Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion Cyfredol

Llafar

Gweld cofnodion.

2. Deallusrwydd Artiffisial yn Llywodraeth Cymru

[Papur eitem 2]

3. Arolwg Pobl 2023

4. Cynllunio'r Gyllideb a'r diweddaraf am LlC2025

5. Diweddariad ar Gyllid

6. Unrhyw Fater Arall

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd) 
  • Carys Williams 
  • Gareth Lynn 
  • Aled Edwards 
  • Meena Upadhyaya 
  • Tim Moss 
  • Sioned Rees 
  • Tracey Burke 
  • Andrew Slade 
  • Judith Paget 
  • David Richards 
  • Amelia John 
  • Gawain Evans 
  • Nia James 
  • Dom Houlihan 
  • Rhiannon Lloyd-Williams 

Yn mynychu 

  • Mike Usher 
  • Lou Bushell-Bauers 
  • Angharad Reakes 
  • Natalie Pearson 

Ysgrifenyddiaeth 

  • Alison Rees 

Ymddiheuriadau 

  • Des Clifford 
  • Jessica Ward 

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Croesawodd y Cadeirydd Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg a Nia James Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Dros Dro i'w cyfarfod Bwrdd cyntaf ers dechrau ar eu swyddi newydd.

1.2 Yn Gyd-gadeiryddion newydd y Bwrdd Cysgodol, croesawodd y Cadeirydd Rhiannon Lloyd-Williams a Lou Bushel-Bauers i'w cyfarfod Bwrdd cyntaf.

1.3 Nododd y Cadeirydd mai'r cyfarfod heddiw oedd cyfarfod Bwrdd olaf yr Athro Meena Upadhyaya cyn iddi gamu i lawr o'i rôl yn Gyfarwyddwr Anweithredol. Diolchodd y Cadeirydd i Meena am ei holl gefnogaeth a chymorth i'r Bwrdd.

1.4 Yn dilyn yr ymgyrch recriwtio ddiweddar, nododd y Cadeirydd fod Mike Usher a Mutale Merrill wedi'u penodi yn Gyfarwyddwyr Anweithredol, ac y byddant yn ymuno â'r Bwrdd cyn bo hir. Roedd Mike Usher yn arsylwi ar y cyfarfod heddiw cyn dechrau ar ei swydd.

1.5 Nododd y Cadeirydd fod adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi'i gyhoeddi.

1.6 Cafodd Andrew Slade ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Tata Steel i gau'r ddwy ffwrnais chwyth ar ei safle ym Mhort Talbot. Nododd Andrew yr effaith ganlyniadol y bydd penderfyniad Tata yn ei chael ar draws cymunedau lleol.

1.7 Cafodd Judith Paget ei gwahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r GIG yng Nghymru. Nododd Judith y pwysau yr oedd y GIG wedi'i wynebu yn ystod gaeaf 2023. Mae'r gweithredu diwydiannol gan feddygon iau wedi tarfu ar drefniadau yn sylweddol gyda llawer o weithgarwch gofal a gynlluniwyd wedi'i ganslo. Mae meddygon iau yn debygol o weithredu ymhellach ym mis Chwefror drwy gynnal streiciau pellach.

1.8 Nododd y Cadeirydd ymdrechion timau ar draws y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wrth baratoi ar gyfer stormydd y gaeaf ac ymateb iddynt.

2. Deallusrwydd Artiffisial yn Llywodraeth Cymru

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Glyn Jones, y Prif Swyddog Digidol i'r cyfarfod, a chafodd ei wahodd i drafod datblygiad cyflym offer a thechnolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI), y manteision a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag AI, a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag AI yn weithredol, yn gyllidol ac yn ddiwylliannol. 

2.2 Nododd Glyn fod sawl tîm ar draws Llywodraeth Cymru wedi treialu'r defnydd o Microsoft copilot a'u bod wedi nodi manteision o ran cynhyrchiant. Nododd Glyn botensial AI i wella gwasanaethau ond tynnodd sylw at y gost sy'n gysylltiedig â phrynu trwyddedau i allu defnyddio'r dechnoleg.

2.3 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o'r Bwrdd i rannu barn ynghylch y materion a godwyd.

2.4 Holodd Meena Upadhyaya a fyddai ehangu'r defnydd o AI yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gasglu data ychwanegol, a beth fyddai'r ffordd orau o sicrhau bod y gweithdrefnau rheoleiddiol yn ddigon cadarn i sicrhau nad yw cydraddoldeb yn cael ei danseilio. Gofynnodd Meena hefyd sut y mae Cymru yn cymharu â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill o ran eu defnydd o AI. Dywedodd Glyn nad oes angen casglu data ychwanegol ond bod angen i Lywodraeth Cymru wneud defnydd gwell o'r asedau sydd ganddi ar hyn o bryd. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu yn rhan o raglen ehangach i wella gwasanaethau corfforaethol. O ran cydraddoldeb, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gydymffurfio â'r Fframwaith Tryloywder Algorithmig. O ran cymharu â gweinyddiaethau datganoledig eraill, mae'r Alban ar y blaen yn sgil bod yn aelod o'r Gynghrair AI ers sawl blwyddyn ac mae ganddi ddeg canolfan hyfforddi at ddoethuriaeth.

2.5 Nododd Gareth Lynn y manteision a'r heriau o ganlyniad i AI a holodd a oes gwiriadau ar waith i sicrhau bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio'n briodol ar draws y sefydliad. Eglurodd Glyn fod staff sy'n defnyddio Microsoft copilot yn rhan o'r cynllun treialu wedi cael cyngor ac arweiniad sylweddol ac y bydd hyfforddiant ynglŷn â'r disgwyliadau ar staff yn cael ei gynnwys yn y Fframwaith Moeseg Data Corfforaethol.

2.6 Nododd Tim Moss y cysylltiadau rhwng ehangu'r defnydd o AI ac agenda trawsnewid digidol Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod y data a'r strwythurau data sy'n sail i'r dechnoleg yn briodol.

2.7 Nododd David Richards y manteision y gallai technoleg sy'n dod i'r amlwg eu cynnig i'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ac awgrymodd fod angen cynllun strategol, hirdymor ar gyfer ei defnyddio.

2.8 Holodd Carys Williams ynghylch parodrwydd y Bwrdd i dderbyn risg o ran technoleg sy'n dod i'r amlwg a materion eraill ac awgrymodd y dylid cynnal gweithdy mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod y mater yn fanylach. Cefnogodd Sioned Evans yr awgrym hwn.

2.9 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, amlygodd Rhiannon Lloyd-Williams y manteision y mae offer fel Microsoft copilot yn eu cynnig i gynorthwyo staff wrth ddrafftio dogfennau a chwblhau tasgau eraill. Ychwanegodd Rhiannon fod nifer o'r rhai sy'n ymwneud â'r cynllun treialu yn bryderus na fyddant yn gallu defnyddio'r rhaglen mwyach pan ddaw'r cynllun treialu i ben.

2.10 Tynnodd Dom Houlihan sylw at y farn sy'n dod i'r amlwg ymhlith gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol ar sut i ymateb i'r heriau y mae AI yn eu creu o ran y broses recriwtio.

2.11 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd y byddai'r Pwyllgor Gweithredol yn ystyried y mater ymhellach yn rhan o drafodaeth ehangach ar drawsnewid digidol ar draws y sefydliad.

3. Arolwg Pobl 2023

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Angharad Reakes i'r cyfarfod a'i gwahodd i gyflwyno canfyddiadau Arolwg Pobl Llywodraeth Cymru 2023. Ar ôl y cyflwyniad, gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o'r Bwrdd i rannu sylwadau.

3.2 Croesawodd Sioned Evans y cyflwyniad, gan nodi bod yr angen i unioni adnoddau â blaenoriaethau gweinidogol yn faes allweddol i'w wella. Croesawodd Sioned y dadansoddiad ar lefel y Gyfarwyddiaeth a holodd a fyddai'n bosibl cyfeillio timau sy'n perfformio'n dda â thimau nad ydynt yn cyflawni cystal.

3.3 Amlygodd Carys Williams bwysigrwydd diolch i staff am eu hamser i lenwi'r arolwg ac awgrymodd y dylid triongli'r canlyniadau ynghylch pa mor weledol yw'r arweinwyr a'r cwestiynau eraill ar arweinyddiaeth er mwyn helpu i nodi arferion gorau a dysgu ohonynt. Awgrymodd Carys y dylid sefydlu cynllun o warcheidwaid 'Codi Llais' er mwyn darparu man diogel ar gyfer staff sydd â phryderon. Croesawodd y Cadeirydd y cynnig ac awgrymodd y gallai fod yn rhywbeth y gallai'r Bwrdd Cysgodol gynghori ar ei sefydlu.

3.4 Nododd Meena Upadhyaya y gallai profiadau bywyd wneud i unigolion o rai cefndiroedd deimlo'n anghyfforddus i rannu pryderon. Cytunodd Tracey Burke gan ychwanegu, yn ogystal â theimlo'n hyderus i allu rhannu pryderon, fod angen i staff deimlo'n hyderus y bydd camau'n cael eu cymryd.

3.5 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, amlygodd Rhiannon Lloyd-Williams yr angen i staff allu siarad ag unigolion nad ydynt yn eu cylch rheoli llinell uniongyrchol. Nododd Rhiannon fod y Bwrdd Cysgodol yn ymwybodol o rai staff na wnaeth lenwi'r arolwg gan eu bod yn bryderus am ba mor anhysbys fyddai eu hymatebion, ac awgrymodd, er mwyn rhoi sicrwydd i staff, y gellid gwella'r hyn a gaiff ei gyfathrebu â staff ynglŷn â sut yr ymdrinnir ag ymatebion.

3.6 Awgrymodd Andrew Slade y dylid mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr arolwg drwy LlC2025.

3.7 Adleisiodd Dom Houlihan y pwyntiau a godwyd a nododd fod y tîm Adnoddau Dynol wedi ymrwymo i weithio gyda'r rhwydweithiau staff ac eraill i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

3.8 Nododd Tim Moss y sgoriau uchel a gofnodwyd gan swyddogaethau'r Arolygiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac awgrymodd fod gwersi i'w dysgu gan y timau hyn.

3.9 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a daeth â'r eitem i ben.

4. Cynllunio'r Gyllideb a'r diweddaraf am LlC2025

4.1 Cafodd Tim Moss ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am raglen LlC2025, ac yna cafwyd sylwadau a chwestiynau gan aelodau o'r Bwrdd.

4.2 Agorodd David Richards y drafodaeth drwy ofyn am yr hyn sydd fwyaf tebygol o fynd o chwith wrth gyflawni'r rhaglen. Ymatebodd Tim fod sicrhau'r cyflymder angenrheidiol o ran newid yn her allweddol a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghofrestr risg y rhaglen.

4.3 Tynnodd Gareth Lynn sylw at dri maes. Y cyntaf, yr angen am eglurder â gweinidogion ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni â'r adnoddau sydd ar gael. Yr ail, dealltwriaeth o lefel y buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant sydd ei hangen, ac y trydydd, defnyddio LlC2025 yn adnodd i wneud cysylltiadau â sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus er mwyn cydweithio i fynd i'r afael â materion.

4.4 Gan edrych tuag at gyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Mawrth, nododd Carys saith maes lle hoffai weld cynnydd yn cael ei wneud o ran LlC2025. Y cyntaf, sicrhau bod egwyddorion ar lefel y rhaglen ar waith, megis awdurdod dirprwyedig ar gyfer penderfyniadau allweddol, parodrwydd i dderbyn risg a chysondeb ar lefel uwch o ran dylunio a chwmpas. Yr ail, llinell amser o waith ac effaith ariannol ailadroddol. Y trydydd, bod cyfathrebu ac ymgysylltu ar waith, gan gynnwys negeseuon ar y cyd. Y pedwerydd, llywodraethiant, gan gynnwys sicrhau bod Swyddfa Rheoli
Rhaglenni ar waith a bod risgiau allweddol yn cael eu nodi (gan gynnwys
mesurau lliniaru, derbyn neu drosglwyddo). Y pumed, eglurder o ran y cynnig llesiant i bawb. Y chweched, sicrhau bod gwiriadau o ran profiadau cydweithwyr (beth a phryd) ar waith, ac yn olaf, cyfleoedd sydd wedi'u nodi.

4.5 Nododd Amelia John yr effaith y bydd lleihau recriwtio allanol yn ei chael ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau o ran amrywiaeth.

4.6 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Rhiannon fanteision rhannu gwybodaeth, hyd yn oed pan fo hyn yn adlewyrchu sefyllfa heriol, gan ei fod yn rhoi rhywbeth i staff gynllunio ar ei gyfer. Mae aelodau o'r Bwrdd Cysgodol yn awyddus i gefnogi LlC2025 ac ymuno â'r Bwrdd Gweithredu os byddai hynny o fudd.

4.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a daeth â'r eitem i ben.

5. Diweddariad ar Gyllid

5.1 Cafodd Gawain Evans ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ragolygon alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 a'r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn ar 30 Tachwedd 2023 (cyfnod 8). Mae'r adroddiad yn cynnwys rhagolygon a gyflwynwyd gan Benaethiaid Cyllid Llywodraeth Cymru am y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2023 (cyfnod 8) wedi'u gosod yn erbyn y cyllidebau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 a gyhoeddwyd ar 13 Mehefin 2023 fel y'i diwygiwyd ar gyfer addasiadau sydd wedi'u cymeradwyo ers hynny. Mae hefyd yn rhoi crynodeb o'r sefyllfa DEL gyffredinol gan gynnwys y cronfeydd wrth gefn a amlinellwyd yn y Gyllideb Atodol Gyntaf a balans Cronfa Wrth Gefn Cymru.

5.2 Gwnaeth y Cadeirydd gydnabod ymdrechion eithriadol swyddogion a'r Cabinet i chwilio am arbedion i alluogi'r sefydliad i fantoli'r gyllideb yn 2023-24. Er i'w groesawu, nododd y Cadeirydd y rhwystredigaeth yn sgil cael arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU mor hwyr yn y flwyddyn ariannol a hynny ar ôl cwtogi ar wariant arfaethedig. Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn ystod 2024-25.

5.3 Rhannodd Gareth Lynn ei syndod am y modd caiff penderfyniadau Llywodraeth y DU eu gwneud mor hwyr.

5.4 Ategodd Amelia John y pwyntiau a wnaed a nododd effaith toriadau mewn cyllidebau ar y trydydd sector.

5.5 Argymhellodd Rhiannon Lloyd-Williams y dylid diolch eto i staff am yr holl waith a wnaed i ddod o hyd i'r arbedion yn ystod 2023-24.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw faterion busnes eraill. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 8 Mawrth.