Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw MS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS


Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd (eitem 4)
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitem 5)
  • Sophie Brighouse, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol (eitem 5)
  • Nia Webb, Tîm y Cytundeb Cydweithio (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 6 Tachwedd.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ad-drefnu Cabinet Llywodraeth y DU

2.1 Nododd y Gweinidogion fod Cabinet Llywodraeth y DU yn cael ei ad-drefnu.

Ymchwiliad COVID-19

2.2 Siaradodd y Prif Weinidog am y dystiolaeth yr oedd Gweinidogion Whitehall, Gweision Sifil, a Chynghorwyr Arbennig wedi ei darparu i'r Ymchwiliad COVID-19 yn ystod yr wythnos flaenorol.
 

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7.25pm ddydd Mawrth a 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach

4.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet ystyried drafft o'r Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach a oedd yn canolbwyntio ar bedwar Maes Blaenoriaeth Cenedlaethol. Byddai angen i swyddogion o bob rhan o'r Llywodraeth gefnogi'r gwaith dwys a amlinellir yn y papur.

4.2 Mae'r Genhadaeth Economaidd, a lansiwyd yn 2021, yn nodi llwybr economaidd tuag at adferiad wedi'r pandemig. Fodd bynnag, roedd effeithiau Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, ynghyd â'r fini-gyllideb, wedi dod â thwf economaidd cyfyngedig a chwyddiant uchel.

4.3 Felly, roedd angen datblygu sgiliau a chyfleoedd busnes a fyddai'n addas ar gyfer y dyfodol i gynyddu potensial ar draws meysydd newydd a meysydd sy'n dod i'r amlwg, megis deallusrwydd artiffisial a'r newid i sero net. Byddai hyn yn gofyn am ffocws mwy strategol a naratif cliriach.

4.4 Er mwyn cyflawni hyn byddai pedwar maes blaenoriaeth:

  • pontio teg a ffyniant gwyrdd
  • platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant
  • partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd, a
  • buddsoddi ar gyfer twf.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Effeithiau Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

5.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y nodyn briffio, a oedd yn amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth y DU a'i heffeithiau ar Lywodraeth Cymru.

5.2 Roedd Araith y Brenin a’r dogfennau cysylltiedig yn nodi 21 o Filiau, ac roedd chwech ohonynt wedi’u cario drosodd o’r sesiwn flaenorol. Roedd chwech arall wedi'u cyflwyno ar 8 Tachwedd.

Eitem 6: Unrhyw fater arall

Papurau i'w nodi

Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Cydweithio 2022-2023

6.1 Nododd y Cabinet Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Cydweithio 2022-2023.

Sicrhau Cyfiawnder i Gymru – adroddiad cynnydd

6.2 Nododd y Cabinet adroddiad cynnydd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023