Cyfarfod y Cabinet: 12 Mai 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 12 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Jane Hutt AS (o eitem 3)
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Rebecca Evans AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Julia David, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymraeg 2050 (eitem 4)
- Iddon Edwards, Pennaeth yr Economi, Tai a'r Gymraeg (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 28 Ebrill 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Coffáu Diwrnod VE
2.1 Soniodd y Prif Weinidog am ddigwyddiadau coffa Diwrnod VE yr wythnos flaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys: presenoldeb y Prif Weinidog mewn gwasanaethau yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Abaty Westminster; a'r Dirprwy Brif Weinidog yn cynrychioli'r Llywodraeth mewn garddwest frenhinol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:45pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg'.
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn nodi ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sef 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg.'
4.2 Tynnodd adroddiad y Comisiwn sylw at ganlyniadau Cyfrifiad 2021, a'r dystiolaeth bod yr iaith yn dirywio yn y bröydd sy'n Gymraeg eu hiaith yn draddodiadol. Roedd y materion sy'n gysylltiedig â hyn yn gymhleth, heb un ateb unigol syml i'r heriau sy'n wynebu'r iaith.
4.3 Roedd y meysydd polisi allweddol a ystyriwyd gan y Comisiwn yn cynnwys yr economi, gweithleoedd, datblygu cymunedol a thai, cynllunio trefol a sir, ynghyd â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, addysg cyfrwng Cymraeg, a chynllunio ieithyddol yn seiliedig ar y gymuned.
4.4 Roedd pum deg saith o argymhellion, a'r thema ganolog oedd yr angen i ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
4.5 Roedd ymateb drafft y Llywodraeth yn cyd-fynd â naw prif bennod yr adroddiad. Roedd yn rhoi crynodeb byr o'r bennod, naratif yn amlinellu'r ymateb i'r argymhellion, a hefyd roedd yn amlinellu'r camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill, a’r hyn a fyddai’n cael ei wneud yn y dyfodol.
4.6 Roedd y Cabinet yn cydnabod bod yr adroddiad hwn yn rhan o ddull gweithredu ehangach ar gyfer cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg, a byddai angen ystyried yr argymhellion hyn yng nghyd-destun Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a oedd yn cwblhau ei daith drwy'r Senedd. Nodwyd y ffaith mai'r Bil hwn oedd y cyntaf i gael ei gymryd drwy'r Senedd yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddiwedd mis Mai.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2025
