Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso/ Materion Presennol

Llafar

Gweld cofnodion.

2. Hyrwyddo datblygu cynaliadwy a llywodraethiant cynaliadwy yng Nghymru – Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

3. Diweddariad ar gyllid: y sefyllfa yn ystod y flwyddyn a rhagolwg

[Papur Eitem 3]

4. Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2025

[Papur Eitem 4]

5. Unrhyw Fater Arall

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Gareth Lynn
  • Meena Upadhyaya
  • Aled Edwards
  • Carys Williams
  • Nick Woods
  • Andrew Slade
  • Liz Lalley
  • Tim Moss
  • Jo-Anne Daniels
  • Dean Medcraft
  • Helen Lentle
  • Peter Kennedy
  • Des Clifford
  • David Richards
  • Zakhyia Begum

Yn mynychu

  • Andrew Jeffreys
  • Polina Cowley
  • Simon Brindle
  • Diana Reynolds

Cyflwynwyr

  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Natalie Pearson

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

Ymddiheuriadau

  • Tracey Burke
  • Reg Kilpatrick
  • Judith Paget
  • Gawain Evans

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Croesawodd y Cadeirydd Liz Lalley, Dean Medcraft a Nick Woods i'r cyfarfod. Roedd Liz yn dirprwyo ar ran Reg Kilpatrick, Nick Woods ar ran Judith Paget a Dean ar ran Tracey Burke.

1.2 Nododd y Cadeirydd fod hyd y cyfarfod wedi'i gwtogi i ddarparu ar gyfer cyfarfod Rhaglen ar gyfer Is-bwyllgor y Cabinet.

1.3 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf.

1.4 Sefyllfa'r gyllideb yn ystod y flwyddyn a chynllunio ar gyfer y gyllideb – Gan nodi'r eitem sylweddol yn ddiweddarach yn yr agenda, rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad cryno ar y sefyllfa yn ystod y flwyddyn a'r gwaith cynllunio ar gyfer y gyllideb ar gyfer 2024-25. Cydnabu'r Cadeirydd faint yr her a'r ymdrechion ar draws y sefydliad i gyflawni'r arbedion gofynnol. Bydd y Bwrdd, ARAC a'r pwyllgorau risg ar lefel Grŵp yn darparu goruchwyliaeth i'r broses.

1.5 Rhoddodd Zakhyia Begum adborth ar ran y Bwrdd Cysgodol, gan dynnu sylw at yr anesmwythyd cynyddol ymhlith staff ynghylch goblygiadau pwysau cyllidebol ar eu meysydd gwaith ac awgrymodd y dylid cyfathrebu â staff ynghylch canlyniad yr ymarfer arbedion cyllidebol.

1.6 Yr ymchwiliad cyhoeddus i Covid – Nododd y Cadeirydd yr amserlenni a'r llwythi gwaith heriol i'r rhai ar draws Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â pharatoi ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid.

1.7 Recriwtio Cyfarwyddwr Cyffredinol – diolchodd y Cadeirydd i Aled Edwards am gefnogi'r ymarfer recriwtio ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Jo-Anne Daniels a Reg Kilpatrick am eu hymdrechion parhaus fel Cyfarwyddwyr Cyffredinol dros dro.

1.8 Recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol – diolchodd y Cadeirydd i Carys Williams, Gareth Lyn a Zakhyia Begum am gefnogi'r ymarfer recriwtio ar gyfer dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd.

1.9 Adfywio'r Bwrdd Cysgodol – nododd y Cadeirydd y byddai ymgyrch recriwtio i adnewyddu aelodaeth y Bwrdd Cysgodol yn cael ei lansio yn fuan. Nododd y Cadeirydd y cyfraniad rhagorol y mae myfyrdodau'r Bwrdd Cysgodol wedi'i wneud at drafodaethau'r Bwrdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

1.10 Gwobrau Staff Llywodraeth Cymru –Nododd y Cadeirydd fod gwobrau eleni sydd wedi gweld y nifer uchaf o ymgeiswyr mewn rhai categorïau. Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal ar ddechrau'r hydref.

1.11 Yr Ymgyrch Parch – tynnodd y Cadeirydd sylw'r Bwrdd at yr Ymgyrch Parch a gaiff ei lansio ddechrau mis Medi.

2. Hyrwyddo datblygu cynaliadwy a llywodraethiant cynaliadwy yng Nghymru – Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i'r cyfarfod a'i wahodd i gynnig ei fyfyrdodau ers dechrau yn y rôl yn gynharach yn 2023.

2.2 Croesawodd y Comisiynydd y cynnydd a wnaed gan ei ragflaenydd ac amlinellodd sut y byddai'n adeiladu arno. Caiff rhaglen waith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ei chyhoeddi ym mis Tachwedd yn nodi sawl maes blaenoriaeth a dangosyddion perfformiad allweddol.

2.3 Nododd y Comisiynydd ei fod yn gweld ei rôl fel ychwanegu gwerth at waith y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy roi cyngor a helpu cyrff cyhoeddus i oresgyn y materion hynny sy'n rhwystro eu hymdrechion.

2.4 Gwahoddodd y Cadeirydd Simon Brindle i gyflwyno sylw. Nododd Simon y berthynas waith gynhyrchiol â swyddfa'r Comisiynydd a phwysleisiodd yr angen i fod yn ymwybodol o ddwy rôl benodol Llywodraeth Cymru: yn gyntaf fel lluniwr polisi, ac yn ail fel corff sydd â dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Pwysleisiodd Simon mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru'n sefydliad sy'n esiampl i eraill. Ychwanegodd Simon fod y ddeddf yn cael ei defnyddio ar adegau fel ffordd o herio penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

2.5 Gwahoddodd y Cadeirydd y Bwrdd i gynnig sylwadau a gofyn cwestiynau i'r Comisiynydd.

2.6 Gofynnodd Des Clifford am farn y Comisiynydd am gydbwyso a rheoli'r tensiynau sydd ymhlyg yn y rôl o ran hyrwyddo cynaliadwyedd ac adolygu gweithredoedd cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Ymatebodd y Comisiynydd ei fod yn gobeithio gallu defnyddio grym cynnull y rôl i hwyluso sgyrsiau a chamau gweithredu ym maes cynaliadwyedd.

2.7 Nododd David Richards y cynnydd sydd wedi'i wneud yn Llywodraeth Cymru ar yr agenda cynaliadwyedd a gofynnodd am farn y Comisiynydd ar ba mor dda y mae pobl Cymru'n deall yr angen i gymryd llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyriaeth. Ymatebodd y Comisiynydd fod tystiolaeth o ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r ddeddf a phwysleisiodd yr angen i barhau ag ymdrechion i ledaenu gwybodaeth am y ddeddf a'r angen i gymryd llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyriaeth. Ychwanegodd y Comisiynydd fod y ddeddf yn uchel ei pharch yn rhyngwladol.

2.8 Nododd Gareth Lynn fod ARAC wedi comisiynu gwaith yn gynharach yn 2023 ar ddemograffeg yn y dyfodol i ystyried effaith newidiadau yng nghyfansoddiad poblogaeth Cymru a baich cyllidol cefnogi poblogaeth sy'n heneiddio.

2.9 Croesawodd Meena'r cynnydd sydd wedi'i wneud a chyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol a gofynnodd a fyddai nodi cyrff nad ydynt yn cydymffurfio â'r ddeddf yn hwyluso cynnydd. Cydnabu'r Comisiynydd yr angen i gynnal momentwm i gyflawni cynnydd a phwysleisiodd yr angen i ddeall y rhwystrau sy'n atal sefydliadau rhag cydymffurfio â'r ddeddf. Tynnodd y Comisiynydd sylw hefyd at y cymorth y gall ei swyddfa ei ddarparu i sefydliadau sy'n gwneud penderfyniadau cryf yn y maes hwn.

2.10 Ar ran y Bwrdd Cysgodol gofynnodd Zakhiya Begum i'r Comisiynydd am ei farn am sut y gall Llywodraeth Cymru ddysgu gan sefydliadau eraill wrth iddi fynd i'r afael â heriau o ran adnoddau a'r gyllideb. Mewn ymateb tynnodd y Comisiynydd sylw at werth cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid.

2.11 Roedd Tim Moss yn cydnabod y tensiynau rhwng pwysau tymor byr a nodau tymor hir a gofynnodd i'r Comisiynydd am ei farn ar feysydd y dylai Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu. Ymatebodd y Comisiynydd fod deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cwmpasu holl feysydd gwaith Llywodraeth Cymru a bod angen iddi fod wrth wraidd ei holl ryngweithio â'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

2.12 Gofynnodd Amelia John am farn y Comisiynydd am sut y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Gan ddefnyddio'r Cynllun Gweithredu LGBTQ fel enghraifft, awgrymodd y Comisiynydd fod yn agored iawn ar gynnydd o ran cyflawni fel ffordd o ddwyn sefydliadau a grwpiau i gyfrif.

2.13 Tynnodd Andrew Slade sylw at bwysigrwydd swyddfa'r Comisiynydd wrth hwyluso'r ddadl yng Nghymru ynghylch newid hinsawdd. Cytunodd y Comisiynydd a nododd fod ei swyddfa yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol a lleol ar dwf da.

2.14 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau ac ategu'r pwyntiau a godwyd. Roedd y Cadeirydd yn edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas weithio adeiladol â swyddfa'r Comisiynydd.

Diweddariad ar gyllid: y sefyllfa yn ystod y flwyddyn a rhagolwg

3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Andrew Jeffreys i roi trosolwg o'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn a'r ymarfer arbedion cyllidebol, a rhagolwg o gyllideb 2024/25.

3.2 Nododd Andrew y gwelliant yn y sefyllfa yn ystod y flwyddyn a'r cyfraniadau cadarnhaol y mae'r broses adolygu gan gymheiriaid wedi'u gwneud at yr ymarfer arbedion cyllidebol. Ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd bu newid i'r dull o reoli gwariant, gyda'r rhain bellach yn cael eu rheoli ar lefel MEG yn hytrach nag yn ganolog. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU ynghylch newid posibl o Gyfalaf i Refeniw. Tynnodd Andrew sylw at y risgiau os na roddir cymeradwyaeth gan Drysorlys y DU. Nododd Andrew yr ansicrwydd ynghylch lefel y symiau canlyniadol sy'n dod i Gymru yn dilyn penderfyniadau gan Lywodraeth y DU. Nododd Andrew effaith penderfyniadau cyllidebol ar wasanaethau cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau. Wrth edrych ymlaen at 2024-25, dywedodd Andrew fod llawer o'r arbedion a nodwyd yn 2023-24 yn arbedion untro a nododd yr heriau ariannol sydd o'n blaenau.

3.3 Gofynnodd Carys Williams a fyddai'n bosibl symud i gyllideb tair blynedd yn hytrach na chyllideb un flwyddyn i gefnogi cynllunio tymor hwy a'r manteision posibl o fabwysiadu dull cyllidebu sy'n seiliedig ar sero. Holodd Carys hefyd a oedd angen bod yn fwy llym wrth wario ar wasanaethau ymgynghori.

3.4 Cydnabu Andrew Jeffreys fanteision cynllunio yn seiliedig ar gyllideb tair blynedd ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi'i chlymu wrth Gylch Adolygu Gwariant Llywodraeth y DU. O ran mabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar sero o ran pennu cyllidebau, nododd Andrew fanteision dull o'r fath ond awgrymodd y byddai'n well ei amseru ar gyfer yr adeg y daw llywodraeth newydd i rym.

3.5 Roedd Gareth Lynn yn cefnogi sylwadau Carys ac awgrymodd gynllunio senarios i ymchwilio i heriau strwythurol a strategol yn y dyfodol. Nododd Gareth ganlyniad yr ymarfer arbedion cyllidebol yn ystod y flwyddyn a'r heriau ar gyfer 2024/45.

3.6 Gofynnodd Meena Upadhyaya ba feini prawf a ddefnyddiwyd i lywio penderfyniadau ar arbedion. Ymatebodd Andrew fod y Gweinidogion wedi cytuno ar set o egwyddorion yn sail i'w penderfyniadau. Nododd Andrew yr her i dimau ledled Llywodraeth Cymru sydd ynghlwm wrth weithio ar arbedion yn ystod y flwyddyn ar yr un pryd â chynllunio ar gyfer 2024/25.

3.7 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Bwrdd am eu sylwadau a thynnodd sylw at ymdrechion i gyfyngu ar effaith arbedion cyllidebol. Cynigiodd y Cadeirydd roi diweddariadau pellach i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol.

4. Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2025

4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Tim Moss a Natalie Pearson i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan ffrydiau gwaith Llywodraeth Cymru 2025
yn ystod yr ail chwarter (1 Mai i 31 Gorffennaf) ac i amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y chwarter nesaf.

4.2 Ar ran y Bwrdd Cysgodol awgrymodd Zakhyia Begum y gallai fod angen diwygio blaenoriaethau WG2025 o gofio'r pwysau cyllidebol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru.

4.3 Pwysleisiodd Carys Williams yr angen i gael gweledigaeth glir o sut olwg fydd ar y sefydliad yn 2025.

4.4 Nododd Tim y sylwadau a phwysleisiodd yr angen am ffocws llawer cryfach ar effeithlonrwydd a'r angen i fuddsoddi mewn staff i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol.

5. Unrhyw Fater Arall

5.1 Nododd y Cadeirydd mai hwn yw Bwrdd olaf Peter Kennedy cyn iddo ymddeol. Diolchodd y Cadeirydd i Peter am ei gefnogaeth a'i gyfraniad at y Bwrdd.

5.2 Nododd Zakhyia Begum y byddai Bekah Cioffi yn dychwelyd i'r Bwrdd Cysgodol yn fuan ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

5.3 Nododd y Cadeirydd y bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 20 Hydref. Cynhelir y cyfarfod yn bersonol ym Mharc Cathays gyda chyfleusterau fideo-gynadledda.