Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

  1. Croeso a chyflwyniadau
  2. Cefndir y Bwrdd newydd
  3. Y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro – crynodeb o’r adroddiad terfynol
  4. Cylch Gorchwyl y Bwrdd
  5. Y Pwyllgor Pobl Ifanc
  6. Ymgysylltu ehangach
  7. Amserlen y cyfarfodydd nesaf
  8. Unrhyw fater arall

Presennol

Aelodau

Sharon Lovell, Cadeirydd (SL) - Cadeirydd y Bwrdd

Simon Stewart (SSt) - Aelod o'r Bwrdd

Joanne Sims (JS) - Aelod o'r Bwrdd

Shahinoor Shumon (SSh) - Aelod o'r Bwrdd

Lowri Jones (LJ) - Aelod o'r Bwrdd

Deb Austin (DA) - Aelod o'r Bwrdd

Kelly Harris (KH) - Aelod o'r Bwrdd

Marco Gil-Cervantes (MG) - Aelod o'r Bwrdd

Ymddiheuriadau

David Williams (DW) - Aelod o'r Bwrdd

Sian Elen Tomos (ST) - Aelod o'r Bwrdd

Presennol – Llywodraeth Cymru

Hannah Wharf (HW) - Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr

Dyfan Evans (DE) - Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid

Donna Robins (DR) - Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Hayley Jones (HJ) - Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Kirsty Harrington (KHa) - Swyddog Polisi Gwaith Ieuenctid

Dareth Edwards (DEd) - Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd SL y bwrdd newydd i'r cyfarfod bwrdd swyddogol cyntaf. Cyflwynodd aelodau'r bwrdd eu hunain, gan amlinellu eu rolau presennol a'u cysylltiad â gwaith ieuenctid. Nododd SL ei gweledigaeth ar gyfer y Bwrdd a'i rôl allweddol ar gyfer helpu i ddatblygu gwasanaeth gwaith ieuenctid cynaliadwy a symud ymlaen ar yr argymhellion yn adroddiad Mae'n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc.   

Bydd cynrychiolwyr ar ran y Pwyllgor Pobl Ifanc yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn cynrychioli barn y pwyllgor a phobl ifanc yn ehangach yn unol ag ymrwymiad i sicrhau bod llais pobl ifanc yn parhau'n ganolog i waith y Bwrdd.

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru

Dywedodd HW fod y Gweinidogion yn parhau i weld gwaith ieuenctid fel elfen hanfodol o'r teulu addysg ehangach, gan dynnu sylw at ei werth wrth greu mannau diogel i bobl ifanc.

Yn sail i hyn mae dyraniad ariannol o £11.4m dros 3 blynedd.

Cefndir y Bwrdd newydd

Rhoddodd DE drosolwg o waith y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro sydd wedi arwain at greu'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd.

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro – crynodeb o’r argymhellion

Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar bob un o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, gan amlinellu'r cynnydd hyd yma. Atgoffodd SL aelodau y bydd gwaith pellach i lunio cynllun ar gyfer pob un o’r argymhellion yn flaenoriaeth yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

Yn deillio o'r drafodaeth hon, gofynnodd aelodau'r Bwrdd i Swyddogion roi rhagor o fanylion am gwmpas yr adolygiad o gyllid sydd ar fin digwydd, a phapur cryno yn amlinellu sut mae awdurdodau lleol yn bwriadu defnyddio'r cyllid ychwanegol sydd wedi'i ddarparu'n ddiweddar i sicrhau cynnig gwaith ieuenctid mwy amrywiol a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Cylch Gorchwyl y Bwrdd

Gosododd SL rôl a chyfrifoldebau'r aelodau, gan gyfeirio at egwyddorion Nolan. Bydd Cylch Gorchwyl drafft yn cael ei ddosbarthu i aelodau gael rhoi eu sylwadau, gyda'r bwriad o gytuno ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

Bydd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer datganiadau o wrthdaro buddiannau posibl.

Amlinellodd swyddogion Llywodraeth Cymru y broses ar gyfer hawlio ffioedd/costau teithio a chynhaliaeth a’r trefniadau os oes gan aelodau'r Bwrdd unrhyw ymholiadau.

Y Pwyllgor Pobl Ifanc

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer y Pwyllgor Pobl Ifanc, gan gynnwys y berthynas â'r Urdd, Llamau ac EYST, yn ogystal â’r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau ymgysylltu parhaus â'r Pwyllgor.

Bydd SL yn bresennol yng nghyfarfod preswyl y Pwyllgor ym mis Hydref i drafod y cysylltiad rhwng y Bwrdd a'r Pwyllgor yn fanylach.

Gofynnodd y Bwrdd am fanylion pellach am gyfansoddiad y Pwyllgor a'i brosesau allweddol, gan gynnwys sut mae pobl ifanc yn pleidleisio am gadeirydd.

Ymgysylltu ehangach

Fe wnaeth SL ailddatgan ei hymrwymiad i'r dull cydweithredol a fabwysiadwyd gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro drwy Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth. Gofynnwyd i aelodau'r bwrdd ystyried y ffordd orau o drefnu ymgysylltiad ehangach gyda’r sector ar gyfer y cyfnod gweithredu. Bydd hyn yn cael ei drafod a’i gytuno yn y cyfarfod nesaf. Rhoddodd swyddogion adborth o’r gwerthusiad o strwythur y Grwpiau ac unrhyw wersi a ddysgwyd.

Amserlen y cyfarfodydd nesaf

Pwysleisiodd SL bwysigrwydd cysoni cyfarfodydd Bwrdd y dyfodol gyda chyfarfodydd y Pwyllgor. Bydd angen rheoli amseriad y cyfarfodydd yn ofalus hefyd er mwyn galluogi cynrychiolwyr y Pwyllgor i gymryd rhan ac i sicrhau bod gan y Pwyllgor ddigon o gyfle i ystyried a thrafod y pynciau perthnasol. 

Bydd amserlen y cyfarfodydd yn cael ei chytuno yn y cyfarfod nesaf.