Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
13:30

Croeso

Cofnodion a Chamau Gweithredu

  1. Cofnodion 14 Gorffennaf
13:40

Diweddariad gan Keith Towler

 

13:50

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

 

14:10 Trafodaeth gydag aelodau Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid
  1. Llythyr Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid am adroddiad arfaethedig y BGIDD
14:40 Trefniadau cyhoeddi’r adroddiad  
14:50

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol (14 Hydref): cyfranogiad aelodau’r Bwrdd

 
15:00

Trefniadau olynydd y Bwrdd a dyfodol Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

 
15:15

Diweddariadau Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

 
15:45

Y digwyddiad pob Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth nesaf (12 Hydref)

 
15:55

Unrhyw faterion eraill

 
16:00 Cloi  

 

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro 
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Gwesteion:

  • David Williams (DW): Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
  • Tim Opie (TO): Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • James Healan (JH): Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
  • Paul O’Neil (PO): Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
  • Bedwyr Harris (BH): Gwasanaeth Ieuenctid RhCT
  • Ellie Parker (EP): CWVYS

Ymddiheuriadau

  • Dusty Kennedy: TRM Consultation Ltd
  • Joanne Sims: Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent

Croeso, Cofnodion a Chamau Gweithredu

Cytunwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir. Nid oedd unrhyw faterion eraill yn codi.

Diweddariadau gan Keith

Rhoddodd KT yr wybodaeth ddiweddaraf o’i gyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg. Mae hefyd wedi cyfarfod ag Owain Lloyd y Cyfarwyddwr Addysg newydd. Roedd y ddau gyfarfod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd bod y ddau yn ymddangos o ddifrif am y sector ac am waith y Bwrdd. Dywedodd y ddau eu bod yn ddiolchgar i’r Bwrdd am y gwaith y maent wedi ei wneud hyd yn hyn ac y byddent yn croesawu deialog pellach.

Amlinellodd KT rai pryderon a godwyd yn yr SPG Hygyrch a Chynhwysol ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau i fenywod a merched a’r gymuned drawsryweddol. Nodwyd bod

Dywedodd ET ei bod yn ymwybodol bod gweithgarwch sylweddol yn digwydd ar y mater hwn o’r ddwy ochr ar hyn o bryd. Ceir gwrthwynebiad i’r cynllun LGTBQ+ o’r safbwynt bod sefyllfaoedd a mannau diogel menywod yn cael eu peryglu gan fenywod trawsryweddol, gan gynnwys llochesi, toiledau ac ati.

Cam gweithredu: Bydd KT yn ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd ac yn ymateb os oes angen.

Dywedodd KT hefyd ei fod wedi siarad ag Estyn a ddywedodd eu bod yn gobeithio treialu elfen gwaith ieuenctid yn rhan o’u harolygiadau.

Diweddariadau gan Lywodraeth Cymru

Rhoddodd GRC ddiweddariad. Bydd adroddiad y Bwrdd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Medi 2021. Bydd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig a fideo cryno yn fuan wedi hynny.

Dywedodd GRC bod cyllid ychwanegol wedi cael ei wneud ar gael ar gyfer iechyd a llesiant meddwl emosiynol. Bydd y cyllid yn cael ei wneud ar gael drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid, ac yn gofyn am gynlluniau gwaith sy’n esbonio sut y byddant yn gweithio ar y cyd â’r sector gwirfoddol i ddatblygu’r ddarpariaeth ychwanegol.

Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn cael ei ddiweddaru. Sefydlwyd yr ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn ac mae ymatebion wedi cael eu cyhoeddi bellach ac mae’r datblygiad mewn ymateb i’r adborth yn cael ei ystyried.

Mae gennym Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr, Hannah Wharf, erbyn hyn.

Dywedodd DL y disgwylir i rownd bresennol grant y Corff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) ddod i ben ym mis Mawrth 2022 a bod gwaith ar rownd newydd eisoes ar y gweill, a fyddai’n cynnwys ystyriaeth o sut y gallwn helpu i gynorthwyo gwaith ieuenctid i ddod yn fwy cynhwysol ac amrywiol.

Tynnodd GRC sylw at y ffaith y bydd yn gadael ddydd Gwener i gael babi. Dymunodd y Bwrdd yn dda iddi gan ddiolch iddi am yr holl waith y mae wedi ei wneud a dweud ei bod wedi bod yn bleser gweithio gyda hi.

Cyhoeddi adroddiad terfynol y Bwrdd

Dywedodd HJ y bydd adroddiad terfynol y Bwrdd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Medi am 9.30am. Darparodd ddolenni i’r fersiynau i bobl ifanc ac offerynnau, a dywedodd y bydd clip fideo hefyd a fydd yn cael ei gysylltu â thudalen youtube Llywodraeth Cymru a chyda chyfryngau cymdeithasol eraill.

Hefyd, dywedodd HJ bod cynllun cyhoeddusrwydd yn cael ei lunio gan Ellie Parker yn CWVYS. Cadarnhaodd hefyd bod y Pwyllgor Pobl Ifanc yn ymwybodol o’r dyddiad cyhoeddi, a hefyd eu bod wedi cael eu hymgynghori yn rhan o ddatblygiad yr offerynnau.

Trafodaeth gyda chynrychiolwyr o Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid

Tynnodd KT sylw at y ffaith fod y Bwrdd wedi derbyn llythyr gan Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid yn nodi rhai meysydd y byddent yn croesawu trafodaethau pellach arnynt. Gwahoddodd KT y grŵp i drafod eu sylwadau.

Tynnodd DW sylw at y ffaith eu bod yn codi’r materion drwy helpu i ddatblygu’r sgwrs a hysbysu syniadau yn y dyfodol. Fe wnaethant ofyn am rywfaint o eglurhad ychwanegol mewn rhai meysydd fel y gwahaniaeth rhwng ymgysylltu gwaith ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid mwy cyffredinol. Rhannodd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid eu syniadau ar yr argymhelliad yn ymwneud ag anghenion deddfwriaeth hefyd.

Gan fod amser yn brin i roi sylw i’r holl bwyntiau a wnaed gan y grŵp yn ystod y cyfarfod, cytunodd KT i drafod hyn gyda nhw yn uniongyrchol yn dilyn y cyfarfod.

Cam gweithredu: HJ i drefnu dyddiad cyfarfod pellach ar gyfer KT a David Williams i drafod ymhellach.

Trefniadau olynydd gyda’r Bwrdd a dyfodol SPGs

Tynnodd GRC sylw at y ffaith bod y Gweinidog yn bwriadu i’w Ddatganiad Ysgrifenedig adlewyrchu na fydd bwlch yng ngwaith y Bwrdd wrth i fwrdd/corff newydd gael ei sefydlu. Cyfeiriodd at y potensial i waith y Bwrdd barhau tan fod y strwythur newydd yn weithredol. Nododd y Bwrdd yn gyffredinol eu bod o blaid y dull hwn ond y byddent hefyd yn hoffi i’r Pwyllgor Pobl Ifanc barhau i weithredu yn ystod yr holl gyfnod, a hefyd i ystyriaeth gael ei rhoi i gynrychiolaeth ar y Bwrdd o bob rhan o’r sector.

Diweddariadau Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth (SPG)

Yn unol â’r cytundeb i waith y Bwrdd barhau, cytunwyd y bydd yr SPGs hefyd yn parhau i gefnogi’r ystyriaeth o’r argymhellion a gweithredu unrhyw argymhellion a dderbynnir.

Dywedodd KT bod cyfarfodydd yr SPG Wedi’i Werthfawrogi a’i Ddeall a’r SPG Hygyrch a Chynhwysol wedi cael eu gohirio tan i adroddiad y Bwrdd gael ei gyhoeddi. Fodd bynnag, mae diffiniad o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael ei ddatblygu gan yr SPG Hygyrch a Chynhwysol a bydd yn cael ei rannu gyda holl aelodau’r SPG. Dywedodd hefyd bod gwaith yn parhau i ddatblygu’r Gynhadledd Gwaith Ieuenctid ar 14 Hydref, a bod y Grŵp Marchnata wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith hwn.

Cytunwyd bod angen ei gwneud yn eglur wrth i newidiadau gael eu gwneud i sefydlu Bwrdd neu Gorff newydd bod disgwyliad y gallai fod yn ofynnol i unrhyw aelod o’r Bwrdd gadeirio ac arwain y cyfarfodydd SPG. Hefyd, dylai aelodaeth gael ei adolygu i sicrhau amrywiaeth. Cytunodd KT y byddai angen i holl gynlluniau’r SPGs gael eu hystyried ac o bosibl eu diweddaru yn unol â’r argymhellion o adroddiad y Bwrdd a bod yn rhaid iddynt i gyd gydblethu i sicrhau corff cydgysylltiedig o waith.

Dywedodd EGJ bod grŵp y Gymraeg wedi croesawu aelodau ychwanegol.

Dywedodd DL y bydd angen gwerthuso’r Pwyllgor Pobl Ifanc i weld pa mor effeithiol y mae wedi bod ac a oes gwersi wedi’u dysgu. Nododd nad yw pobl ifanc a oedd yn yr SPGs yn wreiddiol bob amser yn gallu bod yn bresennol a bod hwn yn un maes y bydd angen ei ystyried ymhellach.

Dywedodd DL y bydd yn cyfarfod ag ETS yn fuan yn rhan o’r gwaith ar gyfer yr SPG Datblygu’r Gweithlu i gael diweddariad ar y gwaith mapio ac ar y cwrs Arweinyddiaeth a Rheoli. Bydd yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar ôl y drafodaeth honno.

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol

Cadarnhawyd y gynhadledd ar gyfer dydd Iau 14 Hydref 2021. Trafododd Ellie Parker yr agenda ddrafft ar gyfer y gynhadledd a gwahoddodd y Bwrdd i gymryd rhan mewn panel ar y cyd â’r Pwyllgor Pobl Ifanc, yr oeddent yn hapus i’w gytuno. Gofynnodd y Bwrdd a ellid rhedeg sesiynau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ond hefyd ar ddull seiliedig ar hawliau.

Cam gweithredu: EP i ystyried y gweithdai ychwanegol.

Hefyd, trafododd y Bwrdd y potensial ar gyfer gynadleddau bach ychwanegol neu ddigwyddiadau trafod a phwyslais i gael eu cynnal yn y dyfodol ar weithrediad yr argymhellion. Cytunwyd y gallai hyn fod o fudd.

Digwyddiad SPG ar y cyd 12 Hydref

Trafododd y Bwrdd amseriad y digwyddiad SPG gan fod y gynhadledd wedi’i threfnu i gael ei chynnal ar 14 Hydref. Trafodwyd ganddynt hefyd fanteision cynnal y digwyddiad ar ôl i’r Gweinidog benderfynu pa argymhellion y bydd yn eu cytuno. Cytunwyd y dylid gohirio’r digwyddiad tan ddechrau 2022 i alluogi trafodaethau pellach ar gynlluniau gwaith y grwpiau.

Dywedodd KT y byddai’n ysgrifennu at yr SPGs i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod pob SPG nesaf.

Cam gweithredu: KT i ysgrifennu at bob SPG.

Dywedodd KT bod Nick Hudd wedi gwneud awgrym yn ymwneud â defnyddio platfform offerynnau arloesi. Mae Nick wedi bod mewn trafodaethau ag SS ac roedd gan y Bwrdd ddiddordeb mewn darganfod mwy am hyn ar gyfer y digwyddiad SPG newydd.

Cam gweithredu: HJ i roi gwybod i Nick y bydd hyn yn cael sylw ym mis Ionawr.

Unrhyw faterion eraill

Gofynnodd ET bod cysylltiadau â’r gwaith dull ysgol gyfan yn cael eu creu. Dywedodd DL ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â’n swyddogion cyfatebol ar y gwaith hwn.

Dywedodd SL ei bod yn mynychu grŵp Llywodraeth Cymru ar dlodi. Nodwyd yn ystod trafodaethau bod rhai pobl ifanc wedi nodi nad oeddent yn teimlo y gallent fynd i wasanaethau ieuenctid gan fod y stigma o fod yn dlawd yn eu hatal rhag mynd os oes rhaid talu am fynediad, ac nad ydynt yn gallu defnyddio’r siop fach neu dalu am rai o’r gweithgareddau. Dywedodd SL bod angen ystyried y mater hwn yn rhan o’r argymhelliad yn ymwneud â chynhwysiant.