Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Cylch Gorchwyl Diwygiedig

Papur eitem 2

Wedi’i gyhoeddi.

3. Y Rhaglen Lywodraethu

Papur eitem 3

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Diweddariad Arianol

Papur eitem 4

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau ariannol Llywodraeth Cymru.

5. Llywodraeth Cymru 2025 – llywodraethu a chydlynu

Papur eitem 5

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

6. Unrhyw fater arall

Llafar

Gweler y cofnodion.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya 
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Aled Edwards
  • Dean Medcraft
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans 
  • Helen Lentle 
  • Reg Kilpatrick
  • Andrew Jeffreys
  • Owain Lloyd
  • Tim Moss
  • Bekah Cioffi (Bwrdd Cysgodol)
  • Zakhyia Begum (Bwrdd Cysgodol)

Hefyd yn bresennol

Catrin Sully

Ysgrifenyddiaeth

Alison Rees

Ymddiheuriadau

Jo-Anne Daniels
Tracey Burke
David Richards

1. Croeso

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Bwrdd a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Croesawodd y Cadeirydd Aled Edwards i'w gyfarfod cyntaf fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

1.2 Nododd Cadeirydd y bydd Zakhyia Begum yn cymryd yr awenau fel Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol pan fydd Bekah yn dechrau ei chyfnod mamolaeth.

1.3 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf.

Costau Byw

1.4 Nododd y Cadeirydd yr her a wynebir wrth ymateb i'r argyfwng costau byw. Mae Gweinidogion yn disgwyl rhagor o wybodaeth am gynlluniau Llywodraeth y DU er mwyn llywio'r camau y gallant eu cymryd yma yng Nghymru. Ychwanegodd Peter Kennedy fod swyddogion wrthi'n adolygu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig ar hyn o bryd i gefnogi staff drwy'r argyfwng costau byw, a pha gamau ychwanegol posibl y gallai eu cymryd. Cyflwynir canlyniadau'r ymarfer hwn i'r Pwyllgor Gweithredol yn ddiweddarach ym mis Medi. Bwriedir cynnal sesiwn Dewch i Drafod yn Fyw ar lesiant yn ddiweddarach yn y mis hefyd.

1.5 Holodd Ellen Donavan am yr effaith y bydd chwyddiant, a'r argyfwng costau byw yn ei chael ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb yn gyflym. Ymatebodd y Cadeirydd drwy ddweud y gall fod angen cynnal ymarfer blaenoriaethu mewn perthynas â'r Rhaglen Lywodraethu. Y bwriad yw osgoi sefydlu grwpiau newydd i reoli'r ymateb os oes modd.

1.6 Cydnabu Aled Edwards y pwysau enfawr sy'n gysylltiedig ag ymateb i'r argyfwng dyngarol ac estynnodd longyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ar ei hymateb o'r radd flaenaf. Ychwanegodd Aled y gall fod cryn amser cyn y gall ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru ddychwelyd i'w cartrefi yn Wcráin.

Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol

1.7 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Owain Lloyd roi diweddariad ar feysydd portffolio addysg a chyfiawnder cymdeithasol. Nododd mai yn ystod yr haf hwn y cynhaliwyd y gyfres gyntaf o arholiadau allanol ers 2019, a bod y gyfres honno wedi'i chynnal yn llwyddiannus. Gofynnodd Meena Upadhyaya am eglurhad ynghylch y camau y bwriedir eu cymryd i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyrhaeddiad ymhlith dysgwyr. Ymatebodd Owain drwy ddweud bod swyddogion wrthi'n llunio dogfen sy'n dwyn ynghyd yr holl gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ifanc i wireddu eu potensial yn llawn.

1.8 Dyfarnodd yr Uchel Lys o blaid Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd, a dyfarnwyd costau yn erbyn yr hawlwyr. Nododd Aled y ffordd y mae swyddogion wedi
gweithio gyda grwpiau cymunedol a ffydd i ddatblygu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

1.9 O ran ffoaduriaid y rhyfel yn Wcráin, mae darparu llety addas yn parhau i fod yn her, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gall plant oedran ysgol ymuno â'r system addysg yn gyflym. Nododd Aled yr ymgysylltu a'r gwaith partneriaeth cymdeithasol ardderchog i ymateb i anghenion y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin.

COVID-19, y GIG a gofal cymdeithasol

1.10 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Judith Paget roi diweddariad ar y sefyllfa yn y GIG mewn perthynas â COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r sefyllfa yn gwella ond mae llawer o waith i'w wneud eto. Ar adeg y cyfarfod, dim ond nifer bach o gleifion oedd yn yr ysbyty yn cael eu trin am COVID-19 gyda thua 11 o gleifion mewn unedau gofal dwys. Mae salwch staff yn parhau i fod yn broblem ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda llawer o'r absenoldebau hynny oherwydd COVID-19.

1.11 Nododd Judith y pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol wrth i brinder staff effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaethau ailalluogi gofal yn y cartref. Mae cleifion sy'n aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn cyfrif am tua 13% o welyau mewn ysbytai ar hyn o bryd.

1.12 Gofynnodd Ellen a oes perygl y gallai'r sefyllfa o ran gofal yn y cartref waethygu dros fisoedd y gaeaf o ystyried difrifoldeb disgwyliedig tymor y ffliw, a pha atebion creadigol y mae swyddogion yn eu hystyried. Nododd Judith ei bod hi'n anodd rhagfynegi trywydd y pandemig a thymor y ffliw dros fisoedd y gaeaf. Tynnodd Judith sylw at y cysylltiad rhwng amseroedd ymateb ambiwlansys ac oedi cyn rhyddhau cleifion o ysbytai, a chadarnhaodd fod y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yn ystyried ffyrdd arloesol a chydweithredol o ymateb i'r sefyllfa, gan gynnwys creu capasiti ychwanegol mewn perthynas â gofal cymunedol.

1.13 Gofynnodd Meena a oes digon o gymorth ar gael i'r rhai sy'n dioddef o COVID Hir. Ymatebodd Judith drwy ddweud bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ac nad yw swyddogion yn ymwybodol o unrhyw broblemau nac oedi wrth gael gafael ar wasanaethau.

1.14 Nododd Reg Kilpatrick yr heriau cydamserol sy'n wynebu Cymru y gaeaf hwn, a rhoddodd sicrwydd i'r Bwrdd fod y Grŵp Parodrwydd i Gymryd Risg, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru sydd â diddordeb yn un neu fwy o'r risgiau, yn arwain gwaith cynllunio wrth gefn.

2. Cylch Gorchwyl Diwygiedig

2.1 Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau ar y Cylch Gorchwyl diwygiedig drafft.

2.2 Nododd Ellen fod rôl y Bwrdd wedi datblygu dros y 12 mis diwethaf, yn enwedig o ran y ffocws ar y Rhaglen Lywodraethu, ac ychwanegodd fod hyn wedi'i adlewyrchu yn y Cylch Gorchwyl diwygiedig. Gofynnodd Ellen sut y gellir rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gyfarwyddwyr Anweithredol ar ddatblygiadau rhwng cyfarfodydd. Nododd Ellen y gallai cynnwys siartiau strwythur ar gyfer y dull llywodraethu cyffredinol a llywodraethu Llywodraeth Cymru 2025, fod ychydig yn ddryslyd.

2.3 Croesawodd Gareth Lynn y cysylltiadau â Llywodraeth Cymru 2025 yn y Cylch Gorchwyl diwygiedig. Nododd Gareth nad yw'r Bwrdd wedi ystyried y materion strategol ehangach y mae Cymru yn eu hwynebu, ac awgrymodd y byddai'n ddefnyddiol ystyried rhai o'r risgiau mwy mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nododd Aled y Cylch Gorchwyl a myfyriodd ar y pwyslais ar fodel gweithio Partneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru.

2.4 Croesawodd Bekah y ffaith bod y Bwrdd Cysgodol wedi'i integreiddio yng ngwaith y Bwrdd ac awgrymodd y dylid cysoni Cylch Gorchwyl y Bwrdd Cysgodol â Chylch Gorchwyl y Bwrdd.

2.5 O ran rôl y Bwrdd a'r strategaeth sefydliadol a nodir ym mhwynt bwled 3, gofynnodd Tim a yw trefn y geiriau 'her' a 'chyngor' yn y llinell gyntaf yn gywir.

2.6 Nododd Natalie Pearson fod swyddogion yn awyddus i ddysgu sit y caiff penderfyniadau eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, ac awgrymodd y dylid ystyried ffyrdd o hyrwyddo gwybodaeth am lywodraethu, sicrwydd, a gwaith y Bwrdd Cysgodol.

2.7 Cwestiynodd Meena aelodaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol o'r Is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Ymatebodd Ellen drwy ddweud ei bod yn aelod o'r is-bwyllgor, er bod cryn drafod wedi bod ynghylch p'un a yw'n briodol i Gyfarwyddwr Anweithredol fod yn aelod o is-bwyllgor sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Gweithredol. Nododd Bekah ei bod, fel cyd-gadeirydd arweiniol y Bwrdd Cysgodol, wedi cael gwahoddiad i fynychu'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, ond nad oedd wedi gallu gwneud hynny o ganlyniad i wrthdaro yn ei dyddiadur.

2.8 Diolchodd y Cadeirydd i'r Bwrdd am ei sylwadau, gan nodi'r gefnogaeth gyffredinol i'r Cylch Gorchwyl diwygiedig a'r sylwadau ar feysydd y mae angen eu mireinio ymhellach.

Cam gweithredu

Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r Cylch Gorchwyl yn seiliedig ar y sylwadau a gafwyd.

Cam gweithredu

Yr Ysgrifenyddiaeth i rannu Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Gweithredol â'r Bwrdd fan fydd y Pwyllgor Gweithredol wedi cytuno arno.

3. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Catrin Sully roi diweddariad ar gynnydd tuag at gyflawni Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ar effaith bosibl nifer o ffactorau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, effaith y rhyfel yn Wcráin, effaith barhaus y pandemig a Brexit, ar y gallu i gyflawni Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

3.2 Nododd Catrin bryderon a godwyd ynghylch nifer y strategaethau a chynlluniau gweithredu newydd sy'n dod i'r amlwg; mae llawer ohonynt yn cynnwys sylwadau ychwanegol at y rheini yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'n bwysig bod y Cabinet yn cytuno i ddatblygu'r cynlluniau hyn cyn y caiff unrhyw amser neu adnodd ei ymrwymo i'w datblygu. Gofynnodd Meena pa ffactorau sy'n llywio'r ymrwymiadau newydd hyn ac ailbwysleisiodd gais Prif Weinidog Cymru am i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ganolbwyntio ar dri maes penodol o'r Rhaglen Lywodraethu; o blith y meysydd hyn mae dau wedi'u nodi'n rhai 'coch'. O ran yr ymrwymiadau newydd, awgrymodd Ellen y dylid archwilio nifer ohonynt er mwyn gweld sut roeddent wedi dod i'r amlwg. Awgrymodd Ellen y dylid cynnal archwiliad manwl o ofal cymdeithasol mewn cyfarfod o'r Bwrdd yn y dyfodol gan fod hwn yn un o'r meysydd y mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i'r Cyfarwyddwr Anweithredol roi sylw penodol iddo. Awgrymodd Gareth y dylid ystyried sut y gellir gwella prosesau er mwyn sicrhau y caiff strategaethau, cynlluniau gweithredu ac ymgyngoriadau eu cyfeirio at y Cabinet cyn y caiff amser ac adnoddau eu buddsoddi ynddynt.

3.3 Myfyriodd Des Clifford ar y cyd-destun allanol sy'n newid yn barhaus y caiff y Rhaglen Lywodraethu ei chyflawni oddi mewn iddo; bydd y Rhaglen Lywodraethu yn helpu i gynnal ffocws ar flaenoriaethau ar gyfer cyflawni.

3.4 Nododd Reg lle bo ymrwymiadau yn ymwneud ag archwilio pynciau, ar ôl gwneud hynny, yn aml ceir pwysau i symud ymlaen yn gyflym i'w rhoi ar waith.

3.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd y pwyntiau a godwyd.

4. Diweddariad Ariannol – Diweddariad ar Gyfnod 4

4.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Gawain Evans roi diweddariad i'r Bwrdd ar gronfeydd wrth gefn ac alldro dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

4.2 Mae'r diweddariad yn seiliedig ar ragolygon a gyflwynwyd gan Benaethiaid Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2022 (cyfnod 4) wedi'u gosod yn erbyn y cyllidebau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol Prif Weinidog Cymru ar gyfer 2022-23.

4.3 Cyfanswm y gorwariannau rhagamcanol wedi'u haddasu yn erbyn Prif Grwpiau Gwariant Llywodraeth Cymru yng nghyfnod 4 yw £356.5m, sy'n welliant o gymharu â chyfnod 3. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw arian dros ben ar gael yn 2022-23. Mae cronfa wrth gefn fach gwerth tua £74 miliwn ar gael. Cyfanswm Cronfa Wrth Gefn Cymru ar hyn o bryd yw £91 miliwn, ond mae'r swm hwn wedi'i glustnodi ar gyfer 2023-24.

4.4 Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau aelodau'r Bwrdd.

4.5 Gofynnodd Gareth i ba raddau y mae'r diffyg a nodwyd eisoes wedi'i gloi mewn cyllidebau a nododd yr her sydd i ddod, gan awgrymu y gallai fod angen gwneud rhai penderfyniadau cynnar ar gamau cywirol i feintoli'r gyllideb. Gofynnodd Meena a oes cronfeydd wrth gefn digonol i wrthbwyso'r gorwariant rhagamcanol ac a oes dulliau amgen o addasu'r diffyg a ragwelir. Gofynnodd Bekah a allai fod yn bosibl defnyddio tanwariannau ar gyllid yr UE er mwyn helpu i wrthbwyso'r diffyg. Nododd Andrew Jeffreys fod effaith y pwysau chwyddiannol yn debygol o barhau am gryn amser a bod sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn debygol o waethygu dros y blynyddoedd i ddod.

5. Llywodraeth Cymru 2025 – llywodraethu a chydlynu

5.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Natalie roi diweddariad i'r bwrdd ar y trefniadau ar gyfer llywodraethu a chydlynu rhaglen datblygu sefydliadol Llywodraeth Cymru 2025.

5.2 Canmolodd Gareth y papur a gofynnodd beth oedd rôl y Bwrdd o ran monitro cynnydd a rhoi sicrwydd. Nododd Ellen bwysigrwydd cael llinellau amser pendant a chynlluniau cyfathrebu da ar waith.

5.3 Tynnodd David Richards sylw at bwysigrwydd ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y rhaglen.

5.4 Gan fyfyrio ar ffrwd waith Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un, nododd Reg, wrth inni godi allan o bandemig COVID-19, fod awydd gwirioneddol i ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn caffael sgiliau newydd i Lywodraeth Cymru a helpu i gyflawni'r ffrwd waith yn fwy effeithiol.

5.5 Croesawodd Meena sylwadau ei chyd-aelodau o'r Bwrdd a gofynnodd pa feincnodau a ddefnyddir i fesur a yw'r sefydliad yn addas at y diben ac a oes cyfleoedd i ymgysylltu â mwy na 50 y cant o'r staff mewn digwyddiadau.

5.6 Nododd Bekah nad oes adnoddau ychwanegol wedi'u dyrannu i raglen Llywodraeth Cymru 2025 a chwestiynodd, heb adnoddau wedi'u neilltuo, a fydd yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth i'w chyflawni.

6. Unrhyw Fater Arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw faterion eraill. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Hydref.