Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS (15 Medi)
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS (15 Medi)
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol (13 Medi)
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Fliss Bennee, Cydgadeirydd TAC
  • Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol (15 Medi)
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Awst.

Eitem 2: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 16 Medi 2021 CAB(20-21)33

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn ceisio arweiniad ar gyfnod adolygu presennol Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).  

2.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder, lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol, i roi trosolwg o’r sefyllfa iechyd y cyhoedd bresennol. 

2.4 Roedd trosglwyddiad yn y gymuned yn parhau’n uchel gyda’r cyfartaledd saith diwrnod tua 500 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth. Fodd bynnag, roedd positifedd profion yn gostwng ychydig. Roedd imiwnedd a ysgogwyd gan y brechlyn yn dechrau lleihau a bellach, roedd twf mewn trosglwyddiad a niwed ymhlith aelodau hŷn a mwy bregus y gymuned. Byddai cyngor ar raglen frechu’r hydref yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion y diwrnod dilynol.

2.5 Adroddodd Prif Weithredwr y GIG fod derbyniadau i’r ysbyty ac unedau gofal dwys yn parhau i gynyddu, gyda 563 o welyau yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion cysylltiedig â COVID-19. Roedd Byrddau Iechyd bellach ym mhen uchaf y model gweithredu ar gyfer y pandemig, a gobeithiwyd y byddai hyn yn sefydlogi’n fuan. Roedd y rhai hynny a oedd yn derbyn gofal critigol wedi lleihau dros yr wythnos diwethaf.

2.6 Yn gyffredinol, roedd y GIG ar ei brysuraf ers nifer o flynyddoedd, ar ben pwysau COVID-19, roedd niferoedd mwy nag erioed o dderbyniadau brys ynghyd â galw cymunedol cronedig ac ymdrechion adfer. Roedd Byrddau Iechyd yn gwneud penderfyniadau lleol i ddelio â’r pwysau, a oedd yn cynnwys gohirio llawdriniaethau arferol a gwahardd ymweliadau ysbyty. Yn ogystal â hynny, roedd angen ystyried cyfyngu, ac ar hyn o bryd, roedd naw brigiad o achosion o’r feirws mewn ysbytai ledled Cymru.

2.7 Cytunodd y Cabinet y dylid aros ar Lefel Rhybudd 0 am y cyfnod adolygu presennol. 

2.8 Adroddwyd bod y pedwar Prif Swyddog Meddygol wedi cyflwyno cyngor i’r Llywodraeth yn argymell y dylid cynnig un dos o’r brechlyn i bob plentyn iach yn y DU rhwng 12 a 15 oed. Byddai hyn yn helpu i leihau tarfu ar addysg. Daeth y Prif Swyddogion Meddygol i’r casgliad bod y ffactor hwn wedi troi’r fantol o blaid brechu dros y cyngor a ddarparwyd yn flaenorol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Cyfarfu pob un o bedwar Gweinidog Iechyd y DU yn ddiweddarach y bore hwnnw i ystyried argymhelliad y Prif Swyddogion Meddygol.

2.9 Cadarnhaodd y Cabinet y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn y cyngor hwn.

2.10 Ystyriodd y Gweinidogion y cyngor wedi’i amlinellu yn y papur ynglŷn â chyflwyno tystysgrifau brechlyn domestig gorfodol i gael mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau risg uchel, megis clybiau nos. 

2.11 Roedd Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cynllun ardystio gorfodol, a fyddai’n cael ei gyflwyno ar 1 Hydref. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi, y diwrnod cynt, y byddai’n gohirio ei chynlluniau tra hysbys ar gyfer cynllun tebyg yn Lloegr. 

2.12 Cafodd y Cabinet drafodaeth eang ynglŷn ag a ddylid mandadu cynllun o’r fath yng Nghymru, yn benodol o ran y materion cyfreithiol a moesegol, ac awgrymodd mai opsiwn arall posibl oedd cau lleoliadau risg uchel mewn ymateb i sefyllfa iechyd y cyhoedd sy’n gwaethygu. Fodd bynnag, cyn y gallai’r Gweinidogion ddod i benderfyniad o sylwedd, byddai angen i swyddogion ddarparu rhagor o gyngor ar nifer o faterion.

2.13 Cytunwyd y byddai’r Cabinet yn ailymgynnull yn ddiweddarach yr wythnos honno ar ôl i swyddogion gasglu’r wybodaeth ychwanegol y gofynnodd y Gweinidogion amdani.

Dydd Mercher 15 Medi

3.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at nodyn gan swyddogion, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyd-destun newidiol lle byddai angen i’r Gweinidogion benderfynu a ddylid cyflwyno tystysgrifau brechlyn gorfodol i leoliadau risg uchel yng Nghymru. Roedd y nodyn hefyd yn ymateb i nifer o faterion allweddol a godwyd yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun.

3.2 Unwaith eto, atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder, lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

3.3 Nid oedd hi’n glir pam y newidiodd Llywodraeth y DU ei safbwynt ddydd Sul ynghylch cyflwyno ardystiad gorfodol yn Lloegr o 1 Hydref ymlaen.

3.4 Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Chynllun y Gaeaf ddydd Mawrth, a oedd yn amlinellu sut y byddai’n rheoli lledaeniad COVID-19 yn Lloegr dros y misoedd nesaf. Roedd ardystiad ar gyfer digwyddiadau risg uchel wedi’i restru o dan ‘cynllun b’ ac roedd mesurau eraill o dan y cynllun eisoes yn ofynnol yng Nghymru.

3.5 O ystyried nad oedd y buddion o gyflwyno ardystiad i alinio â Lloegr a’r Alban yn bodoli mwyach, amlinellodd y nodyn fanteision ac anfanteision system yng Nghymru yn unig.

3.6 Awgrymwyd yn hytrach na thystysgrif orfodol, y gellid gwneud y ‘pàs COVID’ yn orfodol i leoliadau risg uchel. Roedd y system hon eisoes ar waith ac yn cael ei hannog drwy ganllawiau fel mesur lliniaru rhesymol mewn clybiau nos a lleoliadau eraill. Byddai hyn hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon moesegol gan y byddai’n caniatáu i’r rhai hynny nad ydynt wedi cael eu brechu am resymau meddygol, wneud prawf llif unffordd ymlaen llaw.

3.7 Ystyriodd y Cabinet ystod o opsiynau eraill hefyd, megis mandadu rhai mesurau rhesymol a allai gynnwys dychwelyd at y defnydd ehangach o orchuddion wyneb, gwasanaeth gweini wrth y bwrdd ac ymbellhau cymdeithasol yn y diwydiant lletygarwch, capasiti llai mewn lleoliadau a hyd yn oed cau sefydliadau risg uchel.

3.8 Gellid ystyried ei gwneud hi’n ofynnol defnyddio peiriannau awyru hefyd.

3.9 Daeth y Cabinet i’r casgliad, o ystyried y cyfyngiadau amser a materion ymarferol eraill, na fyddai hi’n bosibl cyflwyno tystysgrifau brechlyn gorfodol i gael mynediad i leoliadau risg uchel erbyn 1 Hydref. Fodd bynnag, dylai hyn barhau’n opsiwn a byddai’n cael ei ailystyried pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno system i Loegr.

3.10 Yn hytrach, byddai’r defnydd o’r pàs COVID yn cael ei fandadu mewn clybiau nos, lleoliadau risg uchel a digwyddiadau mawr.

3.11 Cytunwyd, law yn llaw â chadarnhau cryfhau’r rhaglen frechu a’r cyhoeddiad ynghylch y defnydd o’r pàs COVID, y dylai’r Prif Weinidog, yn ei gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, amlinellu difrifoldeb y sefyllfa gan mai o drwch blewyn yr oedd Cymru yn gallu aros ar Lefel Rhybudd 0 ac roedd y Gweinidogion eisoes yn ystyried ailgyflwyno ymyriadau anfferyllol.

3.12 Yn ogystal, byddai angen pwysleisio’n fwy cryf yr angen i bobl weithio gartref a pharhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac wrth siopa hefyd. Byddai angen i drafnidiaeth gyhoeddus a siopau wneud mwy i orfodi hyn drwy wneud cyhoeddiadau a gofyn i reolwyr gymryd camau gorfodi. Ar ben hynny, dylid atgoffa busnesau o’u rhwymedigaeth i ddiweddaru eu hasesiadau risg ac ymgorffori mesurau rhesymol eraill. Os bydd y mesurau hyn yn methu ag atal lledaeniad y feirws, efallai y bydd yn rhaid cau lleoliadau risg uchel.

3.13 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion weithredu yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion.