Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion presennol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Adolygiad o'r Bwrdd – trafodaeth ar ganfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd yn 2022

[Papur eitem 2]

3. Yr Arolwg Staff – cyflwyniad ar ganlyniadau arolwg 2022 a chynllunio camau gweithredu

[Eitem 3 - Pecyn papur a sleidiau]

4. Diweddariad am Amrywiaeth a Chynhwysiant

[Eitem 4 - Papurau]

5. Gofrestr Risg Corfforaethol

[Eitem 5 - Papurau]

6. Diweddariad ar gyllid – Cyfnod 10

[Eitem 6 - Papur]
 

7. Unrhyw Fater Arall a Diweddglo

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Aled Edwards
  • Carys Williams
  • Tracey Burke
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Jo Salway
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Des Clifford
  • David Richards
  • Amelia John
  • Natalie Pearson
  • Zakhiya Begum

Yn mynychu

  • Andrew Jeffreys
  • Isabel Owen
  • Nigel Brown
  • Sharon Cross
  • Polina Cowley
  • Angharad Evans
  • Karl James

Ymddiheuriadau

  • Jo-Anne Daniels

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod o'r Bwrdd. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 13 Ionawr.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Carys Williams i'w chyfarfod Bwrdd cyntaf fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Nododd y Cadeirydd y byddai Ellen Donovan yn rhoi'r gorau i'w swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar 03 Mawrth ac fe roddodd ddiolch ar ran y Bwrdd i Ellen am ei chyfraniad dros y pum mlynedd diwethaf, gan nodi ei brwdfrydedd a'i dyfalbarhad wrth gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru.

1.3 Nododd y Cadeirydd y sesiwn graffu yn ddiweddar ar gyfrifon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru 2021/22 a diolchodd i'r swyddogion am eu mewnbwn i'r paratoadau ar gyfer y sesiwn graffu.

1.4 Gweithredu diwydiannol – Rhoes Judith Paget yr wybodaeth ddiweddaraf am negodiadau â'r undebau nyrsio. Nododd y Cadeirydd y streic arfaethedig gan PCS a'r negodiadau parhaus ag undebau'r athrawon.

1.5 Nododd Ellen Donovan y sgiliau arbenigol y mae eu hangen ar swyddogion sy'n arwain negodiadau ac ymatebodd Peter Kennedy fod gan Lywodraeth Cymru nifer o uwch swyddogion gyda'r sgiliau hyn.

1.6 Diweddariad ar y GIG - Gwahoddodd y Cadeirydd Judith Paget i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn y GIG yng Nghymru. Nododd Judith y penderfyniad diweddar i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ac ymddiswyddiad yr aelodau annibynnol o'r Bwrdd Iechyd.

2. Adolygiad o'r Bwrdd – trafodaeth ar ganfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd yn 2022

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Sharon Cross i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi trosolwg o ganfyddiadau Adolygiad Bwrdd 2022.

2.2 Roedd Ellen Donovan yn cefnogi'r pwyntiau a godwyd yn yr adolygiad a thynnodd sylw at bwysigrwydd eglurder ar gylch gwaith y Bwrdd fel bwrdd cynghori a sicrwydd.

2.3 Croesawodd Gareth Lynn yr adroddiad o adolygiad 2022 a nodi'r berthynas agored a llawn ymddiriedaeth ymhlith y Bwrdd a'r cyfle ar gyfer her adeiladol.

2.4 Awgrymodd Carys Williams gynnal seminarau'r Bwrdd i ymchwilio i faterion yn fanylach.

2.5 Awgrymodd Tracey Burke y dylai adolygiadau yn y dyfodol edrych ar safbwyntiau am effeithiolrwydd a chyflawniadau'r Bwrdd yn ogystal â materion llywodraethiant; nododd Sharon y pwynt hwn a chytunodd i'w ystyried ar gyfer adolygiad 2023.

2.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nodi'r awgrymiadau a wnaed.

3. Yr Arolwg Staff – cyflwyniad ar ganlyniadau arolwg 2022 a chynllunio camau gweithredu

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Andrew Jeffreys (Trysorlys Cymru), Isabel Owen (Taliadau Gwledig Cymru) a Nigel Brown (CAFCASS Cymru) i'r cyfarfod. Roeddent wedi cael eu gwahodd i ymuno â'r drafodaeth ar yr Arolwg Staff fel cynrychiolwyr o feysydd Llywodraeth Cymru a sgoriodd yn arbennig o uchel ar ddysgu a datblygu a gweithredu i gefnogi llesiant staff.

3.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Natalie Pearson a Sharon Cross i fynd â'r Bwrdd drwy ddadansoddiad manwl o ganlyniadau'r Arolwg Pobl diweddaraf a'r meysydd arfaethedig ar gyfer gweithredu. Er i'r mynegai ymgysylltu (a sgoriau'r themâu yn fwy cyffredinol) weld gostyngiad o'r uchafbwynt a welwyd yn ystod dwy flynedd y pandemig, parhaodd Llywodraeth Cymru i berfformio yn uwch na meincnod y DU mewn tua dwy ran o dair o gwestiynau'r arolwg. Cynhaliodd y tîm Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi rywfaint o ddadansoddi pellach ar ganlyniadau'r arolwg, gan ganolbwyntio ar y meysydd lle y perfformiodd Llywodraeth Cymru yn arbennig o dda mewn perthynas â meincnod y DU yn ogystal â'r themâu a oedd yn llai cadarnhaol neu a welodd ostyngiad ers sgoriau 2021.

3.3 Tynnodd Nigel sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gwerthoedd a diwylliant y sefydliad yn sail i fywyd gwaith bob dydd a'r budd i lesiant staff pan fydd unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.

3.4 Nododd Isabel y pwyslais y mae Taliadau Gwledig Cymru yn ei roi ar wrando ar bryderon staff a chymryd camau ymarferol i ymateb i faterion.

3.5 Trafododd Andrew y pwys y mae Trysorlys Cymru yn ei roi ar ddysgu a datblygu a pharodrwydd staff i rannu sgiliau a phrofiad gyda chydweithwyr.

3.6 Wrth ystyried canlyniadau'r arolwg, pwysleisiodd Gareth mor bwysig yw bod rheolwyr llinell yn teimlo eu bod yn meddu ar y sgiliau i fynd i'r afael â thanberfformiad. Ategodd Carys y pwynt hwn a nodi pwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddi rheolwyr llinell i'w galluogi i gynnal sgyrsiau anodd gyda staff. Nododd Jo Salway yr heriau sy'n codi pan fydd timau'n cynnwys staff o sefydliadau eraill sydd â diwylliannau gwahanol yn y gweithle.

3.7 Gofynnodd Carys pa gamau allai gael eu cymryd yn ddi-oed i fynd i'r afael â'r materion y tynnwys sylw atynt yn yr arolwg.

3.8 Nododd Zakhiya Begum ar ran y Bwrdd Cysgodol fod y pwyntiau a godwyd yn adleisio'r drafodaeth yn y Bwrdd Cysgodol ac ychwanegodd fod y Bwrdd Cysgodol wedi ystyried hefyd effaith gweithio hybrid ar reolwyr llinell.

3.9 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nododd y byddai ExCo yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu a gymerir mewn ymateb i ganlyniadau'r arolwg.

4. Diweddariad am Amrywiaeth a Chynhwysiant

4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Amelia John ac Andrew Jeffreys fel Hyrwyddwr presennol Cydraddoldeb y Bwrdd a Chyn-hyrwyddwr Cydraddoldeb y Bwrdd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu gan gynnwys diweddariad ar gyfer 2022 ac edrych ymlaen at 2023.

4.2 Nododd Andrew y cynnydd a wnaed ar recriwtio a dod yn sefydliad mwy amrywiol ond pwysleisiodd yr her i'r sefydliad os yw am fodloni ei dargedau recriwtio. Pwysleisiodd Amelia rôl arweinyddiaeth wrth sicrhau'r newid diwylliannol angenrheidiol.

4.3 Ategodd Peter Kennedy y pwyntiau a wnaed a phwysleisiodd nad mater i dimau Adnoddau Dynol yn unig yw amrywiaeth a chynhwysiant ond mai mater arweinyddiaeth ydyw. Nododd Peter y cynnydd sydd wedi'i wneud a'r meysydd lle y mae angen gwelliannau. Rhybuddiodd Peter yn erbyn colli tir ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ar amrywiaeth mewn recriwtio yn dilyn y bwriad i symud i ffwrdd o byrth dyrchafiad. Nododd Peter y manteision y gallai cynyddu recriwtio allanol eu cynnig o ran denu ymgeiswyr o ystod ehangach o gefndiroedd i Lywodraeth Cymru.

4.4 Nododd Carys y pwyntiau a godwyd a chynnig ei chefnogaeth i unrhyw rai o'r rhwydweithiau staff a allai elwa ar fewnbwn aelod o'r Bwrdd.

4.5 Nododd Helen Lentle yr her wrth annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi yn yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) gan fod unigolion yn credu yn aml bod anfanteision ymuno â'r SCS yn drech na'r manteision.

4.6 Nododd y Cadeirydd y pwyntiau a godwyd gan ddiolch i bawb am eu sylwadau.

5. Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol

5.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Clare Collett i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gofrestr Risgiau Corfforaethol (CRR).

5.2 Nododd Clare fod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ei gwedd bresennol wedi bod yn destun craffu yn yr Is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (F&SC), y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) ac yn ExCo. Mae ExCo wedi gofyn i F&SC ganolbwyntio ei sylw ar fesurau liniaru i sicrhau eu bod yn cael eu symud ymlaen wrth reoli risg ac mae wedi cymeradwyo cynnig gan F&SC i ystyried y risgiau uchaf ar lefel Grŵp.

5.3 Nododd Gareth fod y gwaith o reoli risg yn symud ymlaen yn dda ac ategodd farn ExCo am sicrhau bod mesurau lliniaru yn cael eu cyflawni.

6. FDiweddariad ar gyllid – Cyfnod 10

6.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Gawain Evans i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg o alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 a'r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn ar 31 Ionawr 2023 (cyfnod 10).

6.2 Nododd Gawain effaith gadarnhaol penderfyniadau a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn ariannol ar y sefyllfa bresennol a phwysleisiodd bwysigrwydd manteisio i'r eithaf ar gronfeydd wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.

6.3 Nododd Gareth ei syndod am y tanwariant a gafodd ei ddatgan yng Nghyfnod 10 aphwysleisiodd yr angen am broffilio ariannol cywir, yn enwedig o gofio pwysau cyllidebol yn y dyfodol.

6.4 Pwysleisiodd Tracey yr angen am system i ganiatáu penderfyniadau amserol ar aildrefnu unrhyw danwariant.

7. Unrhyw Fater Arall

7.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.