Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig 
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Ian Gunney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau y GIG
  • Samia Edmonds, Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio GIG Cymru
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Ruth Conway, Dirprwy Trafnidiaeth Gyhoeddus Integredig
  • Rebecca Johnson, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth
  • Ian Taylor, Cynghorydd Polisi Arbenigol – Trafnidiaeth

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 4 Gorffennaf.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Rhybudd Tywydd Oren

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Oren ar gyfer gwres eithafol tua diwedd yr wythnos, ac y byddai’r rhybudd yn berthnasol i rannau o Gymru.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022, yr oedd dadl arnynt i fod i gael ei chynnal ddydd Mawrth, wedi cael eu tynnu nôl ac y byddent yn cael eu hailosod ar gyfer dadl yn yr hydref. Byddai’r ddadl ar y tri Rheoliad cysylltiedig yn mynd yn ei blaen fel y trefnwyd.

3.2 Roedd amser pleidleisio ddydd Mawrth wedi ei drefnu ar gyfer 7:35pm, a thua 7:10pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi’r ddogfen ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth.

4.2 Roedd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn gosod yr weledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth gynaliadwy, effeithlon a hawdd ei defnyddio. Roedd yn cynnwys targed o 45% o ran gwneud teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio erbyn 2040. Roedd hynny’n gynnydd o 13% ar gyfran y dull a amcangyfrifwyd ar gyfer 2019.

4.3 Roedd Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth wedi cael ei ddatblygu, gan nodi’r rhaglenni, prosiectau a pholisïau y byddai angen eu gweithredu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Roedd y cynllun yn helpu partneriaid cyflawni, gan sicrhau cefnogaeth y gadwyn gyflenwi.  Hefyd roedd fframwaith monitro a gwerthuso ar waith mewn perthynas â’r strategaeth er mwyn tracio cynnydd, a chafodd data llinell sylfaen eu cyhoeddi’n ddiweddar gan Trafnidiaeth Cymru.

4.4 Roedd y cynllun yn disgrifio’r cyd-destun strategol a’r camau yr oedd angen eu cymryd i annog pobl i newid eu hymddygiadau teithio.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.