Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Diwygio’r Senedd

Papur eitem 2

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Cofrestr Risgiau Corfforaethol

Papur eitem 3

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Y Rhaglen Lywodraethu

Papur eitem 4

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

5. Diwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol

Papur eitem 5

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

6. Diweddariad ar Ariannol

Papur eitem 6

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau ariannol Llywodraeth Cymru.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan 
  • Aled Edwards 
  • Tracey Burke 
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Jo-Anne Daniels
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle 
  • Andrew Jeffreys
  • Zakhyia Begum (Shadow Board)

Hefyd yn bresennol

  • Catrin Sully
  • Piers Bisson
  • Peter McDonald
  • Owain Lloyd
  • Emma Alexander

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

Ymddiheuriadau

  • David Richards

1. Croeso

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Bwrdd a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Croesawodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i'w chyfarfod cyntaf fel Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol.

1.2 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 02 Medi.

1.3 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariadau ar nifer o feysydd.

Cyfrifon blynyddol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

1.4 Nododd y Cadeirydd waith craffu diweddar y Pwyllgor ar gyfrifon 2020/21. Caiff y pethau terfynol i'w cyflawni ar gyfer cyfrifon 2021/22 eu cyflwyno i Archwilio Cymru yn fuan, cyn y terfyn amser statudol.

Costau byw

1.5 Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn o safbwynt Cymru gyfan ac o safbwynt sefydliadol er mwyn ystyried yr effaith ar staff Llywodraeth Cymru. Mae trefniadau goruchwylio ar waith ar lefel weinidogol ac mae tîm dros dro wedi'i sefydlu er mwyn arwain y maes hwn, dan arweiniad Reg Kilpatrick.

Materion Adnoddau Dynol

1.6 Mae'r arolwg staff wedi'i ymestyn wythnos. Mae pyrth wedi'u hoedi mewn ymateb i adborth gan staff tra bo trefniadau ar gyfer camu ymlaen yn cael eu hadolygu. Defnyddir sesiynau Dewch i Drafod yn Fyw i ddadansoddi materion ac mae Judith Paget wedi arwain digwyddiad Llesiant ar gyfer staff.

Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19

1.7 Mae gwaith ar yr ymchwiliad yn parhau ac mae swyddogion yn ceisio meithrin cydberthynas waith gynhyrchiol â thîm yr Ymchwiliad Cyhoeddus. Nododd y Cadeirydd y gwaith dwys y bydd ei angen dros y misoedd nesaf i baratoi cyflwyniadau ysgrifenedig. Nododd Aled Edwards efallai na fydd yr ymchwiliad yn deall y dull o gydgynhyrchu'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru.

2. Diwygio'r Senedd

2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Andrew Slade yr eitem cyn trosglwyddo'r awenau i Piers Bisson a Peter McDonald. Dywedodd Andrew fod diwygio'r Senedd yn ddarn cymhleth o waith sy'n ganolog i'r Cytundeb Cydweithio ac a fydd yn arwain at oblygiadau mawr i Lywodraeth Cymru, y bydd angen eu hystyried mewn cynlluniau ar gyfer Llywodraeth Cymru 2025. Nododd Andrew waith gwych y tîm sy'n arwain y gwaith o Ddiwygio'r Senedd. Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau aelodau'r Bwrdd.

2.2 Nododd Ellen Donovan y cynnydd da sy'n cael ei wneud a chydnabu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r rhaglen ddiwygio. Cwestiynodd Ellen fforddiadwyedd hirdymor cynyddu maint y Senedd.

2.3 Nododd Meena Upadhyaya y cynigion ar gyfer cwotâu rhywedd a gofynnodd a fyddai dull tebyg yn cael ei fabwysiadu ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

2.4 Adleisiodd Aled Edwards y sylwadau a wnaed gan ei Gyd-gyfarwyddwyr Anweithredol fod angen i'r Senedd fod yn debycach i'r Gymru fodern. Gofynnodd Aled, os nad oes sbardunau deddfwriaethol cryf ar gael i lywio cyfansoddiad y Senedd, yna pa sbardunau polisi sydd ar gael i'w gwneud yn haws i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gael eu hethol.

2.5 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Zak ei fod yn cytuno â'r pwyntiau niferus a wnaed eisoes a thynnodd sylw at her cyflwyno'r achos i'r cyhoedd dros wario ar Senedd fwy pan fod meysydd eraill yn wynebu toriadau. Nododd y Bwrdd Cysgodol y llwyth gwaith cynyddol y bydd Senedd fwy yn ei olygu i'r staff.

2.6 Nododd y Cadeirydd yr effaith y mae targedu adnoddau at gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Diwygio'r Senedd yn ei chael ar Wasanaethau Cyfreithiol. O ran y mater yn ymwneud â chostau, nododd Andrew Jeffreys fod y ffigwr o £10 miliwn yn sylweddol is na'r hyn fydd y gost wirioneddol. Gofynnodd Tim Moss sut mae Bwrdd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r strwythur llywodraethu ar gyfer y rhaglen waith.

2.7 Diolchodd Piers i bawb am eu sylwadau. Mae trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal â Phrif Weinidog Cymru ynglŷn â sut y bydd angen i Lywodraeth Cymru addasu er mwyn bodloni gofynion Senedd fwy. O ran y cwestiwn ynghylch cwotâu rhywedd, nododd Piers y cwestiynau polisi cymhleth dan sylw sy'n crybwyll materion cyfreithiol nad ydynt wedi'u datganoli. O ran materion eraill yn ymwneud ag amrywiaeth, ychwanegodd Piers nad oes unrhyw gonsensws gwleidyddol ar hyn o bryd.

3. Cofrestr Risgiau Corfforaethol

3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Gawain roi diweddariad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, a gofynnodd am sylwadau'r Bwrdd.

3.2 O ran y risgiau sy'n gysylltiedig â'r argyfwng ynni, awgrymodd Gareth yr ymddengys fod naratif yn dod i'r amlwg mai argyfwng byrdymor ydyw, ond nododd y dylai Llywodraeth Cymru edrych gryn dipyn ymhellach i'r dyfodol.

3.3 Nododd Ellen fod y ffordd y caiff y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ei defnyddio yn bwysig iawn a chwestiynodd p'un a oes angen iddi gael ei hystyried gan bedwar pwyllgor/grŵp gwahanol. O ran prosiectau a rhaglenni mawr, gofynnodd Ellen ai rhestr ddymunol yw'r mesurau lliniaru a nodwyd, neu gyfres o gamau gweithredu a fydd yn sicrhau effaith. Nododd Meena y rôl y mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ei chwarae wrth liniaru risgiau yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Nododd Aled y risgiau sy'n gysylltiedig â grwpiau ffydd yn cyflwyno heriau cyfreithiol i benderfyniadau polisi a'r costau cysylltiedig o ran amser a chyllid.

3.4 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd bwysigrwydd defnyddio'r gofrestr risgiau o fewn y sefydliad a'i chyflwyno'n rheolaidd i'r Bwrdd.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Catrin Sully roi diweddariad ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac i aelodau'r Bwrdd wneud sylwadau.

4.2 Nododd Catrin fod sesiynau sicrwydd cyflymder wedi parhau. Yn ystod Diwrnod i Ffwrdd y Cabinet ym mis Medi, cynigiodd Prif Weinidog Cymru y dylid adolygu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i'w hailflaenoriaethu o ystyried yr heriau ariannol a wynebir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae swyddogion yn gweithio drwy ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu er mwyn nodi'r rhai yr effeithir arnynt os yw'r gyllideb am gael ei mantoli. Mae hyn yn cynnwys ystyried opsiynau i gyflawni dros gyfnod tymor hwy neu gwtogi ar uchelgeisiau. Cyhoeddir y gyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr a bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ar y Rhaglen Lywodraeth ar y dyddiad hwnnw hefyd.

4.3 Nododd Ellen bwysigrwydd cynnwys Cyfarwyddwyr Cyllid yn agos yn y trafodaethau. Ymatebodd Catrin drwy ddweud bod cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal ag arweinwyr cyllid a chydweithwyr yn y Trysorlys er mwyn sicrhau ansawdd datganiadau cyn iddynt gael eu rhannu â'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol.

4.4 Awgrymodd Jo-Anne y byddai angen diwygio'r ymarfer ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi datganiad yr hydref. Nododd Tracey yr effaith y byddai'r llwyth gwaith ychwanegol yn ei chael ar staff. Ychwanegodd Jo-Anne y bydd hefyd angen cwtogi ar weithgareddau busnes fel arfer ochr yn ochr â gweithgareddau'r Rhaglen Lywodraethu er mwyn sicrhau'r arbedion sydd eu hangen.

4.5 Gofynnodd Reg a fydd angen ailagor rhai o'r Prif Grwpiau Gwariant gan y bydd yn amhosibl mantoli'r gyllideb mewn rhai meysydd o ystyried y diffygion a ragwelir.

4.6 Nododd Andrew Jeffreys er bod Gweinidogion o bosibl wedi derbyn macro-oblygiadau'r angen i wneud toriadau, efallai nad ydynt eto wedi cynefino â'r micro-oblygiadau a'r angen i gwtogi ar feysydd gwaith yn sylweddol neu eu diddymu'n llwyr.

4.7 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, cwestiynodd Zak r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â dod â gweithgareddau i ben a nododd yr effaith y gallai'r penderfyniadau hyn ei chael ar staff.

4.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd fod lefel yr arbedion dan sylw yn fwy na'r hyn a welwyd yn ystod y cyfnod diweddar o gyni gan y llywodraeth.

5. Diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol

5.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Owain Lloyd roi diweddariad i'r Bwrdd ar gynnydd a'r camau nesaf wrth fynd ar drywydd ymrwymiad y Rhaglen Lywodraeth i ystyried diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol, gan wahodd sylwadau gan y Bwrdd.

5.2 Nododd Ellen yr heriau a gofynnodd a yw swyddogion Addysg yn hyderus y gellir cyflawni'r diwygiadau, yn arbennig o ystyried ymarfer ailflaenoriaethu'r Rhaglen Lywodraethu. Gofynnodd Gareth am ragor o wybodaeth am y cynlluniau peilot; yn arbennig sut roeddent yn cael eu cynllunio, eu cynnal a'u hariannu. Gofynnodd Meena am ragor o wybodaeth ynglŷn â nifer yr ysgolion a wnaeth gais i fod yn rhan o'r cynllun peilot ac a yw ysgolion o ardaloedd difreintiedig wedi'u cynnwys. Nododd Aled hefyd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol a gynhelir ar adegau penodol o'r flwyddyn, er enghraifft Eisteddfod yr Urdd/y Sioe Frenhinol, a gofynnodd am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae swyddogion yn cydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau y caiff y materion hyn eu hystyried.

5.3 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Zak yr effaith y gallai diwygio'r diwrnod a/neu'r flwyddyn ysgol ei chael ar staff ysgolion. Ychwanegodd Zak y byddai'r Bwrdd Cysgodol yn croesawu crynodeb o ganfyddiadau'r asesiadau effaith er mwyn llywio trafodaethau yn y dyfodol.

5.4 Ymatebodd Owain drwy nodi bod Prif Weinidog Cymru yn gadarn o'r farn bod gwyliau ysgol hir yr haf yn cael effaith anghymesur ar blant o gefndiroedd difreintiedig. O ran y cynlluniau peilot, mae'r gweithgareddau wedi'u cynllunio gan yr ysgolion eu hunain ar y cyd â phartneriaid, a chânt eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gwnaeth 13 o ysgolion gais i gymryd rhan yn y cynllun peilot, a derbyniwyd pob un ohonynt. Mae'r ysgolion wedi'u lleoli ledled Cymru, gyda rhai ohonynt mewn ardaloedd difreintiedig, ac maent yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi gwahanol. Caiff y cynlluniau peilot eu gwerthuso, a'r adroddiad ei rannu â'r Bwrdd. Os caiff unrhyw newidiadau eu gwneud i'r diwrnod/blwyddyn ysgol, byddant yn cael eu cyflwyno fesul cam dros gyfnod o amser. Nododd Owain yr amrywiaeth o ffactorau diwylliannol a seiliedig ar ffydd y mae angen eu hystyried wrth ddod i benderfyniad.

6. Diweddariad ariannol – Cyfnod 5

6.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Gawain Evans roi diweddariad ar sefyllfa ariannol Cyfnod 5. Nododd Gawain y bu mân welliannau yn sefyllfa'r alldro rhagolygol. Mae'n anhebygol y caiff Llywodraeth Cymru unrhyw gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae gwaith yn parhau i reoli'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd y Cadeirydd, er y gellir ymdopi â'r sefyllfa yn 2022/23, fod pryderon ynghylch gwydnwch ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.2 Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau'r Bwrdd. Nododd Gareth yr amgylchiadau ariannol sy'n newid yn gyflym a gofynnodd erbyn pryd y mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i fwrw ymlaen. Pwysleisiodd Gareth bwysigrwydd sicrhau bod digon o amser i graffu ar y penderfyniadau a wneir a'u herio.

6.3 Gofynnodd Ellen sut roedd timau yn ymdopi â phwysau'r cyfnod heriol hwn. Ymatebodd Judith drwy ddweud, er bod y timau yn eithriadol o brysur o fewn y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bod gwaith da ar draws grwpiau yn helpu i leihau'r baich.

6.4 Awgrymodd Aled gan y bydd y toriadau cyllidebol yn effeithio ar lawer o randdeiliaid ac y gall rhai ohonynt amau bod tanwariannau mewn rhai meysydd, bydd yn bwysig bod yn dryloyw ynghylch y penderfyniadau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu gwneud.

6.5 O ran amseriadau, awgrymodd Gawain y byddai'r opsiynau ar gyfer rheoli'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn gliriach erbyn dechrau mis Tachwedd. Ychwanegodd Gawain fod digon o gyllid ar gael yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. O ran y cwestiwn am lywodraethu, nododd Gawain y byddai cynigion yn cael eu trafod gan yr Is-bwyllgor Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol ac yna gan y Pwyllgor Gweithredol, cyn cynnal trafodaethau â'r Gweinidog Cyllid, Prif Weinidog Cymru a'r Cabinet.

6.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd bwysigrwydd sicrhau llesiant staff yn ystod y cyfnod heriol hwn.

7. Unrhyw fater arall

7.1 Awgrymwyd y byddai edrych yn fanylach ar y data yn nangosfwrdd HRMI a'r hyn y maent yn ei ddweud am y sefydliad yn eitem ddefnyddiol ar yr agenda yn y dyfodol.