Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Agenda
Amser Eitem Papurau Cyflwynydd
13:00 Croeso
  1. Cofnodion
  2. Pwyntiau gweithredu
Keith Towler
13:10 Marc Ansawdd   Andrew Borsden (Cyngor y Gweithlu Addysg)
13:35 Gwefan Addysgwyr Cymru   Jerena Davies Kumar / Hayden Llewellyn / Bethan Stacey (Cyngor y Gweithlu Addysg)
14:00 Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae   Keith Towler
14:15 Amserlennu 2021
  1. 2021 calendr digwyddiadau dros dro
Keith Towler / James McCrae
14:30 Egwyl    
14:40 Diweddariad LlC
Diweddariad Keith
  Gemma Roche Clarke / Keith Towler
14:50 Adolygiad o Gyfarfod GCS   Keith Towler
15:10 Cwblhau Adroddiad y Bwrdd
  1. Adroddiad y Bwrdd
Keith Towler
17:00 Diwedd y cyfarfod    

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-Gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Dusty Kennedy (DK): Cyfarwyddwr Trauma Recovery Model Academy

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • James McCrae (JM): Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid

Cofnodion a phwyntiau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf yn amodol ar fân newidiadau i'r testun.

Nod Ansawdd

Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad gan Andy Borsden o Gyngor y Gweithlu Addysg am ddatblygiadau'n gysylltiedig â'r Marc Ansawdd. Siaradodd Andy am gefndir y Marc Ansawdd hyd heddiw, lle bo gan Gyngor y Gweithlu Addysg y contract i adolygu'r Marc Ansawdd a chreu cynlluniau ar gyfer gwella, gan gydweithio â Llywodraeth Cymru. Trafododd Andy fanteision y Marc Ansawdd, a'r ffordd y mae'n mesur perfformiad (gan rannu'r safonau i adrannau efydd, arian ac aur). Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi trefnu cymorth i ddarparwyr sy'n derbyn asesiadau Marc Ansawdd.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi ymgynghori â rhanddeiliaid a chyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar adborth gan randdeiliaid o bob rhan o'r sector. Esboniodd Andy yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

Holodd SS am waith arall a oedd yn digwydd draws Ewrop; Dywedodd Andy nad oedd yn gwybod am unrhyw wledydd eraill a oedd yn gwneud hyn ar raddfa genedlaethol, er bod rhai enghreifftiau da o ddulliau lleol, er enghraifft ym Mwlgaria a'r Eidal. Gofynnodd KT sut oedd pobl ifanc yn cael eu cynnwys, a chyfeiriodd Andy at enghraifft lle'r oedd pobl ifanc yn asesu ceisiadau ym Mro Morgannwg.

Gwefan Addysgwyr Cymru

Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad ar wefan Addysgwyr Cymru gan Jerena Davies Kumar, Hayden Llewellyn a Bethan Stacey, y mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg sylfaen ddeddfwriaethol ar ei chyfer. Bydd y wefan yn gweithredu fel 'ffenestr siop' ar gyfer y gweithlu gwaith ieuenctid, i'r rhai sydd eisoes o fewn y proffesiwn, a'r rhai sy'n gobeithio ymuno.

Aeth Jerena wedyn ati i ddangos y wefan ac esbonio y bydd hi'n parhau â'r gwaith hwn gyda'r GCS ‘Mae Gwaith Ieuenctid yn cael e Werthfawrogi a'i Ddeall’.

Trafododd y grŵp ei bod hi'n anodd cynnwys gwaith ieuenctid o dan wefan 'addysg', ond cytunodd fod hyn yn gyfle da i'r sector.

Adolygiad Gweinidogol o gyfleoedd chwarae

Siaradodd KT am gyfarfod diweddar ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yr oedd yn bresennol ynddo fel Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Mae'r Grŵp Gweinidogol yn gweithio tuag at gyhoeddi adroddiad yn fuan yn 2021, a bydd llawer o synergeddau rhwng yr adroddiad hwnnw ac adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Dylai'r cyswllt chwarae fod yn arbennig o gryf ar gyfer y bobl ifanc 11 i 15 oed, ac mae angen ystyried chwarae hefyd ar gyfer y grwpiau oedran hŷn.

Rhannodd JS y cefndir i chwarae a gwaith ieuenctid, a dywedodd ei bod yn ymddangos bod bwlch rhyngddynt ar hyn o bryd. Mae angen dod â'r naill agwedd a'r llall ynghyd.

Dywedodd SL y dylid creu cysylltiadau rhwng chwarae, gofal plant, addysg a gwaith ieuenctid, ond y dylent fodoli yn eu hawl eu hunain hefyd.

Cododd ET yr ymagwedd ysgol gyfan at y cwricwlwm newydd a rhan gwaith ieuenctid yn hynny o beth. Yr enghraifft a roddwyd yw bod y berthynas rhwng ysgolion coedwig a gofal plant yr un peth â’r berthynas rhwng gwaith ieuenctid ac addysg. Gwaith ieuenctid yw'r elfen 'chwarae’.

Bydd KT yn rhannu argymhellion yr adolygiad o gyfleoedd chwarae pan fydd yn eu derbyn.

Amserlennu 2021

Rhannodd JM ddrafft cyntaf o galendr ar gyfer cyfarfodydd GCS a Bwrdd y flwyddyn nesaf. Awgrymwyd y dylai'r rhan fwyaf o'r grwpiau gyfarfod ychydig yn llai aml. Awgrymodd JS y dylid edrych ar galendr Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i nodi dyddiadau allweddol. Pawb i gadarnhau eu sylwadau gyda JM a fydd wedyn yn diweddaru'r calendr, gan anelu i'w rannu cyn diwedd y flwyddyn.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

Dywedodd GRC y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Y nod yw ymgynghori i gasglu adborth o ansawdd uchel gan randdeiliaid am y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a chrynhoi hynny mewn adroddiad i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ailwampio'r Fframwaith. Cynlluniwyd hyn yn gynharach eleni, ond cafodd y gwaith ei oedi oherwydd Covid.

Mae'n adeg dda i ailedrych ar y gwaith yma, ac ystyried effaith Covid ar bobl ifanc yn sgil cau ysgolion, yr effaith ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, a'r dirwasgiad a'r gostyngiad mewn cyfleoedd am swyddi.

Esboniodd y GRC y cynlluniau i gyflwyno gweithdai ymgynghori ar-lein i swyddogion a rhanddeiliaid allanol a gweithgareddau ymgynghori i bobl ifanc. 

Rhagwelir y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu yn fuan ym mis Chwefror, ac y bydd gweithgareddau ymgynghori yn cael eu cynnal ym mis Mawrth ac yn fuan ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd yr ymgynghoriad felly'n dal i gael ei gynnal yn y cyfnod cyn yr etholiad. O ganlyniad i hyn, ni fydd hysbysiad cyffredinol er mwyn cael pobl i gymryd rhan yn y cyfnod sy'n arwain i mewn i'r cyfnod cyn yr etholiad, nac yn y cyfnod cyn-etholiadol ei hun. Mae'r rhanddeiliaid y mae angen eu gwahodd i gymryd rhan wedi'u nodi, gan gynnwys Prif Swyddogion Ieuenctid, cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol ac aelodau o'r GCS ‘Mae Gwaith Ieuenctid yn cael e Werthfawrogi a'i Ddeall, sydd wedi cymeradwyo ailysgrifennu'r Fframwaith fel un o'i gamau gweithredu.

Gofynnodd GRC i'r grŵp am ei gefnogaeth er mwyn cyrraedd rhanddeiliad i gymryd rhan o'r ymgynghoriad.

Esboniodd GSC fod adroddiad Wavehill bron wedi'i gwblhau, ac mai'r cam olaf oedd creu fersiwn hawdd ei darllen wedi'i thargedu at y grŵp oedran iau 11-15 oed. Mae'r prif adroddiad bellach yn cael ei gyfieithu.

Esboniodd GRC fod y tîm yn archwilio opsiynau'n gysylltiedig â gwaith marchnata a chyfathrebu cyn y gynhadledd a'r gwobrau blynyddol yn 2021.

Diweddariad Keith Towler

Ychwanegodd KT ei fod yn rhagweld y byddai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cysylltu eto. Yr oedd wedi cyfarfod â Lynne Neagle ychydig wythnosau'n ôl, a gallai'r pwyllgor fod yn gwneud gwaith gwaddol tuag at ddiwedd tymor y Senedd.

Dywedodd KT fod y cyfarfod â'r Gweinidog yn gadarnhaol ac y dylai'r argymhellion yn yr adroddiad barhau i sefyll o ganlyniad i hynny.

Adolygiad o gyfarfod y GCSau

Adolygodd y Bwrdd gyfarfod yr holl GCSau, a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd. Dywedodd KT ei fod yn teimlo bod y cyfarfod yn llwyddiannus, a phawb wedi cymryd rhan yn frwd. Dywedodd JS fod yr adborth yn gadarnhaol iawn, ond y gellid treulio mwy o amser yn yr ystafelloedd trafod yn y digwyddiadau nesaf, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan. Dywedodd ET ei bod hi'n teimlo bod y cyfarfod yn dangos faint o gynnydd sydd wedi'i wneud. Dywedodd SL ei bod yn teimlo bod cefnogaeth wirioneddol o blaid yr argymhellion yn adroddiad y Bwrdd.

Adroddiad y Bwrdd

Trafododd y Bwrdd yr argymhellion ar gyfer yr adroddiad y byddai'n ei gyhoeddi yn unol â'r adborth a gafodd o'r digwyddiad SPG a'r cyfarfod â'r Gweinidog Addysg ym mis Tachwedd. Awgrymodd KT gynllun gwaith ar gyfer y Bwrdd yn erbyn ei argymhellion ar gyfer 2021.

Dywedodd KT fod yr adroddiad wedi'i gwblhau, a gofynnodd am sylwadau erbyn 2  Rhagfyr i anfon yr adroddiad draw erbyn 4 Rhagfyr. Ychwanegodd yr hoffai gael hyd i ddrafftiwr allanol ar gyfer yr adroddiad terfynol nesaf.

Roedd y Bwrdd yn cytuno eu bod yn fodlon â'r adroddiad cyfredol, ac nad oedd angen ei newid ymhellach.

Ystyriodd y Bwrdd sut y gellid ymgysylltu orau â meysydd polisi eraill, gan gynnwys plismona, llywodraeth leol a chymunedau ac ar draws y sector addysg. KT i gysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â dyluniad yr adroddiad ac yn cysylltu â KT. 

Cododd SL bwynt ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc. roedd sefydlu'r bwrdd cysgodol yn ddatblygiad pwysig iawn, ond roedd hi'n bwysig peidio colli golwg ar yr angen i barhau i gyfathrebu'n ehangach â phobl ifanc. Cytunai pawb fod angen anfon briff gan Keith drwy'r bwletin, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a'r Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd am 13:00 ar 29 Ionawr 2021 ar Microsoft Teams.