Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tim Moss (Dirprwy Gadeirydd)
  • Carys Williams
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Tracey Burke
  • Judith Paget
  • Tim Moss
  • Dom Houlihan
  • Natalie Pearson
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Cyd-gadeiryddion Arweiniol y Bwrdd Cysgodol
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Yn mynychu

  • Sinead Gallagher
  • Pennaeth y Ganolfan Llywodraethu Corfforaethol
  • Uwch Brif Swyddog Ymchwil, Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
  • Prif Swyddog Ymchwil, Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol 

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

 Apologies                                                               

  • Andrew Slade                                      
  • Andrew Goodall (Cadeirydd)
  • David Richards
  • Mutale Merrill 

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan Tim Moss, ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol. Cytunwyd ar gofnodion 24 Ionawr.

1.2 Nododd Tracey Burke mai hwn fyddai cyfarfod bwrdd olaf Tim Moss cyn gadael Llywodraeth Cymru i ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredol y DVLA. Ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Bwrdd, diolchodd Tracey i Tim am ei gefnogaeth a'i gyfraniadau i'r sefydliad yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau, gan ei longyfarch ar ei rôl newydd.

1.3 Nododd y Cadeirydd y cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU ynglŷn â diwygio'r gwasanaeth sifil. Rhoddodd Dom Houlihan drosolwg o'r newidiadau arfaethedig i reoli perfformiad ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil. Gan nad yw'r Uwch Wasanaeth Sifil wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar y sefydliad a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweinidogion. Ychwanegodd Dom na fu swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU cyn y cyhoeddiad. Dywedodd Mike Usher y gallai fod rhai camsyniadau cyhoeddus ynglŷn â maint gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oedd yr un twf wedi digwydd ar ôl Brexit fel sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU.

1.4 Nododd y Cadeirydd y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar ddyfodol GIG Lloegr. Dywedodd Judith Paget na fyddai'r newidiadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar Gymru, ond y byddent yn effeithio ar y cysylltiadau y mae swyddogion wedi'u meithrin gyda’r GIG yn Lloegr.

1.5 Nododd Dom Houlihan fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod y gwanwyn i gyflwyno dyletswydd gonestrwydd gyffredinol. Dywedodd Dom nad yw swyddogion wedi cymryd rhan yn gynnar yn y drafodaeth er bod y ddeddfwriaeth yn effeithio ar Lywodraeth Cymru. Roedd Carys Williams yn cwestiynu a yw staff yn glir o ran y gwahaniaethau rhwng dyletswydd gonestrwydd a chwythu'r chwiban, ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol edrych ar y pwynt hwn yn fanylach. Nododd Judith Paget fod dyletswydd gonestrwydd statudol ar waith ar gyfer y GIG yn barod.

2. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

2.1 Cafodd Sinead Gallagher ei chroesawu i'r cyfarfod gan y Cadeirydd a'i gwahodd i roi diweddariad i'r Bwrdd ar y Rhaglen Lywodraethu. Nododd Sinead fod y cylch cyntaf o gyfarfodydd dwyochrog rhwng y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni a chydweithwyr gweinidogol wedi ei gynnal, a bod paratoadau ar y gweill ar gyfer yr ail gylch. Amlinellodd Sinead sut mae ei thîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i edrych yn drylwyr ar y cynnydd a wneir yn erbyn yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n parhau ar agor.

2.2 Soniodd Aled Edwards am ba mor gymhleth oedd cyflawni'r ymrwymiadau hynny yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n gofyn am fewnbwn sylweddol gan sefydliadau eraill, gan ofyn beth fyddai'r ffordd orau o gefnogi lles y staff sy'n gweithio yn y meysydd dan sylw. Cytunodd Sinead, gan nodi y byddai'r meysydd hyn yn cael eu trafod yn fanylach yn ystod y cylch nesaf o gyfarfodydd dwyochrog. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid nodi llwybr i gyrraedd gwyrdd ar gyfer yr ymrwymiadau hynny yr adroddir eu bod ar oren.

2.3 Wrth edrych ymlaen at dymor y Senedd nesaf, soniodd Mike Usher am sut y gallai ffactorau allanol ddylanwadu ar gyflawni, gan ofyn sut y gellid cyfrif am hyn yn y rhaglen ar gyfer y llywodraeth nesaf.

2.4 Cododd Sioned Evans bwysigrwydd eglurder o ran blaenoriaethau gweinidogol ar gyfer 12 mis olaf tymor y Senedd bresennol.

2.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi bod y Bwrdd wedi cael y diweddariad a'i drafod.

3. Cofrestr Risgiau Corfforaethol

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Bennaeth y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, gan ei gwahodd i roi diweddariad i'r Bwrdd ar iteriad diweddaraf y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Mae'r Gofrestr hon wedi cael ei llywio gan drafodaeth yn yr Is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ar 29 Ionawr, a'r Pwyllgor Gweithredol ar 06 Chwefror. Cyflwynwyd y Gofrestr hefyd i Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror.

3.2 Nododd y Bwrdd y diweddariadau i'r Gofrestr, a thrafododd gynnwys y goblygiadau i'r sefydliad, a ddaw yn sgil diwygio'r Senedd, yn y Gofrestr. Dywedwyd wrth y Bwrdd bod trafodaethau gyda swyddogion arweiniol yn mynd rhagddynt i lunio risg lefel uchel priodol i'w gynnwys yn y Gofrestr.

3.3 Nododd Mike Usher fod ExCo, ar 6 Mawrth, wedi trafod a chytuno ar gynigion i ail-lunio Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg y Grŵp.

3.4 Wrth sôn am Risg 2.1 ac ymateb i'r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19, atgoffodd Judith Paget y Bwrdd bod nifer o ymchwiliadau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y DU ar hyn o bryd, a bod hanner ohonynt yn gysylltiedig ag iechyd ac felly bod angen mewnbwn gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

3.5 Ystyriodd y Bwrdd y Cofnod Problemau, a sicrhaodd Dean Medcraft y cyfarfod bod y problemau sy'n cael eu rhestru yn cael eu rheoli'n rhagweithiol gan swyddogion. Cytunodd y Cadeirydd, gan ychwanegu nad yw'r Cofnod Problemau yn gyrru ymddygiad ond yn dangos sut mae problemau'n cael eu rheoli. Awgrymodd Carys Williams y dylid trafod y diffiniad o broblem mewn perthynas â'r cofnod y tu allan i'r cyfarfod gyda Phennaeth y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol.

4. Diweddariad Ariannol – Cyfnod 10

4.1 Cafodd Dean Medcraft ei wahodd gan y Cadeirydd i roi diweddariad i'r bwrdd ar y sefyllfa bresennol yn ystod y flwyddyn. Dechreuodd Dean drwy nodi ymdrechion timau cyllid ar draws Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer yr Ail Gyllideb Atodol, cyllideb derfynol 2025-26, a pharatoi i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus graffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru. Rhoddodd Dean drosolwg o'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Ionawr, gan dynnu sylw at y risgiau sy'n weddill cyn diwedd y flwyddyn a'r opsiynau ar gyfer rheoli'r sefyllfa.

4.2 Llongyfarchodd Mike Usher Dean a'r timau cyllid ar draws Llywodraeth Cymru ar eu gwaith, gan ofyn a fyddai'n bosibl cynyddu'r swm a ganiateir yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru yn y dyfodol. Cytunodd Dean fod hyn yn rhywbeth yr hoffai ei ystyried.

4.3 Wrth edrych ar y flwyddyn ariannol newydd, gofynnodd Carys Williams beth yw'r risg fwyaf a fydd yn debygol o godi, gan dynnu sylw at gynllunio ar gyfer cyllideb 2026-27 cyn etholiadau'r Senedd yn 2026. Dywedodd Dean Medcraft fod trafodaethau ar y broses o gynllunio'r gyllideb ar gyfer 2026-27 wedi dechrau, gan sôn am yr heriau ariannol o ran rhedeg y sefydliad yn y blynyddoedd i ddod.

4.4 Diolchodd Sioned Evans i Dean am y ffordd gadarnhaol y mae'r tîm cyllid canolog wedi rheoli'r gyllideb ac wedi cyfathrebu â Grwpiau.

4.5 Nododd Aled Edwards y buddsoddiad sydd ei angen i fabwysiadu technolegau newydd, gan ofyn am eglurhad ynghylch pwerau Llywodraeth Cymru i godi trethi, ac yn benodol pa mor gyflym y gellid eu gweithredu. Atebodd y Cadeirydd fod hwn yn faes y bydd Adolygiad o Wariant Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac ychwanegodd Dean y gallai fod angen cysylltu â Llywodraeth y DU i gael adnoddau ychwanegol i fuddsoddi mewn technoleg newydd i wella effeithlonrwydd.

4.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan adleisio'r diolch i'r tîm cyllid am eu hymdrechion trwy gydol y flwyddyn ariannol bresennol.

5. Yr Arolwg Pobl - y camau nesaf

5.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i roi trosolwg o'r dadansoddiad o ganlyniadau'r Arolwg Pobl 2024, gan dynnu sylw at amrywiadau yn y canlyniadau ar draws graddau, ac amlinellu camau gweithredu y bwriedir eu cymryd, neu sydd wedi eu cymryd, mewn ymateb i ganlyniadau'r arolwg. Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried pa gamau ychwanegol y dylid eu cymryd i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth mewn canlyniadau, a beth arall y dylai'r sefydliad ganolbwyntio arno i gryfhau'r cysylltiad rhwng blaenoriaethau'r Prif Weinidog, perfformiad y sefydliad a pherfformiad unigolion.

5.2 Tynnodd Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol sylw at bwysigrwydd sicrhau bod rheolwyr llinell yn deall eu cyfrifoldebau a'u bod yn cael y gefnogaeth i'w cyflawni, a bod pob cydweithiwr yn deall pa gefnogaeth y dylai fod yn ei chael gan ei reolwyr llinell er mwyn ei rymuso i gael yr hyn sydd ei angen.

5.3 Wrth sôn am yr amrywiadau yn y canlyniadau, awgrymodd Carys Williams y dylid defnyddio dull gorchwyl a gorffen i roi sylw i'r materion sy'n sail i ganlyniadau'r arolwg, gydag arweinwyr sydd â pherfformiad uchel yn rhannu'r arferion gorau gyda chydweithwyr. Nodwyd yr angen i fynd i'r afael â'r amrywiadau yn uniongyrchol o fewn timau, yn hytrach na thrwy strategaethau AD yn unig. Tynnodd Carys sylw at bwysigrwydd cynnal trafodaethau perfformiad effeithiol i reolwyr llinell a'u timau.

5.4 Croesawodd Mike Usher y cynnydd a adlewyrchir yng nghanlyniadau'r arolwg, gan gytuno â sylwadau ar-lein y dylai rheolwyr rannu arferion da.
5.5
Pwysleisiodd Sioned Evans bwysigrwydd sicrhau bod staff yn glir o ran pwrpas eu rôl a'u hamcanion, gan awgrymu bod angen ymdrechion pellach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

5.6 Croesawodd Aled Edwards y canlyniadau, gan ofyn sut mae adborth o'r arolwg yn cael ei gyflwyno i Weinidogion.

5.7 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. Croesawodd Dom y pwyntiau a godwyd, gan gydnabod bod canlyniadau'r arolwg yn gadarnhaol o ystyried nifer y materion polareiddio sy'n wynebu'r gweithlu ar hyn o bryd, a thynnodd sylw at yr angen i "fynd yn ôl at y pethau sylfaenol" o ran rheoli perfformiad. Cytunodd â'r galwadau i rannu arferion da ymhlith rheolwyr llinell. Dywedodd Dom wrth y Bwrdd bod sylw yn cael ei roi i berfformiad gwael, ond awgrymodd efallai nad yw sgyrsiau'n digwydd mewn modd amserol. Cytunodd cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur, gan nodi'r amser y gallai ei gymryd i ddatrys materion.

6. Cerdyn Sgorio Cytbwys - Adroddiad Q3

6.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Uwch Brif Swyddog Ymchwil, Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol, a'r Prif Swyddog Ymchwil, Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol, i'r cyfarfod, gan ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn datblygu'r cerdyn sgorio cytbwys. Gofynnwyd i'r Bwrdd adolygu'r adroddiad Q3 a thrafod opsiynau ar gyfer adrodd yn flynyddol.

6.2 Nododd Dean Medcraft fod perfformiad taliadau wedi'i nodi fel maes gweithredu yn Q2, a thynnodd sylw at y lefel ardderchog o gefnogaeth gan aelodau'r is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol wrth wneud gwelliannau yn y maes hwn.

6.3 Croesawodd Mike Usher adroddiad Q3, ac awgrymodd y dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r metrig a ddefnyddir i fesur perfformiad ar asesiadau effaith. Roedd y Cadeirydd yn cydnabod cyfyngiadau'r mesur presennol, a sicrhaodd Mike y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud.

6.4 Gofynnodd Carys Williams am ddiweddariad ar yr ymdrechion i wella data AD, gan ofyn sut y gallai technoleg/AI helpu i greu'r cerdyn sgorio. Dywedodd Dom Houlihan fod gwaith i wella data AD ar y gweill, gan gynnwys ystyried sut i awtomeiddio ymhellach.

6.5 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd y Cyd-gadeirydd Arweiniol fod pryderon ynghylch cywirdeb y data absenoldeb salwch yn y cerdyn sgorio. Ystyriodd y Bwrdd yr opsiynau ar gyfer adrodd ar berfformiad yn flynyddol. Croesawodd Mike Usher y papur gwerthuso opsiynau, ac roedd yn cefnogi'r cynnig i alinio â'r Mynegai Gweinyddiaeth Gyhoeddus Blavatnik newydd. Adleisiodd aelodau'r bwrdd y gefnogaeth hon. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi bod y Bwrdd yn ffafrio alinio â'r Mynegai Gweinyddiaeth Gyhoeddus Blavatnik newydd.

7. Unrhyw Fater Arall

7.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 09 Mai.