Cyfarfod y Cabinet: 14 Medi 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 14 Medi 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llŷr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Cefin Campbell AS
- Nerys Evans AS
- Mark Hooper AS
- Delyth Jewell AS
Ymddiheuriadau
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet a Chyflenwi (eitem 4)
Eitem 1: Eitemau’r Prif Weinidog
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i gyfarfod cyntaf y Cabinet yn nhymor yr Hydref.
Tanau gwyllt
1.2 Gan mai dyma’r cyfarfod cyntaf ers toriad yr Haf, roedd y Prif Weinidog yn dymuno cofnodi diolch y Cabinet i'r holl dimau ar draws y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a'r cymunedau a fu'n ymwneud ag ymateb i'r tanau gwyllt, ynghyd â'r Gweinidogion a'r swyddogion hynny a gydlynodd yr ymateb. Byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad i'r Senedd am y tanau gwyllt y diwrnod canlynol.
Cytundeb Caerdydd
1.3 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet ei fod ef a Phrif Weinidog yr Alban wedi llofnodi Cytundeb Caerdydd yn gynharach y diwrnod hwnnw. Roedd y Cytundeb yn adlewyrchu'r berthynas gref a'r cydweithrediad ymarferol sydd eisoes yn digwydd rhwng y Llywodraethau. Rhoddodd fframwaith clir i gefnogi a chryfhau’r cydweithio sydd eisoes yn digwydd ar draws meysydd datganoledig.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno.
Eitem 3: Diweddariad Llafar – PISA / Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol
3.1 Rhoddodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wybod i'r Cabinet y byddai'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn cael ei gyhoeddi, fel rhan o ddatganiad i'r Senedd, y diwrnod canlynol. Byddai hwn yn ymateb i danberfformiad strwythurol hirdymor Cymru, fel y dangosir gan ganlyniadau diweddar PISA.
3.2 Roedd y Cynllun yn gyfannol ac yn cael ei ategu gan bum maes sylfaen allweddol: rhieni a gofalwyr; ymarferwyr y blynyddoedd cynnar; athrawon a staff cymorth; arweinwyr; a phartneriaid cymorth. Roedd y Cynllun yn galw ar bawb o fewn y system, y rhai sy'n dylanwadu ar y system, a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y system, i weithio gyda'i gilydd i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Byddai hyn yn helpu i ysgogi gwelliant parhaus yn ystod cyfnod y Senedd bresennol.
3.3 Y nod oedd y byddai dangosyddion yn cael eu sefydlu am y tro cyntaf i asesu cynnydd, ac y byddai cymorth ar gael i ysgolion fel y gallent osod targedau unigol i ddysgwyr a fyddai'n rhoi her tra'n eu cefnogi i wneud cynnydd. Byddai gwybodaeth a fyddai'n nodi'n glir beth oedd angen i blant ei ddysgu, a phryd, a byddai hefyd yn darparu cymorth i athrawon wrth iddynt addysgu ac asesu.
3.4 Byddai'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu rhannu’n well, gan greu system gymorth, dysgu a gwella cryfach ar draws ysgolion a lleoliadau. Byddai cefnogaeth hefyd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a byddai hyn yn cynnwys camau i wella ymgysylltiad rhieni, hyrwyddo darllen gartref, yn ogystal â gwella mynediad at lyfrgelloedd ysgolion.
3.5 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
Eitem 4: Rhaglen Lywodraethu CAB(26-27)33
4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Rhaglen Lywodraethu, ‘Uchelgais Newydd i Gymru’. Roedd yn cynnwys yr amcanion llesiant cysylltiedig a'r datganiad llesiant.
4.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu yn gynllun ar gyfer newid ac wedi'i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn ystod 100 diwrnod cyntaf y weinyddiaeth, gan adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth. Roedd yn fwriadol gryno, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac wedi'i gynllunio i ysgogi gweithredu ar draws portffolios.
4.3 Roedd hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad clir i flaenoriaethu, tra'n cydnabod yr adnoddau a'r amser cyfyngedig sydd ar gael, y cyd-destun gwleidyddol a'r angen i ganolbwyntio ymdrechion i gyflawni cymaint â phosibl.
4.4 Ni ellid cynnwys pob ymrwymiad o'r maniffesto yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda rhai ymrwymiadau yn gyfrifoldeb ar Weinidogion unigol a'u Hadrannau. Fel Llywodraeth gyfrifol, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd a blaenoriaethu i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.
4.5 Ychwanegodd Gweinidog y Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad fod y Rhaglen Lywodraethu wedi'i hadeiladu o amgylch chwe maes blaenoriaeth. Roeddent fel a ganlyn:
- lleihau rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol
- helpu teuluoedd â chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
- datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
- codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
- mynd i’r afael â thlodi plant
- sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.
4.6 Roedd y Rhaglen hefyd yn seiliedig ar benderfyniad i weithio'n fwy effeithiol ar draws portffolios ac ar draws Adrannau'r Llywodraeth i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru. Er enghraifft, tynnodd y Rhaglen sylw at nifer o themâu trawsbynciol sef atal, cynhyrchiant, yr argyfwng hinsawdd a natur, a'r iaith Gymraeg, lle cydnabuwyd bod angen gweithredu'n fwy cadarn a strwythuredig ar draws y Llywodraeth i sicrhau cynnydd.
4.7 Roedd y Rhaglen hefyd yn cyflawni dyletswydd statudol y Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i osod amcanion llesiant. Roedd yr amcanion llesiant a'r Rhaglen Lywodraethu wedi'u hintegreiddio o fewn un fframwaith, fel bod ymrwymiadau yn cefnogi cyflawni'r amcanion hynny yn uniongyrchol. Mae'r datganiad llesiant yn amlinellu sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithio ar y cyd, yn cynllunio ar gyfer y tymor hir, yn atal problemau rhag dirywio, tra'n cynnwys partneriaid a chymunedau a mabwysiadu dull integredig o gyflawni.
4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei chyhoeddi ar 22 Medi.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2026
