Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Diweddariad ar y sefyllfa bresennol yn y GIG, y gwasanaeth ambiwlans a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Papur eitem 2

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Diweddariad ariannol

Papur eitem 3

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau ariannol Llywodraeth Cymru.

4. Y Rhaglen Lywodraethu

Papur eitem 4

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

5. Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2025

Papur eitem 5

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

6. Unrhyw fater arall

Llafar

Gweler y cofnodion.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Aled Edwards
  • Tracey Burke
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Claire Bennett
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Andrew Jeffreys
  • Zakhiya Begum

Hefyd yn bresennol

  • Catrin Sully
  • Nick Wood
  • Albert Heaney

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees
  • Daniel Taylor


Ymddiheuriadau

  • Aled Edwards
  • Jo-Anne Daniels
  • David Richards

1. Croseo

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 02 Rhagfyr. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariadau ar sawl maes.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Carys Williams ac Amelia John i'r cyfarfod; Bydd Carys yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ym mis Mawrth ac mae Amelia wedi ymgymryd â rôl Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Bwrdd yn lle Andrew Jeffreys. Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Bwrdd, i Andrew am ei gyfraniad dros y tair blynedd a hanner diwethaf, gan nodi ei frwdfrydedd a'i benderfyniad wrth lywio a chefnogi'r agenda cydraddoldeb.

Diweddariad ar y sefyllfa bresennol yn y GIG, y gwasanaeth ambiwlans a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

2.1 Nododd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi'i chynnwys ar yr agenda ar gais y Cyfarwyddwyr Anweithredol ac estynnodd wahoddiad i Judith Paget, Nick Wood ac Albert Heaney roi diweddariad i'r Bwrdd ar y sefyllfa bresennol yn y GIG a systemau gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan dynnu sylw at faterion a chamau gweithredu presennol.

2.2 Dechreuodd Judith drwy nodi bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers haf 2022 i feithrin gwydnwch yn y GIG a'r systemau gofal cymdeithasol yn barod ar gyfer cyfnod y Gaeaf. Bu galw digynsail ar ysbytai dros gyfnod y Nadolig gyda thua 900 yn fwy o gleifion mewn ysbytai ar Ddydd Nadolig 2022 o gymharu â 2021. Mae pob cam rhesymol wedi'i gymryd i roi systemau capasiti ymchwydd ar waith yn ogystal â chamau i annog a chefnogi'r broses o ryddhau cleifion sy'n ffit yn feddygol yn ddiogel. Ychwanegodd Judith bod y system yn dechrau sefydlogi ar ôl ymateb yn dda i'r heriau a wynebwyd dros gyfnod y Nadolig.

2.3 O ran gofal cymdeithasol, nododd Albert Heaney fod camau wedi'u rhoi ar waith i gynyddu cyflymder a graddau'r broses o symud unigolion o ysbytai i leoliadau gofal. Ochr yn ochr ag ymateb i bwysau uniongyrchol, tynnodd Albert sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo i gynllunio a diffinio sut beth y gallai gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru fod.

2.4 Nododd Ellen yr heriau y mae poblogaeth sy'n heneiddio yn eu creu a gofynnodd a oes gan y GIG a systemau gofal cymdeithasol yng Nghymru y gallu angenrheidiol ymhlith eu huwch-reolwyr i gynnig atebion radical i'r her sydd i ddod. Adleisiodd Gareth y sylwadau hyn a thynnodd sylw at yr angen am drafodaeth ynghylch a yw'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, a'r angen am atebion creadigol i'r heriau sydd i ddod. Cwestiynodd Aled a oes angen cynnal archwiliad sylfaenol o'r modd y caiff negeseuon ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol eu rhannu â'r cyhoedd, er mwyn annog y cyhoedd i ymateb yn briodol. Gofynnodd Meena a yw'r GIG yng Nghymru yn gweithio'n effeithiol gyda darparwyr gofal iechyd preifat.

2.5 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, croesawodd Zak y manylder a roddwyd yn y papur cysylltiedig a gofynnodd pa gamau y gellir eu cymryd i gynyddu cyfraddau brechu ymhlith staff iechyd a gofal cymdeithasol. Nododd Zak hefyd yr effaith y gall COVID Hir ei chael yn y dyfodol ac ychwanegodd fod y Bwrdd Cysgodol yn cydnabod nad cyflog yw'r unig reswm dros y gweithredu diwydiannol gan nyrsys a staff gwasanaethau ambiwlans, a'i fod hefyd yn ymwneud ag amodau gweithio.

2.6 Cytunodd Judith fod angen cymryd camau beiddgar i sicrhau'r newid sydd ei angen. O ran y cwestiwn ynghylch y gallu i ateb yr heriau sydd i ddod, dywedodd Judith fod gallu yn bodoli, ond y gall capasiti fod yn fwy o broblem. O ran y mater yn ymwneud â chyfathrebu'n effeithiol â'r cyhoedd, awgrymodd Judith y gellid manteisio ar gymorth gwyddor ymddygiadol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o rannu negeseuon ynglŷn â sut y gall y cyhoedd gefnogi'r GIG a gwasanaethau ambiwlans drwy'r penderfyniadau a wneir ganddynt.

2.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd fod y pwysau a wynebwyd gan y GIG a systemau gofal cymdeithasol dros y misoedd diwethaf ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen. Ychwanegodd y Cadeirydd fod y GIG, er gwaethaf yr heriau hyn, yn cyflawni mwy o weithgarwch arfaethedig na'r hyn a gyflawnwyd cyn y pandemig.

3. Diweddariad ariannol – Cyfnod 8

3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Gawain Evans roi diweddariad ar sefyllfa ariannol Cyfnod 8.

3.2 Nododd Gawain welliant yn y sefyllfa yn ystod y flwyddyn o gymharu â Chyfnod 7 ac ychwanegodd fod digon o le o hyd i ddefnyddio cyllid pellach o Gronfa Wrth Gefn Cymru os oes angen. Nododd Andrew Jeffreys fod trafodaethau'n mynd rhagddynt ar gyflogau yn y sector cyhoeddus ac mae swyddogion yn ystyried amrywiaeth o opsiynau.

3.3 Gofynnodd Ellen Donovan a fydd newid yn y sefyllfa refeniw yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i fenthyca. Ymatebodd Gawain drwy ddweud fod hyn yn opsiwn sy'n cael ei ystyried.

3.4 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, gofynnodd Zak a yw'r tanwariannau yn dangos bod disgwyl i dimau gyflawni mwy na'r hyn sy'n ddichonadwy.

3.5 Tynnodd Tracey Burke sylw at effaith y Cytundeb Cydweithredu ar y gallu i wneud penderfyniadau mwy amserol i ddefnyddio cyllidebau at bwrpas arall.

3.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd fod y sefyllfa well yng Nghyfnod 8 yn deillio o'r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet a'r camau a gymerwyd ar lefel y Grŵp.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Catrin Sully roi diweddariad i'r Bwrdd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a'r ymarfer ailflaenoriaethu.
4.2 Nododd Catrin fod y Rhaglen Lywodraethu wedi'i hailflaenoriaethu mewn ymateb i bwysau cyllidebol. O ganlyniad i'r ymarfer hwn, caiff nifer o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu eu diwygio; mae Prif Weinidog Cymru wrthi'n ystyried a ddylid cyhoeddi Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig neu gyflwyno'r diwygiadau drwy Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu. Mae cynlluniau ar waith i sefydlu Grŵp Cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu.
4.3 Diolchodd Des Clifford i Catrin a'i thîm am eu gwaith ar yr ymarfer ailflaenoriaethu a nododd fod angen i'r Rhaglen Lywodraethu addasu a newid mewn ymateb i newidiadau economaidd a chymdeithasol.
4.4 Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau'r Bwrdd. Gofynnodd Ellen a oes cynlluniau i goladu'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r gwahanol ymarferion gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â'r broses gyllidebol, er mwyn rhoi glasbrint ar gyfer y dyfodol. Awgrymodd Aled Edwards y gallai fod yn fuddiol ystyried gwerth ariannol gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol a nododd y modd yr oedd y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn hwyluso'r broses o gyflwyno elfennau a allai fod yn ddadleuol o'r cwricwlwm newydd i ysgolion.

5. Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2025

5.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Tim Moss a Natalie Pearson roi diweddariad ar Lywodraeth Cymru 2025. Datblygwyd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru 2025 fel dogfen rhaglen sy'n nodi nodau, pethau i'w cyflawni a pherchnogion camau gweithredu yn glir, a chaiff ei defnyddio i fonitro cynnydd, cefnogi gwaith craffu a herio. Caiff y cynllun gweithredu ei gyhoeddi ar fewnrwyd Llywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys adran naratif yn nodi diben a ffocws Llywodraeth Cymru 2025 yn ogystal â chynlluniau ffrwd waith manylach ar gyfer cydweithwyr â meysydd penodol o ddiddordeb.

5.2 Gofynnodd Tim i aelodau'r Bwrdd am eu sylwadau ar y cynllun gweithredu. Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Zak fod cryn ddryswch o hyd ymhlith staff ynglŷn â nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru 2025 ac awgrymodd y gallai ymgysylltu â'r rhwydweithiau amrywiaeth staff helpu i ledaenu'r wybodaeth ac
ennyn cefnogaeth i Llywodraeth Cymru 2025. Ymatebodd Tim drwy ddweud bod cyfarfodydd â chadeiryddion y rhwydweithiau wedi'u trefnu.

5.3 Nododd Des Clifford y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Llywodraeth Cymru 2025 ac awgrymodd y dylid ymhelaethu ar ymgyrch y Llywodraeth tuag at ddwyieithrwydd a symudedd cymdeithasol.

5.4 Croesawodd Gareth Lynn y diweddariad a dywedodd fod Llywodraeth Cymru 2025 yn gyfrwng i rymuso'r Llywodraeth i wella ei pherfformiad.

5.5 Awrgymodd Claire Bennet fod angen atgyfnerthu'r cyfeiriad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y cynllun gweithredu a chwestiynodd a ddylai Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un fod yn ffrwd waith hefyd. O ran Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un, ymatebodd Reg Kilpatrick drwy ddweud bod y maes gwaith hwn yn sylweddol wahanol i rannau eraill o'r cynllun gweithredu a rhybuddiodd na ddylid ei gyfuno â rhaglen newid Llywodraeth Cymru 2025. Yn lle hynny, awgrymodd Reg y dylai Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un fod yn thema gref yn Llywodraeth Cymru 2025.

5.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd y byddai'n trafod Llywodraeth Cymru 2025 â Phrif Weinidog Cymru yn fuan. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un fod yn eitem ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r Bwrdd yn y dyfodol.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd yn gynnar ym mis Mawrth.