Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS 
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
  • Y Cyng. Llinos Medi, Ynys Môn (rhan o'r cyfarfod)
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
  • Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd

Mynychwyr allanol eraill

  • Yr Arglwydd Terry Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru
  • Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, CLlLC

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillippa Mawdsley, Cynghorydd Arbennig
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, HSC
  • Reg Kilpatrick. Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer ar ôl Covid, Llywodraeth Leol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, CCRA
  • Claire McDonald, Polisi Economaidd
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Elin Gwynedd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gogledd Cymru
  • Olivia Shorrocks, Pennaeth Cyflyrau Difrifol, GIG Cymru (eitem 2)
  • Lea Beckerleg, Swyddog Arweiniol Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (eitem 3)
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol (eitem 4)
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tomos Roberts, Is-adran y Cabinet
  • Thomas Dowding, Is-adran y Cabinet
  • Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol – Gogledd Cymru
  • Heledd Cressey, Uwch Swyddog Cynllunio Rhanbarthol – Gogledd Cymru

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Julie Morgan AS

Eitem 1: Cyflwyniad a chroeso

1.1 Croesawodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd bawb i'r cyfarfod ac esboniodd fod blaengynllun gwaith bellach yn seiliedig ar y materion y mae'r Gweinidogion, Arweinwyr, ac eraill wedi'u codi. Ar gyfer y cyfarfod nesaf bydd ffocws ar Addysg yn ogystal â manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i weithio gydag Iwerddon a Gogledd Lloegr. Nododd y bwriad i wahodd Meiri Lerpwl a Manceinion a Chonswl Iwerddon i drafod gweithio mewn partneriaeth a chryfhau cysylltiadau.

1.2 O ran tai, cynhelir uwchgynhadledd yn fuan yn ymwneud â llygredd ffosfforws a'i effaith ar dai a datblygu. Byddai diweddariad yn cael ei roi i'r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Eitem 2: Iechyd yng Ngogledd Cymru – Y diweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

2.1 Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad a throsolwg ar iechyd yng Ngogledd Cymru.

2.2 Y cyd-destun presennol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd ei fod yn destun statws Ymyrraeth wedi'i Thargedu, ac roedd pryderon yn amlwg am yr heriau sy'n wynebu'r rhanbarth.

2.3 Er gwaethaf hynny, roedd yn glir bod y bwrdd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r heriau a achoswyd gan weithredu diwydiannol a phwysau'r gaeaf, ond roedd problem o hyd gydag oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd gormod o bobl yn aros mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, roedd angen mynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd ac nid oedd lefelau gweithgarwch wedi mynd yn ôl eto i lefelau cyn Covid. Roedd llawer o achosion lle'r oedd gwasanaethau ar draws y rhanbarth yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw cynyddol.

2.4 Adroddwyd bod trafodaethau cadarn wedi digwydd gyda'r bwrdd iechyd a bod blaenoriaethau clir ar gyfer darparu gwasanaethau wedi cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys datblygu perthynas agosach rhwng y GIG ac Awdurdodau Lleol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn ogystal, roedd angen i fynediad at ymarfer cyffredinol, deintyddiaeth, optometreg a fferylliaeth wella.

2.5 Dylai gofal brys a gofal mewn argyfwng ganolbwyntio ar reoli pobl sydd ag anghenion gofal brys yn effeithiol yn y gymuned bob awr o'r dydd a helpu mwy o bobl i gael mynediad diogel at ddewisiadau amgen i ofal yn yr ysbyty.

2.6 Roedd angen gwelliannau i ofal ac adfer a gynlluniwyd a chanolbwynt ar ddarparu gwasanaethau canser a lleihau'r ôl-groniad o gleifion sy'n aros dros 62 diwrnod am eu triniaeth ar y llwybr canser. Roedd angen gwelliannau ym maes gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ar draws yr holl wasanaethau oedran ac roedd angen i degwch a chydraddoldeb rhwng gwasanaethau corfforol ac iechyd meddwl fod yn fwy gweladwy.

2.7 Byddai'r blaenoriaethau hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r pwysau uniongyrchol ac i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy yn ystod y flwyddyn nesaf.

2.8 Ffocws arall i Lywodraeth Cymru oedd sicrhau bod y neges yn cael ei throsglwyddo y gallai pob un unigolyn helpu'r GIG drwy ofalu am ei iechyd a'i lesiant ei hun a chymryd camau i gadw'n iach. Roedd cydweithio i gynnwys pob person yng Ngogledd Cymru i greu poblogaeth iachach, lleihau'r pwysau ar wasanaethau acíwt y GIG a gwella canlyniadau yn y tymor hwy yn nod allweddol.

2.9 Yna clywodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn ymdrin â'r materion iechyd mwyaf amserol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer recriwtio gweithredol i'r Bwrdd; datblygu Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, y byddai'r ddau ohonynt yn trawsnewid gwasanaethau yn yr ardal.

2.10 Roedd gwaith yn mynd rhagddo i greu Labordy Meddygaeth Niwclear Cenedlaethol, a fyddai'n cyflenwi radioisotopau meddygol ar gyfer diagnosis a thrin clefydau megis canser ac fe fyddai'n ganolfan ragoriaeth fyd-eang mewn meddygaeth niwclear, gan greu swyddi medrus iawn.

2.11 Roedd canllawiau ar ryddhau cleifion wedi'u rhoi i fyrddau iechyd ym mis Rhagfyr, a gynlluniwyd i'w cefnogi i wneud y gorau o'u lleoliadau capasiti ysbytai trwy eu rhyddhau'n ddiogel ac amserol, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a theuluoedd i leihau nifer y cleifion nad oedd eu hangen mwyach mewn ysbyty.

2.12 Nodwyd bod gan Gymru 270 o welyau ar gyfartaledd i bob 100,000 o'r boblogaeth, tra oedd gan Loegr tua 170 o welyau i bob 100,000. Wedi dweud hynny, roedd mynd i'r afael â'r mater trosglwyddo yn hanfodol er mwyn lleddfu pwysau ac roedd pob partner yn cael ei annog i gydweithio i fynd i'r afael â'r mater.

2.13 Cafodd nifer o faterion eraill gan gynnwys pwysau'r gaeaf, effeithiau gweithredu diwydiannol, Covid-19 a feirysau anadlol eraill a gofal a gynlluniwyd a gofal sylfaenol eu trafod, a chroesawodd y Pwyllgor y diweddariadau.

2.14 O ran gwariant cyfalaf ar gyfer prosiectau newydd mewn ysbytai, nodwyd bod y sefyllfa'n anodd iawn yn dilyn datganiad cyllidol Llywodraeth y DU. Ynghlwm â hyn roedd y gwaith cynllunio manwl ar gyfer yr ystad ysbytai ehangach dros y deng mlynedd nesaf.

2.15 Croesawodd y Pwyllgor gyflwyniad y gwasanaeth 111 – Pwyswch 2, a oedd yn drawsnewidiad sylweddol o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl, gyda mynediad uniongyrchol at ymarferwyr llesiant bob awr o'r dydd o fis Mawrth ymlaen.

2.16 Nododd y Pwyllgor y datblygiadau mawr a'r heriau sy'n dal i gael eu hwynebu gan y rhanbarth a chytunodd i gydweithio i sicrhau gwelliant parhaus ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.

Eitem 3: Diweddariad ar drafnidiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r newyddion diweddaraf am yr Adolygiad Ffyrdd gan yr Arglwydd Burns

3.1 Dechreuodd y Pwyllgor drwy groesawu lansiad y fflyd drenau newydd Dosbarth 197 yng ngorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno yn gynharach y diwrnod hwnnw.

3.2 Nododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y cyd-destun ar gyfer yr Adolygiad Ffyrdd, cyn trosglwyddo'r awenau i'r Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i nodi'r Datganiad ar Gynnydd a gyhoeddwyd y diwrnod hwnnw ar waith y Comisiwn.

3.3 Daeth yr adroddiad â chryn dipyn o ddata a thystiolaeth a gasglwyd gan y Comisiwn ynghyd dros gyfnod cyntaf ei waith, a oedd wedi caniatáu iddo nodi materion a chyfleoedd.

3.4 Adroddwyd mai cerbydau preifat oedd y prif fodd o deithio o fewn y rhanbarth, gyda'r rhan fwyaf o deithiau'n lleol eu natur ac yn llai na 15 cilometr.

3.5 Yn ogystal, roedd yn glir bod teithiau'n llifo yn bennaf i Ogledd Cymru ac oddi yno i mewn i Ogledd-orllewin Lloegr, ac roedd hyn yn cyfrif am y llif trawsffiniol mwyaf ledled Cymru. Roedd llifoedd cerbydau preifat sylweddol hefyd ar hyd coridor yr A55, yn arbennig rhwng Llandudno a Chaer. Felly, roedd cysylltiadau trawsffiniol effeithiol trwy bob modd o deithio yn hanfodol i Ogledd Cymru.

3.6 Nododd y Comisiwn fod llwybr yr A55 / A494 yn ddeniadol ac yn gyflym i gerbydau preifat rhwng canolfannau poblogaeth i mewn i'r rhanbarth ac ar draws y rhanbarth. Nid oedd y llwybr hwn yn dioddef tagfeydd difrifol a rheolaidd, yn wahanol i'r darn o'r M4 a ystyriwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Roedd hyn yn cyflwyno her o ran sicrhau mwy o ddefnydd o opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy. 

3.7 O ran y rheilffyrdd, roedd gwasanaethau'n gyfyngedig i goridorau penodol o fewn y rhanbarth, ac yn canolbwyntio'n bennaf ar y llain arfordirol, y Gororau a Chaer. Yn aml mae gan drefi sy'n bell o goridorau'r llain arfordirol, y Gororau a Chaer–Amwythig gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus cyfyngedig neu ddim o gwbl, a hynny yn aml gydag amseroedd teithio cymharol hir o'i gymharu â char preifat. Roedd rhwystrau hefyd o ran cynyddu gwasanaethau teithwyr ar rannau cyfyngedig o'r rheilffordd megis trac sengl neu lwybrau cludo nwyddau.

3.8 Datgelodd y dystiolaeth fylchau sylweddol mewn cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus oedd yn bodoli eisoes, gan gynnwys mynediad at wasanaeth bob awr, yn enwedig gyda'r nos ac ar y penwythnos ac mewn ardaloedd i ffwrdd o'r coridor arfordirol, ar draws ardaloedd deheuol y rhanbarth, Penrhyn Llŷn a Wrecsam wledig.

3.9 Cydnabu'r Pwyllgor fod cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau rheilffyrdd a phrosiectau eraill i wella trafnidiaeth yn fater o bwys yn dilyn datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ddiweddar.

3.10 Roedd y Comisiwn wedi dod i'r casgliad bod achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yn y rhanbarth ar hyd y coridorau poblog, megis yng ngorsaf Glannau Dyfrdwy, ynghyd â gwella cysylltiadau rhwng Wrecsam a Lerpwl i wella trafnidiaeth gyhoeddus i safleoedd cyflogaeth a datblygu allweddol. Er hynny, i lawer yn y rhanbarth, y mecanwaith â'r effaith uchaf ar gyfer newid dulliau teithio o safbwynt cyrhaeddiad daearyddol ac amserlenni tebygol, oedd teithiau bws a theithio llesol.

3.11 Roedd y Comisiwn am weld datblygu rhwydwaith bysiau ehangach a mwy hygyrch gyda gwasanaethau amlach ac oriau gweithredu hirach. Byddai hefyd yn cefnogi buddsoddiad mewn llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus penodol a mesurau blaenoriaeth i fysiau i gefnogi llwybrau gorlawn, lle bo'n ymarferol.

3.12 Awgrymwyd mai'r her fyddai sicrhau y gallai llwybrau bysiau wasanaethu cymunedau mwy gwledig a chyrraedd pellteroedd hirach a nodwyd y byddai cymysgedd o opsiynau yn cael eu hystyried i sicrhau rhwydwaith integredig sy'n gwneud y defnydd gorau o deithio llesol ar ddechrau a diwedd teithiau.

3.13 Roedd y Comisiwn wedi nodi bod lefelau teithio llesol yn dal yn isel, er bod cyfran uchel o'r teithiau a wnaed yn deithiau byr iawn. Felly, cynigiodd ddatblygu rhwydweithiau teithio llesol gwell gyda phwyslais ar ddarpariaeth o ansawdd llawer uwch, ochr yn ochr â seilwaith pwrpasol ar wahân a gwell cefnogaeth i'r Awdurdodau Lleol gyflawni.

3.14 O ran teithiau ceir, cydnabuwyd y byddai angen i'r ymagwedd at leoliadau gwledig a threfol fod yn wahanol, a gallai cerbydau trydan ddarparu rhan o'r ateb, yn ogystal â chynlluniau rhannu ceir.

3.15 Argymhellodd y Comisiwn hefyd flaenoriaethu cynlluniau a oedd yn dangos gwell ymdriniaeth o gysylltiadau allweddol o un ardal wledig i'r llall, gan gynnwys trafnidiaeth sy'n seiliedig ar alw.

3.16 Diolchodd y Pwyllgor i'r Arglwydd Burns am y diweddariad ac roedd yn edrych ymlaen at gam nesaf ymgysylltiad i wella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth ochr yn ochr â'r holl bartneriaid cyflenwi.

Eitem 4: Diweddariad ar yr Ardoll Ymwelwyr

4.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddiweddariad ar waith i gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru, a oedd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru ac a oedd wedi'i drafod yn fanwl gydag Arweinwyr yr Awdurdodau Lleol.

4.2 Roedd nifer sylweddol o ymatebion i'r ymgynghoriad wedi dod i law ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i ystyried y rheini.

4.3 Roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo gyda phartneriaid cyflenwi gan gynnwys yr Awdurdodau Lleol a busnesau twristiaeth, y trydydd sector, Awdurdod Cyllid Cymru a gweithredwyr tramor ac ar-lein, gyda phedwar digwyddiad ymgysylltu yn cael eu cynnal ledled y wlad.

4.4 Roedd mater ail gartrefi a'r dreth gyngor yn dal i gael ei ystyried o ran y goblygiadau ymarferol ar gyfer yr ardoll, a diolchodd y Pwyllgor i Arweinwyr yr Awdurdodau Lleol am eu hymgysylltiad drwyddi draw.

4.5 Cydnabuwyd bod safbwyntiau gwahanol ynghylch cyflwyno ardoll, ond cafwyd llawer o enghreifftiau tramor lle'r oedd polisi o'r fath yn gweithio'n llwyddiannus ac yn sicrhau buddion i gymunedau lleol. Atgoffwyd arweinwyr mai mater i'r Awdurdod fyddai penderfynu a yw am gyflwyno ardoll. Yn ogystal, byddai hyn yn enghraifft dda o ble y gallai datganoli pellach gan Lywodraeth Cymru i'r Awdurdodau Lleol fod o fudd i gymunedau drwy benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn seiliedig ar angen a galw lleol.

4.6 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad.

Eitem 5: Diweddariad Economaidd

5.1 Rhoddodd Gweinidog yr Economi ddiweddariad ar gyflwr presennol yr economi gan nodi bod dirwasgiad yn debygol, ond o bosibl ddim mor ddifrifol ag yr oeddem wedi ofni yn wreiddiol. Er gwaethaf hynny, roedd posibilrwydd y byddai rhwng 20,000 a 40,000 o swyddi yn cael eu colli dros y 18 mis nesaf a byddai angen i Lywodraeth Cymru gydbwyso cefnogi'r busnesau hynny a oedd yn hyfyw yn erbyn cefnogi twf ar draws yr economi ehangach.

5.2 Roedd enghreifftiau eisoes o gau busnesau, gyda chyhoeddiad diweddar gan y ffatri 2 Sisters yn Ynys Môn a thrafodaethau yn parhau gyda'r cwmni ynghylch pa gymorth a allai gael ei roi i'r gweithlu.

5.3 Trefnwyd cyfarfod o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym mis Mawrth a byddai adroddiad pellach yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor.

5.4 Nodwyd bod tynnu arian Ewropeaidd yn ôl yn golygu bod dros £1bn mewn buddsoddiad yn cael ei golli i'r economi dros bedair blynedd, ac roedd yn amlwg nad oedd Cronfeydd Codi'r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn cyrraedd pob ardal.

5.5 O ran Porthladdoedd, byddai buddsoddiad ym mhob porthladd yng Nghymru, gyda'r potensial ar gyfer porthladdoedd rhydd i greu swyddi cynaliadwy.

5.6 Adroddwyd fod parthau buddsoddi Llywodraeth y DU wedi cael eu lleihau o'i gymharu â'r cynlluniau gwreiddiol, gyda 12 yn cael eu hawgrymu ar draws y DU, ac o leiaf un yng Nghymru. Byddai'r diwydiannau technoleg uwch, sy'n seiliedig ar wybodaeth yng Ngogledd Cymru yn cael eu hyrwyddo ar gyfer buddsoddiad.

5.7 Cydnabu'r Pwyllgor mai prin oedd yr ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU o gofio'r aflonyddwch gwleidyddol diweddar, ond bod sgyrsiau pellach yn mynd i gael eu cynnal gyda James Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru am yr economi a buddsoddiad yng Nghymru.

5.8 Croesawyd y newyddion cadarnhaol am y datblygiadau yn ymwneud â'r diwydiant niwclear yng Ngogledd Cymru, gyda Thrawsfynydd ac Ynys Môn yn y drefn honno yn rhan o'r rhaglen adweithydd bach a chanolig a datblygu radioisotopau.

5.9 Roedd buddsoddiad ehangach gan Lywodraeth Cymru wedi gweld cwmnïau mawr megis Toyota a Siemens yn cynyddu eu presenoldeb yng Ngogledd Cymru, ynghyd â'r diwydiant hancesi papur ac Airbus.

5.10 I grynhoi, roedd yn glir y byddai heriau mawr o'n blaenau i'r economi, ond roedd digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu yn y rhanbarth hefyd.

5.11 Diolchodd y Pwyllgor i'r Gweinidog am y diweddariad a nodi y byddai dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf yn cael ei gylchredeg maes o law.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2023