynhaliwyd cyfarfod ym mis Gorffennaf 2023.

Dyma nod cyfarfod mis Awst:

  • adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Mehefin (nodiadau llawn a chryno), nodi camau gweithredu a Diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
  • diweddariad 2023 i 2024 cynllun gwaith a chyllideb
  • trafod adolygiad o'r wefan
  • adolygu materion a phenderfyniadau a wnaed gan y Panel hyd yn hyn
  • ystyried y Strategaeth Tystiolaeth ac Ymchwil a'r Cynllun Cyfathrebu
  • trafod unrhyw faterion eraill             

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel:

Camau Gweithredu a Diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth

Cytunodd y Panel ar gofnodion cyfarfod mis Mehefin, a chymeradwywyd Strategaeth Gyfathrebu'r Panel.

Nododd y Panel y ddalen gyllideb fel y’i trafodwyd.

Trafododd y Panel ddau ymholiad a oedd wedi dod i law oddi wrth brif gynghorau drwy'r Ysgrifenyddiaeth, gan gytuno ar ymatebion. Roedd yr ymholiadau hyn yn ceisio cyngor ac eglurhad gan y Panel ynghylch dirprwyo yn ystod cyfnodau salwch, a gallu'r aelodau etholedig i ymuno â chynlluniau'r awdurdodau lleol o ran aberthu cyflog yn y gweithle.

Adolygiad o'r wefan

Nododd y Panel yr adolygiad o'r wefan a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ("Comisiwn"). Roedd llawer o'r drafodaeth yn ymwneud â'r anallu i wneud newidiadau strwythurol i'r wefan a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth, gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn ei chynnal.

Cytunodd y Panel i drafod yr adolygiad gyda thîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru er mwyn cytuno ar y newidiadau y gellid eu gwneud.

Materion a drafodwyd gan y Panel a'r penderfyniadau hyd yn hyn  

Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiweddaru papur drwy ychwanegu manylion y materion sydd wedi cael eu hystyried gan y Panel ers mis Ionawr 2023.  Bydd y papur yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys: 

  • cwestiynau a drafodir ar gyfer ymgynghoriad y Panel, yn enwedig teithio gwyrdd
  • cynllun ymchwil
  • datganiadau cydymffurfio gan brif awdurdodau a chynghorau cymuned a thref

Cefnogi Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd 

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Panel ar Gefnogi Amrywiaeth mewn Democratiaeth gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, ac wedyn cafwyd diweddariad gan Brif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd.     

Methodoleg Ymchwil 

Trafododd y Panel bapur ymchwil a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniad yn y cyfarfod nesaf ynghylch a ddylid cynyddu'r pecyn taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer awdurdodau lleol; ac os felly, faint fyddai'r cynnydd hwnnw.  Cytunodd y Panel y byddai angen papur pellach yn y cyfarfod nesaf, yn sgil yr wybodaeth a oedd wedi dod i law ynghylch gwariant Llywodraeth Leol (2022  i 2023) a setliad (2023 i 2024).

Unrhyw fater arall

Ymgysylltu 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel yn awyddus i ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a Thref, ac y byddai'r diwrnod ymgysylltu gydag Un Llais Cymru yn trafod sut y gellid cyflawni hynny, gydag awgrym y gellid cynnwys cyflwyniad gan y Panel mewn digwyddiad a drefnir gan Un Llais Cymru.

Rhoddodd yr Is-gadeirydd wybodaeth am gyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach yn y mis gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod mewnbwn cyn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Drafft.  O ganlyniad i'r cyfarfod, gwahoddwyd y Panel i fynychu cyfarfod o Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Llywodraeth Leol ym mis Medi i drafod ymgysylltu.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 5 Medi pan fydd y Panel yn trafod y fframwaith taliadau ar gyfer aelodau cyfetholedig prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub, ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol; y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref; tystiolaeth ac ymchwil i gefnogi Penderfyniadau'r Panel ar gyfer y flwyddyn nesaf; cwestiynau ymgynghori i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft; ac ystyried materion yn ymwneud â chyfathrebu. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy anfon e-bost i IRPMailbox@llyw.cymru.