Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
10:00 Croeso a chyflwyniad i Gydgysylltydd y Pwyllgor Pobl Ifanc, Catrin James  
10:10 Diweddariad gan y Pwyllgor Pobl Ifanc  
10:20 Cofnodion a Chamau Gweithredu
  1. Cofnodion
10:30

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Trafodaeth â Thîm Polisi Llywodraeth Cymru

 
10:50

Diweddariad Llywodraeth Cymru

  • Swydd farchnata
  • Gweithgareddau marchnata
  • Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol
 
11:00

Diweddariad Keith Towler

  • Adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae
  • Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid
  • Adborth o’r adroddiadau grŵp Strategaeth
  1. Llythyr y Grŵp Strategaeth
  2. Cyd-destun polisi gwaith ieuenctid yng Nghymru
11:30

Diweddariad y GCS

  • Cyllid Arwain a Rheoli
  • Mapio
  • Peilot y Gymraeg
 
12:00 Cyllid gwaith ieuenctid
  1. Papur cyllido gwaith ieuenctid
12:50 Unrhyw fater arall  
13:00 Cau  

 

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Simon Stewart (SS): Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Eleri Thomas: Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwent

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones: Uwch Reolwr Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu Ieuenctid
  • Dareth Edwards: Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Drwy wahoddiad:

  • Catrin James (Yr URDD): Pwyllgor Pobl Ifanc
  • Hannah Fisher: Uwch Reolwr Polisi ar gyfer hil a ffydd, gan gynnwys y polisi o ran sipsiwn a theithwyr

Ymddiheuriadau

Dusty Kennedy: Cyfarwyddwr TRM Academy

Diweddariad gan y Pwyllgor Pobl Ifanc

Rhoddodd Catrin James y newyddion diweddaraf am gynnydd y Pwyllgor Pobl Ifanc, ar ran y tri cydgysylltydd - Yr Urdd, Llamau a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.

Dywedodd fod 44 o bobl ifanc wedi gwneud cais i ymuno â'r Pwyllgor ac y bu 23 ohonynt yn llwyddiannus. Gellir gwahodd y rhai aflwyddiannus i ymuno os bydd eraill yn gadael y Pwyllgor ymhen amser. Dywedodd Catrin fod aelodaeth y pwyllgor fel a ganlyn:

  • Ystod oedran 11 i 15: 7 aelod
  • Ystod oedran 16 i 19: 9 aelod
  • Ystod oedran 19 i 25: 7 aelod
  • 14 o gefndiroedd ethnig gwyn
  • 9 o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig
  • Amrywiaeth o gefndiroedd personol, gan gynnwys digartrefedd a phobl ifanc sydd wedi profi'r system ofal

Siaradodd Catrin am waith y Pwyllgor hyd yma, a dywedodd fod angen rhagor o wybodaeth cyn cynnal eu trafodaethau er mwyn cyfoethogi'r profiad.

Tynnodd y Bwrdd sylw at drafodaethau eraill yr oedd wedi'u cynnal ynghylch systemau ehangach a oedd yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan, a sut y gallai'r Pwyllgor hwn gydweddu â'r rheiny. Cytunwyd hefyd y byddai aelod o'r Bwrdd yn bresennol ym mhob cyfarfod o'r Pwyllgor.

Tynnodd y Bwrdd sylw at y ffaith y dylem ystyried sut y gallant gael mynediad at benderfynwyr lefel uwch a Gweinidogion, yn rhan o'r profiad, er mwyn iddynt ddeall sut mae eu lleisiau'n cael eu clywed. 

Rhoddodd Catrin drosolwg o'r modd y mae hi'n cynnal cyfarfodydd yn ddwyieithog. Roedd y Bwrdd yn croesawu'r dull hwn, ond cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod angen sgiliau eithriadol i wneud hynny, ac na ellid disgwyl i bob gweithiwr ieuenctid arfer y dull, er y gallai fod yn rhywbeth i anelu ato.

AP: KT, SL, ET a Catrin i drafod sut y bydd y Bwrdd yn cymryd rhan mewn cyfarfod â'r Pwyllgor, a sut y byddant yn darparu gwybodaeth ychwanegol cyn cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Ymunodd Hannah Fisher â chyfarfod y Bwrdd i drafod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (CGCH). Yn y gorffennol, mae GRC wedi anfon allan drafft y cynllun gweithredu, ac mae dau argymhellion wedi'u cynnwys ar gyfer y Bwrdd, a ddatblygwyd wrth nodi'r angen i gynnwys gwaith ieuenctid yn y REAP drwy waith â rhanddeiliaid.

Rhoddodd Hannah y cefndir i ddatblygiad y REAP, ac amlinellodd y gwaith a oedd wedi'i gyflawni hyd yma i ddatblygu'r cynllun. Roedd hyn yn cynnwys dealltwriaeth well o effaith y pandemig ar rai o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifol ethnig, gan gynnwys eu cefndir economaidd-gymdeithasol. Amlygodd hefyd mai mewn lleoliadau addysgol yn aml yr oedd y lefelau uchaf o hiliaeth yn cael eu profi.  Dywedodd fod yr ymgynghoriad ar y REAP wedi cychwyn ar 24 Mawrth, ac mai'r bwriad oedd dod â'r ymgynghoriad i ben ym mis Mehefin. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei ohirio fel bo modd cynyddu'r ymgysylltu ar ôl yr etholiad a oedd ar ddod.

Trafododd y Bwrdd sut y gellid adlewyrchu'r gwaith hwn yn ei adroddiad terfynol, ond cydnabu fod meysydd eraill i'w hystyried, er enghraifft: anabledd, ar modd y mae hynny'n effeithio ar fynediad at waith ieuenctid.

Gofynnodd SS am yr ystadegau ar gyfer y gweithlu du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, a'r niferoedd a oedd yn derbyn hyfforddiant? Beth ydym ni'n ei wybod am y cyrchfannau?

Gweithredu: Llywodraeth Cymru i ddarparu'r ystadegau sydd ar gael ar gyfer gweithwyr ieuenctid a hyfforddeion o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, gan gynnwys faint sydd wedi dechrau swydd.

Cofnodion a Phwyntiau Gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir.

Dywedodd KT y byddai'n cyfarfod â Gareth Kiff (Estyn) yn fuan.

Dywedodd SL fod y Siarter Gwaith Ieuenctid wedi'i thrafod yn rhan o GCS ‘Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu’, a chytunwyd nad oedd y Siarter honno'n addas i'r diben. Trafododd y Bwrdd y dylid datblygu Siarter newydd gyda phobl ifanc a'r Bwrdd yn y dyfodol, i gyd-fynd â datblygiad y polisi. Dylid cyfathrebu'n glir â'r sector i'w hysbysu ynghylch hyn.

Dywedodd KT ei fod wedi cwrdd â Sara Faye eto o flaen y cyfnod cyn yr etholiad a hefyd wedi cwrdd ag eraill i sicrhau bod Gwaith Ieuenctid yn cael ei ystyried wrth iddynt symud tuag at gyfnod yr etholiad.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

Rhoddodd GRC y newyddion diweddaraf am y Rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol, a dywedodd fod llawer i'w wneud o hyd i fireinio'r rhaglen, ac y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â rhanddeiliaid.

Gofynnodd y Bwrdd i'r cofnodion ddangos eu bod yn cefnogi'r datblygiad hwn, yr oedd croeso mawr amdano. Roeddent yn croesawu'r cyfleoedd y gallai'r cyllid hwn eu cynnig, yn enwedig ar raddfa fyd-eang, yn hytrach nag ar raddfa Ewrop yn unig. Nodwyd mai'r her fyddai sicrhau bod y sector yn mynd i allu ymateb i fanteisio ar y cyfle.

Rhoddodd DE y newyddion diweddaraf ynghylch marchnata. Dywedodd fod gennym bellach gymeradwyaeth Weinidogol i greu swydd farchnata a chyfathrebu 12 mis o hyd oddi mewn i Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Yn ogystal â hyn, roedd y bwletin gwaith ieuenctid diweddaraf wedi cael ei ryddhau o flaen y cyfnod cyn yr etholiad ac yn canolbwyntio ar ymgysylltu democrataidd.

Dywedodd KT wrth y Bwrdd fod Paul Glaze wedi gofyn iddo eistedd ar y panel i ddewis yr ymgeisydd ar gyfer y swydd farchnata. Bydd hefyd yn gweithio gydag eraill i nodi'r blaenoriaethau ar gyfer deilydd y swydd.

Diweddariad Keith Towler

Yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae - bydd gweithdy penodol yn cael ei gynnal ar gysylltiadau rhwng addysg, gwaith ieuenctid a chyfleoedd chwarae. Bydd cyfarfod arall o'r grŵp llawn yn cael ei gynnal ddiwedd mis Ebrill.

Cafodd Cyd-destun Gwaith Ieuenctid yng Nghymru 2021 ei lunio gan Tim Opie (CLlLC) a nododd KT y dylid cynnwys y Bwrdd yn y cyd-destun, a chytunwyd ar hynny. Teimlai pawb fod y papur yn ddefnyddiol.

Mae'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid wedi cael ei adolygu a'i ailwampio a chynlluniau gweithredu bellach wedi'u cyhoeddi. Amlinellodd KT ei rôl fel cyd-gadeirydd ar Fwrdd Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a dywedodd ei fod yn awyddus i sicrhau cysylltiadau rhwng gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.  Bu peth trafodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng y glasbrint cyfiawnder ieuenctid a'r glasbrint menywod, a'r angen i greu'r cysylltiadau hynny rhwng y cynlluniau a rhwng gwasanaethau. Dywedodd GRC ei bod bellach mewn cysylltiad â'r arweinydd mewnol o Lywodraeth Cymru ar gyfer hyn.  Yr oedd pryderon ynghylch diffyg cysylltiadau ar draws amryw o grwpiau o bobl ifanc, ac nad oedd unrhyw weledigaeth glir ar gyfer atal.

Gweithredu: GRC i barhau i greu'r cysylltiadau â chydweithwyr mewnol.

Dywedodd KT ein bod yn ceisio canfod awdur addas ar gyfer yr adroddiad terfynol. Trafododd y Bwrdd y potensial am gysylltiadau fel Sefydliadau Addysg Uwch a allai ymuno â'r gwaith yma. Awgrymodd SS y gellid cysylltu cynorthwyydd addysgu graddedig â gwaith y bwrdd ac y gallai hwnnw/honno gwblhau PhD ar y gwaith y mae'r Bwrdd yn ei gyflawni yn y tymor hwy.

Gweithredu: SL i anfon manylion cyswllt i GRC ar gyfer yr enwau a awgrymwyd yn flaenorol, a dylid anfon unrhyw argymhellion pellach ymlaen.

Diweddariad y GCS

Rhoddodd DL y newyddion diweddaraf am gyllid sydd ar gael ar gyfer y gwaith peilot Arwain a Rheoli drwy GCS Datblygu'r Gweithlu. Mae cyllid hefyd wedi cael ei gytuno ar gyfer gwaith mapio'r gweithlu. Bydd DL mewn cysylltiad ag ETS i fwrw ymlaen â hyn.

Cadarnhaodd EGJ fod cyllid peilot y Gymraeg wedi cael ei gytuno a gobeithiwyd am gynnydd yn fuan yn gysylltiedig â hyn. Cafwyd trafodaethau ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio Grŵp y Gymraeg ar grwpiau eraill, a chytunwyd bod yr ymagwedd yn gweithio'n dda. Gofynnodd EGJ i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod un aelod yn cael ei wahodd i GCS, gan ddweud nad oedd yn derbyn y gwahoddiadau.

Gweithredu: DL i wirio'r gwahoddiad ar gyfer y GCS

Nodwyd bod cynnal y GCSau yn feichus o ran amser, a bod angen adnoddau ar gyfer hynny, sy'n rhywbeth y gellid ei gynnwys ymhlith argymhellion y Bwrdd yn y dyfodol.

Cafwyd trafodaeth ynghylch yr angen i hybu'r ffordd y mae'r Bwrdd yn gweithio gyda'r is-grwpiau ac i ddangos sut rydym yn gweithio ac yn cyflawni'n well na'r disgwyl.

Gweithredu: SS a KT i drafod potensial am gyhoeddiad i amlygu'r gwaith sy'n cael ei gyflawni a'r dulliau sy'n cael eu mabwysiadu.

Cyllido

Cafwyd trafodaeth ynghylch y papur cyllido a ddarparwyd i'r Bwrdd, yn enwedig yr angen i fod yn glir ynghylch yr hyn y mae'r wybodaeth hon yn ei dangos. Nodwyd mai gwybodaeth lefel uchel yw'r wybodaeth a ddarparwyd, ac nad yw ond yn creu darlun rhannol. Cytunwyd bod angen edrych yn fanylach ar y modd y mae cyllid yn cael ei ddyrannu ym mhob ardal awdurdod lleol.

Nodwyd bod gwasanaethau eiriolaeth wedi cael eu hepgor o'r Grant Cynnal Refeniw (RSG), a byddent yn croesawu ystyriaeth o'r hyn a fyddai angen digwydd er mwyn mabwysiadu'r un ymagwedd at waith ieuenctid, a beth fyddai goblygiadau hynny.

Awgrymodd KT y dylid cynnull grŵp bach i ddechrau'r drafodaeth gwmpasu, a sicrhau bod y trafodaethau'n agored a thryloyw.

Gweithredu: KT a GRC - Cynnull grŵp bach a nodi pwy sydd angen cymryd rhan, a'r amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith.