Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion Presennol

Llafar.

Gweld cofnodion.

2. Diweddariad ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

[Papur Eitem 2]

3. Cyfnod 7 - diweddariad ar gyllid

[Papur Eitem 3]

4. Cyllideb 2024-25

[Dim papurau – diweddariad llafar]

5. Unrhyw Fater Arall

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd) 
  • Carys Williams 
  • Gareth Lynn 
  • Aled Edwards 
  • Tim Moss 
  • Judith Paget 
  • Tracey Burke 
  • Andrew Slade 
  • Jo-Anne Daniels 
  • Helen Lentle 
  • Gawain Evans 
  • David Richards 
  • Zakhia Begum
  • Amelia John 

Yn mynychu 

  • Polina Cowley 
  • Nina Durant 

Ysgrifenyddiaeth 

  • Alison Rees 

Ymddiheuriadau 

  • Des Clifford 
  • Reg Kilpatrick 
  • Meena Upadhyaya 

1. Croeso/ Materion presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Nododd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod Bwrdd olaf Jo-Anne Daniels a Reg Kilpatrick, gan y byddai eu rolau fel Cyfarwyddwyr Cyffredinol dros dro yn dod i ben cyn bo hir. Byddai Sioned Evans yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg ym mis Ionawr 2024. Diolchodd y Cadeirydd i Jo-Anne a Reg am eu cyfraniadau i waith y Bwrdd.

1.2 Nododd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod Bwrdd olaf Helen Lentle, gan y byddai'n gadael Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Mae'r ymarfer recriwtio i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol newydd yn mynd rhagddo.

1.3 Nododd y Cadeirydd hefyd mai hwn oedd y cyfarfod Bwrdd olaf y byddai Zakhyia Begum a Polina Cowley yn ei fynychu fel Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol wrth i'w dwy flynedd nhw, a hefyd cyfnodau llawer o aelodau eraill y Bwrdd Cysgodol, ddod i ben. Bydd Bwrdd Cysgodol newydd ar waith o fis Ionawr 2024, a bydd y Cyd-gadeiryddion newydd yn mynychu’r Bwrdd ar ei ran. Diolchodd y Cadeirydd i Zakhyia a Polina, ac aelodau'r Bwrdd Cysgodol, am eu cyfraniadau i'r Bwrdd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

1.4 Croesawodd y Cadeirydd Dominic Houlihan i'w gyfarfod Bwrdd cyntaf ers iddo ymgymryd â'i rôl fel Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd.

1.5 Croesawodd y Cadeirydd Jessica Ward i'r Bwrdd. Mae Jessica yn ymuno â'r Bwrdd fel Hyrwyddwr Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddai Jessica yn gwasanaethu ar y Bwrdd am 6 mis cyn trosglwyddo'r rôl i un o'r ddau ymgeisydd llwyddiannus arall ar gyfer y rôl; gyda phob un yn gwasanaethu ar y Bwrdd am 6 mis, gan roi cyngor ar egwyddorion ar gyfer gweithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

1.6 Cymeradwywyd cofnodion 20 Hydref.

1.7 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y bwriad i recriwtio dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd, gan ddiolch i Carys Williams, Gareth Lynn a Zakhyia Begum am eu holl waith gyda'r broses gyfweld.

2. Diweddariad ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Sally-Ann Efstathiou a Nina Durant i'r cyfarfod, a gwahoddodd Amelia John, Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Bwrdd, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y sefydliad yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023.

2.2 Nododd Amelia fod y data recriwtio ar gyfer 2022 yn dangos bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond serch hynny bod y sefydliad yn dal i fod yn bell o gyflawni'r targedau uchelgeisiol y mae wedi eu gosod iddo ei hun. Gan gydnabod y cyd-destun ariannol heriol y mae'r sefydliad ynddo, rhoddodd Amelia drosolwg o'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ysgogi newid
sylweddol mewn tueddiadau recriwtio, yn ogystal â chynigion ar gyfer
gweithredu mewn modd mwy radical i gataleiddio'r newidiadau systemig a diwylliannol sydd eu hangen.

2.3 Nododd Aled Edwards bwysigrwydd dathlu amrywiaeth a chynwysoldeb, a’r angen i ddiogelu staff rhag natur ddinistriol rhannau o'r deialog ynghylch ymfudo sy'n digwydd ar y cyfryngau. Nododd Aled hefyd fod y Gymraeg wrth wraidd materion cydraddoldeb ac nad oedd yn fater ymylol.

2.4 Holodd Carys a oes opsiynau i fod yn fwy creadigol yn y broses recriwtio, er enghraifft defnyddio dewisiadau amgen i gyfweliadau sy'n seiliedig ar gymhwysedd. Cytunodd Amelia, a nododd Sally-Ann fod y sefydliad bellach wedi symud i ddefnyddio proffiliau llwyddiant a'i fod yn edrych ar ffyrdd eraill o wella'r broses recriwtio.

2.5 Nododd Gareth Lynn y targedau uchelgeisiol iawn y mae'r sefydliad wedi eu gosod iddo ei hun, a'r her o ran eu cyflawni, gan rybuddio y gallai ymgyrch i gyrraedd targedau gael effaith andwyol ar ymddygiadau. Holodd Gareth pa mor ddigonol oedd y data demograffig ar gyfer Cymru o ran eu defnyddio i bennu targedau.

2.6 Croesawodd Dom Houlihan y camau a gymerir i wella cydraddoldeb yn y gweithle, a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod y pethau sylfaenol yn iawn wrth recriwtio. Gan ystyried y Strategaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gweithlu, holodd Dom a allai nifer mawr o gamau gweithredu arwain at ddiffyg ffocws a chystadleuaeth rhwng mentrau.

2.7 Tynnodd Tim Moss sylw at y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i adolygu dull Llywodraeth Cymru o recriwtio ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Awgrymodd Tim fod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn cyflwyno eu hunain yn gallu cael effaith ar sut y mae darpar ymgeiswyr yn eu gweld fel lleoedd i weithio, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch a ddylid ymgeisio am swydd ai peidio.

2.8 Cyfeiriodd Zakhyia Begum y Bwrdd at y sylwadau manwl a oedd wedi eu cynnwys yng nghofnodion y Bwrdd Cysgodol. Ychwanegodd Zakyia y gallai symud i weithio hybrid ddod â heriau ychwanegol i bobl sydd newydd ddechrau yn eu swydd a'i gwneud hi'n anodd sicrhau bod pobl yn teimlo'n rhan werthfawr o'r sefydliad.

2.9 Nododd Tracey Burke fod nifer o bryderon wedi cael eu codi ynghylch y cynllun mentora o chwith presennol, gan holi sut y gellid gwella'r cynllun.

2.10 Gofynnodd Jessica Ward a oedd y gwaith maes yn cynnwys mynd i mewn i ysgolion a thargedu pobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd o fewn Llywodraeth Cymru.

2.11 Cafodd Amelia, Sally-Ann, a Nina eu gwahodd gan y Cadeirydd i ymateb i'r sylwadau a oedd wedi eu gwneud. Nododd Amelia fod y targedau yn fwriadol uchelgeisiol, a'u bod yn anelu at fynd i'r afael â thangynrychiolaeth hanesyddol. Wrth ddatblygu dulliau newydd o recriwtio, nododd Amelia fod dull gweithredu'n seiliedig ar risg yn cael ei fabwysiadu a bod cyngor cyfreithiol wedi ei geisio. O ran yr ymrwymiadau yn y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cytunodd Amelia fod angen mwy o ffocws ar y dulliau allweddol a fydd yn ysgogi newid. O ran Penodiadau Cyhoeddus, nododd Amelia y gwaith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ganolog i bob ymgyrch, ac o ran y rhaglen mentora o chwith bresennol, nododd Sally-Anne y byddai'r tîm AD yn ystyried yr adborth, gan ddiwygio'r canllawiau yn ôl yr angen. Wrth sôn am y gwaith maes, dywedodd Nina fod ymgysylltu'n digwydd ag ysgolion a bod hwn yn weithgarwch yr oedd y tîm AD yn awyddus i'w ehangu. Nododd Nina sut yr oedd gwaith maes yn effeithio ar amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n gwneud cais ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

2.12 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i osod esiampl yng Nghymru. O ran yr Iaith Gymraeg, tynnodd y Cadeirydd sylw at natur ategol y mater hwn ochr yn ochr â dyheadau'r sefydliad i sicrhau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

3. Cyfnod 7 - diweddariad ar gyllid

3.1 Cafodd Gawain Evans ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y sefyllfa yn ystod y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Hydref. Nododd Gawain y bu gwelliant bach yn y sefyllfa yn ystod y flwyddyn, ond pwysleisiodd hefyd y risgiau parhaus.

3.2 Holodd Aled Edwards pam nad yw swm llawn y cyfalaf i gyfnewid refeniw, y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano, wedi ei gymeradwyo gan Drysorlys EF. Ymatebodd Gawain fod y dull gweithredu a ddefnyddir yn unol â cheisiadau eraill gan adrannau'r Llywodraeth.

3.3 Nododd Gareth Lynn yr ymdrechion i gyflawni'r sefyllfa bresennol yn ystod y flwyddyn, a gofynnodd beth fyddai'r canlyniadau tebygol pe bai Llywodraeth Cymru yn torri ei chyllideb. Atebodd Gawain, er ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth Cymru yn torri ei chyllideb gyffredinol, o safbwynt Trysorlys EF mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli gan DELs unigol, a phe byddai DEL yn digwydd cael ei dorri byddai gostyngiad cyfatebol yng nghyllideb y flwyddyn ganlynol.

3.4 Nododd Judith Paget y gwaith trawslywodraethol enfawr a oedd wedi ei gyflawni, yn enwedig ymhlith timau cyllid, er mwyn cyrraedd y sefyllfa bresennol yn ystod y flwyddyn. Mae swyddogion o'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i weithio gyda'r GIG yng Nghymru i chwilio am ffyrdd o leihau'r diffyg ymhellach.

3.5 Tynnodd Carys Williams sylw at bwysigrwydd cydnabod y gwaith y mae swyddogion wedi ei wneud, a'r effaith gadarnhaol a oedd yn deillio o weithio ar y cyd. Cytunodd Aled, gan nodi'r effaith o ran swyddogion yn cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid yn ystod cyfnod heriol.

3.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi'r ymdrechion ar draws y sefydliad a'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid i Weinidogion eu gwneud ynghylch y gyllideb yn ystod y flwyddyn.

4. Cyllideb 2024-25

4.1 Cafodd Andrew Jeffreys ei wahodd gan y Cadeirydd i roi diweddariad ar gyllideb ddrafft 2024-25. Wrth edrych ymlaen at 2025/26 ac amseriad etholiad cyffredinol nesaf Llywodraeth y DU, dywedodd Andrew y gallai'r llywodraeth newydd bennu cyllideb ar gyfer 2025-26 ac yna gynnal adolygiad o wariant.

4.2 Gofynnodd Gareth Lynn pa opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru godi refeniw, a pha amser arwain a fyddai’n angenrheidiol ar eu cyfer. Atebodd Andrew, pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gynyddu cyfradd y dreth incwm yng Nghymru er enghraifft, y gallai hynny gael ei weithredu'n weddol gyflym.

4.3 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Zakhiya Begum yr effaith wahaniaethol y mae toriadau i wariant cyhoeddus a gwasanaethau yn ei chael, gan dynnu sylw at yr effaith ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Cytunodd Amelia John, gan nodi'r effaith gronnol y byddai toriadau'n ei chael ar y bobl fwyaf difreintiedig, gan awgrymu y dylid defnyddio dull gweithredu ataliol a mwy tymor hir ar gyfer gwneud penderfyniadau ar wariant cyhoeddus. Cytunodd Jessica Ward, gan nodi sut y gallai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol annog creadigrwydd a helpu i gael cydbwysedd rhwng yr arbedion sydd eu hangen a'r angen i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

4.4 Gofynnodd Carys i'r Cadeirydd sut y gallai’r Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi Llywodraeth Cymru wrth i'r gwaith ar y gyllideb barhau. Nododd y Cadeirydd y gyllideb lai sydd ar gael ar gyfer rhedeg Llywodraeth Cymru, ac awgrymodd fod hwn yn faes lle byddai cyngor a chefnogaeth gan y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn amhrisiadwy.

4.5 Dywedodd Gareth, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Llywodraeth Cymru (ARAC), ei fod yn ystyried y ffordd orau o ran sut y gallai'r pwyllgor ddarparu gweithgarwch graffu a rhoi sicrwydd ar gyfer cynllunio cyllidebau.

4.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau gan ddod â'r eitem ar yr agenda i ben.

5. Unrhyw fater arall

5.1 Ni chodwyd unrhyw faterion busnes eraill, a bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd yn cael ei gynnal ar 26 Ionawr.