Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS (o eitem 5)
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi (eitem 4)
  • Dan Venables, Pennaeth Cydraddoldeb Strategol a Phrif Ffrydio (eitem 4)
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (eitem 5)
  • Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant (eitem 5)
  • Rhian Griffiths, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)

Item 1: Minutes of the previous meeting

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 4 Mawrth / Cabinet approved the minutes of 4 March.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymchwiliad COVID-19

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet, y byddai Gweinidogion yn rhoi tystiolaeth i'r Ymchwiliad COVID-19 yn ystod y dyddiau nesaf, yn dilyn presenoldeb swyddogion Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr perthnasol yn ystod y pythefnos diwethaf.

2.2 Roedd Gweinidog yr Economi yn ymddangos gerbron yr Ymchwiliad y diwrnod hwnnw, a byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn bresennol y diwrnod canlynol. Byddai'r Prif Weinidog yn ymddangos gerbron yr Ymchwiliad ddydd Mercher.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn y Senedd y diwrnod canlynol.

2.4 Dywedwyd bod y Llywydd wedi cael cyngor cyfreithiol a oedd yn awgrymu bod darpariaethau'r Bil y tu allan i gymhwysedd, sef cyngor a oedd yn groes i'r cyngor a roddwyd gan gyfreithwyr y Llywodraeth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys Grid y Cyfarfod Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:15pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y Nod Hirdymor a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ar gyfer 2024-28, ac y dylid cyhoeddi'r rhain ar 18 Mawrth.

4.2 O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei Hamcanion Cydraddoldeb, ac ers mis Ebrill 2012, roedd wedi mabwysiadu'r arfer o'u cyhoeddi bob pedair blynedd. Roedd disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi nesaf ar 1 Ebrill 2024. Roedd hyn yn sicrhau bod gwaith y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl.

4.3 Ym mis Hydref y flwyddyn flaenorol, roedd y Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ym mis Chwefror.

4.4 Ers cyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb blaenorol 2020-2024, roedd sawl cynllun gweithredu ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, wedi cael eu cyhoeddi. Roedd Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-2028 yn gysylltiedig â chamau gweithredu'r cynlluniau penodol hyn, ac nid oeddent yn eu diystyru na'u dyblygu. Roeddent yn eang eu naws, yn drawslywodraethol, ac yn cyfeirio at gynlluniau ac ymyriadau eraill. Byddai'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer y cynlluniau ar wahân, gan wneud y cysylltiadau ac adlewyrchu sut yr oedd bywydau a phrofiadau pobl yn gorgyffwrdd.

4.5 Datblygwyd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drwy weithio ar draws y llywodraeth, gyda swyddogion o bob maes portffolio yn cymryd rhan. Hefyd, roedd y gwaith o nodi camau gweithredu a nodau ategol wedi dechrau, a byddai hynny'n helpu i gyflawni'r amcanion a darparu sail i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024 – 2028.

4.6 Yn ystod y broses ymgynghori, roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi'r Equality and Human Rights Monitor 2023: A yw Cymru'n Decach? Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn wedi cael eu defnyddio hefyd wrth ddatblygu'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.

4.7 Adroddwyd bod 82% o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi cytuno â'r Nod Hirdymor arfaethedig, gyda 78% yn cytuno â'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol. Roedd adborth wedi awgrymu bod y syniad o beidio â gwahaniaethu fel yr oedd yn cael ei ddisgrifio yn y nod drafft yn rhy oddefol ac roedd hyn bellach wedi'i gryfhau i fod yn nod o greu Cymru sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant a dileu gwahaniaethu, neu sy'n gwbl rydd rhag gwahaniaethu, trwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

4.8 Yn dilyn yr adborth a'r ymgysylltu a ddigwyddodd fel rhan o'r broses ymgynghori, diwygiwyd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft, ac roedd y newidiadau hyn yn cael eu hamlinellu yn y papur.

4.9 Croesawodd y Cabinet y papur.

4.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Diwylliant: 2024 - 2030

5.1 Cyflwynodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar Flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Diwylliant: 2024-2030.

5.2 Roedd datblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio, ac ymgynghorwyd â'r Aelod dynodedig yn llawn, ac roedd wedi cael cyfleoedd i gyfrannu drwy gydol y broses o ddatblygu'r blaenoriaethau strategol.

5.3 Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi gosod nod clir ar gyfer creu “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.

5.4 Yn ddiweddar, roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi tynnu sylw at ddiwylliant fel un o'i bum maes blaenoriaeth am y saith mlynedd nesaf.

5.5 Yn sgil ymgysylltu'n gynnar â'r sector a'r gymuned, sef gwaith a wnaed fel rhan o baratoi'r strategaeth yn 2023, cynigiwyd y dylid cynnal ymgynghoriad dros gyfnod o wyth wythnos. Ar ôl hynny, byddai ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu, ochr yn ochr ag ystyried y strategaeth ac o bosibl ei hadolygu.

5.6 Croesawodd y Cabinet y papur.

5.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2024