Cyfarfod Panel Cynghori Targedau Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru: 29 Hydref 2025
Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth ar 29 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Croesawodd Alice Teague, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth aelodau'r Panel i'r cyfarfod. Yn dilyn proses recriwtio agored a theg, penodwyd Dr Fred Windsor yn Gadeirydd newydd y panel. Ailadroddodd y Cadeirydd rôl y panel - i gynnig cyngor annibynnol i'r Dirprwy Brif Weinidog ar ddatblygu targedau bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys adolygiad gan gymheiriaid o'r camau a gymerwyd yn y fethodoleg gosod targedau i sicrhau bod targedau yn seiliedig ar dystiolaeth. Gwahoddwyd aelodau'r panel i sicrhau bod ystod o arbenigedd yn cael ei ystyried wrth osod targedau.
Amlinellodd y Cadeirydd yr amcanion ar gyfer y cyfarfod:
- panel i drafod y pynciau targed sydd ar y rhestr fer a rhoi cyngor er mwyn symud ymlaen â'r pynciau hyn ar gyfer datblygu targedau
- adolygu methodoleg y dangosyddion a rhoi cyngor ar y dangosyddion sydd ar y rhestr fer a datblygu prosiectau yn y dyfodol
- adolygu a rhoi adborth ar y dull o greu a dadansoddi senarios
Diweddariad ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Rhoddwyd diweddariad ar y Bil a oedd yng Nghyfnod 1 ar y pryd; roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r pwyllgor Cyllid wedi ystyried y Bil, cynnal sesiynau craffu a gosod eu hadroddiadau argymhellion ym mis Hydref. Bydd dadl yr Egwyddorion Cyffredinol yn cael ei chynnal yn gynnar ym mis Tachwedd. Bydd Cyfnod 2 yn dilyn, lle gellir cyflwyno gwelliannau'r llywodraeth a rhai nad ydynt yn rhai'r llywodraeth.
Dolenni i adroddiadau'r Pwyllgorau: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (ar busnes.senedd.cymru).
Diweddariad ar bynciau targed a thrafodaeth
Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar ddatblygu targedau. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru sawl gweithdy ac ymarfer casglu tystiolaeth, yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, a hynny er mwyn penderfynu pa bynciau targed bioamrywiaeth i'w datblygu ymhellach. Cyfrannodd y BTAP at ddadansoddiad Coch Melyn Gwyrdd o'r pynciau targed yn yr haf, ac yna gweithiodd swyddogion ar achos dros newidiadau i bynciau targed sydd ar y rhestr fer pellach. Roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen rhanddeiliaid wedi cyfarfod yn ddiweddar ac wedi gwneud sylwadau ar y rhestr fer, a chafodd ei chymeradwyo gan y Dirprwy Brif Weinidog. Rhoddodd y panel gyngor ac ystyriaethau er mwyn datblygu targedau ar gyfer y pynciau ar y rhestr fer o dan yr holl feysydd blaenoriaeth (lleihau'r risg o ddifodiant rhywogaethau brodorol; rheoli ecosystemau yn effeithiol; lleihau llygredd; ac ansawdd y dystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, mynediad at y dystiolaeth honno a'i defnyddio).
Fframwaith dangosyddion arfaethedig a datblygu dangosyddion
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyflwyniadau ar y pecynnau gwaith dangosyddion mewn cyfarfodydd blaenorol ac roeddent yn gofyn am gyngor y panel ar y camau a gymerwyd hyd yma ac ar gyfer y pecyn gwaith nesaf gyda'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).
Fe wnaethant gydnabod faint o waith a manylion a oedd yn sail i'r asesiad dangosyddion hyd yma ac ystyriwyd bod y dull yn gadarn. Cynghorodd y Panel y dylai Llywodraeth Cymru hefyd feddwl y tu hwnt i ddangosyddion y mae gennym eisoes fynediad atynt a nododd y gallai'r meini prawf ar gyfer rhestru'r dangosyddion fod yn rhy gyfyngol am y rheswm hwn. Ni ddylid cyfyngu ar ddatblygiad yn y dyfodol – ni ddylai Llywodraeth Cymru ddibynnu ar hen ddata a gwybodaeth yn unig. Fodd bynnag, fe wnaeth y Panel gydnabod pwysigrwydd cadw cydbwysedd rhwng gweithio ar gyflymder a pheidio â chyfyngu'r gallu i gyflawni mwy yn y dyfodol.
Datblygu a dadansoddi senarios
Rhoddodd y JNCC gyflwyniad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y prosiect dadansoddi senarios ac yn esbonio'r fethodoleg ar gyfer creu senarios. Gofynnwyd i'r panel gwblhau holiadur cyn y cyfarfod i helpu i lywio sut y gallai'r senario trawsnewidiol edrych, a chyflwynwyd canlyniadau hyn.
Cytunodd y Panel fod angen trafod diffiniad newid trawsnewidiol ymhellach. O ran y diffiniad o newid trawsnewidiol ar gyfer y senario uchaf, awgrymwyd bod diffiniad a chanllawiau IPBES yn cael eu hystyried. Datganiad i'r wasg: Asesiad Newid Trawsnewidiol IPBES | Ysgrifenyddiaeth IPBES (on ipbes.net).
Targedau a dangosyddion Rheoli Tir yn Gynaliadwy
Sicrhawyd y panel y byddai'r targedau bioamrywiaeth yn cyd-fynd â'r dangosyddion a'r targedau Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy'n cael eu datblygu o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, y disgwylir i'w dangosyddion a'u targedau gael eu gosod gerbron y Senedd erbyn diwedd y flwyddyn. Er mwyn sicrhau nad yw'r targedau a'r dangosyddion yn gwrth-ddweud ei gilydd, roedd swyddogion yn gweithio gyda'r tîm prosiect Platfform Monitro a Modelu Amgylchedd a Materion Gwledig.
Tryloywder BTAP
Roedd y panel yn gefnogol o rannu cysylltiadau ac arbenigedd ar y wefan.
Diolchodd y Cadeirydd i'r panel am eu syniadau a'u heriau ar y pynciau targed a diolchodd i'r JNCC am eu gwaith.
Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2026.
