Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Sioned Rees, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd (eitem 4)
  • Stacey-Jo Smith, Rheolwr Profi – COVID-19 (eitem 4)
  • John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio (eitem 5)
  • Jon Oates, Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 7 Tachwedd.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyngor Penaethiaid y Llywodraethau

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef, a Phrif Weinidog yr Alban, wedi cyfarfod â Phrif Weinidog San Steffan, Canghellor y Trysorlys, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol yng Nghyngor Penaethiaid y Llywodraethau ddydd Iau’r wythnos flaenorol. Roedd y drafodaeth wedi canolbwyntio ar y datganiad a fyddai’n cael ei wneud gan y Canghellor, lle’r oedd y Prif Weinidog wedi pwysleisio’r ffaith nad fyddai gwneud toriadau mewn cyllidebau yn arwain at ffyniant economaidd.

Cyfarfod o’r Cabinet ddydd Gwener

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Gweinidogion y byddai’r Cabinet yn cyfarfod nos Wener i ystyried effaith Datganiad y Canghellor ar Gyllideb Llywodraeth Cymru.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:10pm ddydd Mawrth a thua 6:55pm dydd Mercher. Hyd yn hyn, roedd dau Gwestiwn Amserol wedi cael eu cyflwyno. Roedd un yn ymwneud â’r newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi cael ei roi yn nwylo gweinyddwyr, ac roedd yr ail yn ymwneud ag adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Eitem 4: Diweddariad ar y coronafeirws a chlefydau anadlol

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i nodi’r sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws, cynllunio wrth gefn ar gyfer yr hydref a’r gaeaf, a’r dull gweithredu ar gyfer monitro clefydau anadlol yn ystod y cyfnod hwn.

4.2 Roedd amlder achosion COVID-19 wedi lleihau dros y pythefnos diwethaf, ac roedd Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amcangyfrif bod gan oddeutu 1 allan o bob 40 o bobl yng Nghymru y feirws yn yr wythnos hyd at 1 Tachwedd. Roedd y tueddiad hwn yn gyson â’r tueddiadau yng ngwledydd eraill y DU. Roedd y lefelau ar gyfer y ffliw yn isel ond yn codi.

4.3 Roedd cynnydd da yn cael ei wneud yn erbyn y targed i gynnig brechiadau COVID-19 i’r holl gohortau cymwys erbyn diwedd mis Tachwedd. Roedd hynny ar lefel 85%, a byddai rhai byrddau iechyd yn cynnig opsiynau galw i mewn o’r wythnos wedyn ymlaen. Ar y cyfan roedd y cyfraddau ar gyfer pobl yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechu yn gadarnhaol.

4.4 Roedd dull gweithredu Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ymdrin â feirysau anadlol wedi cael ei gyhoeddi ym mis Hydref, ac roedd yn helpu i baratoi cymunedau a’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol am aeaf a allai fod yn heriol iawn.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai diweddariad arall yn cael ei ddarparu ar ôl toriad y Nadolig.

Eitem 5: Newid hinsawdd – Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon Un

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi’r Datganiad Terfynol ar gyfer Gyllideb Garbon Un.

5.2 Roedd angen Datganiad Terfynol er mwyn nodi a oedd y gyllideb garbon wedi ei bodloni; y rhesymau dros y llwyddiant; ac amcangyfrifon o allyriadau defnyddwyr. Rhaid iddo hefyd ddarparu fersiwn derfynol Cyfrif Allyriadau Net Cymru ar gyfer y cyfnod 2016-20, a oedd yn ymwneud â chyllideb garbon gyntaf y Llywodraeth.

5.3 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno y byddai symud i Sero Net yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

5.4 Cytunodd y Cabinet â’r tri argymhelliad a wnaed yn y papur.

Eitem 6: Unrhyw fater arall

Gweithredu diwydiannol gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

6.1 Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad i’r Cabinet ynghylch y gweithredu diwydiannol arfaethedig gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Roedd holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru, sydd ag aelodau o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, ar wahân i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi bodloni’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer streicio. Byddai Undebau Llafur iechyd eraill yn cynnal pleidlais ar gyfer eu haelodau maes o law, ac yn gyffredinol y disgwyl oedd y byddai gweithredu diwydiannol yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn.

6.2 Roedd y cynnig cyflog wedi gweithredu argymhellion corff adolygu cyflogau’r GIG yn llawn. Heb ddim adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU, roedd yn amhosibl darparu codiad cyflog a oedd yn uwch na chwyddiant i staff y GIG heb orfod wynebu penderfyniadau hynod anodd am dorri gwasanaethau iechyd.

6.3 Roedd gwaith cynllunio wrth gefn yn mynd rhagddo, ac roedd y Byrddau Iechyd yn ystyried risgiau lleol. Roedd Cell Cynllunio ar gyfer Gweithredu Diwydiannol ar lefel genedlaethol, a oedd yn cynnwys cyflogwyr y GIG, cynrychiolwyr Byrddau Iechyd, ac amrywiaeth o arweinwyr proffesiynol. Roedd Undebau Llafur wedi ei gwneud yn glir na fyddai unrhyw amharu ar wasanaethau brys a gwasanaethau canser.

6.4 Nodwyd bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi datganiad Ysgrifenedig ar y dyfarniad cyfog ar gyfer athrawon ar gyfer 20222, yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Pêl-droed Dynion - Cwpan y Byd 2022 yn Qatar

6.5 Dywedodd Gweinidog yr Economi wrth y Cabinet y byddai’n gwneud datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol ar amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd pêl-droed dynion yn Qatar. Roeddent yn ymwneud â hyrwyddo Cymru a gwerthoedd y Llywodraeth, ac ar yr un pryd sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru a gwaddol cadarnhaol.

6.6 Roedd y Llywodraeth eisoes wedi mynegi pryderon difrifol am hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ yn Qatar. Roedd y pryderon hynny wedi cael eu codi’n uniongyrchol gyda Llysgennad Qatar i’r DU, a byddai Gweinidogion yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid a grŵp cefnogwyr Wal yr Enfys.

6.7 Byddai pedwar aelod ychwanegol o Lysgenhadon Cymru, a fyddai’n hyrwyddo Cymru i’r byd, sef y cyn athletwr Colin Jackson CBE, yr Athro Laura McAllister, y DJ a’r cyflwynydd Katie Owen, a’r cogydd enwog Bryn Williams. Fel rhan o ddull gweithredu ehangach Tîm Cymru 22, byddai llysgenhadon FAW ac enwogion Cymru Jess Fishlock ac Ian Rush hefyd yn cefnogi rhaglen weithgareddau’r Llywodraeth.

6.8 Nodwyd y byddai’r rhaglen amlinellol o weithgarwch yn cael ei rhannu â Gweinidogion.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2022