Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Adolygiad Adran 20 o Lywodraeth Cymru Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Papur eitem 2

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Diweddariad ar ddiwygio’r Dreth Gyngor

Papur eitem 3

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Y Rhaglen Lywodraethu

Llafar

Gweler y cofnodion.

5. Diweddariad ariannol

Papur eitem 4

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau ariannol Llywodraeth Cymru.

6. Diweddariad ar yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig

Papur eitem 6

Wedi’i gyhoeddi.

7. Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2025

Papur eitem 7

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

8. Unrhyw fater arall

Llafar

Gweler y cofnodion.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Tracey Burke
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Jo-Anne Daniels
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Andrew Jeffreys
  • David Richards
  • Dafydd Eveleigh (Shadow Board)

Hefyd yn bresennol

  • Catrin Sully
  • Simon Brindle
  • Andrew Charles
  • Debra Carter
  • Sally-Ann Efstathiou

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees
  • Daniel Taylor

Ymddiheuriadau

  • Aled Edwards

1. Croeso

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 21 Hydref. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariadau ar sawl maes.

1.2 Ymgyrch Blue Harvest – rhoddodd Reg Kilpatrick ddiweddariad ar ymarfer cynllunio at argyfwng diweddar Llywodraeth Cymru. Gofynnodd Ellen Donavan a oedd yr ymarfer wedi tynnu sylw at unrhyw faterion o ran adnoddau. Ymatebodd Reg drwy ddweud bod yr ymarfer wedi awgrymu bod yr adnoddau'n ddigonol, ond bod gwersi wedi'u nodi mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a chynllunio.

1.3 Diweddariad ar y GIG – dywedodd Judith Paget wrth y Bwrdd er bod nifer y cleifion sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 yn dal i fod yn sefydlog, bod cynnydd yn nifer y derbyniadau i ysbytai yn gysylltiedig â'r ffliw. Gofynnodd Meena Upadhyaya a oes disgwyl i nifer yr achosion o COVID-19 gynyddu ac, os felly, pa gynlluniau sydd ar waith i ymateb i hynny. Nododd Judith fod gwaith modelu yn awgrymu efallai na fydd nifer yr achosion yn cyrraedd ei anterth eto yng Nghymru tan fis Mawrth 2023, a nododd bwysigrwydd y rhaglen frechu.

1.4 Nododd Judith y posibilrwydd o nifer o streiciau a'r angen i fodelu hyn gyda'r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys er mwyn llywio penderfyniadau'r grŵp parodrwydd i gymryd risg canolog.

2. Adolygiad Adran 20 o Lywodraeth Cymru Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Andrew Charles a Simon Brindle roi diweddariad i'r Bwrdd ar Adolygiad Adran 20 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

2.2 Croesawodd David Richards waith gwych Andrew a Simon wrth feithrin cydberthynas waith adeiladol â swyddfa'r Comisiynydd ac awgrymodd y gallai fod yn bryd ail-lunio rôl Hyrwyddwr Cenedlaethau'r Dyfodol y Bwrdd.

2.3 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, gofynnodd Dafydd Eveleigh beth fyddai'r ffordd orau o fonitro llwyddiant ymgorffori'r Ddeddf.

2.4 Croesawodd Gareth a Meena y ffocws ar Bartneriaeth Gwybodaeth Ganolog a Lleol. Awgrymodd Ellen, wrth fwrw ymlaen, y gallai papurau'r Bwrdd gynnwys adran yn ystyried pwnc o safbwynt Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau ac awgrymodd y byddai'r adolygiad yn sbarduno camau pellach. Nododd hefyd ei fod yn cefnogi'r awgrymiadau i adolygu rôl Hyrwyddwr Cenedlaethau'r Dyfodol y Bwrdd.

3. Diweddariad ar ddiwygio'r Dreth Gyngor

3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Reg Kilpatrick a Debra Carter roi diweddariad i'r Bwrdd ar gynlluniau i Ddiwygio'r Dreth Gyngor.

3.2 Atgoffodd Gareth y Bwrdd fod diwygio'r dreth gyngor yn un o feysydd y Rhaglen Lywodraethu y mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i'r Cyfarwyddwr Anweithredol roi sylw penodol iddo. Nododd Ellen faint yrt her a'r amserlen fyrrach, a chwestiynodd risgiau gweithredu. Nododd Meena natur gymhleth diwygio treth a chwestiynodd y sail dystiolaeth sy'n awgrymu y bydd y diwygiadau hyn er budd y cyhoedd.

3.3 Awgrymodd Tim Moss fod angen gwybodaeth gliriach am fanteision diwygio'r dreth gyngor a gofynnodd am eglurder ynghylch y llwybr hanfodol a maint y newid a'r risgiau i awdurdodau lleol.

3.4 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, tynnodd Dafydd sylw at yr iaith a ddefnyddir mewn gohebiaeth ynghylch diwygio'r dreth gyngor, gan nodi nad oedd 'baich treth' yn ymadrodd buddiol wrth gyfleu natur hanfodol treth i ariannu gwasanaethau hanfodol. Nododd Dafydd hefyd ddiffyg cynrychiolaeth i bobl anabl a chwestiynodd sut roedd gwybodaeth am y diwygio yn cael ei rhannu â grwpiau lleiafrifol. Nododd Dafydd hefyd bryder ynghylch y cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n ennill incwm canolig, sef y rhai y gall y diwygio gael yr effaith fwyaf arnynt gan nad ydynt yn gymwys am gymorth.

3.5 Ymatebodd Debra drwy nodi'r heriau o ran rhannu gwybodaeth ac ychwanegodd fod swyddogion wedi cynnal trafodaethau â nifer o grwpiau sy'n cynrychioli grwpiau gwahanol mewn cymdeithas er mwyn trafod cynigion i ddiwygio'r dreth gyngor. Dywedodd Debra fod yr heriau o ran gweithredu wedi'u nodi fel risgiau ar gofrestr risgiau'r prosiect. O ran yr amserlen ar gyfer diwygio, nododd Debra nad yw'r dyddiad cyflawni, sef 2025, yn agored i drafodaeth, a nododd y byddai cynlluniau wrth gefn yn canolbwyntio ar weithgareddau eraill yn ymwneud ag ailwerthuso.

4. Y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Catrin Sulley roi diweddariad i'r Bwrdd ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag ymarfer ailflaenoriaethu'r Rhaglen Lywodraethu.
4.2 Nododd Catrin Sulley mai bwriad gwreiddiol yr ymarfer ailflaenoriaethu oedd atgyfnerthu'r ymateb i'r ymarfer costau byw ond bod sefyllfa'r gyllideb sy'n gwaethygu wedi dod yn brif sbardun ers hynny. Caiff Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig ei chyhoeddi yn gynnar yn 2023.

4.3 Nodd Ellen ei chefnogaeth i'r dull o adolygu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a gofynnodd a oedd lle i Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth
Cymru wneud mwy i helpu i gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Ychwanegodd Gareth ei gefnogaeth a gofynnodd a oedd y meysydd hynny lle roedd tanwariant wedi'i nodi a'i ildio i'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu canslo, eu cwtogi neu eu hoedi.

4.4 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, gofynnodd Dafydd a fyddai lleihau ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn golygu y gellid ailddyrannu adnoddau staffio i feysydd dan bwysau. Ymatebodd y Cadeirydd drwy ddweud, er ei fod yn cytuno fod prinder staff mewn rhai timau ar draws Llywodraeth Cymru, na fydd ailflaenoriaethu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn arwain at fwy o adnoddau ond y gall olygu bod mwy o ddewis o ran sut y caiff yr adnoddau sydd ar gael eu defnyddio.

5. Diweddariad ariannol – Cyfnod 7

5.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Gawain Evans roi Diweddariad Ariannol ar gyfer Cyfnod 7.

5.2 Nododd Gawain y sefyllfa well yng Nghyfnod 7 a'r potensial ar gyfer tanwariant bach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gofynnodd y Gweinidog Cyllid am i'r rheolaethau presennol dros orwariannau barhau ar waith, gyda thanwariannau yn cael eu hildio i gronfeydd wrth gefn oni bai bod achos brys i ddefnyddio'r arian at bwrpas arall.

5.3 Gan nodi bod tanwariannau yn debygol o gynyddu wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol agosáu, gofynnodd Ellen a ellid rhagfynegi'r sefyllfa orau neu waethaf. Ymatebodd Gawain drwy ddweud y byddai hyn yn anodd o ystyried y potensial am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol; mae'r Gweinidog Cyllid wrthi'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio, os caiff cyllid ychwanegol ei roi, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gael yr hyblygrwydd i benderfynu sut y caiff ei ddefnyddio.

5.4 Y bwriad yw llofnodi cyfrifon 2021/22 ar 12 Rhagfyr. Mae Archwilio Cymru wedi awgrymu y caiff y cyfrifon eu hamodi ar sail materion parhaus a godwyd yng nghyfrifon y flwyddyn flaenorol.

6. Diweddariad ar yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig

6.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i David Richards roi diweddariad i'r Bwrdd ar yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig.

6.2 Nododd David Richards fod yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig wedi tynnu sylw at yr effaith y mae penderfyniadau a wneir gan swyddogion yn effeithio ar fywydau pobl ac, yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd gan Meena Upadhyaya, nododd fod Cod y Gweinidogion bellach wedi'i newid er mwyn pwysleisio rôl Gweinidogion wrth roi cyngor diduedd i Weinidogion, ac mai cyfrifoldeb Gweinidogion yw penderfynu sut i weithredu ar y cyngor hwnnw.

6.3 Nododd Dafydd er bod systemau ar waith i sicrhau bod polisïau yn agored ac yn dryloyw, efallai nad ydynt bob amser yn effeithiol a gofynnodd sut roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i ganfyddiadau'r ymchwiliad.

6.4 Croesawodd Gareth y papur a nododd rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol wrth herio meddylfryd grŵp. Croesawodd Ellen y cyfraniad y mae'r Bwrdd Cysgodol yn ei wneud drwy gynnig safbwyntiau gwahanol i drafodaethau'r Bwrdd.

7. Llywodraeth Cymru 2025 – diweddariad ar y Cynllun Gweithredu

7.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Tim Moss roi diweddariad i'r Bwrdd ar Gynllun Gweithredu drafft WG2025. Dywedodd Tim wrth y Bwrdd fod ffrydiau gwaith wedi'u nodi, gan bwysleisio y caiff gweithgareddau ffrydiau gwaith eu hadolygu'n rheolaidd.

7.2. Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Bwrdd wneud sylwadau ar y Cynllun Gweithredu drafft. Nododd Meena y rôl bwysig y bydd TG a thechnoleg ddigidol yn ei chwarae yn WG2025 a gofynnodd a oes mesurau ar waith i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu manteisio ar dechnoleg ddatblygol. Awgrymodd Gareth y gallai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ddarparu cymorth llywodraeth i WG2025. Gan fyfyrio ar drafodaethau yng nghyfarfod yr is-bwyllgor Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, awgrymodd Ellen y dylid mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bylchau mewn sgiliau mewn meysydd fel Rheoli Prosiect yn WG2025.

7.3 O ystyried maint yr her sydd i ddod, tynnodd Andrew Slade sylw at yr angen am y rhaglen newid a'r brwdfrydedd a'r parodrwydd i sicrhau newid. Adleisiodd Des Clifford y sylwadau hyn. Nododd Reg Kilpatrick fod y Ffrwd Waith Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd da i ymgorffori arferion da ac arloesedd yn y llywodraeth. Nododd Judith gefnogaeth i WG2025 ar draws y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ychwanegodd fod gan y Grŵp hefyd raglen fewnol, sef Llunio, sy'n cyd-fynd â WG2025.

7.4 Nododd y Cadeirydd y farn gadarnhaol ynghylch newid a dywedodd fod angen rhannu gwybodaeth am y newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud, yr hyn sy'n digwydd nawr, a beth fydd yn digwydd o ganlyniad i strategaeth Llywodraeth Cymru 2025.

8. Unrhyw fater arall

8.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 13 Ionawr 2023.