Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 24 Ebrill 2026
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Andrew Goodall (Cadeirydd)
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Judith Paget
- Emma Williams
- Sioned Evans
- Tracey Burke
- Andrew Slade
- David Richards
- Dean Medcraft
- Nicola Williams
- Dom Houlihan
- Nicola Edwards
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
Yn mynychu
- Toby Mason
- Piers Bisson
- Will Whiteley
- Rachel Garside-Jones
- Pennaeth Polisi'r Senedd
- Pennaeth yr Uned Wydnwch
- Michael Kay
- Emma Spear
Ymddiheuriadau
- Jacqueline Totterdell
- Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Ysgrifenyddiaeth
- Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
1. Croeso a materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau gwrthdaro buddiannau. Nododd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal ar fformat mwy tebyg i weithdy nag
arfer, er mwyn hybu trafodaeth onest ac eang ymhlith aelodau'r bwrdd a swyddogion cymorth.
1.2 Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y sefyllfa gyllid bresennol yn ystod y flwyddyn. Nododd y Bwrdd y sefyllfa gadarnhaol a bod y prif risgiau'n cael eu deall a'u rheoli
1.3 Nododd y Bwrdd Ragolygon Gwydnwch Cymru ar gyfer mis Ebrill i fis Medi 2026.
1.4 Nododd y Cadeirydd fod y broses recriwtio ar gyfer trydydd iteriad o'r Bwrdd Cysgodol yn symud yn ei blaen yn effeithlon. Gwelwyd lefel dda o ddiddordeb gyda dros 60 o geisiadau wedi dod i law o bob rhan o'r sefydliad, o gymharu â 39 yn yr ymarfer recriwtio blaenorol.
1.5 Soniodd y Cadeirydd yn gadarnhaol am ymweliadau diweddar â lleoliadau swyddfeydd ledled Cymru a'r cyfle i ymgysylltu â staff. Bu'r trafodaethau hyn yn ddefnyddiol, nid yn unig ar gyfer parodrwydd cyn etholiad ond hefyd ar gyfer cydnabod yr hyn a gyflawnodd y sefydliad dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ehangder y gweithgarwch a wnaed o dan y Llywodraeth bresennol ac yn enwedig dros y 18 mis diwethaf. Roedd sesiwn 'Dewch i Drafod yn Fyw' ddiweddar gydag oddeutu 1,800 o staff wedi canolbwyntio ar ddiolch i gydweithwyr, a chydnabod yr hyn a gyflawnwyd. Nododd y Bwrdd fod rôl Llywodraeth Cymru nid yn unig yn ymwneud â gweithredu Rhaglen Lywodraethu, ond hefyd â chyflawni cyfrifoldebau statudol a gweithredol craidd.
1.6 Nododd y Bwrdd canlyniad llwyddiannus her cymhorthdal maes awyr Caerdydd, gan dynnu sylw at waith y timau cyfreithiol a pholisi.
1.7 Soniodd y Cadeirydd am yr ansefydlogrwydd rhyngwladol parhaus, yn enwedig yn y Dwyrain Canol. Mae'r sefyllfa'n parhau’n ansicr iawn ac yn parhau i fod â goblygiadau. Dywedodd Aled Edwards ei bod yn ymddangos bod rhwydweithiau rhyng-ffydd presennol yng Nghymru yn helpu cydlyniant cymdeithasol.
2. Sgyrsiau mynediad
2.1 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar y trafodaethau mynediad sydd wedi’u cynnal gydag arweinwyr sawl un o'r pleidiau gwleidyddol sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd. Disgrifiodd y Cadeirydd y sgyrsiau fel rhai adeiladol, proffesiynol a defnyddiol wrth ddatblygu cysylltiadau â phleidiau, egluro eu disgwyliadau, ac esbonio mwy am rôl y gwasanaeth sifil a Llywodraeth Cymru. Roedd sawl thema wedi dod i'r amlwg yn gyson. Nododd y Cadeirydd fod gan bleidiau ddiddordeb mewn pa mor gyflym y gallent symud ymlaen i flaenoriaethau, pa gyfyngiadau ymarferol a chyllidebol y byddent yn eu hwynebu, a sut y gellid troi uchelgeisiau deddfwriaethol yn rhaglenni realistig y gellid eu cyflawni. Felly, roedd trafodaethau mynediad wedi helpu i nodi pwysau a allai godi'n
gynnar iawn ar ôl yr etholiad, a’r mannau lle y byddai angen i Lywodraeth Cymru ymateb yn gyflym ac mewn modd realistig.
3. Y System Etholiadol Newydd
3.1 Rhoddodd Piers Bisson, Will Whitely a Phennaeth Polisi'r Senedd gyflwyniad i'r Bwrdd ar y system etholiadol newydd. Amlinellodd y cyflwyniad gefndir cyfansoddiadol a gwleidyddol y system newydd cyn mynd â'r Bwrdd trwy enghraifft ymarferol o ddull dyrannu seddi d'Hondt.
3.2 Fe wnaeth y Bwrdd gwestiynu faint o ddealltwriaeth sydd gan y cyhoedd o'r system newydd, gan nodi'r risg y gallai canlyniadau agos greu tensiwn neu honiadau o annhegwch. Trafodwyd yr her i ymgeiswyr annibynnol o ran ennill seddi o dan y system oherwydd graddfa'r etholaethau a'r trothwyon pleidleisio sydd eu hangen.
4. Diogelwch a risgiau sy'n gysylltiedig ag etholiadau'r Senedd
4.1 Fe wnaeth Michael Kay a Phennaeth yr Uned Wydnwch friffio'r Bwrdd am ddiogelwch a risgiau sy'n gysylltiedig ag etholiadau'r Senedd.
4.2 Disgrifiwyd y sefyllfa ddiogelwch bresennol fel un sefydlog, heb unrhyw arwydd uniongyrchol o aflonyddwch mawr. Fodd bynnag, roedd nifer o risgiau'n cael eu monitro'n effeithiol. Cafwyd rhai adroddiadau i'r heddlu o aflonyddu ar ymgeiswyr, yn enwedig ar-lein. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro digwyddiadau seiber a'r sefyllfa ryngwladol ehangach, yn enwedig ei goblygiadau bosibl i drefn gyhoeddus a thensiynau cymunedol.
4.3 Dywedwyd wrth y Bwrdd fod trefniadau cydweithio agos ar waith ar draws timau cyfathrebu, diogelwch cymunedol, diwygio etholiadol, a gwytnwch yn Llywodraeth Cymru, ac ategir y cysylltiadau hyn gan gysylltiadau cryf â Swyddfa'r Cabinet, y Swyddfa Gartref, a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
5. Diweddariad Pleidleisio
5.1 Rhoddodd Toby Mason drosolwg o'r polau pleidleisio diweddar, gyda rhybuddion helaeth. Mae'r polau yn defnyddio methodolegau gwahanol, mae'r system etholiadol newydd yn ychwanegu ansicrwydd pellach, a gall newidiadau bach iawn yn y bleidlais gael effaith sylweddol.
5.2 Trafododd y Bwrdd rôl Llywodraeth Cymru wrth gefnogi unrhyw drafodaethau clymblaid neu gydweithredu. Eglurwyd y gall y gwasanaeth sifil, ar gais a chyda chytundeb y Prif Weinidog, ddarparu llety, cyngor cyfansoddiadol a gweithdrefnol ffeithiol, a gwybodaeth bolisi i bleidiau yn ystod trafodaethau, ond na chaniateir iddo frocera cytundebau na dod yn rhan o drafodaethau gwleidyddol. Rhaid trin yr holl bleidiau perthnasol mewn modd cyfartal. Y mater allweddol o ran Llywodraeth Cymru felly yw bod yn rhaid bod yn barod i ddarparu’r cymorth priodol, ond ar yr un pryd osgoi croesi'r ffin gyfansoddiadol rhwng cyngor swyddogol a thrafodaethau gwleidyddol.
6. Y pythefnos cyntaf ar ôl yr etholiad
6.1 Amlinellodd Piers Bisson a Rachel Garside-Jones y broses a fyddai'n digwydd yn union ar ôl yr etholiad. Ar ôl y cyfrif a'r datganiadau ar y dydd Gwener, byddai angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r llw neu'r cadarnhad angenrheidiol, a bodloni unrhyw wiriadau anghymhwyso cyn cymryd eu seddi yn ffurfiol. Disgwylir i gyfarfod cyntaf y Senedd gael ei gynnal ar y dydd Mercher canlynol, ar ôl i'r holl Aelodau dyngu llw a'r cyfnod rhybudd gofynnol fynd heibio. Busnes cyntaf y cyfarfod hwnnw fyddai ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Unwaith y bydd Llywydd newydd wedi ei ethol, gall wedyn wahodd enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog. Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidogion presennol yn aros yn eu swyddi yn y cyfamser, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu hail-ethol, oni bai eu bod yn ymddiswyddo. Mae'r parhad hwn yn bwysig i weithrediad y llywodraeth.
6.2 Esboniodd Rachel Garside-Jones fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod ar unwaith ar gyfer mynd drwy broses benodi ffurfiol, proses tyngu llw, a ffurfio tîm Gweinidogol yn gyflym. Mae hynny'n cynnwys cyfathrebu â'r Osgordd Frenhinol, cadarnhau penodiadau gweinidogol, cytuno ar bortffolios, a logisteg ymarferol darparu cymorth swyddfa breifat. Mae'r paratoadau swyddfa breifat ac ymsefydlu presennol wedi bod ar y gweill ers peth amser, gyda deunydd briffio wedi'i gomisiynu o bob rhan o'r sefydliad. Yn ogystal â chyfleu proses, nod y rhaglen ymsefydlu yw grymuso'r Gweinidogion sy'n dod i mewn, gosod y tôn cywir, a'u helpu i ddeall sut i weithio'n effeithiol gyda'r gwasanaeth sifil.
6.3 Trafododd y Bwrdd sut mae'n rhaid i'r gwaith ailosod o fewn y sefydliad gysylltu'n glir â'r rhaglen ymsefydlu i Weinidogion a chynllunio proses bontio ehangach, er mwyn i'r sefydliad allu gwella ei allu i ymateb a'i eglurder.
7. Briffio ynghylch Cymru yn 2026
7.1 Darparodd Toby Mason ddadansoddiad 'Cyflwr Cymru 2026', a oedd wedi ei ddatblygu i helpu Gweinidogion a swyddogion i ddeall yn well yr amgylchedd cymdeithasol, gwleidyddol, a chyfathrebu y bydd y Llywodraeth nesaf yn gweithredu ynddo.
8. Unrhyw fater arall
8.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
