Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
** Sesiwn breifat i aelodau’r bwrdd **
15:30 Croeso  
15:35 Argymhelliad i adolygu cyllid: y camau nesaf  
** Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid i ymuno â’r cyfarfod **
16:05 Cofnodion a Chamau Gweithredu
  1. Cofnodion 26 Mai
16:10 Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid: categorïau gwobrau
  1. Categorïau gwobrau
16:25 Trafodaeth argymhellion
  1. Adroddiad drafft y BGIDD
16:55

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP)

Trafodaeth a Chynllun Gweithredu LGBTQ+ (LlC):

  • argymhelliad ar gydraddoldeb?
  1. Camau gweithredu i’r BGIDD yn y Cynllun Gweithredu LGBTQ+ drafft
  2. Sleidiau cyflwyno ar Gynllun Gweithredu REAP: mae’r REAP llawn ar gael
  3. Nodiadau’r grŵp ymneilltuo SPG
17:15 Proses rhannu a chynnig sylwadau ar yr adroddiad drafft  
17:25 Unrhyw faterion eraill  
17:30 Cloi  

 

Yn Bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid

Ymddiheuriadau

Simon Stewart, Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Argymhelliad i adolygu cyllid: y camau nesaf (aelodau’r Bwrdd yn unig)

Cafodd y Bwrdd drafodaeth breifat am eu hargymhelliad adroddiad i adolygu’r model ariannu ar gyfer gwaith ieuenctid. Ymunodd swyddogion polisi Llywodraeth Cymru â’r cyfarfod yn dilyn y drafodaeth honno.

Cofnodion a chamau gweithredu

Cam gweithredu: HJ i adolygu cofnodion o gyfarfod 26 Mai a dosbarthu’r fersiwn derfynol.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid: categorïau gwobrau (Dareth Edwards)

Esboniodd DE y dull a fabwysiadwyd i benderfynu categorïau’r gwobrau ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid eleni. Roedd y cam o newid y categorïau mewn ymateb i sylwadau gan feirniaid a chytunwyd ar yr holl gategorïau gan yr is-grŵp marchnata. Gofynnodd DE a oedd aelodau’r Bwrdd yn fodlon gyda chategorïau’r gwobrau a gwahoddodd sylwadau pellach.

Roedd awgrymiadau gan aelodau’r Bwrdd yn cynnwys gwobr gwaith ieuenctid cyffredinol; cydnabyddiaeth o weithio partneriaeth da rhwng awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol; gwobr ar gyfer y tîm awdurdod lleol gorau a’r tîm sector gwirfoddol gorau. Awgrymodd DE y gellid gwneud y pwyslais ar weithio partneriaeth yn fwy eglur. Nodwyd y gellid ystyried gwobr ar gyfer tîm awdurdod lleol gorau a thîm sector gwirfoddol gorau ar gyfer gwobrau yn y dyfodol.

Diolchodd DE i’r Bwrdd am y sylwadau a rannwyd yn y cyfarfod a thrwy negeseuon e-bost. Bydd DE yn eu rhannu gyda’r grŵp marchnata.

Cynllun Gweithredu REAP a Chynllun Gweithredu LGBTQ+

Rhoddwyd cyfle i’r Bwrdd drafod y camau gweithredu a nodwyd yn y cynlluniau gweithredu.

Cafwyd trafodaeth ar yr iaith a’r termau a ddefnyddiwyd yn y REAP a’r angen i’r adroddiad fod yn gyson â’r rheini. 

Eglurodd GRC iaith a ddefnyddiwyd yn y cynllun gweithredu, o ran y cam gweithredu i’r Bwrdd annog arferion gwrth-hiliol a nodi anghenion penodol plant a phobl ifanc duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Cafwyd trafodaeth am yr angen i ehangu’r cwmpas gyda chyfeiriad penodol at fater penodol a godwyd yn y digwyddiad pob SPG diwethaf yn ymwneud â’r problemau hil a ddioddefir gan y gymuned sipsiwn a theithwyr.

Diolchodd GRC i’r Bwrdd am eu cyfraniadau gan gyfleu diolch tîm y REAP am gyfraniad y sector.

Trosglwyddodd KT i RJ i drafod yr argymhelliad drafft at gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gofynnodd RJ i aelodau’r Bwrdd egluro a oeddent yn dymuno cael argymhelliad ychwanegol ar hol a chydraddoldeb a chadarnhaodd KT bod y Bwrdd eisiau argymhelliad ychwanegol.

Gofynnodd RJ am yr iaith sydd ei hangen i adlewyrchu gwahaniaethu o wahanol fathau.

Trafododd y Bwrdd cyd-blethu cydraddoldeb â phob argymhelliad, neu gael argymhelliad ar wahân. Cytunwyd y dylai fod ar wahân ond cydnabuwyd achosion o groesi llwybr ag argymhellion eraill.   

Cododd ET bryderon o safbwynt plismona am y gwahaniaethu a wynebir gan bobl anabl a gofynnodd beth roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael a gwahaniaethu ar sail anabledd.

Dywedodd GRC bod y REAP yn adlewyrchiad o bwyslais presennol Llywodraeth Cymru ar wahaniaethu ar sail hil fel maes blaenoriaeth, yn y ffordd yr oedd materion cydraddoldeb a gwahaniaethu eraill wedi bod yn y gorffennol. Fodd bynnag, awgrymodd GRC y dylai’r Bwrdd roi sylw i hyn yn eu hadroddiad os oedd yn teimlo bod gwahaniaethu ar sail anabledd yn destun pryder arbennig.   

Roedd aelodau’r Bwrdd yn cytuno bod angen diffiniad eang o wahaniaethu a bod angen i’r argymhelliad gyfeirio at gydraddoldeb a ddylai fod yn gynhwysol ac yn amrywiol i bob person ifanc. Awgrymwyd y bydd ‘man diogel’ yn wahanol i unigolion.

Awgrymodd SL y dylai’r argymhelliad fod â’r nod o sicrhau bod y broses o gynllunio’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn gynhwysol ac yn amrywiol e.e. trwy asesu anghenion y boblogaeth, defnyddio asesiadau effaith a chynnwys pobl ifanc a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y broses gynllunio.

Gofynnodd ET i sylw gael ei roi i effaith COVID ar bobl ag anableddau o ran ynysigrwydd a’r anallu i gael mynediad at wasanaethau.

Argymhellion 12 a 13

Amlinellodd KT orgyffwrdd a dryswch posibl gyda drafftio argymhellion 12 a 13. Eglurodd JS eu bod nhw’n 2 argymhelliad ar wahân.

Esboniodd HJ bod argymhelliad 12 yn teimlo fel pe bai’n mynd i’r afael a dau fater ar wahân. Mae gan ran ohono bwyslais ar gyfathrebu/codi ymwybyddiaeth (h.y. hyrwyddo’r proffesiwn), a’r llall ar fod a phwyslais ar gymwysterau/datblygu’r gweithlu. 

Cytunwyd bod angen eglurder.

Cam gweithredu: Cytunodd RJ i edrych ar eiriad argymhelliad 12.

Unrhyw faterion eraill

Adborth gan y grŵp digidol (DK)

Esboniodd DK bod y grŵp digidol yn ffafrio’r ymadrodd ‘cyfnewidfa wybodaeth’ yn hytrach na ‘gwasanaeth gwybodaeth ieuenctid’ o ran argymhelliad 9, a chan y dylai hwn fod yn rhywbeth y mae pobl ifanc yn cyfrannu ato ac â rhandaliad ynddo, roedd y grŵp yn cytuno y dylai fod gan yr ymadrodd bwyslais mwy cydweithredol ond yn teimlo nad ‘cyfnewidfa’ oedd y term cywir. 

Dechreuodd DK drafodaeth am yr argymhelliad ‘cerdyn hawl’ ac esboniodd bod y grŵp digidol yn meddwl bod ‘cerdyn’ yn teimlo yn hen ffasiwn. Cafwyd trafodaeth ar newid pwyslais yr argymhelliad i aelodaeth, lle gallai person ifanc gael cynnig uniongyrchol pan fo’n troi’n 11 oed gyda hawliau a mynediad at ‘gyfnewidfa wybodaeth’. Awgrymwyd y gellid hwyluso aelodaeth o’r fath trwy wahanol fodd i gerdyn ffisegol. Cyfeiriwyd at ddull yr Alban.

Trafododd aelodau’r Bwrdd pa hawliau eraill y gallai’r ‘cerdyn’ neu’r ‘aelodaeth’ eu cynnig, fel teithio, hamdden a gweithgareddau addysgol. Cwestiynwyd y cysylltiad â Meic hefyd.

Proses ar gyfer sefydlu corff cenedlaethol (HJ)

Rhannodd HJ gyda’r Bwrdd ei bod wedi cysylltu ag Uned Cyrff Cyhoeddus a Chanolfan Ragoriaeth Llywodraeth Cymru am gyngor ar y broses o sefydlu corff cenedlaethol. Ceir rhestr wirio ar gyfer sefydlu corff cenedlaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.

Cam gweithredu: HJ i rannu’r rhestr wirio gydag aelodau’r Bwrdd.

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid

Gofynnodd DE i aelodau’r Bwrdd gadw 14 a 15 Hydref 2021 yn rhydd ar gyfer Cynhadledd Gwaith Ieuenctid eleni.

Cyfarfod â’r Gweinidog

Gofynnodd KT i GRC am ddiweddariad ar gyfarfod cychwynnol gyda’r Gweinidog a chadarnhaodd GRC nad oedd swyddfa breifat y Gweinidog wedi awgrymu dyddiadau eto, ond y byddai mewn cysylltiad yn fuan.

Digwyddiad Cynllunio gwasanaethau ym maes gwaith ieuenctid

Cytunodd KT i fynychu’r digwyddiad cynllunio gwasanaethau ym maes gwaith ieuenctid ar ran y bwrdd ar 13 Gorffennaf.