Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 12 Medi 2025
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Andrew Goodall (Cadeirydd)
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Andrew Slade
- Judith Paget
- Tracey Burke
- Dean Medcraft
- Nia James
- Dom Houlihan
- Zakhyia Begum, Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
Yn mynychu
- Glyn Jones
- Kathryn Jenkins
- Lorna Hall
- Uwch-reolwr y Polisi Cydraddoldeb a Chyflawni
Ymddiheuriadau
- Sioned Evans
- David Richards
- Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Mutale Merrill
Ysgrifenyddiaeth
- Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
1. Croeso a materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cydsyniodd y Bwrdd i’r defnydd o Microsoft Copilot. Cafodd cofnodion 25 Rhagfyr eu cymeradwyo yn amodol ar fân ddiwygiadau. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod Luke Yong wedi ymgymryd â'i swydd fel Prif Gynghorydd Arbennig i'r Prif Weinidog.
1.3 Nododd y Cadeirydd fod y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Staff Llywodraeth Cymru 2025 wedi'i chyhoeddi, a diolchodd i aelodau'r Bwrdd am eu cyfraniad i'r paneli beirniaid.
1.4 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar y gwaith o gynllunio ar gyfer Ymarfer Pegasws. Bydd y Bwrdd yn derbyn adroddiad ar yr hyn a ddysgwyd o'r ymarfer yn gynnar yn 2026.
1.5 Cafodd Dean Medcraft ei wahodd gan y Cadeirydd i roi trosolwg o'r sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn. Dywedodd Dean fod y sefyllfa ariannol yn gadarnhaol yn gyffredinol, ond nododd fod nifer o risgiau'n parhau. Gofynnodd Mike Usher a fu unrhyw gynnydd yn y drafodaeth gyda Thrysorlys EF ynglŷn â chynyddu Cronfa Wrth Gefn Cymru; ac atebodd Dean nad oedd y sefyllfa wedi newid.
1.6 Nododd y Cadeirydd effaith y digwyddiadau trasig diweddar ar staff a Gweinidogion, gan roi trosolwg o'r cymorth sydd ar gael.
1.7 Trafododd y Bwrdd effeithiau digwyddiadau rhyngwladol a chenedlaethol ar gydlyniant cymunedol ac ar staff Llywodraeth Cymru, gan nodi'r cymorth sydd ar gael i staff.
2. Golwg manwl ar risgiau seiber a gwydnwch TG
2.1 Cafodd Glyn Jones, y Prif Swyddog Digidol a Kath Jenkins, y Prif Swyddog Diogelwch, eu croesawu i gyfarfod y Bwrdd, a chawsant eu gwahodd i gyflwyno'r cofnodion o risgiau seiber a gwydnwch TG ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.
2.2 Cyflwynodd Glyn a Kath drosolwg o'r risgiau seiber sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, a'r camau ataliol sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r bygythiad. Nododd y cyflwyniad yr her o ran cadw i fyny â'r risgiau o ymosodiadau seiber sy'n esblygu mor gyflym. Sylwodd Glyn fod y sgôr risg ac effaith yn debygol o barhau i fod yn uchel.
2.3 Gofynnodd Carys Williams a oes gan y sefydliad gofrestr gynhwysfawr o'i ystâd dechnegol, a sut mae gwendidau posibl sy'n gysylltiedig â chyflenwyr yn cael eu datrys. Awgrymodd Carys hefyd y dylid trafod parodrwydd i dderbyn risg mewn perthynas â risgiau seiber mewn cyfarfod o'r Bwrdd yn y dyfodol. Mewn ymateb, dywedodd Glyn a Kath fod gan y tîm ddealltwriaeth dda o'r ystâd dechnegol, ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd cynlluniau parhad busnes a dealltwriaeth o weithgareddau busnes hanfodol. O ran cyflenwyr, nododd Kath fod contractau'n cynnwys cymalau diogelwch fel rhan o'u telerau ac amodau safonol, a phwysleisiodd rôl rheolwr y contract o ran gwneud yn siŵr bod y telerau'n cael eu cyflawni.
2.4 Nododd Mike Usher fod bygythiad ac effeithiau ymosodiadau seiber yn herio trefniadau rheoli risg y sefydliad, gan nodi bod y risg yn debygol o gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Gan fod y risg mor agos, awgrymodd Mike y dylid ei ystyried fel problem yn hytrach na risg.
2.5 Nododd Dean Medcraft effaith ariannol ymosodiadau seibr llwyddiannus, a phwysleisiodd Aled Edwards bwysigrwydd buddsoddi mewn mesurau ataliol er mwyn lliniaru'r risg.
2.6 Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd sicrhau bod yr holl staff yn cydymffurfio ag uwchraddiadau TG gorfodol, ac yn cael hyfforddiant ar y bygythiad parhaus sy'n bodoli yn wyneb ymosodiadau seibr posibl. Nododd y Bwrdd yr angen i fod yn ymwybodol o staff gydag addasiadau gwaith rhesymol.
2.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi rôl arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Tynnodd y Cadeirydd sylw at bwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth y DU i frwydro yn erbyn y bygythiad o ymosodiadau seibr.
3. Adran 23 - y Cynllun Gweithredu
3.1 Amlinellodd Lorna Hall ymrwymiad y sefydliad i gytundeb Adran 23 a Chynllun Gweithredu, sy'n rhwymo mewn cyfraith, gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC). Mae'r Cynllun Gweithredu yn uchelgeisiol a'i nod yw sicrhau newid parhaol, gwella trefniadau llywodraethu, a gwella cymorth i staff, gyda ffocws ar newid diwylliant ac ymddygiad.
3.2 Tynnodd Mike Usher sylw at bwysigrwydd sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu dyrannu ar gyfer rhoi sylw i'r Cynllun Gweithredu. Nododd Mike ei bod yn debygol y byddai gan y cyhoedd rywfaint o ddiddordeb yn y cytundeb, ac awgrymodd y dylid cyhoeddi crynodeb o'r Cynllun.
3.3 Nododd Aled Edwards nifer o fentrau Cymreig unigryw sy'n mynd i'r afael â materion cydraddoldeb, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a phwysleisiodd bwysigrwydd tracio cydymffurfiaeth a nodi mannau lle mae Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi arwain at newid. Awgrymodd Aled y gallai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi'r gwaith ar y Cynllun Gweithredu trwy ddod â phersbectif allanol.
3.4 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, croesawodd Zakhyia Begum y Cynllun Gweithredu, gan nodi bod pob Asesiad Effaith Integredig / Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a gwblheir yn gwella'r wybodaeth gorfforaethol o ran sut y mae polisïau'n effeithio ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol y dylid datblygu fideos hyfforddi byr i staff nad ydynt yn ymwneud yn rheolaidd â chynnal asesiadau effaith.
3.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, a gofynnodd fod y Bwrdd yn cael diweddariadau chwarterol ar hynt y gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu.
4. Ystad y Goron yng Nghymru
4.1 Cafodd Andrew Slade ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y cynnydd tuag at wireddu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â datganoli Ystad y Goron.
4.2 Tynnodd Andrew sylw at gymhlethdodau strategol a gwleidyddol datganoli pwerau Ystad y Goron i Gymru, gan nodi'r berthynas waith dda sy'n bodoli ag Ystad y Goron.
4.3 Gofynnodd Mike Usher a yw cynlluniau i benodi Comisiynydd Cymreig i Ystad y Goron yn gam cadarnhaol. Atebodd Andrew ei fod, a bod trafodaethau'n mynd rhagddo ynghylch rhan Llywodraeth Cymru yn y broses recriwtio.
4.4 Tynnodd Aled Edwards sylw at bwysigrwydd sicrhau cyfleoedd er budd cymunedau yng Nghymru.
5. Unrhyw fater arall a chloi
5.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 24 Hydref 2025.
