Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Teitl y papur

Tystiolaeth yr Ysgrifennydd Parhaol i'r Ymchwiliad i Waed Heintiedig

Diben y papur

Tynnu sylw'r Bwrdd at rai o'r gwersi sy'n deillio o'r Ymchwiliad a chynnwys tystiolaeth ysgrifenedig a llafar yr Ysgrifennydd Parhaol mewn ymateb i hynny.

Camau sy'n ofynnol gan y Bwrdd

Mae hwn yn gyfle i'r Bwrdd fyfyrio ar y materion a nodir gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei dystiolaeth ac i ba raddau rydym yn ymwybodol ohonynt.

Y swyddog sy'n cyflwyno'r papur

  • David Richards

Paratowyd / cliriwyd y papur gan

  • David Richards
  • Catherine Cody

Safbwynt Undebau Llafur

Nid ydym wedi ymgynghori ag Ochr yr Undebau Llafur ond byddem yn disgwyl iddi gefnogi'r materion dan sylw a'u cymeradwyo

Dyddiad cyflwyno i'r Ysgrifenyddiaeth

24 Tachwedd 2022

1. Cefndir

1.1 Cafodd yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, sy'n mynd rhagddo o hyd, yr hyn a ystyrir yn ddarnau pwysig o dystiolaeth yn ddiweddar, a oedd yn berthnasol i'w ystyriaethau.

1.2 Adroddiad manwl oedd y darn cyntaf o dystiolaeth, a oedd yn cofnodi effaith cael eu heintio'n ddiarwybod â feirws HIV ar ddioddefwyr a'u teuluoedd. Tynnodd yr adroddiad sylw at yr hyn a ystyriwyd yn amharodrwydd y GIG a'r llywodraeth i gydnabod y camgymeriadau a wnaed. Yr ail ddarn oedd adroddiad a oedd yn trafod p'un a oedd achos dros ymestyn y ddyletswydd gonestrwydd sy'n bodoli yn y GIG i'r gwasanaeth cyhoeddus hefyd, ac yn briffio'r Ymchwiliad ar God y Gwasanaeth Sifil ac Egwyddorion Nolan.

1.3 Wrth ystyried y ddau adroddiad hyn, ystyriodd yr Ymchwiliad hefyd dystiolaeth gan gyn-weinidogion Llywodraeth y DU ac eraill ynghylch y gwersi i'w dysgu. Roedd y pwyntiau a wnaed i'r Pwyllgor yn cynnwys pryderon am amharodrwydd llywodraethau i gyfaddef pan fyddant wedi gwneud camgymeriadau; amharodrwydd i ymddiheuro; peryglon meddylfryd grŵp yn mynd yn drech na meddylfryd llywodraeth, heb gael ei herio'n ddigonol; a ph'un a oedd Cod y Gwasanaeth Sifil yn ddigon i sicrhau didwylledd a gonestrwydd, neu a ddylai fod dyletswydd gonestrwydd statudol ar weision sifil hefyd.

1.4 Mewn ymateb i'r pryderon hyn, penderfynodd yr Ymchwiliad gyflwyno cyfres o gwestiynau penodol i Bennaeth Gwasanaeth Sifil y DU ac Ysgrifenyddion Parhaol y llywodraethau datganoledig, a'u gwahodd i sesiwn tystiolaeth lafar. Mae ymateb ysgrifenedig ein Hysgrifennydd Parhaol i'r cwestiynau a ofynnwyd wedi'i atodi i'r papur hwn, ynghyd â thrawsgrifiad o'r dystiolaeth lafar a roddwyd (tudalennau perthnasol y trawsgrifiad yw 1-118). Mae'r tudalennau'n llai na maint A4 felly mae llai o ddeunydd i'w ddarllen na'r hyn a ymddengys.

2. Materion i'w hystyried

2.1 Gallai fod yn fuddiol atgoffa'r Bwrdd o'r effaith y gall camau gweithredu'r llywodraeth – yn enwedig pan aiff pethau o chwith – ei chael ar fywydau unigolion. Fel y gwêl y Bwrdd, yn ei dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn helaeth at ei brofiad blaenorol yn y GIG a phwysigrwydd gonestrwydd wrth ddelio â dinasyddion. Tynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol sylw hefyd at ein polisi cwynion a'n hymrwymiad i ymddiheuro pan fyddwn wedi gwneud y peth anghywir.

2.2 Aeth yr Ysgrifennydd Parhaol ymlaen i sôn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un, a'r modd rydym yn annog gonestrwydd a deialog y tu allan i Lywodraeth Cymru er mwyn osgoi meddylfryd grŵp a chaeedig. Cyfeiriodd at bwysigrwydd gwerthoedd a'r modd rydym yn ceisio eu hymgorffori yn Llywodraeth Cymru, a dywedodd wrth yr Ymchwiliad ei fod, ar y cyfan, yn teimlo bod cod y gwasanaeth sifil yn rhoi pwys digonol ar onestrwydd ac nad oedd angen ymestyn y ddyletswydd gonestrwydd i'r gwasanaeth sifil.

2.3 Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n tynnu sylw ei uwch-aelodau o staff at y gwersi a nodwyd gan yr Ymchwiliad. Mae'r papur hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

2.4 Disgwylir i'r Ymchwiliad i Waed Heintiedig gyhoeddi ei argymhellion ddiwedd y gwanwyn nesaf ac, yn ddi-os, byddant yn cwmpasu'r materion hyn.

3. Goblygiadau adnoddau

3.1 Nid oes unrhyw oblygiadau o ran adnoddau na staff yn deillio o'r papur hwn.

4. Risgiau

4.1 Nid oes unrhyw risgiau yn deillio o'r papur hwn, ond bydd angen i'r materion llawer mwy sy'n deillio o argymhellion yr Ymchwiliad gael eu hadlewyrchu yn ein cofrestrau risgiau, unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei hymateb iddynt.

5. Cyfathrebu

5.1 Nid oes unrhyw risgiau sy'n galw am gyfathrebu.

6. Materion cydymffurfiaeth cyffredinol

6.1 Nid oes unrhyw faterion cydymffurfiaeth cyffredinol.

7. Argymhellion

7.1 Gwahoddir y Bwrdd i ystyried y materion a godwyd gan yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig a thystiolaeth yr Ysgrifennydd Parhaol ac i ystyried i ba raddau y mae'r materion hyn wedi'u hymgorffori yn Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddi

Dylid cyhoeddi'r papur hwn yn ei gyfanrwydd gan nad oes yr un eithriad yn y Cod Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth yn gymwys. Mae tystiolaeth ysgrifenedig a llafar yr Ysgrifennydd Parhaol eisoes wedi'i chyhoeddi.