Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Rhif y papur

Llafar

Sylwadau

Gweler y cofnodion.

2. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Rhif y papur

Papur eitem 2

Sylwadau

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Y Rhaglen Lywodraethu

Rhif y papur

Papur eitem 3

Sylwadau

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Rhif y papur

Papur eitem 4

Sylwadau

Wedi’i gyhoeddi.

5. Diweddariad Arianol

Rhif y papur

Papur eitem 5

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau ariannol Llywodraeth Cymru.

6. Unrhyw fater arall

Rhif y papur

Llafar

Sylwadau

Gweler y cofnodion.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Rhif y papur

Papur i’w nodi 01

Sylwadau

Wedi’i gyhoeddi.

Dangosfyrddau’r gweithlu

Rhif y papur

Papur i’w nodi 02 a 03

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Cofnodion drafft y Bwrdd Cysgodol

Rhif y papur

Papur i’w nodi 04

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Yn bresennol

  • Andrew Goodall
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Reg Kilpatrick
  • Andrew Slade
  • Tracey Burke
  • Des Clifford
  • Judith Paget
  • David Richards
  • Andrew Jeffreys
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Bekah Cioffi
  • Zakhyia Begum

Hefyd yn bresennol

  • Andrew Charles
  • Simon Brindle
  • Catrin Sully
  • Claire Bennett

Ysgrifenyddiaeth

  • Amy Jones
  • Alison Rees

1. Croeso

1.1 Croesawodd yr Ysgrifennydd Parhaol bawb i gyfarfod y Bwrdd ynghyd â chydgadeiryddion y Bwrdd Cysgodol Bekah Cioffi a Zakhyia Begum. Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i'r Bwrdd Cysgodol am ddarparu'r cofnodion mewn modd amserol.

1.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd ei fod wedi myfyrio ar eitemau blaenorol ar yr agenda a'i fod yn gweithio i sicrhau y caiff eitemau eu cyflwyno i'r Bwrdd er mwyn craffu arnynt a rhoi sicrwydd yn eu cylch, ac nad yw cyd-destun y trafodaethau yn union yr un peth â'r rhai a gynhaliwyd yng nghyfarfodydd Pwyllgor Gweithredol Llywodraeth Cymru. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd yr hoffai ailgyflwyno trosolwg o raglen newid Llywodraeth Cymru 2025.

Cam gweithredu 1

Cynnwys eitem ar yr agenda yn y flaenraglen yn ymwneud â throsolwg o gynnydd Llywodraeth Cymru 2025.

1.3 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i aelodau'r Bwrdd a ydynt yn fodlon ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Cytunodd aelodau'r Bwrdd a gwnaethant gais am adolygiad o gamau gweithredu'r cyfarfodydd blaenorol.

Cam gweithredu 2

Cynnwys cofnod o gamau gweithredu Bwrdd Llywodraeth Cymru ym mhapurau cyfarfodydd y Bwrdd.

1.4 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i Reg Kilpatrick a Jo-Anne Daniels roi diweddariad i'w Bwrdd ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'r argyfwng yn Wcráin. Dywedodd Jo-Anne wrth y Bwrdd fod pwysau sylweddol ar dimau am fod nifer y ffoaduriaid sy'n cyrraedd yn llawer uwch na'r hyn a ddisgwyliwyd. Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cyrraedd Cymru wedi golygu bod timau yn defnyddio gwestai i sicrhau nad oes neb heb loches neu fwyd. Dywedodd Jo-Anne fod angen inni ystyried gwydnwch y tîm gan mai cyfrifoldeb ein cyflogeion ni yw sicrhau diogelwch. Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn garedig i Jo-Anne ddiolch i'r tîm am y gwaith y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, ac a fydd yn parhau i'w wneud.

1.5 Dywedodd Reg wrth y Bwrdd y bydd angen trafodaeth bellach a chynllun cyllid ac adnoddau er mwyn cynllunio'r ffordd y byddwn yn ymateb.

1.6 Rhoddodd Reg Kilpatrick ddiweddariad i'r Bwrdd ar ddatblygiadau diweddaraf y cynlluniau wrth gefn ar gyfer COVID-19 a chadarnhaodd fod cyfarfod olaf y Pwyllgor Gweithredol wedi'i gynnal yn gynharach yn yr wythnos ac y byddwn yn dod i ddiwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd mis Mehefin, gan drosglwyddo i ddull gweithredu busnes fel arfer wedi hynny. Hoffai'r Ysgrifennydd Parhaol gyflwyno trafodaeth i'r Bwrdd ar y papur sy'n cael ei lunio ar gyfer diwedd y cyfnod pontio er mwyn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ein bod wedi cymryd pob cam gweithredu posibl.

Cam gweithredu 3

Cynnwys yn y flaenraglen bapur i drafod y cyfnod pontio olaf o COVID-19 gan drosglwyddo i ddull gweithredu busnes fel arfer.

1.7 Cydnabu'r Cyfarwyddwr Anweithredol y diweddariad a gofynnodd yn garedig am ddiweddariad o safbwynt iechyd. Dywedodd Judith Paget fod cynllun adfer wedi'i roi ar waith a'i fod yn cael ei fonitro'n wythnosol, a dywedodd fod gwelliannau'n cael eu gwneud ac y gobeithir y caiff y rhain eu cyflymu. Cyfeiriodd Judith at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Nuffield yn ddiweddar, a chadarnhaodd fod y tîm yn gweithio i ddadansoddi ei gynnwys, am fod gwahaniaeth enfawr yn y data yma yng Nghymru.

Cam gweithredu 4

Cynnwys diweddariad ar iechyd yn y flaenraglen yn dilyn toriad yr haf.

2. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

2.1 Cyflwynodd Andrew Charles bapur i'r Bwrdd er mwyn trafod sut y gall y Bwrdd barhau i ddefnyddio fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ddarparu cyngor strategol, her, a sicrwydd ar gyfer eitemau ar agenda'r Bwrdd yn y dyfodol, ac ystyried y gwelliannau i ddull Llywodraeth Cymru o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith.

2.2 Tynnodd Andrew sylw'r Bwrdd at y pedwar prif fater i'w hystyried:

  • Ein dull o ymgorffori a chyfathrebu
  • Sicrwydd
  • Rôl y Bwrdd
  • Adolygiad Adran 20 ac Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

2.3 Nododd y Bwrdd y prif faterion a thrafododd yn fanwl enghreifftiau o'n dull o ymgorffori'r amcanion llesiant, e.e. cynllun Cymru Iachach a COVID-19. Cytunodd y Bwrdd, yn hytrach na chynnwys adroddiad blynyddol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n cynnydd, y bydd David Richards yn ystyried yr eitemau ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod bwrdd ac yn cynnwys nodyn byr ar y ffordd rydym wedi cynnwys ein hamcanion llesiant. Nododd y Bwrdd hefyd fod llawer o frwdfrydedd wrth siarad â staff y sefydliad, eu bod yn ymwybodol o'r amcanion a bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn eu gwaith.

2.4 Diolchodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol i Andrew am gyflwyniad cadarnhaol iawn, ac roeddent yn cytuno nad oedd angen unrhyw fecanweithiau ychwanegol a bod yr amcanion, drwy adolygu'r Rhaglen Lywodraethu yn rheolaidd, yn cael eu bodloni.

2.5 Dywedodd aelodau'r Bwrdd Cysgodol eu bod yn fodlon ar y dull gweithredu a'r meysydd y mae angen canolbwyntio arnynt, ond eu bod yn teimlo bod angen gwneud mwy o waith i gydnabod ac ymgorffori amrywiaeth, meddylfryd hirdymor a meithrin gallu. Roeddent hefyd yn cytuno â'r Cyfarwyddwyr Anweithredol y dylid monitro llwyddiant y broses o ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ddatblygu polisïau.

2.6 Dywedwyd wrth y Bwrdd hefyd am y ffyrdd y mae Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd i gefnogi Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf ac i gyflawni eu hamcanion llesiant, yn ogystal â hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

2.7 Trafododd aelodau'r Bwrdd Fframwaith Gweithredu Strategol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a gwnaethant gydnabod gwaith polisi a ystyrir yn esiampl i ymateb i'r Ddeddf, yn ogystal â thrafod ffyrdd o wella'r egwyddorion. Gwnaethant hefyd nodi pwysigrwydd yr amcanion Llesiant sydd wedi'u hymgorffori yn y Rhaglen Lywodraethu a sut y caiff y rhain eu cynnal.

3. Y Rhaglen Lywodraethu: trosolwg o gynnydd

3.1 Rhoddodd Catrin Sully ddiweddariad i'r Bwrdd ar waith monitro'r Rhaglen Lywodraethu a'r cynlluniau ar gyfer adroddiad blynyddol y flwyddyn hon.

3.2 Diolchodd Catrin i'r grwpiau am eu cyfraniad at ddiweddariadau mis Ebrill yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes. Dyma'r tro cyntaf i grid heb ei olygu â statws Coch, Melyn, Gwyrdd gael ei rannu â'r Cabinet.

3.3 Dywedodd Catrin wrth y Bwrdd fod adroddiad blynyddol wrthi'n cael ei lunio i adolygu'r 169 o ymrwymiadau a restrwyd gan y Gweinidog arweiniol yn nogfen y Rhaglen Lywodraethu. Caiff data monitro ar gyfer yr ymrwymiadau hyn hefyd eu casglu drwy'r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes a rhoddir sicrwydd yn strwythurau'r Grŵp. Mae Tîm yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes a Swyddfa'r Cabinet yn parhau i gefnogi'r gwelliannau sydd eu hangen i ddiweddariadau ar gynnydd a'r gwaith allweddol i'w wneud ac mae nifer o sesiynau hyfforddi cadarnhaol wedi'u cynnal drwy gydol mis Chwefror a mis Mai gyda mwy o bresenoldeb gan Ddirprwy Gyfarwyddwyr.

3.4 Tynnodd Catrin sylw'r Bwrdd at y swm sylweddol o waith sydd wedi'i wneud i gynnwys ein hamcanion llesiant yn yr Adroddiad Blynyddol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu ac adrodd ar gynnydd tuag at gyflawni ei hamcanion llesiant cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Caiff Adroddiad Blynyddol y flwyddyn hon ei gyhoeddi cyn toriad yr haf.

3.5 Trafododd aelodau'r Bwrdd y statws Coch, Melyn, Gwyrdd a roddwyd i nifer o'r ymrwymiadau a chytunodd fod y Rhaglen Lywodraethu ar y trywydd cywir. Gwnaethant hefyd godi'r mater yn ymwneud â chwyddiant a'r effaith y bydd yn ei gael ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

3.6 Diolchodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol i Catrin am y diweddariad a gwnaethant godi cwestiynau ynglŷn â nifer o ymrwymiadau â statws Coch a meysydd a oedd yn peri pryder o ganlyniad i ddiffyg adnoddau.

Cam gweithredu 5

Cytunodd y Bwrdd i gynnal trafodaeth bellach ac i gyflwyno papur i'r cyfarfod ar y system goleuadau traffig a ddefnyddir ar gyfer statws Coch, Melyn, Gwyrdd.

3.7 Roedd aelodau'r Bwrdd Cysgodol yn falch o nodi cynnydd yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes o ran fformat, cynnwys a defnyddioldeb. Gwnaethant hefyd gydnabod bod y canllawiau ar statws Coch, Melyn, Gwyrdd yn dal i gael eu datblygu, gan awgrymu y dylid cynnwys tudalen gynnwys er eglurder.

4. Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

4.1 Cyflwynodd Claire Bennet bapur i'r Bwrdd er mwyn galluogi trafodaeth ynghylch ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol yn Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae'r cynllun yn cynnwys cyflwyniad byrrach sy'n rhoi trosolwg da o'i ddiben a'i fwriad.

4.2 Mae'r Cynllun Gweithredu terfynol wedi'i ddiwygio'n sylweddol o gymharu â'r fersiwn yr ymgynghorwyd arni. Mae'r newid o 'gydraddoldeb hiliol' i 'wrth-hiliaeth' yn fwriadol er mwyn adlewyrchu'r safbwyntiau a nodwyd drwy'r ymgynghorid a'r broses gyd-ddylunio, a chydnabod bod angen ymdrech llawer mwy rhagweithiol a pharhaus er mwyn sicrhau newid. Mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd ar lefel systemau sylfaenol ym mhob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas.

4.3 Cydnabu'r Bwrdd y cynllun a chytunodd ar bwysigrwydd ei broses gyflawni a'i ganlyniadau yn ogystal â'r cyfle i atgyfnerthu'r effeithiau ar atebolrwydd.

4.4 Roedd y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn falch o weld y cynllun yn cael ei gyhoeddi ac maent yn ei gefnogi'n llawn, ond credant y bydd yn anodd ei gyflawni. Gwnaethant hefyd ofyn a oedd y cynllun wedi'i drafod mewn lleoliad addysg o ystyried sut mae plant yn dod i wybod am sylwadau hiliol, ac a oes lle i ddeddfu'r cynllun.

4.5 Roedd aelodau'r Bwrdd Cysgodol yn cytuno â sylwadau'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ar gynlluniau i ddeddfu'r cynllun, a gwnaethant hefyd groesawu'r newydd o gydraddoldeb hiliol i wrth-hiliaeth yn y cynllun. Gwnaethant hefyd nodi nad oedd unrhyw gyfeiriad at ymddygiadau amhriodol heriol a chredant fod hyn yn allweddol er mwyn newid diwylliant yn llwyddiannus.

5. Diweddariad ariannol

5.1 Rhoddodd Gawain Evans ddiweddariad i'r Bwrdd ar y sefyllfa ariannol bresennol.

5.2 Cyflwynodd Gawain Evans ffigurau alldro heb eu harchwilio dros dro Llywodraeth Cymru wedi'u gosod yn erbyn dyraniadau cyllidebol adrannol a adlewyrchwyd yn Ail Gyllideb Atodol 2021-22 a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth, a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rhagolwg y Prif Grŵp Gwariant
  • Cyllidebau Atodol
  • Rheolaethau Allanol

5.3 Rhoddodd Bekah Cioffi adborth ar safbwyntiau'r Bwrdd Cysgodol, a oedd yn canolbwyntio ar fenthyca llai. Mae'r Bwrdd Cysgodol hefyd yn croesawu canllawiau pellach ar yr hyn a ddisgwylir gan y Bwrdd Cysgodol mewn perthynas â chyllid.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i'r aelodau a oedd yn bresennol ac i Gyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol am eu sylwadau.

6.2 Trafododd aelodau'r Bwrdd rai eitemau yr hoffent eu cynnwys yn y flaenraglen i'w trafod.

  • Salwch Staff
  • Strategaeth y Gweithlu (i'w chynnwys gyda Llywodraeth Cymru 2025)
  • Cydberthynas yr UE â Llywodraeth y DU ar ôl Brexit