Cyfarfod y Cabinet: 1 Gorffennaf 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 1 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol:
- Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Jayne Bryant AS
- Sarah Murphy AS
Swyddogion
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat, Prif Weinidog Cymru
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Darren Griffiths, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Owen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Y diweddaraf ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
2.2 Roedd y rhaglen newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y SFS wedi cychwyn, yn unol â'r datganiad llafar ar 14 Mai. Yn ogystal, roedd swyddogion bellach wedi cwblhau'r dadansoddiad o'r ymgynghoriad a'r nod oedd ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb y Llywodraeth yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Gorffennaf.
Tata Steel
2.3 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet ei fod ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y cyd, yr wythnos flaenorol, mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Tata Steel ei fod yn bwriadu cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot cyn y gweithredu diwydiannol a gynlluniwyd gan Unite.
2.4 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod â Phrif Weithredwr Tata Steel UK ddydd Iau i drafod y pryderon am ddiogelwch. Ers hynny, roedd cyfres o drafodaethau wedi bod i osgoi gorfod cau yn gynnar; o ganlyniad, cynigiodd Tata Steel drafod buddsoddiad yn y dyfodol ochr yn ochr â thelerau diswyddo ac fe ganslodd Unite y gweithredu diwydiannol arfaethedig yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Gweithredu diwydiannol gan y BMA
2.5 Nododd y Cabinet fod tair cangen ymarfer y BMA, sef meddygon iau, meddygon SAS ac ymgynghorwyr, wedi derbyn cynnig cyflog diwygiedig y Llywodraeth ar gyfer 2023-24 yr wythnos flaenorol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet y Grid Cyfarfod Llawn gan nodi y byddai'r amser pleidleisio rheolaidd tua 4:50pm ddydd Mawrth, ac y byddai Cyfnod 3 o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn dilyn hynny, gyda phleidleisio drwy gydol yr amser. Trefnwyd cynnal y bleidlais am 6:40pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu
4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a wahoddodd y Cabinet i gytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2023-2024. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd adolygu'r amcanion llesiant.
4.2 Hwn oedd trydydd adroddiad blynyddol y Senedd bresennol ac roedd yn cyflawni dyletswydd statudol y Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
4.3 Er gwaethaf yr heriau ariannol roedd y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd. Ymhlith y cyflawniadau: roedd 140,000 o gleifion newydd wedi cael gofal deintyddol y GIG; roedd 6,900 o leoedd Dechrau'n Deg ychwanegol wedi'u darparu, gyda mwy i ddilyn; ac roedd 17,500 o bobl wedi cael cymorth gyda llety dros dro. Yn ogystal, cyflwynwyd y Rheoliadau newydd ar gyfer Ailgylchu yn y Gweithle, gan adeiladu ar y cyflawniadau ym maes ailgylchu yn y cartref.
4.4 Cydnabuwyd mai dyma'r flwyddyn gyntaf yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) ar yr amcanion llesiant.
4.5 Croesawodd y Cabinet y papur a diolchodd i bawb a fu'n rhan o baratoi'r Adroddiad Blynyddol.
4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar 9 Gorffennaf a'i drafod yn y Senedd yr wythnos ganlynol.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2024