Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
  • Y Cyng. Llinos Medi, Ynys Môn (rhan o'r cyfarfod)
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint

Mynychwyr allanol eraill

  • Steve Rotheram, Maer Metro Dinas-ranbarth Lerpwl
  • Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf
  • Denise McQuade, Conswl Cyffredinol Iwerddon
  • Sarah Mangan, Conswl Cyffredinol Iwerddon ar gyfer Gogledd Lloegr
  • Paul Stewart, Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy
  • Claire Hayward, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington
  • Chris Llywelyn, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillippa Mawdsley, Cynghorydd Arbennig
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr, GIG Cymru, Iechyd a Gwasanaethu Cymdeithasol
  • Reg Kilpatrick. Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer ar ôl Covid, Llywodraeth Leol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Claire McDonald, Polisi Economaidd
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Elin Gwynedd, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gogledd
  • Rhys Morris, Prif Swyddog Rhanbarthol – Rhanbarthau’r Canolbarth a’r De-orllewin
  • Rhiannon Evans, Rheolwr Cysylltiadau Allanol, Iwerddon
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol – y Gogledd 
  • Heledd Cressey, Uwch-swyddog Cynllunio Rhanbarthol – y Gogledd
  • Carys Roberts, Swyddog Gweithredol Busnes a Gweithrediadau'r Llywodraeth
  • Ceri Christian-Mullineux, Uwch Reolwr Partneriaethau Rhanbarthol – y Gogledd
  • Deb Harding, Pennaeth Strategaeth Trafnidiaeth a Chynllunio

Ymddiheuriadau

  • Jane Hutt AS
  • Julie Morgan AS
  • Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Eitem 1: Cyflwyniad a chroeso

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Faer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, Maer Dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, Conswliaid Cyffredinol Iwerddon, Denise McQuade a Sarah Mangan, ynghyd â chadeiryddion Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington ar gyfer cyfarfod hanesyddol gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr Awdurdodau Lleol yn y Gogledd.

1.2 Eglurodd y Gweinidog y byddai'r cyfarfod yn canolbwyntio ar gysylltiadau trawsffiniol a sut y gellid cryfhau’r cysylltiadau presennol ymhellach. Roedd y cysylltiadau rhanbarthol rhwng Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr yn hanfodol i economi Gogledd Cymru ac roedd hwn yn gyfle defnyddiol i ystyried beth arall y gellid ei wneud i gryfhau’r cysylltiadau a’r effaith gyfunol y gellid ei chael drwy gydweithio.

1.3 Roedd gan Ogledd Cymru hanes hir a balch o berthynas ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr, gyda chysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, a sicrhaodd gydweithrediad trawsffiniol er budd y ddau ranbarth. Roedd y Gynghrair wedi esgor ar sawl llwyddiant dros y blynyddoedd ond roedd gwaith rhwng partneriaid ar ddwy ochr y ffin yn hanfodol yn ystod y pandemig.

1.4 Digwyddiad nodedig oedd llofnodi Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru yn 2021. Roedd hwn yn nodi sut y byddai Cymru ac Iwerddon yn gweithio gyda'i gilydd ar feysydd mor amrywiol â diwylliant ac iaith, yr economi ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ar lefel ranbarthol.

1.5 Roedd y ddwy Lywodraeth flaenorol wedi trafod cyfleoedd ynni adnewyddadwy mewn Fforwm Gweinidogol a gynhaliwyd yng Nghorc y llynedd, a fynychwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru.

Eitem 2: Cysylltiadau trawsffiniol

2.1 Rhoddodd Gweinidog yr Economi drosolwg o'r cysylltiadau trawsffiniol i'r gorllewin a'r dwyrain, gan nodi bod sawl cyfle, gan gynnwys hydrogen, niwclear a gwynt ar y môr yn digwydd eisoes, a phob un ohonynt yn chwarae ei ran wrth ddatgarboneiddio'r rhanbarthau a datblygu cadwyn gyflenwi gadarn i gefnogi cyfleoedd cyfredol, cyfleoedd newydd a chyfleoedd datgomisiynu.

2.2 Roedd y cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac Iwerddon yn yr ystyr ddaearyddol yn amlwg, a châi hyn ei adlewyrchu yn y cyfleoedd ar gyfer masnach a thwristiaeth, gydag ymrwymiad i rannu dulliau polisi a hyrwyddo cydweithredu ar y cyd ar gyfer adferiad gwyrdd o effaith COVID-19, gan gynnwys ar lefel ranbarthol yng Nghymru drwy Fargen Ranbarthol y Gogledd, y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, a lle Gogledd Cymru fel rhan o ranbarth ehangach Pwerdy'r Gogledd.

2.3 Yn 2022, Iwerddon oedd ail farchnad allforio fwyaf Cymru, gan oddiweddyd Ffrainc a'r Almaen, a oedd ar frig y tablau cynghrair allforio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

2.4 Cydnabuwyd y cysylltiadau presennol rhwng Gogledd Cymru, Gogledd-orllewin Lloegr ac Iwerddon, ynghyd â'r cyfle i gydweithio'n agosach fyth i gefnogi'r gwaith o ddarparu economïau llewyrchus, mwy o gysylltedd a gwella mynediad i'r ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau ar draws yr ardaloedd hyn.

2.5 Enghraifft o hyn oedd y datblygiadau o ran cyflymu seilwaith hydrogen i'w ddefnyddio ar draws Gogledd Cymru, a oedd yn cynnwys ymgysylltu trawsffiniol ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr. Byddai hyn yn cysylltu â'r cyfleoedd enfawr o ran gweithgynhyrchu, dal carbon a chynhyrchu ynni yn y rhanbarth.

2.6 Croesawodd yr Is-bwyllgor hefyd y datblygiadau o ran y consortia HyNet trawsffiniol, a chynlluniau Hanson i adeiladu gwaith sment sero net cyntaf y DU yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod Sir y Fflint wrth wraidd y trawsnewidiad gwyrdd a  byddai'n helpu i ddatgarboneiddio’r Gogledd a thu hwnt, gan helpu i symud tuag at weledigaeth Cymru Sero Net.

2.7 Roedd y cysylltiadau dwyochrog cryf ag Iwerddon wedi tyfu ers datganoli, pan ymatebodd Iwerddon drwy agor Swyddfa Conswl yng Nghymru. Roedd y Prif Weinidog wedi lansio Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru gyda'r Gweinidog Materion Tramor ar y pryd, Simon Coveney, ar ddydd Gŵyl Dewi 2021.

2.8 Roedd y Cynllun Gweithredu ar y Cyd o fewn y Cyd-ddatganiad yn nodi chwe maes cydweithredu, yr oedd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig drostynt, gyda'r nod o hwyluso a chefnogi cydweithrediadau a fyddai'n sicrhau canlyniadau parhaol, cadarnhaol a buddiol i'r ddwy ochr.

2.9 Roedd y gweinidogion yn falch o’r modd yr oedd y Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru blynyddol wedi cyfrannu at gryfhau'r berthynas yn llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig yn wyneb heriau byd-eang.

2.10 Yn y Gogledd, yr uchelgais oedd trawsnewid y cynnig o ran rheilffyrdd, gwasanaethau bysiau a theithio llesol, lleihau ynysigrwydd gwledig ac agor cyfleoedd cyflogaeth a hamdden ar draws y rhanbarth. Byddai hyn, yn ei dro, yn cefnogi datblygiad economaidd yn ogystal â chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.

2.11 Roedd cynnydd pendant yn cael ei wneud o ran adfer gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru am y tro cyntaf ers cenedlaethau a darparu cysylltedd teithio llesol i orsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd bysiau, ac ohonynt, yn Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd.

2.12 Roedd rhaglenni Metro Llywodraeth Cymru yn ganolog i'r weledigaeth o system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon fel y nodir yn 'Llwybr Newydd’.

2.13 Hyd yn hyn, buddsoddwyd dros £1.6 biliwn ledled Cymru, gyda rhaglenni unigol ar wahanol gyfnodau o aeddfedrwydd, o’r cam datblygu cynnar i ddylunio a chyflawni.

2.14 Roedd Croeso Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Marketing Manchester, gan gydweithio ar weithgarwch y fasnach deithio, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar ymgyrch farchnata defnyddwyr fawr yn yr Unol Daleithiau yn tynnu sylw at hwylustod mynediad a chynnyrch Gogledd Cymru, i'r rhai sy'n hedfan i Fanceinion. Fel rhan o hyn, roedd gwaith gyda Manceinion ar ymweliadau i’r wasg a’r cyfryngau yn parhau.

2.15 Trwy gynlluniau buddsoddi Llywodraeth Cymru, roedd y Gogledd wedi gweld sawl datblygiad antur o safon yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys Zip World, Adventure Parc Snowdonia, a chanolfannau beicio mynydd Antur Stiniog a Choed y Brenin.  Roedd llawer o'r datblygiadau hyn wedi dod â bywyd newydd i dirweddau ôl-ddiwydiannol. Roedd cefnogaeth barhaus i arloeswyr yn y sector hwn yn cael ei ddarparu drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth.

2.16 Roedd y sector awyr agored yn helpu i sicrhau budd o ran iechyd a lles ac, yn dilyn  heriau'r pandemig, roedd yr ymgyrch farchnata gyfredol ‘Blwyddyn Llwybrau’ yn sbardun i brofiadau cyffrous a oedd hefyd yn rhoi cyfle i fusnesau bach a mawr gymryd rhan.

2.17 Nododd yr Is-bwyllgor y potensial i bawb weithio gyda'i gilydd fel partneriaid rhanbarthol yn y Gogledd ac fel cymdogion. Roedd llawer i'w gynnig ac i elwa arno, wrth i gydweithio a phartneriaethau ddatblygu ymhellach.

Eitem 3: Cyflwyniadau gan Feiri Lerpwl a Manceinion Fwyaf, Conswliaid Cyffredinol Iwerddon, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington ac Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

3.1 Gofynnodd Gweinidog Gogledd Cymru i bob un o'r cynrychiolwyr o'r gwahanol ranbarthau a phartneriaethau roi cyflwyniad i'r Is-bwyllgor.

3.2 Nododd yr Is-bwyllgor y cyfleoedd cydweithredu a’r synergeddau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys o ran cyflawni targedau sero net a chreu swyddi mewn diwydiannau carbon isel, a chroesawodd y cyfle a gafwyd gynharach y diwrnod hwnnw i ymweld ag AMRC Cymru i drafod trafnidiaeth, sgiliau a Bargen Twf Gogledd Cymru, ochr yn ochr ag ymweliad â Phorthladd Mostyn, i drafod prosiectau morlyn llanw ar ddwy ochr ffin Cymru a Lloegr.

3.3 Roedd cryn dipyn o waith ac ymgysylltu eisoes yn digwydd rhwng Cymru, Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys ar hydrogen, niwclear a gwynt ar y môr a datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol gadarn i gefnogi cyfleoedd cyfredol, cyfleoedd newydd a chyfleoedd datgomisiynu, ac roedd consensws cyffredinol y byddai trafodaethau a chydweithio pellach o fudd i bawb.

3.4 Nodwyd bod perthynas gref a chadarnhaol erioed rhwng Cymru ac Iwerddon, ac roedd agor Swyddfa Conswl Iwerddon yng Nghymru yn ddiweddar yn dangos hyn.

3.5 Nodwyd bod gwaith ar safleoedd rheoli ar y ffin rhwng Iwerddon a Chymru wedi bod yn gadarnhaol a chroesawwyd statws porthladd rhydd Caergybi.

3.6 Yn ogystal, roedd datblygu Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru wedi rhoi momentwm i'r bartneriaeth honno drwy nodi meysydd cydweithredu, gan gynnwys masnach, gan mai Iwerddon oedd ail farchnad allforio fwyaf Cymru.

3.7 Byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal trydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yn y Gogledd yn ystod yr hydref, gan ganolbwyntio ar feysydd megis ynni adnewyddadwy, sgiliau gwyrdd, addysg ac iaith a gweithgynhyrchu uwch.  Croesawodd yr Is-bwyllgor wahoddiad y Prif Weinidog i Feiri Manceinion Fwyaf a Dinas-ranbarth Lerpwl fod yn rhan o drefniadau'r fforwm i barhau â'r gwaith cydweithredol hwn.

3.8 O ran trafnidiaeth, nododd yr Is-bwyllgor fod mwy na 200,000 o bobl yn croesi'r ffin o’r Gogledd i Ogledd-orllewin Lloegr, neu’r ffordd arall, bob dydd, a’r rhain fwyaf o’r teithiau hynny’n digwydd mewn car.

3.9 Roedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y Gogledd, ac roedd gan Feiri Manceinion Fwyaf a Dinas-ranbarth Lerpwl, gyda'u pwerau datganoledig, gynlluniau a oedd yr un mor uchelgeisiol.

3.10 Ffocws y gwaith cydweithio parhaus hwn fyddai sicrhau bod yr holl ffrydiau gwaith hyn yn gysylltiedig, gan gynnig dewis arall yn lle’r car i bobl a'u galluogi i deithio'n rhwydd ac yn ddi-dor ledled Gogledd Cymru i Fanceinion, Lerpwl a thu hwnt.

3.11 Nododd yr Is-bwyllgor y problemau gyda thagfeydd traffig ar y prif ffyrdd, yn enwedig yn ystod y tymor gwyliau brig.

3.12 O ran bysiau, byddai Manceinion Fwyaf yn dod â'i bysiau yn ôl i reolaeth gyhoeddus ac yn integreiddio ei thramiau a'i bysiau, gan gynnwys y tocynnau. Yng Ngogledd Cymru, yr uchelgais oedd trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan agor cyfleoedd cyflogaeth a hamdden ar draws y rhanbarth. Byddai hyn yn cefnogi datblygu economaidd ac yn creu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.

3.13 I'r perwyl hwn, roedd cynnydd pendant yn cael ei wneud drwy adfer gwasanaeth uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl a hefyd, drwy raglen Metro Gogledd Cymru, darparu cysylltedd i orsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd bysiau, ac ohonynt, ar hyd yr arfordir.

3.14 Roedd mwy na £1.6bn wedi’i fuddsoddi yng Nghymru, ond byddai angen mwy i gyflawni gwelliannau mawr pellach, fel cysylltu'r arfordir a Wrecsam â rhwydwaith Merseyrail. Roedd cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn cael ei geisio ar gyfer gwasanaethau bysiau, fel cyfran o'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn Lloegr i gefnogi'r gyfradd wastad o £2 ar gyfer tocyn bws.

3.15 Cytunodd yr Is-bwyllgor i ddefnyddio’i bŵer cyfunol i gyflwyno'r ddadl ar y cyd dros fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn seilwaith rheilffyrdd a bysiau ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, a chroesawyd y cynnig i weithio gyda Chomisiynydd Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf, Vernon Everrit, i rannu’r arferion gorau.

3.16 Adroddwyd bod cefnogaeth drawsbleidiol yn Senedd Cymru i wthio am gyfran deg Cymru o gyllid HS2 gan Lywodraeth y DU, ac y byddai hyn yn cynnwys cefnogi’r Gogledd i gael ei gyfran deg o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU gan y Trysorlys, er mwyn sicrhau y gallai cynlluniau yr oedd mawr eu hangen fynd rhagddynt.

3.17 Wrth geisio cryfhau'r berthynas bresennol ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr, byddai llawer o'r ffocws ar y cyfleoedd mewn ynni gwyrdd, datgarboneiddio a chyflymu datblygiad cynhyrchu hydrogen.

3.18 Fel partner yn y consortia HyNet trawsffiniol, croesawyd cynlluniau Hanson i adeiladu gwaith sment sero net cyntaf y DU, gan roi’r Gogledd wrth wraidd y trawsnewidiad gwyrdd i Gymru Sero Net.

3.19 Awgrymwyd y dylid archwilio cronfa budd cymunedol ar gyfer ardaloedd lle byddai hydrogen yn cael ei storio ac roedd potensial i ddatblygu adweithyddion niwclear bach yn Nhrawsfynydd.

3.20 Cydnabuwyd y byddai cysylltedd digidol ar gyfer ardaloedd gwledig yn hanfodol, gan gynnwys cyflymderau band eang mwy dibynadwy a chyflwyno 5g.

3.21 Yn ogystal, roedd y Môr Celtaidd yn gyfle enfawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn enwedig ym Mhorthladd Mostyn. Roedd uchelgais gyffredin i fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy, i gydweithio i uwchraddio'r capasiti grid cenedlaethol, y gadwyn gyflenwi ac, yn bwysicaf oll, i ddatblygu'r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i gyflenwi'r diwydiannau newydd hyn a’r rhai sy'n dod i’r amlwg.

3.22 Roedd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol gref ar waith eisoes yn y Gogledd, a oedd yn cydweithio â chyflogwyr, prifysgolion a sefydliadau addysg bellach i nodi'r anghenion sgiliau, i ddatblygu prentisiaethau gwerthfawr fel y rhai yn Airbus ym Mrychdyn, ac i greu cronfeydd lleol o ddoniau.

3.23 Roedd gan ranbarthau Manceinion Fwyaf a Lerpwl bwerau datganoledig newydd dros addysg ôl-16, a byddai'r cysylltiadau'n cael eu gwneud o ran diwygio'r cwricwlwm a darpariaeth addysg bellach, gan rannu dysgu gan Fagloriaeth Cymru i lywio'r gwaith o ddatblygu arlwy eu rhanbarthau eu hunain, yn enwedig wrth ddatblygu Bagloriaeth Manceinion, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau. Byddai cysylltiadau prifysgol ag Iwerddon hefyd yn cael eu cryfhau drwy gysylltu Unedau Technoleg Iaith priodol.

3.24 O ran twristiaeth, roedd Croeso Cymru'n gweithio'n agos gyda Marketing Manchester i dynnu sylw at hwylustod mynediad a chynnyrch y Gogledd i’r rhai sy'n hedfan i Fanceinion, gydag ymgyrch fawr i’r Unol Daleithiau yn cael ei chynllunio.

3.25 Yn ogystal, byddai dysgu'n cael ei rannu ar gyflwyno ardoll dwristiaeth ym Manceinion Fwyaf, gan gynnwys y pethau cadarnhaol a'r heriau a gafwyd, cyn iddi gael ei chyflwyno yng Nghymru.

3.26 Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd modd lleihau cost gweithredu croesfan fferi Dulyn i Gaergybi, er mwyn cynyddu twristiaeth bosibl rhwng y ddwy wlad.

3.27 O ran tai, roedd gan Fanceinion Fwyaf bwerau datganoledig dros y sector rhentu cymdeithasol a phreifat a byddent yn ceisio creu 'Siarter Landlord Da', gan gysylltu'r agenda safonau â'r agenda ôl-osod, er mwyn sicrhau eu bod yn cydweithio i gyflawni ar gyfer tenantiaid a landlordiaid fel ei gilydd. Byddai dysgu ar hyn yn cael ei rannu rhwng y rhanbarthau.

3.28 O ran cyllid, cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Manceinion ar gyllid uniongyrchol a'r fframwaith cyllidol ehangach, yn dilyn y cytundeb datganoli dyfnach arloesol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU. Testun rhwystredigaeth oedd bod Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn aflwyddiannus yn ei ddau gais i Gronfa Ffyniant Bro y DU: yr unig ranbarth i golli'r cyllid hwn yn llwyr.

3.29 Nodwyd y byddai cost cyfle o ran defnydd cynaliadwy o dir. Er y byddai angen cymorth ar gymunedau gwledig, cydnabuwyd bod tirfeddianwyr fel arfer yn arddel agwedd hirdymor at ddefnydd tir, ac y byddai angen ystyried hyn wrth gynllunio ar gyfer gwaith seilwaith.

3.30 Yn olaf, roedd cais i rannu dysgu ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau a’r camau a gymerwyd i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarthau.

Eitem 4: Crynodeb

4.1 Wrth gloi, diolchodd Gweinidog Gogledd Cymru i'r holl bartneriaid am eu presenoldeb a'u cyfraniadau, a fyddai'n cael eu trafod ymhellach rhwng swyddogion dros y misoedd nesaf.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2023