Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 24 Hydref 2025
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Andrew Goodall (Cadeirydd)
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Andrew Slade
- Judith Paget
- Tracey Burke
- Emma Williams
- Sioned Evans
- Jacqueline Totterdell
- Nia James
- Dom Houlihan
- Zakhyia Begum, Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
- Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Yn mynychu
- Jason Thomas
- Tim Howard
- Kara Richards
Ymddiheuriadau
- Dean Medcraft
- David Richards
- Mutale Merrill
Ysgrifenyddiaeth
- Permanent Secretary’s Office
1. Croeso a materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cymeradwywyd nodiadau 12 Medi.
1.2 Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Bwrdd fod Aled Edwards wedi nodi gwrthdaro buddiannau mewn perthynas ag Eitem 2 ar yr agenda ac y byddai'n gadael y cyfarfod ar gyfer yr eitem honno. Ni nodwyd unrhyw wrthdaro arall rhwng buddiannau.
1.3 Nododd y Bwrdd ganlyniad is-etholiad Caerffili a gynhaliwyd ar 23 Hydref. Gofynnodd Mike Usher sut y bydd newidiadau i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026 yn cael eu cyfleu i bleidleiswyr. Tynnodd Mike sylw hefyd at bwysigrwydd cyfathrebu clir am gyfrifoldebau datganoledig.
1.4 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ddisgwyliadau'r Prif Weinidog o ran cynnydd y gwaith cyflawni am weddill Tymor y Senedd.
1.5 Nododd y Cadeirydd hynt y gwaith ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026 – 2027.
1.6 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 gan nodi'r sesiwn dystiolaeth gan y cyn Brif Weinidog a'r amserlen ar gyfer cyhoeddi ac adroddiad Modiwl 2 ac ymateb iddo. Disgwylir i'r ymateb gael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ac felly gall Llywodraeth Cymru ddewis gohirio'r ymateb neu gyhoeddi ymateb interim.
1.7 Nododd y Cadeirydd y cynnydd o ran datblygu Cynllun Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Gymru a ffocws yr ymgyrch Un Peth Mawr ar gyfer y Gwasanaeth Sifil eleni ar AI i Bawb. Tynnodd Jacquline Totterdell sylw at bwysigrwydd bod yn ofalus o ran defnyddio AI i drin data personol a'r risgiau diogelwch data wrth ddefnyddio offer AI 'oddi ar y silff'. Tynnodd cynrychiolydd TUS a Sioned Evans sylw at bwysigrwydd uwchsgilio'r gweithlu i roi'r hyder i staff fanteisio i'r eithaf ar fudd AI.
1.8 Nododd y Cadeirydd fod Arolwg Pobl 2025 wedi cau ar gyfer ymatebion a bod dadansoddiad ar y gweill. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd ym mis Ionawr 2026.
2. Fferm Gilestone
2.1 Gadawodd Aled Edwards y cyfarfod ar gyfer Eitem 2 oherwydd gwrthdaro buddiannau.
2.2 Croesawodd y Cadeirydd Jason Thomas a Tim Howard i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar y sefyllfa bresennol yn ymwneud â Fferm Gilestone ac ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPAC) ar gaffael Fferm Gilestone. Gofynnwyd i'r Bwrdd nodi bod yr ased bellach yn cael ei ystyried yn ddiangen o safbwynt gofynion datblygu economaidd ac y bydd swyddogion yn awr, yn unol â'r canllawiau cyfredol ar waredu asedau, yn ymchwilio i weld a ellid defnyddio'r safle i gyflawni amcanion polisi eraill Llywodraeth Cymru, wrth i'r gwaith fynd rhagddo i ganfod ateb hirdymor ar gyfer y safle a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n briodol yn y cyfamser.
2.3 Nododd Tim Howard y pwyntiau a godwyd gan y Bwrdd Cysgodol ar gynnal asesiadau dichonoldeb ac asesiadau effaith amgylcheddol a nododd fod rhywfaint o waith i asesu'r effaith amgylcheddol wedi'i wneud cyn y pryniant. Tynnodd Tim sylw at yr heriau o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod negodiadau masnachol.
2.4 Holodd Carys Williams sut y mae staff wedi ymdopi â'r craffu cyhoeddus dwys mewn perthynas â'r pryniant. Nododd Jason fod hyn wedi cael effaith ar lesiant staff ond bod y tîm wedi dangos gwydnwch sylweddol ac wedi parhau i gyflawni eu dyletswyddau yn broffesiynol iawn.
2.5 Gan ystyried Argymhelliad 7 a wnaed gan PAPAC, gofynnodd Mike Usher a yw Llywodraeth Cymru'n gwneud digon o ddefnydd o'r arbenigedd mewnol sydd ganddi mewn perthynas ag eiddo. Nododd Tim fod nifer o dimau arbenigol sy'n delio ag eiddo ac amlinellodd rôl yr Is-adran Lleoedd o ran cydgysylltu canllawiau corfforaethol ar gaffael, rheoli a gwaredu asedau.
2.6 Nododd Sioned Evans bwysigrwydd rheolaeth gryf o ran rheoli prosiectau, yn enwedig ar gyfer prosiectau â risg uwch, a'r angen am strategaeth ymadael glir.
2.7 Gofynnodd Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sut y mae'r pum ffordd allweddol o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael eu defnyddio yng ngham nesaf y prosiect ac a oes unrhyw dystiolaeth ryngwladol y gall Llywodraeth Cymru ddysgu ohoni.
2.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd fod hyn yn debygol o barhau i fod yn faes y bydd PAPAC yn rhoi sylw iddo. Cydnabu'r Cadeirydd yr effaith y mae proffil uchel y pryniant wedi'i chael ar y staff a oedd ynghlwm wrtho, a tynnodd sylw at yr angen i gefnogi staff. Nododd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect yn cael ei gynnwys mewn trafodaeth ar barodrwydd y sefydliad i dderbyn risg.
3. LlC2025: Blaenoriaethau Parodrwydd am Newid
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Kara Richards i'r cyfarfod a gwahoddodd Sioned Evans a Kara i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am LlC2025, gan drafod y cynnydd hyd yma a sôn am y blaenoriaethau dros y 7 mis nesaf.
3.2 Mae cam tri LlC2025 yn canolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth: paratoi ar gyfer Diwygio'r Senedd, gwella prosesau, systemau a data, creu gweithle gwell i bawb, galluogi newid a meithrin gwelliant parhaus, ysgogi effeithlonrwydd, llywodraethiant a grymuso, a gwneud y gorau o'n hystad. Mae pob un o'r meysydd blaenoriaeth hyn yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr ac yn cael ei ategu gan ymgysylltu parhaus â staff.
3.3 Soniodd Sioned am nifer o lwyddiannau ddiweddar, gan gynnwys gostyngiad o 70% mewn amseroedd aros recriwtio, gyda gwelliannau pellach ar y gweill, cyflwyno Desktop 2.0 i dros 95% o'r sefydliad a gwerth £4 miliwn o gostau effeithlonrwydd blynyddol drwy fewnoli gwasanaethau cyfreithiol.
3.4 Mae'r blaenoriaethau ar gyfer y 7 mis nesaf yn canolbwyntio ar y camau gweithredu a fydd yn cael yr effaith fwyaf ac yn sicrhau bod y sefydliad yn barod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Mae'r rhain yn cynnwys paratoi swyddfeydd preifat y gweinidogion, a phrosesau busnes y llywodraeth ar gyfer tîm gweinidogol a allai fod yn fwy, gwella systemau corfforaethol, ehangu ac ymgorffori'r defnydd o AI a chryfhau cynlluniau datblygu i gryfhau'r llif talent o fewn y sefydliad, lansio rhaglen hyfforddi a dysgu newydd ar gyfer arweinwyr a chyd-greu Siarter Tîm newydd Llywodraeth Cymru.
3.5 Gofynnodd Jacqueline Totterdell a fyddai'r Siarter Tîm hefyd yn cynnwys ymddygiadau ac awgrymodd lunio cofrestr o aelodau staff sy'n barod i hyfforddi cydweithwyr o fewn eu hadrannau eu hunain ac ar draws adrannau.
3.6 Tynnodd Aled Edwards sylw at bwysigrwydd sicrhau bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cynnal a bod yr effeithiau'n cael eu holrhain yn y meysydd dan sylw.
3.7 Croesawodd Mike Usher y diweddariad gan ddweud bod ei fod wedi'i galonogi gan y ffordd roedd pethau'n symud. Pwysleisiodd Mike bwysigrwydd cynnal momentwm dros y misoedd nesaf.
3.8 Awgrymodd Carys Williams y dylid canolbwyntio mwy ar gysondeb ar draws y sefydliad a datblygu dull gweithredu Un Llywodraeth Cymru ar gyfer materion fel rheoli prosiectau.
3.9 Nododd Judith Paget ac Emma Williams fod tua chwarter y gweithlu presennol wedi ymuno â'r sefydliad ers 2021 ac na fyddant wedi profi bod yn rhan o Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl yr etholiad. Cytunodd Tracey Burke, gan nodi - er gwaethaf y bwlch gwybodaeth - bod staff ar gael sydd â'r profiad angenrheidiol.
3.10 Tynnodd cynrychiolydd TUS sylw at bwysigrwydd cefnogi staff a sicrhau eu bod yn ymwneud â datblygiadau.
3.11 Adroddodd Nia James ac Emma Williams am drafodaethau a gafwyd am newid a rheoli newid mewn diwrnodau angori gyda'u timau. Nododd y ddwy y cafwyd trafodaethau adeiladol ac egnïol yn y digwyddiadau. Tynnodd Emma sylw at y rôl arwain sydd gan gydweithwyr Gradd 6 a 7 yn y broses newid sefydliadol.
3.12 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd y pwyntiau a godwyd gan y Bwrdd Cysgodol ar sicrhau bod y cyfathrebu a wneir â staff yn cydnabod yr heriau parhaus a'r materion sydd eto i'w datrys.
4. Diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol sy’n gyfrifol am Strategaeth Llywodraeth Cymru
4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Judith Paget i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am waith yr Uned Strategaeth sydd newydd ei sefydlu.
4.2 Mae gan yr Uned Strategaeth gyfrifoldeb am chwe maes, sef darparu gallu strategol i Lywodraeth Cymru, gwneud gwaith sganio'r gorwel a meddwl am y dyfodol hirdymor, darparu cynllun strategol ar gyfer y sefydliad, paratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd a Diwygio'r Senedd, hybu dulliau strategol a blaenoriaethu adnoddau a meithrin gallu ar draws y proffesiwn polisi.
4.3 Nododd Judith fod Is-bwyllgor Paratoi ar gyfer yr Etholiad wedi'i sefydlu a'i fod yn is-bwyllgor i'r Pwyllgor Gwaith (ExCo). Amlinellodd Judith ffrydiau gwaith yr is-bwyllgor a rhoddodd ddiweddariad ar ei gyfarfod diwethaf ar 21 Hydref.
4.4 Gofynnodd Carys Williams sut y gall aelodau'r Bwrdd gefnogi staff i baratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd. Rhoddodd Judith drosolwg o'r canllawiau sy'n cael eu paratoi ar gyfer staff a nododd fod ei thîm yn ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban sy'n paratoi ar gyfer etholiadau yn 2026 yn yr un modd.
4.5 Nododd Mike Usher y gwahanol elfennau o weithgarwch sydd ar y gweill, gan gynnwys gweithgareddau newydd, ac awgrymodd lunio crynodeb un dudalen ar gyfer y staff, yn esbonio sut y mae'r holl elfennau gwahanol yn cysylltu â'i gilydd.
4.6 Nododd Aled Edwards ei bod yn debygol na fydd gan nifer fawr o aelodau'r Senedd ar ôl yr etholiad brofiad o lywodraeth a chyfeiriodd at effaith hynny ar staff.
4.7 Gofynnodd Jacqueline Totterdell a fydd swyddogion yn datblygu opsiynau strategol cyn i'r llywodraeth newydd ddod i rym. Dywedodd Judith bod swyddogion yn edrych ar y cynigion polisi presennol ac y bwriedir gwneud gwaith manylach unwaith y cyhoeddir maniffestos.
4.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau ac atgoffodd y Bwrdd mai rôl y Gwasanaeth Sifil yw cefnogi llywodraeth y dydd i gyflawni ei hamcanion polisi, gan gyflawni ei ddyletswyddau statudol yr un pryd.
5. Unrhyw fater arall a chloi
5.1 Nododd Carys Williams ei bod wedi rhannu rhai awgrymiadau ar gyfer eitemau rhaglen cyfarfodydd yn y dyfodol gyda’r Swyddfa Gynulliad. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 12 Rhagfyr.
