Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion Presennol

Llafar.

Gweld cofnodion.

2. Comisiynydd Plant Cymru - Blaenoriaethau allweddol a'r berthynas â Llywodraeth Cymru

3. Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol

[Eitem 3 - Papurau a phecyn sleidiau]

4. Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadernid y System a'i Pharodrwydd ar gyfer y Gaeaf

[Eitem 4 - Papurau]

5. Diweddariad ar Tata Steel (TSUK)

[Eitem 5 - Papurau]

6. Unrhyw Fater Arall

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd) 
  • Meena Upadhyaya 
  • Aled Edwards (tan 12:30) 
  • Carys Williams 
  • Tim Moss 
  • Judith Paget 
  • Tracey Burke 
  • Andrew Slade 
  • Jo-Anne Daniels 
  • Reg Kilpatrick 
  • David Richards (tan 12:30) 
  • Gawain Evans 
  • Helen Lentle (o Eitem 3) 
  • Zakhyia Begum 

Yn mynychu

  • Polina Cowley 
  • Clare Collett 
  • Cuong Vinh 
  • Nick Wood 
  • Kate Hearnden 
  • Rocio Cifuentes 
  • Kirrin Spiby-Davidson

Ysgrifenyddiaeth 

  • Alison Rees 

Ymddiheuriadau 

  • Des Clifford 
  • Gareth Lynn 
  • Amelia John 

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Nododd y Cadeirydd mai dyma'r tro cyntaf i'r Bwrdd gwrdd wyneb yn wyneb ers y pandemig.

1.2 Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 02 Medi, yn amodol ar fân ddiwygiad i baragraff 3.3 y gofynnwyd amdano gan Carys Williams.

1.3 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y cynlluniau i recriwtio dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd a diolchodd i Carys Williams, Gareth Lynn a Zakhyia Begum am eu gwaith yn y broses o lunio rhestr fer.

1.4 Nododd y Cadeirydd fod Meena Upadhyaya wedi cytuno'n garedig i estyniad byr i'w chyfnod fel Cyfarwyddwr Anweithredol nes i'r ymgyrch recriwtio i ddod o hyd i rywun yn ei lle gael ei chwblhau.

1.5 Nododd y Cadeirydd fod Nashima Begum, Uwch-gynghorydd Cydraddoldeb Hil, wedi ennill Gwobr Gymunedol Hanes Pobl Ddu Cymru am ei chyfraniad at gydraddoldeb hil a chynhwysiant yng Ngwobrau Ieuenctid 365 Hanes Pobl Ddu Cymru yn ddiweddar.

1.6 Roedd tîm Polisi Cynllun Cymru Wrth-hiliol wedi cael ei enwebu ar gyfer categori Gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Ngwobrau'r Gwasanaeth Sifil 2023 ac wedi cyrraedd y rownd derfynol o feirniadu.

1.7 Nododd y Cadeirydd yr effeithiau y mae'r ymosodiadau dan arweiniad Hamas ar Israel ar 07 Hydref yn eu cael ar gymunedau yng Nghymru. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â grwpiau ffydd ac wedi ymrwymo i sicrhau y gall pobl ledled Cymru fyw eu bywydau bob dydd ac addoli heb ofn na chael eu bygwth.

1.8 Nododd y Cadeirydd y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn sy'n dod i'r amlwg a'r heriau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.

1.9 Mae'r gwaith ar yr Ymchwiliad i Covid yn parhau; mae gwaith sylweddol ar y gweill ar draws y sefydliad i baratoi datganiadau. Dywedodd Aled Edwards ei fod wedi'i sicrhau y bydd y ffordd y cyfrannodd y gymdeithas ddinesig yng Nghymru at yr ymateb i'r pandemig yn cael sylw yn yr ymchwiliad.

2. Comisiynydd Plant Cymru - blaenoriaethau allweddol a'r berthynas â Llywodraeth Cymru

2.1 Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, i'r cyfarfod a'i gwahodd i gyflwyno blaenoriaethau allweddol ei swyddfa ac amlinellu'r hyn yr hoffai gan Lywodraeth Cymru.

2.2 Gofynnodd Carys Williams i'r Comisiynydd amlinellu'r gwirioneddau yr hoffai i Lywodraeth Cymru eu clywed. Awgrymodd y Comisiynydd fod angen meddwl yn fwy radical i fynd i'r afael â materion a thynnodd sylw at yr angen i ddarparu gwell esboniadau i bobl ifanc am y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, yn enwedig o ran penderfyniadau ar gyllidebau a gwariant.

2.3 Gofynnodd Aled Edwards i'r Comisiynydd am ei barn ar sut i ail-lunio'r system gwerthoedd cyhoeddus a dileu gwenwyndra ohoni. Tynnodd y Comisiynydd sylw at ddau faes yn ei hymateb. Yn gyntaf, pwysigrwydd addysgu plant a phobl ifanc ar bob elfen o amrywiaeth a chydnabod y gall tlodi a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus arwain at wneud bwch dihangol o newydd-ddyfodiaid i gymunedau.

2.4 Gofynnodd Tim Moss i'r Comisiynydd am ei barn ar y tebygrwydd rhwng y materion sy'n wynebu pobl ifanc a phobl hŷn. Dywedodd y Comisiynydd fod materion tebyg ond ychwanegodd fod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael effaith hirdymor ac y byddant yn siapio dyfodol y wlad gyfan.

2.5 Nododd Meena Upadhyaya effaith gorfforol Covid Hir ar blant a phobl ifanc a holodd am y cymorth oedd ar gael i blant.

2.6 Holodd David Richards am y themâu sy'n deillio o'r sesiynau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Dywedodd y Comisiynydd fod y materion a amlygir yn dibynnu ar y grwpiau ond yn aml mae materion fel effaith costau byw a materion byd-eang yn cael eu codi.

2.7 Gofynnodd Gawain Evans a oedd y Comisiynydd o'r farn mai ei rôl yw helpu plant a phobl ifanc i godi eu huchelgeisiau. Cytunodd y Comisiynydd fod ei rôl yn cynnwys hyn ond i lawer mae'r anawsterau sy'n eu hwynebu yn aruthrol a rhaid diwallu anghenion sylfaenol cyn y gall plant obeithio cyrraedd eu potensial.

2.8 Nododd Jo-Anne Daniels yr egni a'r ffocws y mae'r Comisiynydd wedi'u rhoi i'r rôl ac amlygodd y berthynas gadarnhaol ac adeiladol sydd gan swyddogion â swyddfa'r Comisiynydd.

2.9 Awgrymodd Tim Moss y dylid gwella mynediad at ddata sydd wedi'u segmentu i helpu i ddatblygu polisïau. Cytunodd y Comisiynydd a nododd yr angen i wella'r sylfaen dystiolaeth ehangach hefyd.

2.10 Nododd Zakhyia Begum fod sawl un o aelodau'r Bwrdd Cysgodol wedi cael agweddau ar y cyflwyniad yn ysgogol, a gofynnodd sut y bydd y model cymdeithasol o anabledd yn rhan o waith y Comisiynydd. Dywedodd y Comisiynydd, er y byddai'n gwneud pob ymdrech i siarad dros blant, nad oes dim mwy pwerus na phlant a phobl ifanc yn cael cyfle i fynegi eu gwirionedd yn uniongyrchol.

2.11 Daeth y Comisiynydd â'r eitem i ben drwy nodi'r berthynas cyfaill beirniadol sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa'r Comisiynydd.

3. Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Clare Collett i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y fersiwn ddiweddaraf o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol (y Gofrestr). Mae'r Gofrestr wedi cael ei llywio gan drafodaethau yn y Pwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Pwyllgor Gweithredol. Tynnodd Clare sylw at y newidiadau i'r broses o lunio'r Gofrestr, gan nodi'r gwaith a wnaed dros fisoedd yr haf i adolygu'r Gofrestr a sganio'r gorwel.

3.2 Gwahoddodd Tim Moss y Bwrdd i anfon ymlaen, y tu allan i'r cyfarfod, unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses o lunio'r Gofrestr ac awgrymodd y dylai trafodaethau ganolbwyntio ar y materion strategol a amlinellir yn y pecyn sleidiau sy'n cyd-fynd â'r eitem.

3.3 Nododd y Cadeirydd nifer y risgiau ar y Gofrestr sydd wedi'u nodi'n 'goch' a gofynnodd i aelodau'r Bwrdd am eu barn ar barodrwydd y sefydliad i dderbyn risg a'r sgoriau risgiau gweddilliol a nodir yn y Gofrestr.

3.4 O ran sgoriau gweddilliol, holodd Carys Williams a fyddai'r camau lliniaru a amlinellir yn y Gofrestr yn sicrhau'r sgôr weddilliol. Awgrymodd Carys fod angen ystyried risgiau o safbwynt ehangach a chynllunio ar gyfer materion allanol a allai effeithio ar Lywodraeth Cymru.

3.5 O ran risgiau allanol, pwysleisiodd Reg Kilpatrick bwysigrwydd deall y dirwedd risgiau ehangach, gan gynnwys risgiau nad ydynt yn perthyn i Lywodraeth Cymru, ond cwestiynodd a ddylid cofnodi'r risgiau hyn yn y Gofrestr.

3.6 Gofynnodd David Richards a ddylid llunio Cofrestr Risgiau Cymru. Nododd David bwysigrwydd adolygu effeithiolrwydd camau lliniaru unwaith y bydd risg wedi ymddangos.

3.7 Dywedodd Andrew Slade y gall parodrwydd i dderbyn risg amrywio ar draws y sefydliad, gan ddibynnu ar y maes busnes, ac awgrymodd fod angen deialog onest ag Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynglŷn â'r dull gweithredu.

3.8 Croesawodd Meena Upadhyaya y cynnig i gadw'r risgiau o ran cadernid TG a seiberddiogelwch ar wahân a gofynnodd a oedd Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd ynglŷn â seiberddiogelwch. Dywedodd Tim fod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd.

3.9 Holodd Jo-Anne am y broses ar gyfer uwchgyfeirio risgiau o Gofrestrau Risgiau'r Grwpiau i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ac awgrymodd y gallai fod risgiau ychwanegol gan y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg a ddylai ymddangos yn y Gofrestr.

3.10 O ran cofnodi bygythiadau allanol ar gofrestr risgiau, awgrymodd Jo-Anne y dylai fod ffocws allanol a nododd effaith materion fel Covid, y rhyfel yn Wcráin a'r ymadawiad â'r UE ar Lywodraeth Cymru.

3.11 Nododd Judith Paget fod y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn adolygu ei gofrestr risgiau. Mae'r grŵp hefyd â throsolwg o gofrestr risgiau GIG Cymru.

3.12 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, cyfeiriodd Zakhyia Begum y Bwrdd at gofnodion y Bwrdd Cysgodol a thynnodd sylw at y sylwadau ynghylch galluogrwydd staff yn ogystal â chapasiti mewn perthynas â risg 2.3 yn y Gofrestr.

3.13 Diolchodd Clare i bawb am eu sylwadau a nododd fod gan Lywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch parodrwydd i dderbyn risg sy'n arwain dull y sefydliad o reoli risgiau. Cafodd y datganiad ei ddiwygio yn ystod pandemig Covid a bydd yn cael ei adolygu eto i adlewyrchu'r profiad a gafwyd yn ystod y pandemig.

3.14 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a daeth â'r eitem i ben.

4. Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cadernid y System a'i Pharodrwydd ar gyfer y Gaeaf

4.1 Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Nick Wood i'r cyfarfod a'i wahodd i roi trosolwg o ddull gweithredu'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran cadernid y system a pharodrwydd ar gyfer y gaeaf.

4.2 Nododd Meena Upadhyaya yr her yr oedd oedi mewn llwybrau gofal wedi'i hachosi yn y gaeaf yn 2022 a gofynnodd sut yr ymdrinnir â hyn y gaeaf hwn. Dywedodd Judith Paget fod sawl cam yn cael ei gymryd i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gyda Phartneriaethau Rhanbarthol i feithrin capasiti yn ogystal â buddsoddi mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Ychwanegodd Nick fod swyddogion yn chwilio am atebion tymor hir yn ogystal â mynd i'r afael â'r uchafbwyntiau yn y galw dros fisoedd y gaeaf.

4.3 Tynnodd Carys Williams sylw at yr angen i fod yn rhagweithiol yn y dull o ymdrin â materion gofal cymdeithasol i oedolion a nododd bwysigrwydd ymgysylltu â grwpiau'r trydydd sector a grwpiau gwirfoddol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol. Dywedodd Judith fod ymdrechion ar y gweill i weithio gydag Ymarferwyr Cyffredinol ledled Cymru i nodi cyn y gaeaf y rhai mwyaf agored i niwed a chynnig cymorth cyn i faterion waethygu. Y nod yw adeiladu ar y dull hwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

4.4 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Zakhyia Begum nad oedd y papur sy'n cyd-fynd â'r eitem yn ymdrin â sut y mae'r pwysau yn y GIG yn gallu effeithio'n anghymesur ar grwpiau a ymyleiddiwyd neu grwpiau lleiafrifol. Tynnodd y Bwrdd Cysgodol sylw at yr heriau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu wrth geisio cael at wasanaethau. Croesawodd Judith farn y Bwrdd Cysgodol, gan gydnabod yr angen i wella gwasanaethau ar gyfer y gymuned fyddar.

5. Diweddariad ar Tata Steel (TSUK)

5.1 Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Kate Hearnden i'r cyfarfod a gwahodd Kate ac Andrew Slade i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU a TSUK am gytundeb ar y cyd ynghylch cyllid tuag at ddatgarboneiddio gweithrediadau TSUK yn y DU.

5.2 Nododd Meena Upadhyaya ei syndod nad yw Cymru'n cael ei hystyried yn ganolfan ragoriaeth o ystyried yr ymchwil i gynhyrchu dur yng Nghymru. Cytunodd Andrew Slade ac awgrymodd y gallai Sefydliadau Addysg Uwch Cymru gael eu cynnwys yn fwy yn y dyfodol.

5.3 Nododd Carys Williams yr effaith ar y gymuned leol a rhagolygon pobl ifanc sy'n byw yn yr ardal a'r cyffiniau. Cytunodd Zakhyia Begum, gan nodi y bydd sgil effeithiau'r penderfyniad yn cael eu teimlo yn y gymuned gyfan ac awgrymodd y bydd angen dull llywodraeth gyfan i liniaru'r effaith ar y gymuned a phobl ifanc.

6. Unrhyw Fater Arall

6.1 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i godi unrhyw fater arall.

6.2 Rhoddodd Zakhyia Begum yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses recriwtio ar gyfer y Bwrdd Cysgodol newydd a fydd ar waith o fis Ionawr 2024 a diolchodd i Meena Upadhyaya am ei chymorth. Nododd Meena yr ymgeiswyr o safon sydd wedi gwneud cais i ymuno â'r Bwrdd Cysgodol.

6.3 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 08 Rhagfyr.