Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Rhif y papur

Llafar

Sylwadau

Gweler y cofnodion

2. Rhaglen Lywodraethu

Rhif y papur

Papur(21)56 & 57

Sylwadau

Wedi’i gyhoeddi.

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol

Rhif y papur

Papur(21)58 & 59

Sylwadau

Gweler y cofnodion

4. Canlyniadau'r Arolwg Pobl

Rhif y papur

Papur(21)60 & 61

Sylwadau

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

5. Diweddariad ar Gyllid

Rhif y papur

Papur(21)62

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

6. Unrhyw fusnes arall

Rhif y papur

Llafar

Sylwadau

Gweler y cofnodion

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Rhif y papur

Papurau i’w nodi(21)63

Sylwadau

Wedi’i gyhoeddi.

Dangosfyrddau’r gweithlu

Rhif y papur

Papurau i’w nodi(21)64

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Cofnodion Bwrdd Cysgodol Drafft

Rhif y papur

Papurau i’w nodi(21)65

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Yn bresennol

  • Andrew Goodall
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Andrew Slade
  • Tracey Burke
  • Des Clifford
  • Reg Kilpatrick
  • Judith Paget
  • David Richards
  • Andrew Jeffreys
  • Peter Kennedy
  • Natalie Pearson
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Bekah Cioffi
  • Zakhyia Begum

Yn mynychu

  • Catrin Sully
  • Owain Lloyd
  • Angharad Reakes
  • Amy Jones

Ysgrifenyddiaeth

  • Charmain Watts

1. Croeso

1.1 Croesawodd yr Ysgrifennydd Parhaol bawb a chroesawodd gyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol, Bekah Cioffi a Zakhyia Begum. Cyflwynodd Zakhyia ei hun gan mai dyma’r tro cyntaf iddi fynychu cyfarfod o’r Bwrdd, a dywedodd air am ei chefndir. Croesawyd Zakhyia hefyd gan aelodau’r Bwrdd.

1.2 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i aelodau'r bwrdd a oeddent yn fodlon ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Roedd angen i unrhyw sylwadau a/neu ddiweddariadau gael eu rhoi i’r ysgrifenyddiaeth cyn iddynt gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

1.3 Rhoddodd Judith Paget ddiweddariad am y datblygiadau diweddaraf o ran Covid-19, gan ganolbwyntio ar niferoedd achosion Covid-19 yng Nghymru, y sefyllfa  mewn ysbytai, gofal dwys a'r rhaglenni brechu ac atgyfnerthu.

1.4 Rhoddodd Reg Kilpatrick ddiweddariad am y cynlluniau adfer diweddaraf ac esboniodd y byddai’r Prif Weinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan o ran rheoliadau a lefelau rhybudd. Esboniodd ymhellach fod gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun i bontio’r sefydliad i gyflwr endemig a rhoi'r ffocws gweithredol yn ôl ar fusnes fel arfer.

Cam gweithredu 1

Trafodaeth bellach ar y cynllun pontio i'w chynnal mewn Bwrdd yn y dyfodol.

1.5 Gofynodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol:

  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i estyn allan at y gwledydd hynny lle mae llai o frechlynnau ar gael? Dywedodd Judith Paget fod Llywodraeth Cymru wedi’i chysylltu â’r ymateb ledled y DU i'r farchnad frechu fyd-eang.
  • Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y prosesau da sydd wedi'u cyflwyno yn ystod y pandemig yn parhau? Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol fod y sefydliad wedi gweithio'n wahanol yn ystod y pandemig ac y bydd gwaith manwl ar y gwersi a ddysgwyd yn parhau i gael ei ddatblygu.

2. Cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu

2.1 Cyflwynodd Catrin Sully bapur, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar y Rhaglen Lywodraethu. Esboniodd Catrin fod y Cabinet wedi cyfarfod ym mis Ionawr i drafod y diweddariad ac esboniodd sut y byddai'r wybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol yn cael ei defnyddio i roi sicrwydd i'r Cabinet.

2.2 Dywedodd Catrin fod Is-bwyllgor Cabinet y Rhaglen Lywodraethu, sy'n rhoi trosolwg strategol ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu, wedi cyfarfod ym mis Ionawr a'i fod wedi cael ymateb cadarnhaol.

2.3 Nododd y Bwrdd adborth y Cyfarwyddwyr Anweithredol a oedd yn cyfeirio at adnoddau o fewn y sefydliad a blaenoriaethu gwaith, yn croesawu'r newidiadau i BIRT ond yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth gyson.

Cam gweithredu 2

Argymhellodd yr Ysgrifennydd Parhaol drafodaeth bellach mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu sy'n cyfeirio at adnoddau.

Cam gweithredu 3

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ddiwygio'r dreth gyngor ac awgrymodd yr Ysgrifennydd Parhaol fod y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cyfarfod â Reg Kilpatrick i drafod y cynllun.

2.4 Rhoddodd Bekah Cioffi adborth o'r trafodaethau yng nghyfarfod y Bwrdd Cysgodol a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio iaith briodol a phwysigrwydd Model Cymdeithasol o Anabledd.

3. Ystyried diwygio’r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol

Y flwyddyn ysgol

3.1 Rhoddodd Owain Lloyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i ystyried diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac esboniodd fod y Prif Weinidog wedi gofyn i’r Cyfarwyddwyr Anweithredol ymgysylltu â nifer o brif ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

3.2 Dywedodd Owain fod ymchwil fanwl, proses o gasglu tystiolaeth, gwaith grwpiau ffocws ac adolygiad o lenyddiaeth yn cael ei ddatblygu. Dywedodd hefyd y bydd y cyfnod rhwng nawr a'r ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei ddefnyddio i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr, diwydiannau penodol fel y sector twristiaeth, yn ogystal â phlant a phobl ifanc.

3.3 Rhoddodd Owain drosolwg i'r Bwrdd o fodelau posibl. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd yn fwriad newid nifer statudol diwrnodau athrawon (telerau ac amodau), ond yn hytrach ystyried dosbarthiad blynyddol gwahanol.

Y diwrnod ysgol

3.4 Esboniodd Owain y bydd y datblygiad polisi hwn yn ceisio creu lle yn y diwrnod ysgol ac o'i amgylch, drwy sesiynau ychwanegol sy'n darparu gweithgareddau, profiadau a chyfleoedd eang. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar lesiant ac ailymgysylltu, y bwriad yw creu amgylchedd gwell ar gyfer dysgu.

3.5 Dywedodd Owain y bydd hyd at 14 o ysgolion yn cymryd rhan mewn treial cenedlaethol, gan ddarparu oriau ychwanegol i ddysgwyr mewn rhaglen 10 wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae'r ysgolion hyn wedi gwirfoddoli i gymryd rhan, gan gefnogi dysgwyr difreintiedig, gwella mynediad at gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol a helpu i fynd i'r afael ag effeithiau’r pandemig Covid-19 ar ddysgu.

3.6 Diolchodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol i Owain am ei ddiweddariad gan dynnu sylw at bwysigrwydd:

  • gwrando ar ddysgwyr a rhieni
  • dull cyson o ymdrin â'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y treial cenedlaethol yn ogystal â chael ysgolion ag amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol
  • gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y modelau'n cydweddu â byrddau arholi

Cam gweithredu 4

Cynigiodd yr Ysgrifennydd Parhaol y dylai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ymgysylltu drwy fecanweithiau sydd eisoes ar waith yn y maes gwaith hwn a dychwelyd y mater i'r Bwrdd ymhen 6/9 mis.

3.7 Rhoddodd Bekah Cioffi adborth o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn y Bwrdd Cysgodol a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Roedd yr opsiynau ar gyfer y flwyddyn ysgol yn awgrymu gwyliau gaeaf hirach, sy’n cyd-daro â'r Nadolig, a meddyliwyd tybed a ellid cysoni gwyliau eraill â gwyliau crefyddol mawr.
  • Mae’n bwysig cofio bod bod pobl ifanc yn cael pyliau o afiechydon yn y gaeaf sy'n effeithio ar eu perfformiad; bod arholiadau hollbwysig yr haf yn digwydd yn ystod brig tymor clefyd y gwair; y gallai fod angen llawer o gefnogaeth ar unigolion niwrowahanol yn y broses newid hon; ac y gallai fod angen llawdriniaethau ar blant o oedran ysgol yn ystod y gwyliau, sy’n golygu bod iddynt gael cyfnod digon hir i ffwrdd er mwyn osgoi colli'r ysgol.

3.8 Diolchodd Owain i Bekah am yr adborth ac roedd yn teimlo y byddai angen adolygu’r cwestiynau a godwyd ymhellach a'u bwydo'n ôl i'r tîm.

4. Canlyniadau'r Arolwg Pobl

4.1 Rhoddodd Natalie Pearson ac Angharad Reakes drosolwg i'r Bwrdd o Ganlyniadau'r Arolwg Pobl a gynhaliwyd ym mis Hydref 2021.

4.2 Cyflwynodd Angharad sleidiau a oedd yn canolbwyntio ar:

  • Y gyfradd ymateb
  • Unrhyw ostyngiad mewn perfformiad ers y flwyddyn flaenorol
  • Sgôr ymgysylltu cyffredinol ein staff
  • Cymhariaeth rhwng sgoriau craidd a sgoriau lleol Llywodraeth Cymru
  • Gwelliannau mewn sgoriau cadarnhaol
  • Cymhariaeth â'r Gwasanaeth Sifil
  • Perfformiad meincnod

4.3 Tynnodd Natalie sylw'r Bwrdd at bwysigrwydd y canfyddiadau ynghylch ymgysylltu â gweithwyr. Mae'r mynegai ymgysylltu yn mesur ymlyniad staff wrth waith, balchder o’r sefydliad a chymhelliant i wneud eu gorau i gyflawni amcanion.

4.4 Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd y gwersi a ddysgwyd o'r canlyniadau a'r pandemig. Cydnabu'r bwrdd fod meithrin galluedd yn bwysig iawn i'r sefydliad.

4.5 Diolchodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol i Natalie ac Angharad am eu diweddariad gan gytuno bod deall pa waith sydd ei angen ar gyfer meysydd i'w gwella yn bwysig.

4.6 Rhoddodd Bekah Cioffi adborth a thynnodd sylw at 3 thema lle gellid ystyried gweithredu corfforaethol i fynd i'r afael â chanlyniadau'r arolwg staff:

  • Amgylchedd gwaith
  • Rheoli perfformiad
  • Dysgu a datblygu

5. Diweddariad ar gyllid

5.1 Rhoddodd Gawain Evans ddiweddariad i'r Bwrdd ar gyllid a’r statws presennol.

5.2 Adroddodd Gawain ar ragolygon alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 a sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn ar 30 Tachwedd 2021 (mis 8) a oedd yn canolbwyntio ar:

  • Rhagolygon refeniw
  • Rhagolygon cyfalaf
  • Y sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn

5.3 Rhoddodd Bekah Cioffi adborth ar farn y Bwrdd Cysgodol, a oedd yn canolbwyntio ar y rhaniad ariannu rhwng Cyfarwyddiaethau. 

6. Unrhyw fater arall

6.1 Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i'r aelodau ac yn arbennig i Bekah Cioffi am ei hadborth gan y Bwrdd Cysgodol.

6.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd y byddai’n cwrdd â Chyd-Gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol i drafod eu pwyntiau o dan unrhyw fater arall.