Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell,  Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Helen Lentle, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Alex Slade, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl (eitem 4)

Item 1: Minutes of previous meetings

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 3 Gorffennaf.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cynnal cynhadledd i’r wasg yn gynharach y diwrnod hwnnw, cyn y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Roedd y Prif Weinidog wedi tynnu sylw at lwyddiannau lefel uchel y Llywodraeth, a’r hyn yr oedd Gweinidogion wedi gallu ei gyflawni er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol. Hefyd, cyfeiriodd at y ffaith y byddai llai o gyllid ar gael yn y blynyddoedd presennol ac yn y dyfodol oherwydd y lefelau chwyddiant uchel, ac y byddai’n rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau anodd yn ystod y misoedd nesaf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai’r Cyfarfod Llawn yn dod i ben ychydig yn gynharach nag arfer ddydd Mawrth, ac y byddai amser pleidleisio yn cael ei gynnal tua 5:30pm, gan fod Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) wedi cael ei ohirio tan dymor yr hydref, oherwydd newidiadau i amseriad deddfwriaeth y DU yn San Steffan.

3.2 O ran dydd Mercher, byddai Comisiynydd yn y Senedd yn ymateb i’r ddadl fer ar yr angen i Aelodau ddysgu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR). Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7pm.

Eitem 4: Strategaethau Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad CAB(22-23)87

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gymeradwyo cyfeiriad y gwaith o ddatblygu strategaethau i olynu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Beth am Siarad â Fi.

4.2 Cyhoeddodd y Llywodraeth y strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn 2012, a’r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed yn 2015, a bu’r ddwy yn weithredol tan ddiwedd 2022. Gwnaed ymrwymiad cyhoeddus i ddatblygu strategaethau olynol, ac i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r strategaethau a oedd yn dod i ben er mwyn asesu eu heffeithiau a darparu sail ar gyfer y camau nesaf.

4.3 Fel rhan o raglen ehangach o adolygiadau, gwnaed ymchwil helaeth i effeithiau’r ddwy strategaeth a oedd yn bodoli eisoes. Roedd yr ymchwil yn cynnwys ymgysylltu allanol â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau.

4.4 Roedd cefnogaeth gref o blaid datblygu strategaethau olynol er mwyn parhau â’r gwaith ar yr amcanion allweddol, ond roedd angen gwneud mwy i gynorthwyo’r rheini sy’n dioddef afiechyd meddwl mwy difrifol, llawer ohonynt yn dal i wynebu diffyg dealltwriaeth a chymorth gan eu cymunedau a chymdeithas yn ehangach.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2023