Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
  • Sioned Williams AS
  • Mabon ap Gwynfor AS
  • Anna Brychan AS
  • Heledd Fychan AS
  • Llyr Gruffydd AS
  • Siân Gwenllian AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
  • Adam Price AS
  • Dafydd Trystan Davies AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
  • Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
  • Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Cai Elis, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Johnathan Evershed, Cynghorydd Arbennig
  • Guto Ifan, Cynghorydd Arbennig
  • Luke Nicholas, Cynghorydd Arbennig
  • Lewis Owen, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 29 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Tanau Gwyllt Gogledd Cymru

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y tanau gwyllt a oedd wedi torri allan yn y Gogledd dros y penwythnos, sef y tân ar Fynydd Conwy a oedd wedi ei ddatgan yn digwyddiad mawr, ynghyd â thanau byw yng Nghoedwig Braichmelyn, Bethesda ac ar fynyddoedd Rhinogydd ger Harlech. Roedd y Prif Weinidog yn dymuno cofnodi ei ddiolchiadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r holl asiantaethau eraill am ymateb mewn amgylchiadau mor heriol. Roedd yn bwysig bod yr holl gymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt yn dilyn cyngor y gwasanaethau brys.

Y Gyllideb Atodol

2.2 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet fod trafodaethau'n parhau gyda'r nod o sicrhau pasio'r Gyllideb Atodol Gyntaf, a oedd yn cael ei thrafod yn y Senedd y diwrnod canlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno.

Eitem 4: Diweddariad llafar – Gwydnwch Gwledig a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

4.1 Rhoddodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC).

4.2 Y CFfC oedd y prif fecanwaith cymorth i gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy Deddf Amaethyddiaeth (Cymru), a nifer o’r ymrwymiadau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a natur ar draws yr amgylchedd ffermio. Nodwyd bod cysylltiad annatod rhwng rhoi’r CFfC ar waith a chyflawni canlyniadau’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur.

4.3 Roedd y CFfC yn cynnwys tair haen, wedi’u gosod uwchben Llinell Sylfaen Reoleiddiol safonedig. Y rhain oedd yr haen Gyffredinol, yr haen Opsiynol a’r haen Gydweithredol. Dyma flwyddyn gyntaf y CFfC ac, yn ddiweddar, roedd ffermwyr wedi gwneud cais naill ai am Haen Gyffredinol y CFfC neu barhau ar y Cynllun Taliad Sylfaenol. Roedd y Cyfnod Pontio pedair blynedd wedi dechrau yn ddiweddar, lle byddai gwerth y Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael ei leihau’n raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn i annog mwy o ffermwyr i ymuno â’r CFfC.

4.4 Roedd y ffigurau allweddol ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn dangos bod ychydig dros 50% o ymgeiswyr wedi gwneud cais am Haen Gyffredinol y CFfC, sy’n cyfateb i 902,000 o hectarau, gyda 385,000 o hectarau yn parhau o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol. Roedd pob hawliad bellach yn destun proses wirio cyn y gellid cadarnhau ardaloedd o dir, cynefin neu goetir. Byddai sylw yn cael ei roi i’r rhwystrau sy’n atal ffermwyr eraill rhag ymuno â’r CFfC er mwyn ceisio annog mwy ohonynt i ymuno.

4.5 Bydd taliadau haen Gyffredinol y CFfC yn cael eu talu mewn dau randaliad - y taliad cyntaf ym mis Hydref a’r taliad olaf ym mis Rhagfyr - cyn belled â bod pob hawliad wedi’i ddilysu’n llawn.

4.6 Byddai’r ‘categorïau’ dewisol yn cael eu cyflwyno fesul cam, gyda phroses troi’n organig, grantiau cyfalaf ar gyfer cynhyrchu ac effeithlonrwydd a chynllun creu coetir yn cael eu lansio yn fuan ar ôl Sioe Frenhinol Cymru.  

4.7 Roedd y gwaith o ddatblygu haen Gydweithredol y CFfC yn llawn yn parhau i fynd rhagddo.

4.8 O ran yr ymrwymiadau 100 diwrnod, roedd yr adolygiad o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol newydd gael ei lansio a nodwyd y byddai cyllideb amlflwydd ar gyfer y CFfC.  Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, byddai cadeirydd Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru yn cael ei gyhoeddi, ac yn dilyn y drafodaeth yn y Cabinet ddiwedd mis Mehefin, byddai cynigion i roi prawfesur gwledig ar sail statudol yn cael eu cynnwys yn y Papur Gwyn ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol a Gwydnwch Gwledig, y bwriedir ei gyhoeddi ar 22 Gorffennaf.

4.9 Croesawodd y Cabinet y diweddariad a gofynnwyd am amserlen ar gyfer y gwaith ar brawfesur gwledig. Byddai angen hefyd archwilio faint o ffermydd teuluol llai oedd wedi cofrestru â’r CFfC.

Eitem 5: Diweddariad Llafar – Ehangu Gofal Plant

5.1 Rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ddiweddariad i'r Cabinet ar ehangu gofal plant.

5.2 Roedd y grŵp llywio arbenigol wedi cyfarfod ddwywaith, ac roedd tasglu'r gwasanaeth sifil wedi dod â swyddogion o wahanol adrannau at ei gilydd i ganolbwyntio ar atebion i gyflawni uchelgais y Llywodraeth.

5.3 Mae'r data diweddaraf yn dangos bod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflwyno gofal plant a ariennir, ac roedd wedi cael ei gynnig i bron i 75% o'r holl blant 2 oed ledled Cymru yn 2025-2026.

5.4 Ar ddechrau'r Senedd hon, dim ond tri Awdurdod Lleol, sef Casnewydd, Merthyr Tudful ac Abertawe, oedd wedi cyflwyno 12.5 awr o ofal plant i bob plentyn dwy oed, gyda Wrecsam wedi cyflwyno’r cam hwn yn llawn ym mis Mehefin. Roedd awgrymiadau y byddai 16 awdurdod arall yn cwblhau'r gwaith cyflwyno yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan fynd â'r cyfanswm i 20. Roedd trafodaethau'n parhau gyda'r ddau arall i ystyried beth oedd yn bosibl.

5.5 O ran cyllid, roedd y modelu cyfredol yn awgrymu y byddai angen cyllid ychwanegol o rhwng £250m a £500m ar gyfer costau gofal plant craidd i blant rhwng 9 mis a 4 oed, gyda £375m yn amcangyfrif canolog. Byddai'r union gyllid yn dibynnu ar gyfraddau defnydd, ac roedd yr amcangyfrifon yn amrywio o 50% i 80% ar hyn o bryd.

5.6 Croesawodd y Cabinet y diweddariad a nododd y byddai'r Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiad ar y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae i'r Siambr y diwrnod canlynol.Ysgrifenyddiaeth y Cabinet Gorffennaf 2026.