Neidio i'r prif gynnwy

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i gyfarfod cyntaf Partneriaeth Gwydnwch  Cymru.

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan gyfeirio at gyhoeddi Fframwaith Gwydnwch Cymru a chyfarfod cyntaf Fforwm Gwydnwch Cymru ar ei newydd wedd ym mis Mai. Tynnodd y Cadeirydd sylw at gyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog i'r Senedd ar y cynnydd yn erbyn adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 ac ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell. Clywodd y Bartneriaeth hefyd drosolwg o newidiadau staff yn Llywodraeth Cymru a rhannodd y Cadeirydd sylwadau o gyfarfod diweddar uwch grŵp goruchwylio Llywodraeth Cymru ar argyfyngiadau sifil posibl.

Cylch gorchwyl drafft a ffyrdd o weithio

Ystyriodd yr aelodau gylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bartneriaeth, a oedd yn disgrifio pwrpas clir i'r Bartneriaeth o ran cefnogi cyflawni camau gweithredu yng Nghynllun Cyflawni Fframwaith Gwydnwch Cymru. Nododd yr aelodau eu rolau a'u cyfrifoldebau a chytuno i gwrdd 4 gwaith y flwyddyn. I sicrhau tryloywder, cytunodd yr aelodau y byddai crynodeb o bob cyfarfod yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Penderfyniad: Cytunwyd ar gylch gorchwyl mewn egwyddor a gofynnwyd i aelodau gyflwyno unrhyw newidiadau yr hoffent eu cynnwys cyn ei gyhoeddi.

Rhaglen waith ddrafft Partneriaeth Gwydnwch Cymru

Darparwyd trosolwg i'r Bartneriaeth o'r Fframwaith a'i bwysigrwydd wrth osod y weledigaeth a'r cyfeiriad strategol ar gyfer gwydnwch yng Nghymru.

Dywedwyd bod Cynllun Cyflawni cysylltiedig yn amlinellu camau penodol i'w cymryd yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir. Cydnabyddodd yr Aelodau fod y rhaglen waith yn cadarnhau rôl y bartneriaeth wrth fwrw ymlaen â'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni, ochr yn ochr â gwaith gan Lywodraeth Cymru a Fforymau Gwydnwch Lleol yng Nghymru.

Croesawodd y Bartneriaeth y cyfle i wneud sylwadau ar y rhaglen waith ddrafft a chydnabod bod gwaith wedi dechrau i nodi meysydd thematig i'w cyflawni. Fel rhan o'r drafodaeth barhaus, roedd aelodau'n cydnabod eu rôl o ran bod yn berchen ar y rhaglen waith a chytunwyd i ffurfio gweithgor (o aelodaeth y Bartneriaeth) i ddatblygu'r rhaglen waith ymhellach. Gofynnwyd am wirfoddolwyr i ffurfio'r gweithgor, gyda rhaglen waith ehangach i'w chyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar gyfer cymeradwyaeth y Bartneriaeth.

Penderfyniad: Gweithgor i'w ffurfio (o aelodaeth y Bartneriaeth) i wella'r rhaglen waith.

Is-grwpiau gweithredol

O ystyried y trafodaethau blaenorol ar y rhaglen waith ddrafft, ni ystyriwyd yr is-grwpiau gweithredol yn eu cyfanrwydd.  Fodd bynnag, cydnabuwyd strwythur yr is-grŵp gweithredol fel model hyblyg ar gyfer cyflawni gweithredol.

Cytunodd yr aelodau i'r gweithgor sydd â'r dasg o wella'r rhaglen waith hefyd ystyried pa is-grwpiau gweithredol fyddai eu hangen i ategu'r gwaith cyflawni.

Cytunwyd y byddai'r grwpiau presennol Cymru gyfan yn parhau i gyfarfod, nes y cytunwyd ar y rhaglen waith. Roedd yr Aelodau yn cydnabod y byddai angen adolygu'r cylch gorchwyl ar gyfer y grwpiau hyn yn unol â'r rhaglen waith.

Penderfyniad: Byddai'r grwpiau presennol Cymru gyfan yn parhau i gyfarfod nes bod y rhaglen waith wedi'i chytuno.

Cydlynu rhynglywodraethol

Darparwyd trosolwg o gyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cynllun Gweithredu Gwydnwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr Adolygiad Diogelwch Gwladol, yr Adolygiad Amddiffyn Strategol a'r Dadansoddiad Risgiau Cronig. Hysbyswyd yr aelodau hefyd am y diweddariad sydd ar ddod o Strategaeth Seiberddiogelwch y DU.

Unrhyw fater arall

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa o brawf arfaethedig o System Rhybuddio Argyfwng y Deyrnas Unedig ar 7 Medi a rhannwyd manylion am rai podlediadau diweddar a oedd yn sôn am yr agenda gwydnwch ac a allai fod o ddiddordeb.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 28 Hydref 2025.