Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ffydd mewn Teuluoedd

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi ymweld â Cwtch Mawr yn Abertawe y dydd Iau blaenorol, sef Aml-fanc cyntaf Cymru a sefydlwyd gan Ffydd mewn Teuluoedd. Cafodd y fenter ei modelu ar Aml-fanc a sefydlwyd yn Fife gyda chefnogaeth y cyn-Brif Weinidog, Gordon Brown. Roedd Ffydd mewn Teuluoedd yn gweithio gydag Amazon a manwerthwyr eraill i ddosbarthu nwyddau dros ben am ddim i bobl nad oeddent yn gallu eu fforddio.

2.2 Roedd y Llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda Ffydd mewn Teuluoedd ar y prosiect hwn ers peth amser ac roedd wedi darparu cymorth ariannol cymedrol yn ddiweddar. Roedd yn bosibl iawn y gellid efelychu'r fenter mewn mannau eraill, gan ei bod yn helpu i gefnogi uchelgeisiau'r Llywodraeth a nodwyd yn y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig. Byddai’r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn lansio Cwtch Mawr yn ffurfiol ganol mis Ionawr.

Yr Ymchwiliad COVID-19

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 yn rhoi diweddariad ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru y diwrnod canlynol.

Cyfarfod ag Arweinwyr Mosgiau

2.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai ef a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn cyfarfod ag arweinwyr Mosgiau ar ddydd Mercher yr wythnos honno.

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

2.5 Cofnododd y Prif Weinidog ei fod ef a'r Cabinet yn diolch i Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, a oedd yn ymddeol o Lywodraeth Cymru.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet y bu un newid i Grid y Cyfarfodydd Llawn a oedd wedi'i ddosbarthu gyda'r papurau, sef bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi newid pwnc ei datganiad llafar i fod yn ddiweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5.10pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher. Nid oedd dadl fer yr wythnos honno.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2023