Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 12 Rhagfyr 2025
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Andrew Goodall (Cadeirydd)
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Andrew Slade
- Tracey Burke
- Sioned Evans
- Dean Medcraft
- Dom Houlihan
- Nicola Williams
- Zakhyia Begum
- Hyrwyddwr Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
Yn mynychu
- Piers Bisson
- Will Whiteley
- Andrew Jeffreys
- Emma Watkins
- Emma Spear
- Prif Wyddonydd Data
- Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Diwygio'r Senedd
- Uwch Brif Swyddog Ymchwil, Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
Ymddiheuriadau
- Emma Williams
- Judith Paget
- Jacqueline Totterdell
- David Richards
Ysgrifenyddiaeth
- Adran yr Ysgrifennydd Parhaol
1. Croeso a materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cafodd y nodyn o gyfarfod 24 Hydref ei gytuno yn amodol ar newid i'w wneud ar gais gan Carys Williams.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd wrth Aelodau'r Bwrdd fod Mutale Merrill wedi cynnig ei hymddiswyddiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Aelod o'r Bwrdd, gan ei bod wedi ei dewis i sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd 2026.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Nicola Williams i'r Bwrdd ar ôl iddi gael ei phenodi'n Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.
1.4 Croesawodd y Cadeirydd Andrew Jeffreys ac Emma Watkins i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi diweddariad ar broses cyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys effaith cyllideb Llywodraeth y DU. Nododd Andrew fod cyllideb Llywodraeth y DU yn cynnig heriau a chyfleoedd i Lywodraeth Cymru, gyda rhagolygon chwyddiant uwch yn cynyddu'r gofynion cyllido, ond hefyd £500 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd, gan gynnwys £200 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, a oedd yn gwella hyblygrwydd ariannol y Llywodraeth.
1.5 Amlinellodd Andrew Jeffreys fanylion y cytundeb a gafwyd gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026 – 2027. Manylodd Emma Watkins ar yr amserlen ar gyfer cyllideb 2026 – 2027 a arweiniodd at y bleidlais derfynol ar y gyllideb yn y Senedd ar 27 Ionawr.
1.6 Holodd Carys Williams am lesiant y tîm o ystyried y pwysau ynglŷn â chytuno ar y gyllideb ddrafft. Nododd Andrew Jeffreys ymdrechion timau ar draws y sefydliad i gyfrannu at y gyllideb ddrafft, ond cydnabu hefyd bod heriau parhaus.
1.7 Nododd y Cadeirydd fod y Cynllun AI i Gymru wedi cael ei lansio.
1.8 Tynnodd y Cadeirydd sylw at y cynnydd cryf a wnaed tuag at gyflawni blaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu, yn enwedig ym maes swyddi, tai, a thrafnidiaeth, gyda rhai heriau'n parhau ym maes iechyd. Nododd Tracey Burke hynt y rhaglen ddeddfwriaethol, a bod yr holl filiau ar y trywydd iawn, er bod rhai heriau munud olaf yn parhau.
1.9 Rhoddodd Dom Houlihan ddiweddariad ar ganlyniadau Arolwg Pobl 2025. Mae'r canlyniadau'n dangos trydedd flwyddyn yn olynol o wella mewn sgoriau ymgysylltu, perfformiad uchel o'i gymharu â meincnodau'r DU, a sawl maes i'w gwella.
1.10 Nododd y Cadeirydd lwyddiant yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol a'r Cyngor Prydeinig Gwyddelig ddechrau mis Rhagfyr.
1.11 Nododd y Cadeirydd y tri enwebiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yng Ngwobrau'r Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys Gwobr y Prif Weinidog am Wasanaeth Cyhoeddus Eithriadol.
1.12 Nododd y Cadeirydd berfformiad cryf dysgwyr a Sefydliadau Addysg Bellach o bob cwr o Gymru yn Nigwyddiad Sgiliau y Byd yn ddiweddar.
2. Diweddariad ar Ddiwygio'r Senedd
2.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Piers Bisson a Will Whiteley i roi diweddariad ar y paratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd a chyflwyno adnoddau AI i gefnogi busnes y Llywodraeth.
2.2 Rhoddodd Piers grynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn pedair thema'r cynllun cyflawni mewnol: cefnogaeth uniongyrchol i Weinidogion, busnes y Llywodraeth a gwella deddfwriaethol, gweithlu ac adnoddau (gan gynnwys gallu yn y Gymraeg), a gweithrediad y Senedd yn y dyfodol, gan dynnu sylw at ymdrechion ad-drefnu recriwtio a swyddfeydd.
2.3 Tynnodd Piers ac Emma Spear sylw at weithgareddau ymgysylltu â staff, gan nodi sioeau teithiol i'r staff a dosbarthu pecynnau i dimau, ac ymdrechion parhaus i ddatblygu deunyddiau ymsefydlu ar gyfer Gweinidogion newydd. Awgrymodd Carys Williams y gallai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol helpu i dreialu'r deunyddiau ymsefydlu.
2.4 Amlinellodd Will Whiteley y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i wella systemau busnes y Llywodraeth. Cafodd y Bwrdd gyfle i weld asiantau Cyd-beilot ar waith, sef asiantau wedi'u pweru gan AI ac a ddatblygwyd gan y Tîm Gwyddor Data mewnol, gan gynnwys asiant 'llinellau i'w cymryd' ar gyfer tynnu safbwyntiau polisi o ddogfennau, ac asiant 'ysgrifennu llythyrau' sy'n ymgorffori dewisiadau gweinidogol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu ac sy'n dangos arbedion amser sylweddol i unedau busnes y Llywodraeth.
2.5 Gan sôn am y cynllun cyflawni mewnol ar gyfer Diwygio'r Senedd, holodd Mike Usher a yw swyddogion yn fodlon y bydd y camau lliniaru a amlinellir yn y cynllun yn cyflawni'r canlyniadau gofynnol. Atebodd Piers fod cynnydd yn cael ei wneud ond bod gwaith i'w wneud o hyd ar nodi a defnyddio adnoddau i fodloni gofynion busnes y Llywodraeth a'r rhaglen ddeddfwriaethol.
2.6 Pwysleisiodd Sioned Evans bwysigrwydd cael model gweithredu targed ar waith cyn etholiadau'r Senedd er mwyn grymuso diwylliant o newid ar draws y sefydliad.
2.7 Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Bwrdd am eu sylwadau, gan nodi y byddai'r Bwrdd yn cael diweddariadau pellach yn gynnar yn 2026.
3. Diweddariad cyllid a llywodraethu – gan gynnwys cyfrifon blynyddol, diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a sefyllfa Cyfnod 7
3.1 Rhoddodd Dean Medcraft a Mike Usher ddiweddariad ar y broses cyfrifon blynyddol. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi nodi ei fod yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio amodol sy'n wirioneddol a theg ar gyfrifon 2024 – 2025, gan nad yw'n gallu penderfynu a yw'r amcangyfrif gwerth teg o ased benthyciadau myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth yn rhesymol. Nododd Dean fod Llywodraeth yr Alban yn defnyddio'r un model i brisio ei hased benthyciadau myfyrwyr.
3.2 Mynegodd Mike Usher ei siom am y penderfyniad i ddarparu cymeradwyaeth amodol i'r cyfrifon, gan nodi bod yr amcangyfrif o'r ased benthyciadau myfyrwyr yn parhau i fod y ffigur gorau sydd ar gael. Diolchodd Mike i'r Prif Gyfrifydd a'i thîm, a swyddogion ledled Llywodraeth Cymru am eu gwaith ar baratoi'r cyfrifon blynyddol.
3.3 Cofnododd Carys Williams ei siom bod Archwilio Cymru wedi dewis rhoi cymeradwyaeth amodol i'r cyfrifon.
3.4 Amlinellodd Dean a Mike drafodaethau a gafwyd gydag Archwilio Cymru ar y gwersi a ddysgwyd wrth baratoi cyfrifon 2024 – 2025. Nododd Mike fod sawl system graidd yn achosi anawsterau wrth baratoi'r cyfrifon blynyddol, a bod hynny wedi'i fwydo'n ôl i'r prosiect ar gyfer gwella systemau corfforaethol.
3.5 Mae sefyllfa ariannol Cyfnod 7 yn dangos sefyllfa dynn ond sefyllfa y gellir ei rheoli, heb fod angen rheolaethau uwch ar hyn o bryd.
3.6 Nododd Dean fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chydnabod a'i gwobrwyo gan Drysorlys EF am ei pherfformiad rheoli arian parod eithriadol.
3.7 Nododd Mike fod rhywfaint o drosiant wedi bod yn aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
3.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn ymwneud â pharatoi'r cyfrifon blynyddol.
4. Cofrestr Risgiau Corfforaethol - diweddariad chwarterol
4.1 Cyflwynodd Dean Medcraft y diweddariad diweddaraf a wnaed i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, gan nodi diweddariadau sylweddol i nifer o risgiau corfforaethol, a'r defnydd o weithgorau sganio gorwelion i archwilio risgiau yn y dyfodol.
4.2 Pwysleisiodd Carys Williams yr angen i adolygu dyddiadau targed yn rheolaidd. Gan droi at y gwaith ar sganio gorwelion, cwestiynodd Carys yr asesiad o'r risg bosibl a achosir gan cryptograffeg ôl-cwantwm, gan nodi bod tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu
y dylid ei ystyried yn risg uwch a mwy uniongyrchol. Hefyd cwestiynodd Carys yr asesiad o'r defnydd o AI, gan ofyn a yw hyn yn ymwneud â'r ystâd dechnegol neu'r defnydd o AI gan y sefydliad.
4.3 Cwestiynodd Mike Usher a oedd yr ymarfer sganio gorwelion wedi ystyried y risgiau hynny'n ddigonol, er nad yw'n benodol i Lywodraeth Cymru, byddai disgwyl iddi ymyrryd, a gweithredu pe baent yn digwydd.
4.4 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan atgoffa'r Bwrdd o bwysigrwydd ailedrych ar barodrwydd y sefydliad i dderbyn risg yn rheolaidd a sicrhau bod y gofrestr risgiau'n parhau i fod yn adnodd gweithredol sy'n adlewyrchu pryderon staff ac yn gyrru agendâu'r Bwrdd a'r Pwyllgor Gweithredol.
5. Cerdyn sgorio cytbwys – adroddiad chwarter 2
5.1 Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y Cerdyn Sgorio Cytbwys. Nododd Sioned Evans fod gwelliant parhaus yn digwydd i ansawdd y data a ddefnyddir i greu'r cerdyn sgorio a'r cynlluniau i ehangu'r cerdyn sgorio i gynnwys dangosyddion ychwanegol mewn iteriadau yn y dyfodol. Ychwanegodd Sioned fod EXCO wedi cytuno i sicrhau bod y cerdyn sgorio ar gael yn ehangach o fewn y sefydliad, gyda chyfathrebu ategol fel blogiau i esbonio ei bwrpas ac annog gweithredu yn seiliedig ar y data.
5.2 Gofynnodd Nicola Williams a fyddai'n bosibl dadgyfuno'r cerdyn sgorio i lefel y Gyfarwyddiaeth, a sut y gellid ei integreiddio i brosesau rheoli risg.
5.3 Gofynnodd Carys Williams sut y gallai'r sefydliad ddod yn fwy effeithiol wrth ddad-flaenoriaethu gweithgareddau. Wrth ledaenu'r Cerdyn Sgorio Cytbwys, rhybuddiodd Carys yn erbyn llethu staff, gan awgrymu dull gweithredu Cinio a Dysgu.
5.4 Nododd Zakhyia Begum, ar ran y Bwrdd Cysgodol, fod y Cerdyn Sgorio Cytbwys yn cynnig mewnwelediad rhagorol i ystod o ddata perfformiad, ond pwysleisiodd bwysigrwydd cyd-destun, fframio, ac amseru wrth gyfathrebu'r data.
5.5 Croesawodd Mike Usher y diweddariad, gan nodi'r angen am ymdrechion parhaus i wella perfformiad ar gyflawni'r targedau a nodir yn y Polisi Talu Prydlon.
5.6 Nododd Dom Houlihan a chynrychiolydd y TUS y gwaith parhaus i wella data ar absenoldebau salwch, ac archwilio rhannau o'r sefydliad â lefelau uwch o absenoldeb. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol a chael sgyrsiau agored ac adeiladol rheolaidd ar y materion sy'n ymwneud â rheoli absenoldebau salwch. Nododd Dom bwysigrwydd ymyrraeth gynnar a chymorth llesiant effeithiol i reoli absenoldebau.
5.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi bod EXCO wedi cytuno y bydd y ffocws ar gamau gweithredu yn parhau i fod ar y pedwar maes a nodwyd yn flaenorol (absenoldeb salwch; perfformiad a thaliadau, ailddrafftiau gohebiaeth Weinidogol; a chyflawni prosiectau).
6. Unrhyw faterion eraill
6.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 30 Ionawr.
