Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
11:00

Croeso

Cofnodion a Chamau Gweithredu

  1. Cofnodion 9 Mehefin
11:10 Diweddariad gan Keith: cyfarfod â’r Gweinidog  
11:20 Cytuno ar amserlen ar gyfer cyhoeddi
  1. Amserlen ddrafft
11:25 Trafodaeth am ffeithlun a/neu glip fideo ar gyfer pobl ifanc  
11:50 Unrhyw faterion eraill  
12:00 Cloi  

 

Yn Bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid

Gwesteion:

Rhys Jones: Awdur adroddiad, Prifysgol Aberystwyth

Ymddiheuriadau

  • Simon Stewart: Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Efa Gruffudd Jones: Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Dusty Kennedy: Trauma Recovery Model Academy

Cofnodion o 9 Mehefin

Cytunwyd ar y cofnodion o gyfarfod y Bwrdd ar 9 Mehefin.

Diweddariad gan Keith: cyfarfod â’r Gweinidog

Rhoddodd KT yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am ei gyfarfod rhagarweiniol gyda’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ar 30 Mehefin.

Amserlen

Cyflwynodd KT yr amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi adroddiad y Bwrdd ac esboniodd y byddai adroddiad y Bwrdd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi. Esboniodd HJ yr amserlen gan dynnu sylw at ddyddiadau allweddol.

Cytunwyd ar yr amserlen yn amodol ar adborth gan y Pwyllgor Pobl Ifanc.

Trafododd y Bwrdd ddatblygu cynllun cyfathrebu, y wasg a’r cyfryngau yn gysylltiedig â chyhoeddi’r adroddiad i godi proffil yr adroddiad a gwerth gwaith ieuenctid. Cytunodd y Bwrdd y dylid adlewyrchu adfer yn sgil Covid yn y cynllun cyfathrebu.

Cam gweithredu: HJ/DE/GRC i drafod cynllun cyfathrebu gyda chydweithwyr.

Esboniodd KT bod yr argymhelliad drafft ar gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael ei rannu gyda’r Grŵp Partneriaeth Strategol (SPG) Wedi’i Werthfawrogi a’i Ddeall a’r SPG Hygyrch a Chynhwysol. Ychwanegodd HJ bod yr argymhelliad drafft wedi cael ei anfon at SL i’w rannu gyda’r SPG Pobl Ifanc yn Ffynnu.

Trafodaeth am ffeithlun a/neu glip fideo ar gyfer pobl ifanc

Trafododd y Bwrdd ddiben ffeithlun a/neu glip fideo ar gyfer pobl ifanc. Esboniodd HJ y byddai ffeithlun yn cynnig delwedd weledol o’r hyn y mae’r adroddiad yn ei gynnwys ac yn galluogi pobl ifanc i weld y pwyntiau allweddol heb orfod darllen yr adroddiad llawn.

Cytunodd y Bwrdd bod angen ffeithlun ac y dylai pobl ifanc gael eu cynnwys. Cadarnhaodd HJ y byddai mewnbwn gan bobl ifanc yn un o ofynion manyleb y contract.

Awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dull tebyg pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb i adroddiad y Bwrdd. Cytunodd GRC i ystyried yr awgrym ymhellach.

Unrhyw Faterion Eraill

Fformat yr adroddiad

Gofynnodd RJ am adborth ar fformat argymhellion yr adroddiad. Cytunodd y Bwrdd y dylai fod trafodaeth gyffredinol ar yr amserlenni a’r costau sy’n gysylltiedig â’r argymhellion ar ddechrau’r adroddiad, yn hytrach na manylion ym mhob argymhelliad. Dylai naratif o fewn yr argymhellion fod yn gryno.

Cyfraniad y Pwyllgor Pobl Ifanc

Trafododd aelodau’r Bwrdd gyfraniad y Pwyllgor Pobl Ifanc at yr adroddiad o ran yr agweddau ar yr adroddiad y maent yn eu hystyried ar hyn o bryd. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn gofyn i’r Pwyllgor a oes unrhyw argymhellion eraill yr hoffent eu hystyried a chynnig adborth arnynt.

Cam gweithredu: HJ i anfon argymhellion drafft diwygiedig at Catrin James a gwahodd y Pwyllgor i ymuno â chyfarfod nesaf y Bwrdd (14 Gorffennaf) i drafod eu hadborth ar yr argymhellion y maent wedi eu hystyried hyd yma.

Argymhelliad ariannu

Trafododd y Bwrdd sut i barhau i ariannu trafodaethau cyn cyhoeddi’r adroddiad a chytunwyd y dylid cael cyfarfod Bwrdd ychwanegol i drafod.

Cam gweithredu: KT i rannu dyddiadau a HJ i drefnu cyfarfod.

Trefniadau ar gyfer gwaith y Bwrdd o fis Rhagfyr

Cafwyd trafodaeth gryno am drefniadau ar gyfer gwaith y Bwrdd ac SPGs o fis Rhagfyr. Awgrymodd KT y byddai cynnig yn cael ei wneud i’r Gweinidog ar yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf.

Cam gweithredu: KT i gysylltu â phob aelod o’r Bwrdd ar wahân i drafod.

Mae cyfarfod nesaf y BGIDD ar 14 Gorffennaf am 15:00.