Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig 
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitem 4)
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio'r Senedd (eitem 4)
  • Tom Jackson, Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Diwygio'r Senedd (eitem 4)
  • Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)
  • Charlie Thomas, Pennaeth y Rhaglen Ddeddfwriaethol a'r Uned Lywodraethu (eitem 5)
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol (eitem 5)
  • Nick Jones, Rheolwr Rhaglen Ddeddfwriaethol (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynd i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Jersey ddydd Iau yr wythnos honno. Testun yr uwchgynhadledd fydd polisi tai ac ynni a byddai trafodaeth hefyd ar ddatblygiadau gwleidyddol. Yn ystod ei amser yn yr uwchgynhadledd, byddai'r Prif Weinidog yn cyfarfod â'r Taoiseach a'r Tánaiste, yn ogystal â chael cyfarfodydd ar wahân gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol a Phrif Weinidog yr Alban.

Item 3: Senedd business

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer tua 5.35pm ddydd Mawrth a tua 6:25pm ddydd Mercher.

3.2 Atgoffodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd y Cabinet y byddai cydgyfarfod blynyddol y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mehefin.

Eitem 4: Diwygio'r Senedd

4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y polisïau y dylid darparu ar eu cyfer yn neddfwriaeth Diwygio'r Senedd a'r dull o ddeddfu ar gyfer cwotâu rhywedd ac etholiad y Senedd 2026.

4.2 Yn dilyn cynigion y Cytundeb Cydweithredu ar gyfer Diwygio'r Senedd, roedd Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd wedi gwneud ei argymhellion ym mis Mai 2022 ac ymatebodd y Llywodraeth ym mis Gorffennaf 2022, gydag ymrwymiad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol.

4.3 Byddai Bil Diwygio'r Senedd yn darparu ar gyfer 96 Aelod, a etholir trwy system rhestr gyfrannol a'u dyrannu drwy ddefnyddio fformiwla D'Hondt. Byddai Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cael ei ailenwi a byddai'n cael cyfarwyddyd i gynnal adolygiadau ffiniau i baru 32 sedd Senedd arfaethedig y DU i Gymru i greu 16 o etholaethau'r Senedd, gyda chwe aelod.

4.4 Byddai'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys mesurau'n ymwneud â chyhoeddi data ar amrywiaeth ymgeiswyr, tra'n annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Yn ogystal, byddai darpariaeth ar gyfer cynyddu nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 a phŵer i Lywodraeth Cymru gynyddu'r uchafswm i 19, gyda chymeradwyaeth y Senedd. Byddai hyn yn ychwanegol at swyddi'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol. Byddai nifer y Dirprwy Lywyddion yn cynyddu i ddau.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y Biliau a ddylai gael eu cynnwys yn nhrydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gofynnwyd i Weinidogion hefyd gymeradwyo'r blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer blynyddoedd dilynol y rhaglen ddeddfwriaethol a chytuno y dylid cyhoeddi'r rhain i'r Senedd cyn toriad yr haf.

5.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023