Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS 
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden MS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd TAC
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn ar ôl COVID-19
  • Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethu'r GIG
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Claire Bennett,  Cymunedau a Threchu Tlodi (12 Gorffennaf)
  • Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes (12 Gorffennaf)
  • Louise Brown, Pennaeth y Cynllun Cyflogadwyedd (12 Gorffennaf)
  • Tom Taylor, Dirprwy Gyfarwyddwr Olrhain Cysylltiadau (14 Gorffennaf)

12 Gorffennaf

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 5 Gorffennaf.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wrth y Cabinet fod disgwyl i’r cyfnod pleidleisio fod am 6:50pm ddydd Mawrth a thua 7pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) - 15 Gorffennaf a’r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws Diwygiedig

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur ar yr Adolygiad o'r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws, a oedd yn gofyn am arweiniad gan y Gweinidogion ar ymateb y Llywodraeth i'r cylch presennol. O ystyried y pryderon blaenorol ynghylch lledaeniad amrywiolyn Delta, roedd penderfyniad wedi’i wneud ddechrau mis Mehefin i symud i Lefel Rhybudd 1 fesul cam. 

3.2 Roedd lefelau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn uchel a nifer yr achosion yn cynyddu, a hynny’n bennaf ymhlith pobl ifanc nad oedd wedi’u brechu gymaint. Roedd y cyfraddau ymysg pobl dros 60 oed yn cynyddu ond yn llawer arafach. Amcangyfrifid bod y gyfradd atgynhyrchu ar gyfer Cymru bellach rhwng 1.2 ac 1.6.

3.3 Roedd y pwysau ar y GIG yng Nghymru yn parhau’n sefydlog ac roedd yn gweld y lefelau isaf o COVID-19 ers i’r ffigurau ddechrau cael eu hadrodd, ond pe bai’r achosion yn parhau i gynyddu’n gyflym gallai derbyniadau i’r ysbyty gynyddu hefyd.

3.4 Roedd tua 3,666 o achosion o amrywiolyn Delta wedi’u cadarnhau yng Nghymru, a oedd yn golygu mai dyma’r math mwyaf cyffredin. O'r achosion a ganfuwyd, roedd 48.7% heb eu brechu, roedd 33.6% wedi cael un dos ac roedd 17.6% wedi cael dau ddos, ond gallai'r data hwn gynnwys brechiadau nad oeddent wedi cael y 14-21 diwrnod sydd eu hangen i roi’r amddiffyniad mwyaf posibl. Serch hynny, roedd nifer y bobl dros 40 oed a oedd yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad yn uchel, ac roedd yn ymddangos bod hyn wedi newid y berthynas rhwng trosglwyddo cymunedol a niwed.

3.5 Roedd cyngor y Prif Swyddog Meddygol yn dangos bod y darlun epidemiolegol presennol wedi newid y cydbwysedd rhwng niwed uniongyrchol a niwed anuniongyrchol ac wedi ei gwneud yn fwyfwy anodd cyfiawnhau'r defnydd llym o bwerau iechyd y cyhoedd i barhau i gyfyngu ar weithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

3.6 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

3.7 Roedd y Cabinet eisoes wedi trafod, y diwrnod cynt, rai o'r cynigion yn y papur a nodwyd y byddai angen cadarnhau'r penderfyniadau hyn yn awr.

3.8 Cytunwyd y dylid diwygio'r Rheoliadau i ddarparu, o 17 Gorffennaf y byddai’r rheol chwech o bobl yn gymwys i anheddau preifat a llety i ymwelwyr. Byddai canolfannau sglefrio iâ yn cael ailagor a byddai digwyddiadau o dan do yn cael ailgychwyn.

3.9 Byddai'r Rheoliadau'n caniatáu i hyd at 1,000 o bobl eistedd mewn digwyddiadau o dan do, a byddai terfyn o hyd at 200 mewn lleoliadau lle’r oedd pobl yn sefyll yn unig. Fel gyda phob digwyddiad, byddai'n ofynnol cynnal asesiad risg llawn a nodwyd bod gan swyddogion gorfodi Awdurdodau Lleol y pwerau i ymateb i ddigwyddiadau nad oeddent yn cael eu trefnu o fewn y gofynion. 

3.10 At hynny, byddai'r cyfyngiadau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol eistedd i gael bwyd a diod mewn digwyddiadau yn cael eu dileu.

3.11 Yn ogystal, byddai plant yn cael mynychu canolfannau gweithgareddau preswyl dan oruchwyliaeth o 17 Gorffennaf a byddai’r canllawiau'n cael eu diweddaru i sicrhau bod trefnwyr yn rhoi gwybod i rieni neu warcheidwaid bod y risg yn cynyddu wrth gymysgu ac aros dros nos.

3.12 O ran clybiau nos a lleoliadau adloniant i oedolion, cytunodd y Cabinet â chyngor swyddogion iechyd y cyhoedd i ohirio'r ailagor nes byddem wedi symud i Lefel Rhybudd 0.

3.13 O ran unrhyw lacio o dan Lefel Rhybudd 0 y gellid ei gyflwyno law yn llaw â symud i Lefel Rhybudd 1, cytunwyd y dylid dileu’r cyfyngiad ar nifer y bobl a allai ymgynnull y tu allan ym mhob lleoliad. Yn ogystal, dylid addasu'r drefn mesurau rhesymol ar gyfer yr awyr agored fel nad oedd cadw pellter corfforol yn ofyniad absoliwt mwyach. Fodd bynnag, byddai hyn yn parhau i fod yn un o becyn o fesurau y dylai trefnwyr eu hystyried. At hynny, byddai holl elfennau awyr agored Lefel Rhybudd 0 yn cael eu dwyn ymlaen i 17 Gorffennaf.

3.14 Cytunwyd hefyd y dylai'r Prif Weinidog ddweud yn ddiweddarach yr wythnos honno y byddai Cymru'n symud i Lefel 0 o 7 Awst, ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn dal yn ffafriol.

3.15 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

3.16 Trodd y Gweinidogion at y papur ar y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig a gweddill y materion yr oedd angen eu datrys wrth gadarnhau’r trefniadau ar gyfer Lefel Rhybudd 0.

3.17 Trafododd y Cabinet gynigion i godi’r gofynion o ran defnyddio gorchuddion wyneb a daeth i'r casgliad y dylai'r cyfyngiadau barhau ar gyfer pob lleoliad o dan do, er mwyn sicrhau diogelwch y rhai mwyaf agored i niwed. Yr unig eithriad i hyn fyddai mewn lleoliadau lletygarwch, lle byddai angen i leoliadau barhau i nodi'r risgiau a'r mesurau lliniaru fel y gallai cwsmeriaid wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Disgwylid y gellid estyn yr eithriad i leoliadau eraill mewn ymateb i'r ffordd yr oedd pobl yn ymddwyn. Nodwyd y byddai ysgolion a cholegau yn cael eu llywodraethu gan y fframwaith a oedd wedi’i gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg. Byddai angen cyfleu'r rhesymeg dros y penderfyniad hwn yn glir.

3.18 Nodwyd y byddai’r Gweinidogion yn dychwelyd at newidiadau posibl i'r rhesymau dros hunanynysu ddydd Mercher, pan fyddai cyngor pellach ar gael.

3.19 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â phenderfyniadau’r Gweinidogion.

Ailymgynullodd y Cabinet ar 14 Gorffennaf i drafod dyfodol hunanynysu ar gyfer pobl a oedd wedi dod i gysylltiad ag achosion o COVID-19 a gadarnhawyd

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn amlinellu cynigion y byddai angen eu hystyried o ran dyfodol hunanynysu ar gyfer pobl a oedd wedi dod i gysylltiad ag achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

4.2 Roedd y papur yn tynnu sylw at y ffaith bod brechiadau wedi gwanhau, ond heb dorri, y cysylltiad rhwng COVID-19 a niwed difrifol. Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bu cynnydd yn nifer yr achosion ond cyfraddau llawer is o dderbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau. Roedd cyfran yr achosion a oedd yn gorfod mynd i'r ysbyty tua 2.8% ddiwedd mis Mehefin, o'i gymharu ag uchafbwynt o 10% ym mis Rhagfyr.

4.3 Bu cynnydd sylweddol a pharhaus yn nifer y cysylltiadau y gofynnwyd iddynt hunanynysu o ganlyniad i gael eu holrhain gan y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu ac oherwydd negeseuon Ap COVID-19 y GIG. Oherwydd y nifer uchel o gysylltiadau sy'n hunanynysu, yr effaith ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, roedd angen adolygu'r dull gweithredu yng Nghymru. Roedd tystiolaeth yn dod i'r amlwg ar effaith y brechlynnau ar leihau trosglwyddo ac atal salwch difrifol, ac roedd angen ystyried yr effaith ar yr economi, gwasanaethau cyhoeddus ac addysg, yn ogystal â lles y bobl yr effeithiwyd arnynt.

4.4 Nodwyd y byddai'n anodd cael cyfundrefn wahanol yng Nghymru i un Lloegr ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd o wledydd rhestr 'oren', yn enwedig o ystyried y nifer fawr o bobl a fyddai'n defnyddio canolfannau teithio yn Lloegr. Fodd bynnag, byddai angen i bobl gael prawf PCR o hyd ar ddiwrnod dau ar ôl dychwelyd adref. Byddai angen iddynt gofrestru gyda'r system Profi Olrhain Diogelu, ymatal rhag ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai am gyfnod o ddeg diwrnod ar ôl dychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith pe baent yn datblygu symptomau. Byddai'r cyngor ynghylch ymatal rhag teithio ac eithrio am resymau hanfodol a'r argymhelliad i gymryd gwyliau yng Nghymru yn parhau.

4.5 Cadarnhaodd y Cabinet y dylai pawb a gafodd brawf COVID-19 positif barhau i hunanynysu.

4.6 Trafododd y Gweinidogion a oedd yn dal yn gymesur i gysylltiadau achosion COVID-19 a gadarnhawyd hunanynysu. Cytunwyd, o ystyried bod y risgiau is yn drech na'r niwed ehangach, na fyddai hyn yn berthnasol mwyach i'r rhai a oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn.

4.7 Fodd bynnag, dylai'r rheolau hunanynysu barhau i fod ar waith ar gyfer y rhai 18 oed a throsodd nad oeddent wedi cael eu brechu'n llawn eto.

4.8 Byddai'r Prif Weinidog yn nodi'r dull y cytunodd y Cabinet arno yn ei Ddatganiad i'r Senedd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Byddai'r Prif Weinidog hefyd yn nodi y byddai'r rheolau hunanynysu yn cael eu llacio yn dilyn yr adolygiad nesaf ddechrau mis Awst, pe bai'r amodau'n parhau'n ffafriol.

4.9 Cytunwyd y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â phenderfyniadau’r Gweinidogion.