Cyfarfod y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion: 24 Gorffennaf 2024
Chofnodion y gyfarfodydd y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 24 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cyfarfu Bwrdd y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion ar 24 Gorffennaf, ar gyfer y cyntaf o gyfres o gyfarfodydd rheolaidd a gynhelir o fis Medi 2024 ymlaen.
Dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru, a chydag aelodaeth o ADEW, CLlLC, consortia rhanbarthol, undebau arweinwyr ac Estyn, mae'r Bwrdd yn lle i sefydliadau yr effeithir arnynt yn fwyaf uniongyrchol ddod at ei gilydd i drafod cynnydd tuag at newid systemau. Gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd oruchwylio'r gwaith o weithredu canfyddiadau'r Adolygiad Strategol o Bartneriaid Addysg yng Nghymru, ac yn benodol sicrhau y bydd y gwaith hwn yn arwain at wella safonau addysgol, lleihau llwyth gwaith a gwell gwerth am arian. Gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd gynrychioli eu sefydliad eu hunain, gan gydnabod yr ystod o ymgysylltu ehangach â phartneriaid ac ysgolion.
Yn gynnar yn eu trafodaethau, pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol â'r sector addysg gyfan. Felly, cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i, fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen, yn rhoi nodyn byr ar ôl pob cyfarfod fel rhan o gyfres ehangach o gyfathrebiadau. Dyma'r cyntaf o'r rhain a gellir ei rannu'n agored â chydweithwyr a phartneriaid.
Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o’r gwaith cyfredol mewn tri maes craidd: gweithio ysgol i ysgol; gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol ar draws awdurdodau lleol; swyddogaethau a chefnogaeth genedlaethol; a chynnydd i sefydlu pedwerydd prosiect a fydd yn goruchwylio'r newid i'r trefniadau newydd.
Yn dilyn y canllawiau a’r templed a rannwyd gyda’r awdurdodau lleol ym mis Mehefin, cynhaliwyd sgyrsiau cadarnhaol rhwng phob Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru a'r tîm Adolygu yn mis Gorffennaf i drafod cynnydd a chynnig cefnogaeth a chysylltiadau fel y bo'n briodol. Yn benodol, amlygodd y sgyrsiau hyn ddyfnder a maint y trafodaethau a gafwyd rhwng awdurdodau lleol a'u hysgolion a'r gwaith meddwl a'r sylw a roddir i'r gwaith. Bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r canllawiau dros yr haf i gynnwys tegwch, ADY, y cwricwlwm, dysgu proffesiynol, a gwella ysgolion. Byddwn yn rhannu hyn gyda'n partneriaid fel o'r blaen.
Cafwyd diweddariad ar y gwaith i gynllunio swyddogaethau cenedlaethol a rannwyd â phartneriaid yn flaenorol, gan gynnwys ystod fach o ddysgu proffesiynol cenedlaethol a flaenoriaethir, ystod o raglenni cymorth strategol cenedlaethol, rôl barhaus Adnodd, a sefydlu tîm gwella addysg bach i ganolbwyntio ar alluogi ymgysylltu a chydweithio. Darperir mwy o fanylion yn mis Hydref.
Roedd consensws bod yr adolygiad wedi helpu i gyfeirio'r sgwrs at addysgu a dysgu, cefnogaeth ar gyfer y trywydd polisi cyffredinol a chydnabyddiaeth o'r cyfleoedd y gall y newidiadau hyn eu cynnig ar lefel ysgol, lleol a chenedlaethol.
Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau bryderon hefyd ynghylch yr heriau cyflawni sy'n gysylltiedig ag amserlenni tynn y Rhaglen a hynny ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllidebau.
Bydd amserlen wedi'i diweddaru yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi a chaiff ei rhannu â phartneriaid. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol sydd i'w sefydlu yn yr hydref.
