Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Andrew Goodall (Cadeirydd)
  • Carys Williams
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Andrew Slade
  • Judith Paget
  • Sioned Evans
  • Tracey Burke
  • David Richards
  • Dom Houlihan
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur

Yn mynychu

  • Uwch Brif Swyddog Ymchwil - Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
  • Prif Swyddog Ymchwil - Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
  • Pennaeth Diwylliant ac Ymgysylltu

Ymddiheuriadau

  • Emma Williams
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Mutale Merrill

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan nodi’r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cydsyniodd y Bwrdd i’r defnydd o Microsoft Copilot. Cytunwyd ar gofnodion 20 Mehefin. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda. 

1.2 Nododd y Cadeirydd wrandawiadau Modiwl 6 yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19 ar y sector gofal, gan dynnu sylw at gyfranogiad staff Llywodraeth Cymru. 

1.3 Nododd y Cadeirydd yr ymateb pragmataidd gan y sector i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy diwygiedig, a diolchodd i’r staff a oedd wedi helpu i ddatblygu’r cynllun a’r staff a oedd yn bresennol yn y sioe er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid. Adleisiwyd y sylwadau hyn gan Tracey Burke a chyfeiriodd hefyd at y sioeau amaethyddol eraill ledled Cymru y bydd staff yn mynd iddynt dros fisoedd yr haf. 

1.4 Rhoddodd Andrew Slade ddiweddariad i’r Bwrdd ar yr her gyfreithiol gan Faes Awyr Bryste mewn perthynas â chymorth ariannol Llywodraeth Cymru i Faes Awyr Caerdydd. 

1.5 Nododd y Cadeirydd y paratoadau ar gyfer Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a gynhelir ym mis Rhagfyr 2025. 

1.6 Nododd y Cadeirydd gyhoeddiad diweddar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar bryniant Fferm Gilestone gan Lywodraeth Cymru. 

1.7 Nododd y Cadeirydd y sylw diweddar yn y cyfryngau am weithio hybrid, presenoldeb mewn swyddfeydd ac ystad Llywodraeth Cymru. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd nad yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithio hybrid wedi newid a nododd bwysigrwydd adolygu ystad Llywodraeth Cymru yn rheolaidd fel rhan o’r agenda ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus mewn modd cyfrifol. Awgrymodd Mike Usher gynnwys sylwebaeth ar ystad Llywodraeth Cymru yn y naratif sy’n cyd-fynd â chyfrifon blynyddol 2024-2025. 

1.8 Nododd y Cadeirydd fod Jacqueline Totterdell wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

2. Y Cerdyn Sgorio Cytbwys: Adroddiad Blynyddol 2024/25

2.1 Cyflwynodd yr Uwch Brif Swyddog Ymchwil a’r Prif Swyddog Ymchwil - Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol adroddiad blynyddol y Cerdyn Sgorio Cytbwys. Trafodwyd yn y cyflwyniad y perfformiad yn erbyn y pedwar maes a nodwyd i’w gwella gan y Pwyllgor Gweithredol. Ystyriwyd hefyd yn y cyflwyniad y perfformiad ar feysydd o bwysigrwydd strategol sefydliadol gan gynnwys arweinyddiaeth, cysoni adnoddau â’r Blaenoriaethau Gweinidogol, gwerthoedd Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Pum ffordd o weithio, y Gymraeg, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a manteision Cam 2 LlC2025. 

2.2 Nododd y Bwrdd nifer yr aelodau o’r Uwch Wasanaeth Sifil nad ydynt hyd yma wedi gosod amcanion perfformiad personol gwrth-hiliol ar gyfer 2025/26 yn unol ag ymrwymiadau arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Holodd Carys Williams pwy sy’n atebol am sicrhau y cydymffurfir â’r ymrwymiad hwn. Cynghorodd Tracey Burke fod llawer o aelodau o’r Uwch Wasanaeth Sifil yn dal i fod yn y broses o gytuno ar eu hamcanion ar gyfer 2025/26. Nododd Andrew Slade bwysigrwydd dwyn y Cyfarwyddwyr i gyfrif am gydymffurfio â’r ymrwymiad. Awgrymodd Carys a Chyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol y dylai pob aelod o staff gael amcan perfformiad gwrth-hiliol. Nododd y Cadeirydd fod tua 1,200 o aelodau o staff wedi ymuno â’r digwyddiad ar-lein i dderbyn yr Adroddiad Cwadrad Coch. 

2.3 Nododd Mike Usher y gostyngiad mewn perfformiad taliadau dros nifer o flynyddoedd a’r perfformiad presennol yn erbyn y gofynion cyflawni prosiectau mawr gorfodol. Holodd Mike a yw’r sefydliad yn rhy oddefgar o achosion o beidio â chydymffurfio. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid dysgu o’r arferion gorau mewn llywodraethau datganoledig eraill. 

2.4 Croesawodd Aled Edwards welliannau mewn perthynas â’r bwlch cyflog rhywedd ac, er gwaetha’r cynnydd bach yn 2024, y duedd gyffredinol o ostyngiad dros amser o ran y bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd. Gofynnodd Aled sut y gall y Bwrdd olrhain y bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd. Dywedodd Dom Houlihan fod hyn yn rhywbeth y mae ei dîm yn ei olrhain a nododd fod Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar y blaen i Wasanaeth Sifil y DU ar y materion hyn. Croesawodd Aled hefyd y cynnydd bach mewn staff â sgiliau iaith Gymraeg sylfaenol. 

2.5 Awgrymodd yr Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gynnal ymarfer rhagolwg i symud y pwyslais i fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol. 

2.6 O ran cyfraddau absenoldeb salwch, dywedodd Dom fod ymdrechion ar y gweill i wella cywirdeb wrth adrodd ac i ymyrryd yn gynnar. Cefnogi staff yn ôl i’r gwaith gan reoli achosion hirdymor mewn modd mwy rhagweithiol yw’r dull a ddilynir. 

2.7 Wrth adlewyrchu ar gynnydd yn erbyn y pedwar ardal a nodwyd fel blaenoriaethau ar gyfer gwelliant, gofynnodd Carys am ganlyniadau diffyg gwelliant. 

2.8 Nododd y bwrdd fod angen trefniadau gwell ar gyfer integreiddio ac olrhain asesiadau effaith, yn enwedig yng ngoleuni craffu allanol ac amlygiad cyfreithiol. 

2.9 Trafododd y Bwrdd sicrhau bod y cerdyn sgorio cytbwys ar gael yn ehangach o fewn y sefydliad i gynyddu tryloywder ac ymgysylltu.

3. Diweddariad ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i roi’r diweddariad a ddarperir bob dwy flynedd i’r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). 

3.2 Yn ei ddiweddariad, tynnodd Dom sylw at yr uchelgeisiau EDI sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Pobl newydd, y sgoriau ymgysylltu gwell ymhlith staff ethnig leiafrifol a adroddwyd yn Arolwg Pobl 2024 a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i symleiddio’r trefniadau adrodd am ymddygiad amhriodol. Nododd Dom hefyd fod y bwlch cyflog rhywedd yn parhau i leihau, ond mae’r bylchau o ran ethnigrwydd ac anabledd yn parhau yn sgil tangynrychiolaeth mewn rolau uwch. Tynnodd Dom sylw at ganfyddiadau adolygiad y Cwadrant Coch o bolisïau a phrosesau AD gan nodi bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod polisïau recriwtio yn gadarn, ond bod y gweithredu yn gallu bod yn anghyson. Roedd yr adolygiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen i wella ansawdd data, i sicrhau eglurder ynghylch llywodraethiant EDI ac i wneud newidiadau o ran recriwtio a rheoli perfformiad. 

3.3 Gofynnodd Carys Williams beth arall y gellid ei wneud i hybu cynghreiriaeth ymhlith staff. Dywedodd Dom fod gan bob rhwydwaith staff gynghreiriaid ymhlith eu haelodau a chytunodd y gellid gwneud rhagor i annog cydweithwyr i gynnig eu hunain i fod yn gynghreiriad. 

3.4 Awgrymodd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol y dylid gwahodd cydweithwyr ethnig leiafrifol i helpu cynlluniau peilot mewn perthynas â chynllunio olyniaeth ac adolygu perfformiad. Tynnodd y Cyd-gadeirydd sylw hefyd at yr angen i barhau i fuddsoddi mewn systemau casglu data presennol i fod yn barod ar gyfer y defnydd cynyddol o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). 

3.5 Atgoffodd Aled Edwards y Bwrdd fod cydraddoldeb yn ganolog i’r setliad datganoledig a chroesawodd ymdrechion Dom a chydweithwyr ar EDI yng nghyd-destun amgylchedd allanol a all fod yn heriol. 

3.6 Nododd Mike Usher y rôl arweinyddiaeth sydd gan Lywodraeth Cymru o ran EDI yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

3.7 Croesawodd Judith Paget y cyflwyniad a’r pwyslais ar hyrwyddo parch ymhlith cydweithwyr yn y Cynllun Pobl a thynnodd sylw at bwysigrwydd olrhain cynnydd dros amser.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol i roi diweddariad am y cynnydd yn erbyn ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu yn eu meysydd portffolio. 

4.2 Nododd Tracey Burke fod y targed i adeiladu 20,000 o dai carbon isel yn agos at gael ei wireddu, ond bydd oedi tan y tu hwnt i dymor y llywodraeth cyn y cyflawnir y targed mewn gwirionedd. Dywedodd Tracey fod ymrwymiadau deddfwriaethol y mae ei Grŵp yn arwain arnynt ar y trywydd iawn ond maent yn ddibynnol ar basio deddfwriaeth yn amserol ac ar is-ddeddfwriaeth sylweddol – mae risgiau yn parhau os bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni yn llithro. Nododd Carys Williams y cynnydd a wnaed a gofynnodd i Tracey a oedd unrhyw un o'r ymrwymiadau oedd heb eu cwblhau yn arbennig o heriol i'w cyflawni. Yn ymateb, nododd Tracey yr heriau ynghylch yr ymrwymiad i ddynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Cymru. 

4.3 Dywedodd Andrew Slade, o’r 76 o ymrwymiadau y mae ei Grŵp yn arwain arnynt, fod y mwyafrif ar y trywydd iawn ond mae 4 ar statws coch ac 8 ar statws melyn. Deddfwriaeth ar gyfer moderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat, rhaglen y Cymoedd Technoleg, yr uchelgeisiau ar gyfer fflyd bysiau/tacsis di-allyriadau a datganoli rheolaeth Ystad y Goron yng Nghymru yw’r pedwar ymrwymiad sydd ar statws coch. Mae’r ymrwymiadau ar statws melyn yn cynnwys cyrraedd y targed o 100,000 o brentisiaethau, sefydlu banc cymunedol, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a datblygu’r strategaeth porthladdoedd a chludo nwyddau. Nododd Andrew fod angen cyfathrebu clir ynghylch yr hyn y gellir yn realistig ei gyflawni erbyn diwedd tymor y chweched Senedd ac ymhle y mae’r risgiau yn parhau. 

4.4 Nododd Judith Paget, o’r 47 o ymrwymiadau y mae ei Grŵp yn arwain arnynt, fod 34 wedi eu cwblhau ac mae 10 arall yn wyrdd a 3 yn felyn. O ran y tri ymrwymiad sydd wedi eu graddio yn felyn, mae’r cynnydd ar yr ymrwymiad i ddarparu triniaethau a ohiriwyd gan y pandemig yn gadarn. At hynny, mae’r gwaith yn parhau o ran ehangu’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn raddol i blant dwy oed a disgwylir y bydd 80% o blant dwy oed wedi cael cynnig lle erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i wella mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Fodd bynnag, mae heriau yn parhau o ran diwygio contractau deintyddol ac o ran y negodiadau sy’n parhau â meddygon teulu ynglŷn â chyllid. 

4.5 Rhoddodd Sioned Evans ddiweddariad ar yr ymrwymiadau sy’n dod o fewn maes cyfrifoldeb y Prif Swyddog Gweithredu. Dywedodd Sioned fod y gwaith ar y strategaeth ddigidol i Gymru yn gwneud cynnydd da, gyda phwyslais cynyddol ar AI. Mae’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) wedi cael ei basio ac mae’n aros yn awr i gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae cynnydd wedi ei wneud o ran gweithredu targedau ynghylch Cyllidebu ar sail Rhywedd ac ar weithredu’r strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru. Nododd Sioned fod gan lawer o’r ymrwymiadau “gynffon” o anghenion cyflawni ac adnoddau parhaus wedi i’r ymrwymiad ffurfiol gael ei fodloni, sy’n galw am sylw parhaus. 

4.6 Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol am eu diweddariadau a nododd y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud yn erbyn ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

5. Unrhyw fater arall a chloi

5.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 12 Medi