Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS (eitem 1)
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Helen Carey, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19, Adolygiad 21 Diwrnod
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

1.1 Rhoddodd Gweinidog yr Economi wybod i’r Cabinet y byddai Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’r prosbectws ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, i gymryd lle cronfeydd strwythurol yr UE, y diwrnod canlynol. Byddai’r Gronfa’n darparu £585 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Serch hynny, byddai Cymru ar ei cholled o tua £1 biliwn erbyn 2025, o gymharu â’r sefyllfa pan dderbyniai gyllid yr UE.

1.2 Roedd Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n ddwys ers nifer o flynyddoedd i greu’r model cryfaf posibl ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl ymadael â’r UE. Roedd hynny wedi cynnwys gwaith cyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid, ymgynghori â’r cyhoedd, a phrosiect i ymgorffori’r arferion rhyngwladol gorau gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

1.3 Er gwaethaf ymdrechion mynych i ymgysylltu â Gweinidogion y DU ynghylch y cynlluniau hyn, tan y mis hwn, ni chynigiodd Llywodraeth y DU drafodaeth ystyrlon er mwyn i’r prosbectws gael ei gyhoeddi cyn cyfnod cyn-etholiadol yr etholiadau llywodraeth leol.

1.4 Er gwaethaf yr amserlen anymarferol hon, roedd Gweinidogion Cymru wedi ceisio creu dull partneriaeth o ymdrin â’r Gronfa a oedd yn parchu’r setliad datganoli ac yn cyd-fynd â dymuniadau pobl Cymru a sefydliadau yng Nghymru o ran sut y dylid buddsoddi a darparu cyllid ar ôl ymadael â’r UE.

1.5 O ganlyniad i’r trafodaethau dwys, cyflawnwyd consesiynau, a fyddai’n caniatáu dyraniadau rhanbarthol i awdurdodau lleol ynghyd â chynlluniau yr oedd yn ofynnol iddynt gyd-fynd â Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol. Byddai Gweinidogion yn gweithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid i fanteisio i’r eithaf ar raglenni a fyddai’n cefnogi’r genhadaeth i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.  

1.6 Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau ariannu yn adlewyrchu anghenion penodol cymunedau Cymru. Roedd pryder y byddai’r cronfeydd datblygu economaidd yn cael eu cyfeirio oddi wrth yr ardaloedd hynny â’r mwyaf o dlodi. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig fformiwla amgen a fyddai’n dosbarthu cyllid yn decach ar draws gwahanol ardaloedd Cymru yn ôl yr angen economaidd, ond roedd hyn wedi’i wrthod gan Weinidogion y DU. 

1.7 At hynny, ni fyddai gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth o wneud penderfyniadau ar y cyd, a fyddai’n hanfodol er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl ac o ran parchu datganoli.  Nodwyd bod arolwg barn diweddar a gynhaliwyd gan y Western Mail yn dangos y byddai’n well gan bobl yng Nghymru i’r rhaglen cymorth rhanbarthol ar ôl ymadael â’r UE gael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na Gweinidogion y DU.

1.8 O ystyried hyn, ni fyddai’n bosibl cymeradwyo’r dull yr oedd Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu. Byddai goblygiadau i’r dull hwnnw o ran rôl gyflawni Gweinidogion Cymru, yn ogystal ag o ran ymrwymo adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn gweithredu’r Gronfa. Roedd y penderfyniad hwn, a oedd yn gam yn ôl, wedi’i gymhlethu ymhellach gan y gostyngiad dramatig o gymharu â’r arian y byddai Cymru wedi’i gael pe bai Llywodraeth y DU wedi cyflawni ei haddewid i ddarparu’r swm cyflawn o arian y byddai Cymru wedi’i gael o gronfeydd yr UE.

1.9 Mynegodd y Cabinet siom y bydd fformiwla Llywodraeth y DU yn peri bod pobl yng Nghymru ar eu colled.

Eitem 2: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 14 Ebrill 2022

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet adolygu’n ffurfiol y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5).

2.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd y cyhoedd i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

2.3 Roedd y papur yn amlinellu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd. Roedd y coronafeirws yn dal i fod yn gyffredin ledled Cymru a’r DU yn ehangach. Rhwng 27 Mawrth 2022 a 2 Ebrill 2022, amcangyfrifodd canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gan 230,800 o bobl yng Nghymru, ar gyfartaledd, COVID-19. Roedd hyn yn cyfateb i un o bob 13 o bobl. Roedd y lefelau uchel hyn o heintiadau yn cael eu sbarduno gan is-deip BA.2 o’r amrywiolyn Omicron.

2.4 Roedd y pandemig yn parhau i roi’r GIG o dan bwysau. Roedd derbyniadau yn sgil COVID-19 i ysbytai yng Nghymru wedi cynyddu ers dechrau mis Mawrth ond roeddent bellach wedi sefydlogi o amgylch 40 y dydd. Roedd nifer y rhai mewn gofal dwys â’r feirws wedi parhau’n is nag mewn tonnau blaenorol. 

2.5 Ar 7 Ebrill, roedd 1,372 o gleifion cysylltiedig â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru, er bod 535 o’r rhain yn gwella. Roedd canran yr achosion wedi’u cadarnhau a oedd wrthi’n derbyn triniaeth oherwydd y feirws ar hyn o bryd tua 14%. Roedd 17 o welyau unedau gofal dwys yn cael eu defnyddio gan gleifion a oedd ag achosion wedi’u cadarnhau o’r feirws, sef cynnydd dros y mis blaenorol. Fodd bynnag, roedd hyn yn sylweddol is nag mewn tonnau blaenorol.

2.6 Dangosai’r modelau diweddaraf gan Brifysgol Abertawe fod yr amcanestyniadau tymor canolig o 1 Ebrill yn awgrymu y byddai senario lai heriol, gyda hyd at 1700 o welyau’n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19, o’i gymharu â’r amcanestyniad ar gyfer yr wythnos flaenorol, sef tua 2500.

2.7 Roedd y cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol a oedd wedi’i gynnwys yn y papur yn amlinellu bod angen cynnal ymdrechion i leihau trosglwyddiadau mewn ysbytai. Gall gorchuddion wyneb i ymwelwyr gael effaith ychwanegol fach ar leihau trosglwyddiadau feirysol, ond gallant hefyd ddangos bod angen ymddygiadau amddiffynnol o hyd. Dylai staff ac ymwelwyr barhau i ddefnyddio gorchuddion o’r fath nes i’r trosglwyddiadau feirysol mewn cymunedau leihau’n sylweddol.

2.8 Cytunodd y Cabinet na fyddai’n ofynnol yn gyfreithiol, o 18 Ebrill 2022 ymlaen, i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiadau risg penodol o ran y coronafeirws a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o’i ddal. 

2.9 Fodd bynnag, byddai angen cadw’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol am y tro, er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed a staff.

2.10 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion a chyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.