Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Panel i'r cyfarfod. Diolchodd i'r aelodau a oedd wedi cyflwyno cyngor ysgrifenedig cyn y cyfarfod ar opsiynau'r pynciau targed sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a'r pynciau targed llygredd golau a maethynnau gormodol.

Amcanion y cyfarfod oedd bod yn Panel yn cynghori ar:

  • opsiynau'r pwnc targed yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynir
  • pwnc targed llygredd golau 
  • pwnc targed maethynnau gormodol a'r metrig priodol 
  • dadansoddiad Cost a Budd 'manteision bioamrywiaeth'

Diweddariad byr ar y bil, y pynciau targed a'r metrigau

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad byr ar y pynciau targed a'r metrigau. Cafodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad gwaith modelu, datblygu dangosyddion, a dewis metrig ar gyfer targedau bioamrywiaeth, gan dynnu sylw at gydweithredu parhaus gyda'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a CNC. 

Pynciau targed sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Ar gyfer y maes blaenoriaeth 'ansawdd y dystiolaeth er mwyn llywio penderfyniadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, mynediad at y dystiolaeth honno, a'i defnyddio a'i chymhwyso' nodwyd pedwar opsiwn ar gyfer pynciau targed posibl: asesiadau cyflwr safleoedd gwarchodedig, cofnodion presenoldeb rhywogaethau, mapio cyfleoedd gofodol, a datblygiad proffesiynol parhaus i'r rhai mewn swyddi arweinyddiaeth. Cyflwynwyd y manteision a'r anfanteision a ystyriwyd gan swyddogion i'r Panel. 

Dylai Cymru osod targedau bioamrywiaeth clir, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n gweithio ar draws tirweddau cyfan ac sy'n cyd-fynd â dulliau ehangach y DU ar gyfer rhywogaethau sy'n croesi ffiniau ac yn mudo. Mae'r Panel yn cefnogi targed statudol ar asesiadau cyflwr safleoedd gwarchodedig, sy'n canolbwyntio ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Pharthau Cadwraeth Morol (MCZs) - ynghyd â Safleoedd o Bwysigrwydd er gyfer Cadwraeth Natur (SINCs) a'r rhwydwaith Natura i gwmpasu'r uchelgais 30x30 llawn. Dylai asesiadau ddefnyddio dulliau hyblyg, esblygol, sicrhau bod gwasanaethau ecosystemau a bywyd gwyllt y tu mewn a thu hwnt i safleoedd gwarchodedig yn cael eu cofnodi, a gweithredu fel sbardun ar gyfer gweithredu pwrpasol a chysylltedd gwell i hybu adferiad natur. Mewn cyferbyniad, ni argymhellir targed statudol yn seiliedig ar gofnodion cyfrif rhywogaethau oherwydd y risg o gasglu data sy'n adlewyrchu tuedd; yn hytrach, dylai Cymru gryfhau ansawdd a chwmpas tystiolaeth drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant tacsonomeg, pwysoli teg ar draws bioamrywiaeth tir, dŵr croyw, morol a phridd, a thrwy flaenoriaethu llwyfannau data Cymru (e.e. Aderyn) a'r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERCs) hirsefydlog. Dylai swyddogion ystyried pam mae mapio Rhwydwaith Ecolegol Gwydn yn werthfawr fel targed statudol yn hytrach nag adnodd sy'n cynnig cymorth wrth wneud penderfyniadau yn unig a dylid ei integreiddio â datganiadau ardaloedd a safbwynt y gymuned. Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn bwysig ar gyfer sgiliau a Phontio Teg, ond mae'n annhebygol o gyflawni canlyniadau bioamrywiaeth uniongyrchol fel targed statudol; dylid canolbwyntio ar lwybrau lefel gradd cynhwysol a hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru (er enghraifft, drwy Wasanaeth Natur Cenedlaethol) sy'n cadw sgiliau yn lleol. Bydd cyfathrebu cyhoeddus clir o ddangosyddion a gweithredu cydgysylltiedig ar draws ffiniau yn hanfodol i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth.

Llygredd golau

Yn dilyn diddordeb rhanddeiliaid a rhwyddineb gweithredu, roedd targed llygredd golau yn cael ei ailystyried o dan y maes blaenoriaeth 'Lleihau Llygredd', ochr yn ochr â maethynnau gormodol. Cyflwynodd swyddogion ar ganlyniadau'r adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd yn fewnol a gofynnodd am unrhyw dystiolaeth bellach gan y Panel a chyngor ar gynnwys y pwnc targed. 

Nododd y Panel fod llygredd golau yn bwysau cynyddol ar fioamrywiaeth Cymru, ond mynegodd bryder am fylchau data - yn enwedig gwahaniaethau rhwng ecosystemau morol, dŵr croyw a daearol. Cwestiynodd yr aelodau a allai dysgu trawsffiniol cryfach helpu, er bod dulliau yn yr Alban ac yn Lloegr yn tueddu i flaenoriaethu pobl yn hytrach na bywyd gwyllt. Gyda Chanllawiau Awyr Dywyll newydd Cymru eisoes ar waith, gofynnodd y Panel a oes angen rheoleiddio statudol neu a fyddai gweithredu gwell yn ddigon. Fe wnaethant argymell bod effeithiau goleuadau yn cael eu hystyried yn fwy penodol wrth wneud penderfyniadau, gan ddefnyddio egwyddorion a gymhwysir mewn tirweddau gwarchodedig i gydbwyso anghenion ecolegol, cymdeithasol a diogelwch. Byddai angen cyfathrebu cyhoeddus sensitif ar unrhyw ddull, gan osgoi'r canfyddiad bod goleuadau yn cael eu lleihau er mwyn torri costau yn hytrach nag i ddiogelu natur; mae tystiolaeth o Eryri yn dangos y gall goleuadau wedi'u cynllunio'n dda wella diogelwch. Er y gallai targed statudol ar lygredd golau fod yn llai hanfodol na blaenoriaethau llygredd eraill, awgrymodd y Panel y dylid archwilio opsiynau ochr yn ochr â thargedau maethynnau, gan sicrhau bod "awyr dywyll" hefyd yn cynnwys "moroedd tywyll", a thynnu ar ymrwymiadau Pontio Cyfiawn Cymru. Gallai dull wedi'i gynllunio'n dda gynnig manteision i natur, cymunedau a gwariant cyhoeddus, a dylai adeiladu ar ddata arsylwi'r ddaear a mentrau awdurdodau lleol sydd eisoes ar y gweill.

Maethynnau gormodol

Pwysleisiodd swyddogion fod y pwnc targed hwn yn gymhleth yn sgil ei berthynas â'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r dangosyddion ar y rhestr fer y mae swyddogion wedi'u dewis yn cynrychioli'r system yn ei chyfanrwydd, o'r ffynhonnell i'r môr yn ogystal â gwahanol sectorau. Mae'r dangosyddion Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy'n cael eu datblygu wedi'u cynnwys yn ogystal â thargedau dyddodiad morol ac awyr.

Argymhellodd y Panel ddull gyfannol at leihau maethynnau gormodol, gan ddefnyddio ystod o ddangosyddion sy'n adlewyrchu sut mae systemau aer, tir a dŵr yn rhyngweithio. Nodwyd y gallai mesur y llwythi llygredd sy'n mynd i mewn i ddyfroedd arfordirol a dyfroedd llanw weithredu fel dangosydd cyffredinol defnyddiol, ond rhaid i fetrigau ystyried y gwahanol drothwyon maethynnau ar draws amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol. Tynnodd yr aelodau sylw at ffynonellau tystiolaeth ychwanegol - megis data cyflwr Safleoedd Morol Ewropeaidd, monitro mewnbynnau afonydd OSPAR, Dangosyddion Bioamrywiaeth y DU, a chyfraniadau gwyddoniaeth dinasyddion - a phwysleisiodd yr angen i fynd i'r afael â bylchau, yn enwedig ar gyfer cyrff dŵr bach nad ydynt wedi'u cynnwys yn nata cwmnïau dŵr. Trafododd y Panel lygredd nitrogen ac amonia, gan nodi y gallai Cymru ystyried gosod terfynau lle caiff y llygredd ei ryddhau yn ogystal â lle mae'n cronni, ac y dylai penderfyniadau gael eu llywio gan dystiolaeth sy'n nodi'n glir o ble mae'r llygredd yn dod. Pwysleisiodd hefyd fod cyflwr dŵr croyw yn dibynnu nid yn unig ar faethynnau ond hefyd ar waddodion, strwythur cynefinoedd a rhywogaethau goresgynnol, a ddylai barhau i gyd-fynd â fframweithiau ehangach y DU. O ystyried bod llygryddion newydd yn dod i'r amlwg, fel PFAS, cynghorodd y Panel na ddylai targed lleihau llygredd fod ar ei hôl hi o'i gymharu â'r safonau a osodir yng ngwledydd eraill y DU. Bydd cyfathrebu clir yn hanfodol er mwyn osgoi'r camsyniad bod targedau yn canolbwyntio ar ffermio yn unig pan fo dŵr gwastraff a ffynonellau trefol hefyd yn cyfrannu'n sylweddol. 

Dadansoddiad Cost a Budd

Rhaid i Ddadansoddiad Cost a Budd llawn gyd-fynd â thargedau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn bwriadu comisiynu'r Dadansoddiad Cost a Budd i gontractwr allanol, ac roedd y fanyleb yn cael ei drafftio. Gofynnodd y Panel am gyngor ar beth i'w gynnwys yn y fanyleb.

Mae fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynnwys y meysydd canlynol:

  1. Amgylcheddol – gwytnwch, gwasanaethau ecosystemau, addasu i'r hinsawdd
  2. Economaidd – twristiaeth, adnoddau naturiol, osgoi costau yn y dyfodol
  3. Cymdeithasol – iechyd, llesiant meddyliol, cydlyniant cymunedol
  4. Diwylliannol – treftadaeth, cysylltiad â thirwedd, hunaniaeth

Mae gan y targedau bioamrywiaeth y potensial i gyfrannu at bob un o'r pedwar maes hyn, ac felly gallai'r rhain fod yn fframwaith defnyddiol i'w darparu i gontractwr allanol pan fyddant yn ystyried manteision y targedau. Rhoddwyd rhagor o fanylion am yr meysydd a gofynnwyd i'r Panel am fuddion penodol yr hoffent eu gweld.

Cynghorwyd bod is-destun pellach yn cael ei ddarparu i'r manteision posibl hynny i ddeall beth mae hynny'n ei olygu ar draws tir, dŵr a môr. Dylid craffu ymhellach ar y maes cymdeithasol a'i ddatblygu yn unol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhai dangosyddion da a data da gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae'r ONS yn cynhyrchu cryn dipyn o ddata yn y meysydd hyn, ac mae data o Gymru ar gael gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). 

Unrhyw fusnes arall

Rhoddwyd Diweddariad byr ar y fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • gosodwyd targedau Rheoli Tir yn Gynaliadwy ym mis Rhagfyr; gadawyd llawer o ddangosyddion perthnasol "ar waith" er mwyn osgoi gorgyffwrdd â thargedau bioamrywiaeth ac mae gwaith yn mynd rhagddo rhwng swyddogion polisi i sicrhau bod fframweithiau cydlynol yn cael eu datblygu

I gloi

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Panel am eu syniadau a'u heriau ar y pynciau targed gan eu hannog i gynnig adborth ysgrifenedig pellach. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 19 Mehefin 2026.