Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Y Rhaglen Lywodraethu

Papur eitem 2

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Diwygio’r Dreth Gyngor

Papur eitem 3

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Cynllun pontio COVID-19

Papur eitem 4

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

5. Diweddariad ariannol

Papur eitem 5

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

6. Unrhyw fater arall

Llafar

Gweler y cofnodion.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Andrew Goodall
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Reg Kilpatrick
  • Andrew Slade
  • Tracey Burke
  • Des Clifford
  • Judith Paget
  • David Richards
  • Andrew Jeffreys
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Bekah Cioffi (Shadow Board)
  • Zakhyia Begum (Shadow Board)

Hefyd yn bresennol

  • Catrin Sully
  • Debra Carter
  • Liz Lalley

Ysgrifenyddiaeth

  • Amy Jones

Ymddiheuriadau

  • Natalie Pearson

1. Croeso

1.1 Croesawodd yr Ysgrifennydd Parhaol bawb i gyfarfod y Bwrdd ynghyd â chyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol Bekah Cioffi a Zakhyia Begum.

1.2 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i aelodau'r Bwrdd a ydynt yn fodlon ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Nododd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol rai o'r addasiadau yr hoffai iddynt gael eu hystyried.

1.3 Hysbysodd yr Ysgrifennydd Parhaol y Bwrdd am Strwythur Grŵp newydd y sefydliad a roddwyd ar waith o 1 Ebrill 2022. Bydd Des Clifford yn dechrau yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Swyddfa Prif Weinidog Cymru'. Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn arbennig i Des am ei gyfraniad fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.

1.4 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i Reg Kilpatrick a Jo-Anne Daniels roi diweddariad i'w Bwrdd ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'r argyfwng yn Wcráin. Dywedodd Reg wrth y Bwrdd fod y gwaith yn mynd rhagddo mewn modd mwy busnes fel arfer a bod y staff yn parhau i fonitro unrhyw fygythiadau domestig.

1.5 Dywedodd Jo-Anne wrth y Bwrdd am y dechrau anodd a gafwyd wrth brosesu ceisiadau, gydag oedi sylweddol. Fodd bynnag, mae amseriadau wedi gwella ac mae llawer mwy o geisiadau wedi'u cymeradwyo. Cafwyd rhywfaint o anhawster am fod pobl yn cyrraedd drwy lwybrau eraill drwy deuluoedd ac ati, a bydd angen ystyried sut y byddai ein canolfannau cyswllt a chroeso yn gweithredu pe bai mewnlif o bobl.

1.6 Rhoddodd Judith Paget ddiweddariad ar y datblygiadau diweddaraf o ran COVID-19, a oedd yn canolbwyntio ar nifer y bobl â COVID-19 yng Nghymru, y sefyllfa mewn ysbytai, gofal dwys ac argaeledd staff. Tynnodd Judith sylw'r Bwrdd hefyd at gyhoeddiad Cynllun Adfer Gofal wedi'i Gynllunio.

1.7 Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd am ddatblygiadau rhaglen newid Llywodraeth Cymru 2025. Cadarnhaodd fod sesiynau archwilio manwl wedi'u cynnal a bod pryder gwirioneddol o hyd ynghylch rhoi rhaglen newid ar waith yn wyneb y pwysau sydd wedi'u rhoi ar staff dros y ddwy flynedd diwethaf yn ystod y pandemig.

1.8 Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi lansio adolygiad Adran 20 o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith datblygu cynaliadwy a chaiff trafodaeth bellach ei hailgyflwyno i'r Bwrdd.

Cam Gweithredu

Trafodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i'w chyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

2. 2. Y Rhaglen Lywodraethu – Trosolwg o Gynnydd

2.1 Rhoddodd Catrin Sully ddiweddariad i'r Bwrdd ar gynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu y mae'r Cabinet ar y cyd yn gyfrifol amdanynt. Nodwyd fod y Cabinet wedi trafod cynnydd tuag at gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu ym mis Mawrth. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddatblygu'r drefn ar gyfer monitro ac adrodd, gan gynnwys ffocws ar gerrig milltir strategol.

2.2 Dywedodd Catrin wrth y Bwrdd am drafodaeth gychwynnol a gafwyd mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithredol ynglŷn â gwella'r wybodaeth a ddefnyddir i fonitro cynnydd, a bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cynnal sesiynau â swyddogion arweiniol dros yr wythnosau nesaf er mwyn deall yr heriau posibl i gyflawni mewn nifer o feysydd.

2.3 Trafododd y Bwrdd nifer o ymrwymiadau allweddol a godwyd gan Is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y Rhaglen Lywodraeth, gan gynnwys gwahaniaethau mewn cyflog a gwahaniaethau ar sail hil. Nododd y Bwrdd effaith gadarnhaol yr Is-bwyllgor.

2.4 Nododd y Cyfarwyddwyr Anweithredol y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu a bod y dull o fonitro ac adrodd yn galonogol. Gwnaethant ofyn i'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol wneud sylwadau pellach ynghylch nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a'r cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio.

2.5 Nododd y Bwrdd Cysgodol y cynnydd a oedd yn cael ei wneud ym maes adrodd a'i bod yn galonogol gweld datblygiadau mewn perthynas â safoni diweddariadau ar gynnydd, ond nodwyd bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau cysondeb ar draws y rhaglen.

3. Diwygio'r Dreth Gyngor

3.1 Rhoddodd Debra Carter ddiweddariad i'r Bwrdd ar ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio system decach a mwy graddoledig yng Nghymru. Bydd y diwygiadau yn sicrhau newid ystyrlon y tymor hwn o fewn fframwaith y system bresennol, nad yw wedi'i diweddaru ers bron 20 mlynedd, a byddant yn pennu llwybr tymor hwy ar gyfer diwygio pellach os dymunir, gan gynnwys ystyried dulliau gweithredu amgen.

3.2 Dywedodd Debra wrth y Bwrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y canlynol:

Cynnal ailbrisiad er mwyn diweddaru prisiadau eiddo ar gyfer pob un o'r 1.5m o eiddo domestig yng Nghymru (mae'r system bresennol yn seiliedig ar werthoedd 2003), ad-drefnu bandiau'r dreth gyngor ac ychwanegu rhai newydd, a diwygio cyfraddau treth er mwyn creu system fwy graddoledig. Y nod yw i bobl mewn cartrefi gwerth uwch dalu mwy, ac i'r rhai mewn cartrefi gwerth is dalu llai;

Sefydlu cylchoedd ailbrisio treigl ar gyfer y dreth gyngor am y tro cyntaf yn ei hanes, fel bod y system yn newid ar yr un raddfa â'r farchnad.

Adolygu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor;

Adolygu'r fframwaith cymhleth o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau;

Parhau i ystyried dulliau gweithredu amgen i'w hystyried yn y tymor hwy (e.e. treth gwerth tir, systemau heb fandiau).

3.3 Dywedodd Debra wrth y Bwrdd y bydd Cam 1 yr ymgyngoriadau ffurfiol ar egwyddorion cyffredinol yn dechrau ym mis Gorffennaf eleni, cyn symud ymlaen i Ymgynghoriad Cam 2 ar gynigion manwl yn ystod haf 2023. Cynhaliwyd tri chyfarfod Gweinidogion dwyochrog â chynrychiolwyr Plaid Cymru er mwyn cytuno ar gwmpas y diwygiadau. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn fodlon ar y gyfres gyntaf o egwyddorion sy'n sail i Ymgynghoriad Cam 1, ond mae trafodaethau â Plaid Cymru am yr egwyddorion hyn wedi bod yn mynd rhagddynt ac ni wnaed penderfyniad yn eu cylch eto. Mae cyfarfod o'r Pwyllgor Polisi wedi'i drefnu ar gyfer dechrau mis Mehefin.

3.4 Trafododd y Bwrdd y mater yn ymwneud ag ymateb y cyhoedd a chyfathrebu, ac mae'n bosibl y caiff Cam 1 o'r ymgynghoriad ei feirniadu am beidio â rhoi digon o wybodaeth am effaith. Cytunodd y Bwrdd hefyd fod amserlen yr ymgyngoriadau yn dynn ac nad oes fawr ddim lle i waith datblygu pellach.

3.5 Nododd y Cyfarwyddwyr Anweithredol y cynigion ac roeddent yn cytuno y bydd yn dasg gymhleth iawn ac mai'r risg fwyaf heriol yw peidio â thanseilio lefel yr ymgysylltu â'r cyhoedd sydd ei hangen.

3.6 Nododd aelodau'r Bwrdd Cysgodol natur wleidyddol iawn cynigion y llywodraeth a gwnaethant gynnig rhai awgrymiadau a sicrwydd gan gynnwys eu barn am gyfathrebu, ymdrin â risgiau ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol.

4. Cynllun Pontio COVID-19

4.1 Rhoddodd Liz Halley a Reg Kilpatrick ddiweddariad i'r Bwrdd ar y broses o roi'r Cynllun Pontio ar waith a'r camau sy'n cael eu cymryd i reoli'r Coronafeirws ochr yn ochr â heintiau anadlol eraill.

4.2 Dywedodd Liz wrth y Bwrdd am y gwaith i ddatblygu cynllun cyhoeddus 'Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Covid-19 – Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig’. Mae'r cynllun yn nodi senario COVID Sefydlog a'r ffordd y byddwn yn symud ymlaen i reoli'r Coronafeirws y tu hwnt i'n dull gweithredu mewn argyfwng.

4.3 Dywedodd Liz wrth y Bwrdd er gwaethaf tonau diweddar o heintiau, ein bod yn dal i fod mewn senario COVID Sefydlog a'n bod yn symud tuag at ddull mwy hirdymor o reoli'r feirws, yn seiliedig ar ein seilwaith iechyd y cyhoedd sefydledig effeithiol, gan gynnwys:

Cefnogi pobl a busnesau i gynnal ymddygiadau er mwyn helpu i leihau lledaeniad pob haint anadlol drwy gyngor ar gyfer y cyhoedd a chyflogwyr a'n gwaith cyfathrebu parhaus;

Brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i'r henoed a'r oedolion mwyaf agored i niwed a rhaglen frechu reolaidd o'r hydref ymlaen;

Addasu ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu mewn modd graddol a fesul cam er mwyn canolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys parhau i ddarparu profion llif unffordd ar gyfer pobl symptomatig hyd at ddiwedd mis Mehefin;

Addasu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio asesiadau risg lleol a chynllunio rheoli brigiadau o achosion.

4.4 Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o amrywiolyn mwy difrifol a'r cynlluniau sydd gennym ar waith. Dywedwyd wrth y Bwrdd y byddwn yn cadw'r gallu i gynyddu ein hymateb unwaith eto o dan Senario Brys COVID. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau y bydd ein rhaglenni profi a gwyliadwriaeth wedi’u targedu, yn ogystal â'n cyfranogiad yn rhwydweithiau'r DU a rhwydweithiau rhyngwladol, yn ein galluogi i nodi amrywiolion newydd sy'n peri pryder. Byddem hefyd mewn sefyllfa i ddarparu canllawiau a gohebiaeth ychwanegol yn ymwneud yn benodol â COVID-19, gyda deddfwriaeth fel dewis olaf.

4.5 Nododd y Cyfarwyddwyr Anweithredol fanylion y paratoadau ar gyfer pontio a gwnaethant fynegi eu pryderon ynghylch yr heriau y byddem yn eu hwynebu wrth ymateb i senario COVID Brys o ystyried bod y seilwaith wedi'i ddiddymu i raddau helaeth ledled y DU.

4.6 Nododd aelodau'r Bwrdd Cysgodol y papur a rhoesant sylwadau ar effeithiau sefydliadol disgwyliedig pontio.

5. Diweddariad ariannol

5.1 Cyflwynodd Gawain Evans adroddiad ar reolaeth ariannol i'r Bwrdd ar gyfer y flwyddyn i ddod, a rhoddodd ddiweddariad ar alldro 2021-22.

5.2 Rhoddodd Gawain wybodaeth am y rhagolwg Refeniw, y rhagolwg Cyfalaf a'r sefyllfa o ran y cronfeydd wrth gefn presennol.

5.3 Dywedodd Gawain hefyd wrth y Bwrdd, oherwydd y diffyg cronfeydd wrth gefn sydd ar gael a'r angen i ganiatáu amser i Weinidogion a swyddogion adolygu pwysau a blaenoriaethau rhaglenni nad oes cyllid ar eu cyfer, penderfynwyd peidio â chynnal ymarfer i nodi pwysau cyllidebol sy'n dod i'r amlwg a bwriedir cynnal y cyfnod adrodd yn ystod y flwyddyn cyntaf yng nghyfnod dau.

5.4 Trafododd y Bwrdd nifer o risgiau i'r dull gweithredu yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys chwyddiant a chostau cynnal nifer sylweddol o brosiectau.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i'r aelodau a oedd yn bresennol ac i Gyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol am eu sylwadau.