Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Eluned Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Emily Edwards, Cynghorydd Arbennig (eitem 7)
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Peter Ryland, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
  • Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflawni’r Seilwaith Ffiniau
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Sioned Rees, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn wedi COVID-19 a’r Adolygiad 21 Diwrnod
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adolygu COVID-19
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Cynaliadwy
  • Rosemary Iles, Prif Reolwr Prosiect FOCUS
  • Jon Luxton, Cynghorydd Polisi Anabledd Arbenigol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 23 Mai.

Eitem 2: Eitemau'r Prif Weinidog

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y Ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gafodd ei chynnal y dydd Mercher blaenorol yn y Siambr, lle cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu am 5:50pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.

3.2 Nodwyd bod, hyd yma, un cwestiwn amserol wedi'i gyflwyno am y cyhoeddiad ynglŷn â dyfodol y teithiau hedfan Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Eitem 4: Cyllideb Atodol

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23. Roedd y papur yn amlinellu'r dull arfaethedig ac yn nodi'r prif newidiadau ers cyhoeddi'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth. Y bwriad oedd cyhoeddi ail gyllideb atodol ym mis Chwefror 2023.

4.2 Roedd y ddwy flynedd blaenorol wedi bod yn rhai eithriadol o ran y swm mawr o adnoddau ychwanegol a oedd ar gael yn ystod y flwyddyn ac roedd dyraniadau wedi'u gwneud drwy gyllidebau atodol. Fodd bynnag, eleni, roedd cronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu ar lefel fwy confensiynol o ganlyniad i setliadau Llywodraeth y DU a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyrannu adnoddau yn y cyllidebau drafft a therfynol ar gyfer 2022-23.

4.3 Byddai ffocws y gyllideb atodol gyntaf yn dechnegol ei natur yn bennaf. Roedd yn adlewyrchu newidiadau o ganlyniad i Ddatganiad Gwanwyn a phrif amcangyfrifon Llywodraeth y DU, ynghyd â newidiadau cyllidebol i adlewyrchu gweithredu'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 ar lesoedd a dyraniad cyffredinol o gronfeydd wrth gefn mewn perthynas ag ymateb y Llywodraeth i'r rhyfel yn Wcráin. Byddai newidiadau hefyd i gynlluniau ariannu i adlewyrchu'r arbedion o beidio â benthyca at ddibenion cyfalaf yn 2021-22.

4.4 Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol o £567.3m yn Natganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys. Roedd hyn yn eithrio £180m a ddygwyd ymlaen ar gyfer ad-daliad y dreth gyngor, a oedd wedi'i gynnwys yn y Gyllideb Derfynol. Yr arian ychwanegol oedd £27.8m o adnoddau cyllidol, £200m o adnoddau anghyllidol a £339m o gyfalaf cyffredinol.

4.5 Roedd y rhan fwyaf o'r newidiadau yn y gyllideb atodol yn ymwneud ag ailddosbarthu cyllidebau'n dechnegol i adlewyrchu mabwysiadu IFRS 16 o 1 Ebrill 2022 ymlaen ar draws y sector cyhoeddus. Nodwyd bod IFRS 16 yn safon gyfrifyddu a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o lesoedd, ac eithrio'r rhai ar gyfer eitemau gwerth isel neu eitemau am lai na blwyddyn, gael eu trin yn y datganiadau ariannol mewn ffordd gymaradwy ag asedau a berchnogir.

4.6 O ran IFRS16, roedd cyllideb gyfalaf y Llywodraeth wedi cynyddu £284m mewn perthynas â lesoedd newydd a lesoedd wedi’u hadnewyddu a gynlluniwyd eisoes ar gyfer 2022-23; roedd adnoddau anghyllidol wedi cynyddu £85m, gyda gostyngiad cyfatebol o £80m mewn adnoddau cyllidol. Roedd yr addasiadau hyn yn adlewyrchu'r wybodaeth a ddarparwyd gan adrannau a byddent yn llifo drwodd i'r Prif Grwpiau Gwariant yn y gyllideb atodol hon. Nid oedd unrhyw effaith ar bŵer gwario cyffredinol.

4.7 Ar ôl ystyried y newidiadau hyn a throsglwyddiadau penodol i Adrannau Llywodraeth y DU ac ohonynt, cyfanswm yr arian ychwanegol oedd £63.9m o adnoddau cyllidol (refeniw) a £7.5m o gyfalaf, a fyddai'n cael ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn.

4.8 Cydnabuwyd ei bod yn dal yn bosibl cyhoeddi penderfyniadau ariannu ychwanegol ar ôl i'r gyllideb hon gael ei chyhoeddi, a fyddai’n cael ei unioni yn yr ail gyllideb atodol.

4.9 Y nod oedd cyhoeddi'r gyllideb ar yr 21ain cyn y ddadl sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer 12 Gorffennaf.

4.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Cyfyngiadau Coronafeirws: Adolygiad 21 diwrnod i'w gynnal erbyn 16 Mehefin 2022

5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyfraddau heintiau’r Coronafeirws.

5.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben unrhyw gyfyngiadau yn ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Roedd pob cyfyngiad o'r fath wedi dod i ben ar 30 Mai.

5.3 Roedd y papur yn amlinellu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd. Roedd canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan 1.30% o'r boblogaeth gymunedol yng Nghymru COVID-19 rhwng 22 a 28 Mai. Roedd hyn yn cyfateb i un o bob 75 o bobl.

5.4 Roedd 152 o welyau ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion â COVID-19 wedi’i gadarnhau. Roedd chwe gwely Uned Gofal Dwys yn cael eu defnyddio gan gleifion ag achosion o'r feirws wedi’u cadarnhau.

5.5 Roedd y cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol, a amlinellwyd yn y papur, yn dangos nad oedd yn ymddangos bod unrhyw reswm dros gamu'n ôl o'r sefyllfa bresennol, sef dim mesurau diogelu cyfreithiol, ond roedd angen parhau i gynghori'r cyhoedd bod y risg o haint yn parhau ac y dylid ystyried rhagofalon pan fyddant mewn sefyllfaoedd risg uchel.

5.6 O ystyried ei bod yn ymddangos bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn sefydlog, cytunodd y Cabinet i gynnal y lefel ymateb bresennol, ond roedd angen cofio bod achosion yn cynyddu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a bod amrywiolion newydd Omicron yn dod yn fwyfwy amlwg ym Mhortiwgal.

5.7 Nododd y Cabinet y papur a chytunodd y dylai swyddogion gymryd sylwadau'r Gweinidogion i ystyriaeth.

Eitem 6: Unrhyw fater arall

Cynllun Lloches Rwanda Llywodraeth y DU

6.1 Nodwyd bod gan Lywodraeth Cymru friff gwylio ar yr achos gerbron y Llys Apêl i geisio gohirio’r broses o symud ffoaduriaid i Rwanda, tra'n aros am ddadleuon llawn ar gyfreithlondeb y polisi hwnnw. Roedd disgwyl y dyfarniad yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.

Eitem 7: Y diweddaraf am y Tasglu Hawliau Anabledd CAB(21-22)100

7.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a wahoddodd y Cabinet i nodi gwaith y Tasglu Hawliau Anabledd.

7.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.