Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS

Ymddiheuriadau

  • Ken Skates AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Julia David, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 7 Gorffennaf 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y ffwrnais arc drydan newydd ym Mhort Talbot

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu'r seremoni torri tywarchen ym Mhort Talbot yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, gan nodi dechrau'r gwaith i adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd. Roedd hyn yn dangos ymrwymiad hirdymor Tata Steel i'r safle. Nodwyd y byddai nifer mawr o swyddi dan gontract yn gysylltiedig ag adeiladu'r ffwrnais.

Gwledd Swyddogol

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynychu'r Wledd Swyddogol yng Nghastell Windsor a gynhaliwyd er anrhydedd i'r Arlywydd Macron o Ffrainc.

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

2.3 Y dydd Gwener blaenorol, mynychodd y Prif Weinidog y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Ewros 2025

2.4 Llongyfarchodd y Prif Weinidog dîm pêl-droed merched Cymru ar eu perfformiad yn nhwrnamaint pêl-droed Ewros 2025 yn y Swistir. Roedd y tîm wedi creu hanes trwy gymhwyso, ac wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru

2.5 Nododd y Cabinet fod Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi, ac y byddai'r Prif Weinidog yn arwain dadl ar Gyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn y Senedd y diwrnod canlynol.

Toriad yr Haf

2.6 Anogodd y Prif Weinidog holl Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion i gymryd ychydig o amser i ffwrdd yn ystod Toriad yr Haf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:30pm ddydd Mawrth a thua 7:25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2025